Vul-gar-i-ty, difoesedd
Whence-so-ev-er, o ba le bynag
When-so-ev-er, pa bryd bynag
Where-so-ev-er, pa le bynag
Whom-so-ev-er, pwy bynag
Whose-so-ev-er, pwy bynag
Zo-ol-o-gy, milhanes, mildraethawd
WORDS OF FIVE SYLLABLES.
Ab-bre-vi-a-tion, byrhâd, talfyriad, darnair
A-bom-in-a-ble, ffiaidd, atgas
A-bom-in-a-tion, ffieiddiant, atgasrwydd
Ab-o-rig-i-nes, cynfrodorion
Ac-cel-er-a-tion, prysuriad, cyflymiad
Ac-ci-dent-al-ly, yn ddamweiniol
Ac-com-mo-da-tion, addasiad, cyfaddasiad; lletty, cyfleusdra
Ac-cu-mu-la-tion, tyriad, pentyriad
Ad-min-is-tra-tion, gwasanaethiad, gweinyddiaeth; trefniad
A-dul-ter-a-tion, gwaethygiad; godineb
An-i-mos-i-ty, dygasedd, gelyniaeth
Ar-is-toc-ra-cy, pendefigaeth; y pendefigion
Ar-tic-u-la-tion, llafariad, seiniad
As-sas-sin-a-tion, murniad, bradlofruddiad
As-si-du-i-ty, dyfalwch, diwydrwydd
As-so-ci-a-tion, cymdeithasiad, cymmanfa
Ca-pa-bil-i-ty, gallu, galluogrwydd
Cer-e-mo-ni-al, defodlyfr; defodol
Cer-e-mo-ni-ous, defodgar; ffurfiol
Char-ac-ter-is-tic, nodwedd; nodweddol
Cir-cum-lo-cu-tion, cylchymadrodd
Civ-il-i-za-tion, gwareiddiad, moesoliad
Com-mem-o-ra-tion, cyfargofiant, coffâd
Com-mis-er-a-tion, tosturi, trugaredd
Com-mu-ni-ca-tion, cyfraniad; ffordd, cyfrwng
Con-fed-er-a-cy, cyngrair; cyfammod
Con-sid-er-a-ble, o bwys; pwysig
Con-sid-er-a-tion, ystyriaeth; cyfrifoldeb
Con-sol-i-da-tion, cyfaniad, cydsylweddiad
Con-tem-po-ra-ry, cyfoed, cydoeswr; cyfoesol
Cred-i-bil-i-ty, gwiwgoeledd, coeledigaeth
Cu-ri-os-i-ty, manylwch, cywreinrwydd
Del-e-te-ri-ous, dinystriol, adwythig
De-lib-er-a-tion, pwyllogrwydd, ystyriaeth
De-lin-e-a-tion, darluniad; llinelliad
De-nom-i-na-tion, enw; enwad; plaid
De-nun-ci-a-tion, cyhoeddiad; traethiad
De-pos-i-ta-ry, adneuwr; ymddiriedai
De-pos-i-to-ry, ystorfa, ystorgell
De-sid-er-a-tum, dymunolbeth; chwennychbeth
De-ter-i-o-rate, gwaethygu; gwanhau
De-ter-mi-na-tion, penderfyniad; bwriad; diweddiad
Di-lap-i-da-tion, adfeiliad; dystryw
Dis-a-bil-i-ty, anallu, gwendid
Dis-ad-van-ta-geous, anfanteisiol; anfuddiol
Dis-a-gree-a-ble, anhyfryd; diflas
Dis-ap-pro-ba-tion, anghymmeradwyaeth
Dis-crim-in-a-tion, gwahaniaeth; gwahannodiad
Dis-in-cli-na-tion, annhuedd, anewyllysgarwch
Dis-in-ter-est-ed, diduedd; ammhleidgar
Dis-o-be-di-ent, anufudd, cyndyn
Dis-sim-u-la-tion, ffuant, rhagrith
Ec-cen-tric-i-ty, echreiddigrwydd, afreoleiddrwydd
Ec-cle-si-as-tic, gwr eglwysig, eglwyswr
E-co-nom-i-cal, trefniadol; cynnil
Ed-i-fi-ca-tion, adeiladaeth; addysgiad
E-lec-tri-ci-ty, trydan, trydaniaeth
El-e-ment-a-ry, elfenol, egwyddorol
E-man-ci-pa-tion, rhyddhâd, rhyddfreiniad
E-nu-mer-a-tion, rhifiad, cyfrifiad
E-nun-ci-a-tion, traethiad; hysbysiad
E-qual-i-za-tion, cyfartaledd; cystadliad
E-qua-nim-i-ty, gwastadfrydedd
E-qui-lib-ri-um, cydbwysedd, cydfantoledd
Et-y-mol-o-gy, geirdarddiad; gwraidd
E-vac-u-a-tion, gwaghâd; ymadawiad
Ev-an-gel-i-cal, efengylaidd
E-vap-o-ra-tion, tarthiad, ageriad
Ex-ag-ger-a-tion, mwyhâd, ychwanegiad
Ex-am-i-na-tion, holiad, ymofyniad
Ex-as-per-a-tion, llidiad, cyffroad; digofaint
Ex-com-mu-ni-cate, esgymmuno; diarddel
Ex-e-cu-tion-er, dienyddwr; crogwr
Ex-per-i-ment-al, profiadol; ymarferol
Ex-pos-tu-la-tion, ymliwiad; ymresymiad
Ex-tem-po-ra-ry, difyfyr, disymmwth
Ex-ten-u-a-tion, lleihâd; esgusodiad
Ex-ter-mi-na-tion, dadwreiddiad; dilead
For-ti-fi-ca-tion, caerwaith; amddiffynfa
Gen-e-al-o-gy, ach, llinach; achyddiaeth
Gen-er-os-i-ty, haelioni, rhoddgarwch
Glo-ri-fi-ca-tion, gogoneddiad
Grat-i-fi-ca-tion, boddhâd; taliad
He-red-i-ta-ry, etifeddawl, treftadawl
Hos-pi-tal-i-ty, llettygarwch
Hu-mil-i-a-tion, ymostyngiad; iselhâd
Hy-dro-pho-bi-a, cynddaredd, cynddeiriogrwydd
Il-le-git-i-mate, basdarddol; anghyfreithlawn
Il-lu-mi-na-tion, goleuad, llewyrchiad
Im-ag-i-na-ry, dychymmygol; tybiol
Im-ag-i-na-tion, dychymmyg; amgyffred
Im-be-cil-i-ty, eiddilwch, gwendid
Im-ma-te-ri-al, annefnyddiol; ysbrydol
Im-meas-u-ra-ble, anfesurol; difesur
Im-me-di-ate-ly, yn ddiaros, yn ddioed
Im-me-mo-ri-al, cyn cof; hen
Im-mor-tal-i-ty, anfarwoldeb
Im-per-cep-ti-ble, annirnadwy, anweladwy
In-a-bil-i-ty, anallu, annerth
In-ac-tiv-i-ty, diweithedd, anweithgarwch
In-au-gu-ra-tion, urddfreiniad; coroniad
In-cal-cu-la-ble, anghyfrifadwy
In-ca-pac-i-tate, anaddasu
In-cen-di-a-ry, ffaglydd; terfysgwr
In-com-mo-di-ous, anghyfleus
In-com-pat-i-ble, anghydweddol
In-com-pe-ten-cy, anghymwysder
In-con-ceiv-a-ble, annirnadwy
In-con-sid-er-ate, anystyriol, byrbwyll
In-con-sist-en-cy, anghydweddiad
In-con-ve-ni-ence, anghyfleusdra
In-con-ve-ni-ent, anghyfleus
In-cor-po-ra-tion, cydgorfforiad
In-cor-ri-gi-ble, anniwygiadwy
In-cre-du-li-ty, anghrediniaeth
In-dis-crim-in-ate, diwahân
In-dis-po-si-tion, anhwyl; annhuedd
In-dis-pu-ta-ble, diddadl
In-di-vid-u-al, un, undyn, un neillduol
In-e-qual-i-ty, anghyfartaledd
In-e-qui-va-lent, anghyfwerth; rhy fyr
In-ev-i-ta-ble, anocheladwy
In-ex-cus-a-ble, diesgus
In-ex-pe-di-ence, anaddasrwydd
In-ex-pe-di-ent, anghyfaddas; anaddas; anfuddiol
In-ex-pe-ri-ence, diffyg ymbrawf; anymarferiaeth
In-fi-del-i-ty, anffyddiaeth
In-ge-nu-i-ty, cywreinrwydd
In-hu-man-i-ty, creulondeb, cieidd-dra
In-im-i-ta-ble, anefelychadwy; rhagorol
In-nu-mer-a-ble, aneirif, afrifed
In-oc-u-la-tion, llygadimpiad
In-sep-a-ra-ble, anwahanadwy
In-sig-nif-i-cance, ansylwedd
In-sig-nif-i-cant, disylwedd, dibwys
In-sin-u-a-tion, truthymlusgiad
In-sta-bil-i-ty, anwadalwch
In-stan-ta-ne-ous, cythrymol, disyfyd
In-suf-fer-a-ble, annyoddefadwy
In-sur-mount-a-ble, anorchfygadwy
In-tel-lect-u-al, deallawl, dealledigol
In-tel-li-gi-ble, dealladwy
In-ter-lo-cu-tion, cydsiarad
In-ter-pre-ta-tion, dehongliad
In-ter-ro-ga-tion, holiad; nod o holiad (?)
In-tol-er-a-ble, anoddefadwy
In-tox-i-ca-tion, meddwdod
In-tre-pid-i-ty, glewder, dewrder
In-val-u-a-ble, uwchlaw gwerth, tragwerthfawr
In-va-ri-a-ble, digyfnewid
In-ves-ti-ga-tion, olrheiniad
In-vol-un-ta-ry, anfoddus, anewyllysgar
Ir-re-proach-a-ble, difefl, diwarth
Ir-re-sist-i-ble, anwrthwynebol
Ju-di-ca-to-ry, brawdle, llys barn
Jus-ti-fi-ca-tion, cyfiawnhad
Jux-ta-po-si-tion, cyferbyniad
Lab-o-ra-to-ry, gweithdy; fferylldy
Le-git-i-ma-cy, cyfreithlonedd
Lib-er-al-i-ty, haelioni, haelder
Ma-gis-te-ri-al, awdurdodaidd; uchelfalch
Mag-na-nim-i-ty, mawrfryd, mawrfrydigrwydd
Man-u-fac-to-ry, gweithfa; gwaith
Ma-te-ri-al-ly, o lawer; yn hanfodol
Math-e-mat-i-cal, gwyddonawl, arddangosyddol
Me-di-oc-ri-ty, canoledd; cymmedrolder
Mer-it-o-ri-ous, teilwng; dybrynawl
Mis-cel-la-ne-ous, amrywiol, amryfath
Mod-i-fi-ca-tion, agweddiad, dulliad
Mon-o-syl-la-ble, unsillair, gair unsill
Mor-ti-fi-ca-tion, madreddi; siomedigaeth
Mu-ta-bil-i-ty, anwadalwch
Ne-go-ti-a-tion, negeseuaeth; cyflafaredd
No-to-ri-e-ty, hynodrwydd; erchylldra
O-bit-u-a-ry, marwrestr
Ob-serv-a-to-ry, tremynfa, arsyllfa
Op-por-tu-ni-ty, amser, cyfleusdra, adeg
Or-gan-i-za-tion, iawnffurfiad, iawnosodiad
Pa-ci-fi-ca-tion, heddychiad; dyhuddiad
Par-si-mo-ni-ous, cynnil, arbedus, cybyddlyd
Pe-ri-od-i-cal, cylchawl, cylchynawl
Per-pen-dic-u-lar, unionsyth, unionseth
Po-ly-syl-la-ble, amlsillawg, amlsill
Pre-cip-i-ta-tion, chwidrfrys, tafliad
Pre-des-ti-na-tion, rhagdrefniad
Pre-lim-i-na-ry, rhagammod; rhagsail; rhagammodol; rhagarweiniol
Pre-med-i-ta-tion, cynarfaethiad
Pre-par-a-to-ry, darpariadol
Prin-ci-pal-i-ty, tywysogaeth
Prob-a-bil-i-ty, tebygolrwydd
Pro-cras-ti-na-tion, addoediad, oediad
Pro-nun-ci-a-tion, aceniad; traethiad
Pro-pi-ti-a-tion, dihuddiant, heddychiad, cymmod; iawn
Prov-i-den-tial-ly, yn rhagluniaethol
Pu-ri-fi-ca-tion, purad, puredigaeth
Pu-sil-lan-i-mous, gwangalon, llwfr
Qua-li-fi-ca-tion, cymhwysder, dawn
Rat-i-fi-ca-tion, cadarnhâd, sicrhâd
Re-ca-pit-u-late, ailbenodi, ailadrodd
Rec-om-mend-a-ble, canmoladwy
Rec-om-mend-a-tion, canmoliaeth; cymmeradwyaeth
Rec-on-cil-a-ble, cymmodadwy
Re-cov-er-a-ble, adenilladwy, gwelladwy
Re-crim-i-na-tion, gwrthgyhuddiad
Re-gen-er-a-tion, adgenedliad, adenedigaeth
Reg-u-lar-i-ty, rheoleiddrwydd
Re-nun-ci-a-tion, ymwrthodiad
Re-pos-i-to-ry, ystorfa, ystordy, trysorfa
Rep-re-sent-a-tion, arddangosiad; cynnyrchioliad
Rep-re-sent-a-tive, cynnyrchiolwr; dangosedigol
Re-serv-a-to-ry, ystordy
Re-ta-li-a-tion, atdaliad, gwrthbwyth
Re-ver-ber-a-tion, gwrthdroad; gwrthseiniad
Sanc-ti-fi-ca-tion, santeiddiad; purdeb
Sat-is-fac-to-ry, boddhaol, boddlongar
Sen-si-bil-i-ty, teimladrwydd, tynerwch
Sen-su-al-i-ty, cnawdolrwydd
Sig-ni-fi-ca-tion, arwyddocâd, ystyr
Sim-i-lar-i-ty, cyffelybrwydd
Sim-ul-ta-ne-ous, cydweithredol
Sin-gu-lar-i-ty, neillduolrwydd, hynodrwydd
Sol-em-ni-za-tion, difrifgadwad; gweinyddiad
So-lic-i-ta-tion, taerddeisyfiad
Sti-pen-di-a-ry, cyflogddyn
Sub-or-di-na-tion, israddoliaeth
Sub-sid-i-a-ry, cynnorthwyol
Sub-ter-ra-ne-ous, tanddaiarawl
Su-per-a-bun-dance, arddigonedd, gormodedd
Su-per-a-bun-dant, gormodawl
Su-per-an-nu-ate, oedfreinio; gorflwyddiant
Su-per-flu-i-ty, gorddigonedd
Su-per-in-tend-ence, arolygiad, golygiad
Su-per-in-tend-ent, arolygwr, goruchwyliwr
Su-per-nat-u-ral, goruchnaturiol
Tac-i-turn-i-ty, dystawrwydd
Ter-ri-to-ri-al, tiriogaethol
Tes-ta-ment-a-ry, cymmynawl
Tes-ti-mo-ni-al, tystlythyr; tystiolaethol
Trans-fig-u-ra-tion, trawsddulliad, gweddnewidiad
Tran-sub-stan-ti-ate, trawssylweddu
Trig-o-nom-e-try, trionglaeth
Un-ac-count-a-ble, annirnadwy, dieithr
U-na-nim-i-ty, unfrydedd, cydsyniad
Un-com-fort-a-ble, anghysurus, digysur
Un-con-quer-a-ble, anorchfygol
Un-cul-ti-va-ted, anwrteithiol; diddysg; heb ei drin
Un-de-vi-at-ing, anwyrol, anymgrwydrol
Un-ex-pe-di-ent, anghyfleus, anaddas
U-ni-form-i-ty, unffurfiad, unweddiad
Un-ne-ces-sa-ry, afreidiol, diraid
Un-par-don-a-ble, anfaddeuadwy
Un-prof-it-a-ble, difudd, dielw
Un-rea-son-a-ble, afresymol, direswm
Un-sea-son-a-ble, annhymmig, anamserol
Un-sep-a-ra-ble, anwahanadwy
Un-suf-fer-a-ble, anoddefadwy, anoddefol
Va-ri-a-ble-ness, anwadalwch, amrywioldeb
Ver-i-fi-ca-tion, gwiriad, gwirioneddiad
Ver-si-fi-ca-tion, prydyddiaeth, mydraeth
Vet-er-i-na-ry, milfeddygol
Vo-cab-u-la-ry, geirlyfryn
Vo-cif-e-ra-tion, crochfloedd, banllefiad
Vo-lun-ta-ri-ly, yn ewyllysgar
APPENDIX.
ENGLISH-WELSH DIALOGUES.
ATTODIAD.
CYDYMDDYDDANION SAESNEG A CHYMRAEG.
APPENDIX.
| CONVERSATIONS, &c. | YMDDYDDANION, &c. |
| Good morning to you. | Boreu da i chwi. |
| Good morning, sir. | Boreu da, syr. |
| It is fine weather. | Mae hi yn dywydd braf. |
| Delightful, after the rain we have had. | Hyfryd ar ol y gwlaw a gawsom. |
| Will you come for a walk to the country? | A ddeuwch chwi i roi tro ir wlad? |
| I will with pleasure. | Deuaf gyd a phleser. |
| Which way shall we go? | Pa ffordd yr awn i? |
| Suppose we go along the road, and return through the fields | Beth ped aem ar hyd y ffordd, a dychwelyd drwy y caeau. |
| Very well; let us start then. | O'r goreu; gadewch i ni gychwyn ynte! |
| What o'clock is it now? | Beth yw hi o'r gloch yn awr? |
| Half-past ten. | Hanner awr wedi deg. |
| We must manage to be back by noon. | Rhaid i ni ymorol bod yn ol erbyn hanner dydd. |
| Then we had better not go far. | Gwell ynte i ni beidio myned yn mhell. |
| Where does this road lead to? | I ba le mae y ffordd hon yn arwain? |
| To a village about two miles off. | I bentref oddeutu dwy filltir oddi yma. |
| The country air is very healthy. | Y mae awyr y wlad yn bur iachus. |
| It is, and does one much good. | Ydyw, ac yn gwneud lles mawr i un. |
| Do you know anything of this neighbourhood? | A wyddoch chwi rywbeth am y gymmydogaeth hon. |
| Yes, a little. | Gwn, ychydig. |
|
Who lives in that mansion? |
Pwy sydd yn byw yn y plas yna? |
| An independent gentleman. | Gwr boneddig yn byw ar ei arian. |
| He is a man of property, I presume. | Y mae yn wr o gyfoeth feddyliwn |
| He is; and most of the farmers about here are his tenants. | Ydyw; ái dyddynwyr ef ydyw y rhan fwyaf ó'r ffermwyr oddeutu yma. |
| Another pretty residence; who lives here? | Dyma dŷ hardd arall; pwy sydd yn byw yma? |
| The clergyman of the parish; an esteemed man, and a good friend to the poor. | Offeiriad y plwyf; gwr parchus, a chyfaill da ir tlawd. |
| I begin to feel the heat of the sun. | Yr wyf yn dechreu teimlo gwres yr haul. |
| It does get warm: but we shall have a fine shade presently. | Y mae hi yn gwresogi; ond ni a gawn gysgod hyfryd yn fuan. |
| What is it I see beyond the bridge yonder? | Beth wyf yn weled tu draw ír bont acw? |
| The wind-mill. | Y felin wynt. |
| I see the spire of a church; I suppose this is the village. | Yr wyf yn gweled clochdy eglwys, hwn yw y pentref debygwn. |
| It is; and the building on the left is the school-house. | Ië; ár adeilad ár yr ochr aswy yw yr ysgoldy. |
| Is the church-yard worth visiting? | A ydyw y fynwent yn werth ymweled a hi? |
| Yes; but we cannot stop. | Ydyw, ond nis gallwn aros. |
| Must we go over that hill on our return? | A raid i ni fyned dros y bryn yna ár ein dychweliad? |
| No; we can take the fields along the river side. | Na raid; gallwn gymmeryd y caeau efo ochr yr afon. |
| Is there a footpath that way? | A oes llwybr troed y ffordd hono? |
| There is, and a very pleasant one too. | Oes, ac un hyfryd iawn hefyd. |
| Do we go over this stile? | A ydym yn myned dros y gamfa yma? |
| To save that trouble the gate can be opened. | I arbed y drafferth hono, gellir agor y llidiart. |
|
What a fine crop of hay there is in this meadow. |
Y fath gnwd da o wair sydd yn y weirglodd yma. |
| Capital; and very soon it will be ready for cutting. | Rhagorol; ac, yn bur fuan, bydd yn barod íw dorí. |
| What grows in the field adjoining? | Beth sydd yn tyfu yn y cae nesaf? |
| Wheat, I should think. | Gwenith, mi feddyliwn. |
| Is it not barley? | Ai nid haidd ydyw? |
| No; but there is a part of it oats. | Nage; ond y mae rhan o hono yn geirch. |
| Is that a potatoe field beyond it? | Ai cae cloron yw hwna, tu draw iddo? |
| Yes, and a part of it set for turnips. | Ië, a rhan o hono wedi ei osod i faip. |
| Are much beans and peas raised about here? | A godir llawer o ffa a phys oddeutu yma? |
| Yes, and cabbage too. | Gwneir, a bresych hefyd. |
| We must walk quicker, or we shall have a shower. | Rhaid i ni gerdded yn gyflymach, onide ni a gawn gawod. |
| Did you hear the thunder last night? | A glywsoch chwi y taranau neithiwr? |
| I did not, but fancied I saw lightning. | Naddo; ond tybiais i mi weled mellt. |
| It hailed about midnight. | Yr oedd yn bwrw cenllysg tua hanner nos. |
| A few days ago there was snow upon the mountains. | Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd eira ar y mynyddoedd. |
| So I have heard, and that it was freezing hard at night. | Felly y clywais, ai bod hi yn rhewi yn galed y nos. |
| Well, we are back by the time we said. | Wel, dyma ni yn ol erbyn yr amser y dywedasom. |
| Yes, to the minute. | Ië, í'r fynud. |
| When shall we go again? | Pa bryd y cawn i fyned eto? |
| Any day next week, except Tuesday. | Rhyw ddiwrnod yr wythnos nesaf oddi eithr Dydd Mawrth. |
| Let me know on Monday evening, if you please. | Gadewch i mi wybod nos Llun os gwelwch yn dda? |
| I will, if possible. | Os yn alluadwy, mi wnaf. |
|
This is my nearest way; so good bye for the present. |
Dyma 'r ffordd agosaf i mi; felly da y bo chwi yn awr. |
| Good bye, sir, and thank you for your company. | Da y bo chwi, syr, a diolch i chwi am eich cwmni. |
| MEAT AND DRINK, &c. | BWYD A DIOD, &c. |
| I want my breakfast. | Mae arnaf eisiau fy moreufwyd. |
| What would you like to have, sir? | Beth a ewyllysiech ei gael, syr? |
| Make me a cup of tea. | Gwnewch i mi gwpaned o De. |
| I am not fond of coffee. | Nid wyf yn hoff o goffi. |
| I like coffee better than tea. | Gwell genyf i goffi, na the. |
| Coffee does not agree with me. | Nid yw coffi yn dygymmod a mi. |
| Fetch a pound of sugar. | Ewch i nol pwys o siwgr. |
| Where from? | O ba le? |
| From the corner shop. | O siop y gongl. |
| Have you any cream? | A oes genych hufen? |
| No; but I have some new milk. | Nac oes, ond mae genyf laeth newydd ei odro. |
| Cut some bread and butter. | Torwch fara ac ymenyn. |
| Will you have some toasted bread? | A fynwch chwi fara wedi ei grasu? |
| Yes, and a little cheese. | Cymeraf, ac ychdig o gaws. |
| Are there any cakes sold here? | A oes teisenau ár werth yma? |
| Yes, but I never buy any. | Oes, ond nid wyf byth yn prynu rhai. |
| Are you fond of oat-meal cakes? | A ydych yn hoff o fara ceirch? |
| I am. | Ydwyf. |
| But wheaten bread is the best. | Ond bara gwenith ydyw 'r goreu. |
| Some prefer rye bread. | Mae 'n well gan rai fara rhyg. |
| It does not agree with me. | Nid ydyw yn dygymmod a mi. |
| Nor with me. | Na chyda minnau. |
| Is it dinner time? | A ydyw yn amser ciniaw? |
| Yes, this half hour. | Ydyw er's hanner awr. |
|
I thought so. |
Yr oeddwn yn meddwl hyny. |
| Is dinner ready? | A ydyw y ciniaw yn barod? |
| Yes, sir, it is. | Ydyw, syr, y mae. |
| I feel very hungry; do you? | Yr wyf yn teimlo yn dra newynog, a ydych chwi? |
| No, sir, I have no appetite. | Nac ydwyf, nid oes arnaf chwant bwyd. |
| What is the cause of it? | Beth ydyw yr achos o hyny? |
| I do not know, sir. | Nid wyf yn gwybod, syr. |
| What is for dinner to-day? | Beth sydd i giniaw heddyw? |
| There is roasted meat. | Mae yma gig rhost. |
| Is it beef? | Ai cig eidion ydyw? |
| No; it is veal. | Nage; cig llo ydyw. |
| Is it the loin? | Ai y lwyn ydyw? |
| No; it is the shoulder. | Nage; yr ysbawd ydyw. |
| There is also a loin of mutton. | Mae yma hefyd lwyn o gig mollt. |
| Is it roasted or boiled? | Pa un ai rhostedig ai berwedig? |
| Roasted, sir. | Rhostedig, syr. |
| I thought you had some lamb. | Tybiais fod genych gig oen. |
| No, I failed to go to market in time. | Nag oes, methais a myned ir farchnad mewn pryd. |
| Have you any boiled meat? | A oes genych gig berw? |
| There is a leg of veal. | Mae yma goes o gig llo. |
| Bring the bacon here. | Deuwch á'r cig moch yma. |
| Who is fond of venison? | Pwy sydd yn hoff o hydd-gig? |
| I am very fond of it. | Yr wyf i yn bur hoff o hono. |
| May I cut some for you? | A gaf fi dori peth i chwi? |
| A little, if you please. | Ychydig os gwelwch yn dda. |
| Have you any fowls? | A oes genych ddim adar? |
| Yes, I have a brace of partridges. | Oes, mae genyf gwpl o betris. |
| Is that a pigeon pie? | Ai pastai golomenod yw hona? |
| No; it is an eel pie. | Nage, pastai llyswod ydyw. |
| Perhaps you would have preferred the duck. | Feallai y buasech yn dewis yr hwyaden. |
| I am very fond of duck and green peas. | Yr wyf yn bur hoff o hwyaden a phys gleision. |
| I am glad to hear; for there are plenty of them to-day. | Mae yn dda genyf glywed, oblegid y mae yma ddigonedd heddyw. |
|
Will you take turnips or carrots? |
A gymmerwch chwi faip neu foron? |
| Not any, thank you, I am satisfied. | Dim, diolchi chwi, yr ydwyf wedi fy nigoni. |
| Bring the cheese on the table. | Deuwch ar caws ar y bwrdd. |
| May I cut you some? | A gaf i dori peth i chwi? |
| A small piece, if you please. | Ychydig os gwelwch yn dda. |
| What will you drink? | Beth a wnewch chwi ei yfed? |
| A glass of water. | Gwydriad o ddwfr. |
| Draw a quart of ale. | Gollyngwch chwart o gwrw. |
| This is too sweet. | Mae hwn yn rhy felys. |
| Draw a pint from the other barrel. | Gollyngwch beint o'r faril arall. |
| This is too bitter. | Mae hwn yn rhy chwerw. |
| Mix them together. | Cymmysgwch hwy ynghyd. |
| It is much better now. | Y mae yn llawer gwell yn awr. |
| Yes, sir, it is. | Ydyw, syr, y mae. |
| When was this brewed? | Pa bryd y darllawyd hwn? |
| Last October. | Yn Hydref diweddaf. |
| Old ale does not agree with me. | Nid ydyw hen gwrw yn dygymmod a mi. |
| But fresh ale does. | Ond y mae cwrw newydd. |
| I prefer old ale. | Mae yn well genyf i hen gwrw. |
| Take a glass of wine with me. | Cymmerwch wydriad o win gyd a mi. |
| Which? port or sherry? | Pa un? ai gwin coch, ai gwin gwyn? |
| Whichever you please to take. | Yr un a weloch chwi yn dda iw gymmeryd. |
| Allow me to give you another glass. | Gadewch i mi roddi i chwi wydriad arall. |
| Not any more, thank you. | Dim yn rhagor, diolch i chwi. |
| Let us now walk in the garden. | Gadewch i ni yn awr, rodio yn yr ardd. |
| What is the size of your garden? | Beth ydyw maint eich gardd? |
| It is nearly two acres. | Mae yn agos i ddwy erw. |
| Is it a fruitful garden? | A ydyw yn ardd ffrwythlawn? |
| The best in this part of the country. | Yr oreu yn y rhan yma ó'r wlad. |
| Have you many trees in it? | A oes genych lawer o goed ynddi? |
|
Yes, a great many apple trees. |
Oes, lawer o goed afalau. |
| What would you like to have for supper? | Beth a ddymunech gael i swper? |
| Bread and cheese. | Bara a chaws. |
| Doctors do not recommend much supper. | Nid ydyw meddygon yn cymmeradwyo llawer o swper. |
| Take some cold meat. | Cymmerwch gig oer. |
| Not any, thank you. | Dim diolch i chwi. |
| What will you drink? | Pa beth a yfwch chwi? |
| A glass of small beer. | Gwydriad o ddiod fain. |
| Take a glass of brandy. | Gymmerwch wydriad o frandi. |
| I do not drink spirits. | Nid wyf yn yfed gwirod. |
| Will you dine with me to-morrow? | A giniawch chwi gyd a mi y fory? |
| I am sorry to say, I cannot. | Mae yn ddrwg genyf ddweud nas gallaf. |
| Why? what is the cause? | Paham? beth ydyw yr achos? |
| I must go to Shrewsbury to-morrow to meet my brother. | Rhaid i mi fyned ir Amwythig y fory i gyfarfod fy mrawd. |
| Is he coming home? | A ydyw ef yn dyfod adre. |
| Yes, for a short time. | Ydyw am yehydig amser. |
| It is time to go to rest. | Mae hi yn bryd myned i orphwys. |
| It is, I am getting sleepy. | Ydyw y mae, yr wyf yn myned yn gysglyd. |
| Good night, sir. | Nos da i chwi, syr. |
| SALUTATIONS, &c. | CYFARCHIADAU, &c. |
| Good afternoon, sir. | Prydnhawn da, syr. |
| How are you to-day? | Sut yr ydych chwi heddyw? |
| I am very well, thank you. | Yr wyf yn bur iach, diolch i chwi. |
| How are the wife and children? | Pa fodd mae 'r wraig a 'r plant? |
| They are all very well. | Maent oll yn bur iach. |
| Is your family well? | A ydyw eich teulu chwi yn iach? |
|
They are all well except the youngest child? |
Maent oll yn iach, oddi eithr y plentyn ieuengaf. |
| What ails him? | Beth sydd yn ei flino. |
| The measles. | Y frech goch. |
| How is your mother? | Sut y mae eich mam? |
| She is pretty well considering her age. | Mae hi yn lled dda, ac ystyried ei hoed. |
| How old is she? | Pa mor hen yw hi? |
| She is eighty since Christmas. | Mae hi yn bedwar ugain er Nadolig. |
| Is your father still living? | A ydyw eich tad yn fyw eto? |
| No, he died last March. | Nag ydyw, bu farw yn mis Mawrth diweddaf. |
| Was he long ill? | A fu efe yn hir yn sal? |
| Yes, about two years. | Do, oddeutu dwy flynedd. |
| You have had a great loss. | Chwi a gawsoch golled fawr. |
| Yes; but mother has had a greater loss. | Do, ond fy mam a gafodd fwy o golled. |
| Where was your father buried? | Yn mha le y claddwyd eich tad? |
| He was buried at Wrexham. | Claddwyd ef yn Ngwrecsam. |
| What was his age? | Beth oed ei oedran? |
| Ninety. | Pedwar ugain a deg. |
| He was very old. | Yr oedd yn bur hen. |
| How are you this morning, sir? | Sut yr ydych chwi heddyw boreu, syr? |
| I am not well; neither have I been well some time. | Nid wyf yn iach, ac nid wyf wedi bod yn iach er's peth amser. |
| I am sorry to hear that. | Mae'n ddrwg genyf glywed hyny. |
| Where is your pain? | Yn mha le mae eich poen? |
| In my head. | Yn fy mhen. |
| Have you been with a medical man? | A fuoch chwi gyd a meddyg? |
| Yes; but the medicine does me no good. | Do, ond nid ydyw y cyffyriau yn gwneuthwr daioni i mi. |
| Perhaps the doctor does not understand your complaint. | Feallai nad ydyw y meddyg yn deall eich afiechyd. |
| Perhaps so. | Feallai hyny. |
| You had better try another. | Gwell fyddai i chwi dreio un arall. |
|
I intend to do so next week. |
Bwriadwyf wneud felly yr wythnos nesaf. |
| Where are you going to-day? | I ba le yr ydych yn myned heddyw? |
| I am going to Holyhead. | Yr wyf yn myned i Gaergybi. |
| Will you go with me? | A ewch chwi gyd a mi? |
| Yes, if you will stop until four o'clock. | Deuaf, os arhoswch tan bedwar o'r gloch. |
| Can't you go sooner? | Oni ellwch chwi fyned yn gynt? |
| No; I want to see my sister. | Na allaf, mae arnaf eisiau gweled fy chwaer. |
| Very well, call at the Harp Inn. | Or goreu, gelwch yn Ngwesty'r Delyn. |
| Where were you yesterday? | Pa le yr oeddych chwi ddoe? |
| At Chester. | Yn Nghaer. |
| What news from there? | Pa newydd oddi yno? |
| Nothing at all of importance. | Dim yn y byd o bwys. |
| Did you see my brother there? | A welsoch chwi fy mrawd yno? |
| Yes, I saw him at a distance; he was very busy. | Do, gwelais ef o bell; yr oedd yn bur brysur. |
| I expect him home next week. | Yr wyf yn ei ddysgwil adre yr wythnos nesaf. |
| Not to stay at home. | Nid i aros gartref. |
| No, only for a fortnight. | Nage, dim ond am bythefnos. |
| Is he in a good situation? | A ydyw ef mewn sefyllfa dda? |
| Yes, a very good one. | Ydyw, un dda iawn. |
| Have you much to do at Holyhead this afternoon? | A oes genych lawer i wneud yn Nghaergybi heddyw prydnhawn? |
| No, but little. | Nac oes, ond ychydig. |
| Have you finished, sir? | A orphenasoch chwi, syr? |
| Yes; but we must have a glass or two of ale. | Do, ond rhaid i ni gael gwydriad neu ddau o gwrw. |
| Where shall we go to get it? | I ba le yr awn iw geisio? |
| To the King's Head. | I ben y Brenin. |
| What sort of people are they? | Pa fath bobl ydynt? |
| They are very kind people. | Maent yn bobl garedig iawn. |
| Who is that person, going by? | Pwy yw y person yna sy'n myned heibio? |
| I do not know him. | Nid wyf yn ei adnabod ef. |
| I am now for going home. | Yr wyf yn awr am fyned adre. |
|
It is time for us to go. |
Mae yn amser i ni fyned. |
| Yes, it is. | Ydyw y mae. |
| Thank you for your company. | Diolch i chwi am eich cwmni. |
| You are welcome; don't mention it. | Mae i chwi groesaw, tewch a son. |
| My compliments to your brother. | Fy moesau at eich brawd. |
| Good bye, sir. | Da y bo chwi, syr. |
| EMPLOYMENTS, &c. | GORUCHWYLION, &c. |
| What is your occupation? | Beth yw eich galwedigaeth chwi? |
| I was brought up an attorney. | Fe'm dygwyd i fynu yn wr y gyfraith. |
| Where is your office? | Pa le mae eich swyddfa? |
| In Castle Street. | Yn Heol y Castell. |
| When will the assize be? | Pa bryd y bydd y Frawdlys? |
| Between Epiphany and Easter. | Rhwng yr Ystwyll a'r Pasc. |
| Do you get enough of employment? | A ydych chwi yn cael digon o waith? |
| Yes, and I have three apprentices. | Ydwyf, ac y mae genyf dri o egwyddor weision. |
| I am glad to hear. | Mae'n dda genyf glywed. |
| What is your father's calling? | Beth ydyw galwedigaeth eich tad? |
| He is an engineer. | Peirianwr yw efe. |
| How old is he now? | Beth ydyw ei oed yn awr? |
| He is about fifty. | Y mae oddeutu deg a deugain. |
| Have you any brothers? | A oes genych chwi frodyr? |
| Yes, I have six. | Oes, mae genyf chwech. |
| What are they doing? | Pa beth maent hwy yn ei wneuthur? |
| They are all with my father, except one. | Maent oll gyda fy nhad oddi eithr un. |
| What is he doing? | Pa beth mae e yn ei wneud? |
|
He is with my uncle, farming. |
Mae gyd a fy ewythr, yn amaethu. |
| What was your grandfather's occupation? | Beth oedd galwedigaeth eich taid? |
| He was a clergyman. | Yr oedd yn offeiriad. |
| Who is that gentleman? | Pwy yw'r boneddwr yna? |
| The village doctor. | Meddyg y pentref. |
| Is there much sickness in this neighbourhood now? | A oes llawer o afiechyd yn y gymmydogaeth yma yn awr? |
| No, sir, but very little. | Nac oes, syr, ond ychydig iawn. |
| Where is the doctor going? | Pa le mae'r meddyg yn myned? |
| To visit the sick. | I ymweled a'r cleifion. |
| Who is at the door? | Pwy sydd wrth y drws? |
| He is a commercial man. | Masnachwr yw efe. |
| Where from? | O ba le? |
| From Cardiff. | O Gaerdydd. |
| Has he a son a woollen-draper? | A oes ganddo fab yn frethynwr? |
| Yes, and one a linen-draper. | Oes, ac un yn lieiniwr. |
| Where at? | Yn mha le? |
| Somewhere near London. | Yn rhyw le yn agos i Lundain. |
| Of what trade is your brother Thomas? | Beth ydyw creft eich brawd Thomas? |
| He is a stonemason. | Saer maen yw efe. |
| What trade does David follow? | Pa gelfyddyd mae Dafydd yn ei ddilyn? |
| He is a weaver. | Gwehydd yw efe. |
| And what is William? | A pheth yw Gwilym? |
| He is a shoemaker. | Crydd yw efe. |
| His uncle was a tailor. | Yr oedd ei ewythr yn deiliwr. |
| What is your employment? | Beth ydyw eich gwaith chwi? |
| I am a farmer. | Amaethwr ydwyf fi. |
| How large is your farm? | Pa mor fawr ydyw eich tyddyn? |
| Six score acres. | Chwech ugain cyfar. |
| How many cows do you keep? | Pa nifer o fuchod a gedwch? |
| Fifteen generally. | Pymtheg yn gyffredin. |
| How many horses? | Faint o geffylau? |
| Three, and a young colt. | Tri ac ebol ieuangc. |
| And what number of sheep? | A pha nifer o ddefaid? |
|
About thirty. |
Oddeutu deg a'r hugain. |
| What sort of land is your farm? | Pa fath dir yw eich tyddyn? |
| A part of it is meadow land. | Mae rhan o hono yn weirglodd-dir. |
| And part of it is pasture. | Ac y mae rhan o hono yn borfa. |
| And another part is woodland. | A rhan arall yn goedtir. |
| But the greatest part is arable. | Ond y mae y rhan fwyaf yn aradwy. |
| Have you done ploughing? | A ddarfu chwi aredig? |
| Yes, the men are harrowing. | Do, mae'r dynion yn llyfnu. |
| Have you done sowing wheat? | A ddarfu chwi hau gwenith? |
| Yes, and have finished harrowing. | Do, ac wedi gorphen llyfnu. |
| Harvest will be early this year. | Bydd yn gynhauaf cynar eleni. |
| Yes, it will; for the wheat is nearly ripe now. | Bydd, mae'r gwenith yn agos yn addfed yn awr. |
| Have you commenced reaping? | A ddarfu chwi ddechreu medi? |
| Yes, I have three men reaping to-day. | Do, mae genyf dri o ddynion yn medi heddyw. |
| Do you intend to reap the barley and oats? | A ydych yn bwriadu medi'r haidd a'r ceirch? |
| No, I intend cutting them with a scythe. | Na, yr wyf yn meddwl eu tori a'r bladur. |
| Have you had your harvest? | A gawsoch chwi y cynhauaf? |
| Yes, except the oats. | Do, oddi eithr y ceirch. |
| Have you had yours? | A gawsoch chwi yr eiddoch? |
| Yes, a week ago. | Do, er's wythnos. |
| My servant is thrashing barley. | Mae fy ngwas yn dyrnu haidd. |
| How much do you get for the barley? | Faint ydych yn ei gael am yr haidd? |
| Two pounds a quarter. | Dwy bunt y peg. |
| I am going to winnow oats to-morrow. | Yr wyf yn myned i nithio ceirch y fory. |
| What do you get for the oats? | Beth ydych yn ei gael am y ceirch? |
| Twenty-two shillings. | Dau swllt a'r hugain. |
| What is the price of the wheat in this neighbourhood? | Beth ydyw pris y gwenith yn y gymmydogaeth hon? |
|
Three pounds ten. |
Tair a chweigen. |
| Thomas, go and dig potatoes for dinner. | Thomas, ewch i godi cloron i giniaw. |
| What potatoes am I to dig up to-day? | Pa gloron sydd i mi godi heddyw? |
| The white potatoes. | Y cloron gwynion. |
| Must I bring turnips and carrots? | A raid i mi ddwyn maip a moron? |
| Yes, bring a few. | Deuwch, ac ychydig. |
| Turn the pigs to their sties. | Trowch y moch iw citiau. |
| What for? | I ba beth. |
| That they may eat the swedes. | Fel y gallont fwyta y Rhwdins. |
| I have done. | Yr ydwyf wedi gwneud. |
| Gather the sheep into the fold. | Heliwch y defaid i'r gorlan. |
| I want to mark some of them. | Mae arnaf eisiau nodi rhai o honynt. |
| Have you shorn the lambs? | A ddarfu chwi gneifio yr wyn? |
| No, but will next week. | Na ddo, ond mi wnaf yr wythnos nesaf. |
| It is time to tie the cattle. | Mae hi yn bryd rhwymo 'r gwartheg. |
| I will immediately. | Mi a wnaf yn ebrwydd. |
| TRAVELLING, &c. | YMDAITH, &c. |
| Are you going from home? | A ydych chwi yn myned oddi cartref? |
| I am going to make a long journey. | Yr wyf yn myned i daith bell. |
| When will you start? | Pa bryd y cychwynwch? |
| In the beginning of July. | Ddechreu mis Gorphenaf. |
| How will you travel? | Pa fodd yr ymdeithiwch. |
| I will go on horseback to Bangor. | Mi âf ar geffyl i Fangor. |
| How will you proceed? | Pa fodd yr ewch rhagoch? |
| I will take the coach to Holyhead. | Mi a gymmeraf y cerbyd i Gaergybi. |
|
Are there commodious inns in Wales? |
A oes Gwestfäoedd cysurus yn Nghymru? |
| There are but a few. | Nid oes ond ychydig. |
| Are there good stables? | A oes stablau da yno? |
| Yes, pretty fair. | Oes, lled dda. |
| Where is the hostler? | Pa le mae'r ostler? |
| He is coming, sir. | Mae efe yn dyfod, syr. |
| Take care of my horse. | Cymmerwch ofal o fy ngheffyl. |
| Clean him well. | Glanhewch ef yn dda. |
| I will, sir. | Mi wnaf, syr. |
| Have you good hay? | A oes genych wair da? |
| Yes, sir, the best in the country. | Oes, syr, y goreu yn y wlad. |
| Give him a feed of oats. | Rhoddwch iddo ddogn o geirch. |
| Spread clean straw under him. | Taenwch wellt glân o dano. |
| Where is the waiter? | Pa le y mae'r gweitiwr? |
| I am here, sir. | Yr wyf yma, syr. |
| Take my trunk to the bedroom. | Cymmerwch fy nhrwngc i'r ystafell wely. |
| Lend me a candle. | Rhowch fenthyg canwyll. |
| Warm the bed. | Twymnwch y gwely. |
| I hope the bed is not damp. | Gobeithio nad yw y gwely yn llaith. |
| No, sir, somebody is in it every night. | Nac ydyw, mae rhyw un ynddo bob nos. |
| Bring another blanket. | Deuwch a gwrthban arall. |
| Is one enough? | A ydyw un yn ddigon? |
| Yes, perhaps I shall not want one. | Ydyw, feallai na bydd arnaf eisiau un. |
| Where is the night cap? | Pa le mae y cap nos? |
| Bring some water into the room. | Deuwch a dwfr i'r ystafell. |
| Have you a towel there? | A oes genych dywel yna? |
| Yes, sir, I have two clean ones. | Oes, syr, mae genyf ddau lân. |
| When do you intend to get up? | Pa bryd y bwriedwch godi? |
| About six o'clock. | Oddeutu chwech o'r gloch. |
| Get my breakfast ready by seven o'clock. | Parattowch fy moreufwyd erbyn saith o'r gloch. |
| What time will the coach leave? | Pa bryd y cychwyna y cerbyd? |
|
It leaves at ten o'clock. |
Mae'n cychwyn ddeg o'r gloch. |
| How many miles are there to the next town? | Pa sawl milltir sydd i'r dref nesaf? |
| You have fifteen miles. | Mae i chwi bymtheg milltir. |
| What sort of road is it? | Pa fath ffordd ydyw? |
| A very uneven road. | Ffordd bur anwastad. |
| You must go over the mountain. | Rhaid i chwi fyned dros y mynydd. |
| Are there many cross roads? | A oes llawer o groes ffyrdd? |
| Only one, to the left. | Dim ond un, ar yr aswy. |
| Is there a river on the road? | A oes afon ar y ffordd? |
| Yes, about four miles off. | Oes oddeutu pedair milltir ym mlaen. |
| How shall we cross over? | Pa fodd y croeswn drosodd? |
| There is an excellent bridge. | Mae yno bont ragorol. |
| How many miles more have I? | Pa sawl milltir eto sydd genyf? |
| You will soon come to your journey's end. | Chwi a ddeuwch yn fuan i ben eich taith. |
| Whose house is that yonder? | Tŷ pwy yw hwn acw? |
| It is the Bishop's palace. | Plas yr Esgob yw. |
| Where is the church? | Yn mha le mae'r Eglwys? |
| At the foot of yonder hill. | Wrth droed y bryn acw. |
| Where shall we alight? | Yn mha le y disgynwn? |
| At the Castle Inn. | Yn Ngwesty y Castell. |
| Which is the travellers' room? | Pa un yw ystafell ymdeithwyr? |
| It is on the right hand. | Mae hi ar y llaw ddehau. |
| Is there a waterfall in this neighbourhood? | A oes rhaiadr yn y gymmydogaeth hon? |
| Yes; it is six miles from here. | Oes, y mae chwe milltir oddi yma. |
| I have a wish to see it. | Mae genyf ewyllys iw weled. |
| Can I have a guide? | A allaf fi gael arweinydd? |
| Yes, sir, there is one ready at hand. | Gellwch, syr, mae un yn barod wrth law. |
| I will hire a pony. | Mi a logaf ferlyn. |
| It will cost you seven shillings. | Mi gostia i chwi saith swllt. |
| Very well, here they are. | O'r goreu, dyma nhw. |
| Saddle him immediately. | Cyfrwywch ef yn union. |
| Which is the nearest road? | Pa un yw y ffordd nesaf? |
| Across the hill. | Ar draws y bryn. |
|
Then, turn to your left. |
Wedi, hyny, trowch ar eich llaw aswy. |
| Follow the brink of the river. | Canlynwch lan yr afon. |
| For how far? | Am ba mor bell. |
| For a mile and a half. | Am filltir a hanner. |
| There is a beautiful prospect here. | Mae yma olygfa hardd. |
| Astonishing, what a variety! | Rhyfedd, y fath amrywiaeth! |
| It is going to rain. | Mae hi yn myned i wlawio. |
| We must make haste. | Mae yn rhaid i ni frysio. |
| We shall be caught in the rain. | Fe oddiwedda y gwlaw nyni. |
| Will your horse trot? | A wna eich ceffyl duthio? |
| He will canter famously. | Efe a garlama yn rhagorol. |
| We shall not be long. | Ni byddwn yn hir. |
| About half an hour. | Oddeutu hanner awr. |
| That is a good pony. | Merlyn da yw hwna. |
| Not so good, as the one I had yesterday. | Nid cystal, a'r hwn oedd genyf ddoe. |
| Take off your top coat. | Tynwch eich côb. |
| I am wet to the skin. | Yr wyf yn wlyb hyd y croen. |
| And I am too. | A minnau hefyd. |
| Put my clothes to dry. | Rhowch fy nillad i sychu. |
| I wish to see the monastery. | Dymunwn weled y fynachlog. |
| Which is the road to the old monastery? | Pa un yw'r ffordd at yr hen fynachlog? |
| Go straight forward. | Ewch rhag eich blaen. |
| Keep to the right hand. | Cedwch ar y llaw ddehau. |
| Make towards the grove yonder. | Cyfeiriwch at y llwyn coed acw. |
| Keep that white wall in view. | Cedwch y wal wen acw mewn golwg. |
| There is no finger post. | Nid oes yna yr un mynegbost. |
| Turn by the third milestone. | Trowch wrth y drydedd gareg filltir. |
| I shall be back in two hours. | Mi a ddeuaf yn ol yn mhen dwy awr. |
| I must be at home to-morrow night. | Rhaid i mi fod gartref nos y fory. |
| A horse will meet me at Conway. | Fe ddaw ceffyl im cyfarfodd i Gonway. |
|
I shall reach home before midnight. |
Mi a gyrhaeddaf adre cyn hanner nos. |
| I wish you a pleasant journey. | Dymunaf i chwi siwrna gyssurus. |
| Thank you, sir, for your kindness. | Diolch i chwi, syr, am eich caredigrwydd. |
| Make haste this way again. | Brysiwch y ffordd yma eto. |
| Perhaps I may come next year, but no sooner. | Feallai y deuaf y flwyddyn nesaf, ond nid yn gynt. |
| Remember me to Mrs. Jones and all the family. | Cofiwch fi at Mrs. Jones a'r holl deulu. |
| MARKETING, &c. | MARCHNADAETH, &c. |
| I want to go to market. | Mae arnaf eisiau myned ir farchnad. |
| I have been. | Yr ydwyf fi wedi bod. |
| Bring me a basket. | Moeswch i mi fasged. |
| It is ready on the table. | Mae'n barod ar y bwrdd. |
| What will you buy? | Pa beth a brynwch? |
| I want to buy several things. | Mae arnaf eisiau prynu amryw bethau. |
| How much a pound is this beef? | Pa faint y pwys yw y cig eidion yma? |
| Five pence halfpenny. | Pum ceiniog a dimai. |
| What will this piece weigh? | Pa faint a bwysa y darn yma? |
| Fourteen pounds. | Pedwar pwys a'r ddeg. |
| How much will that come to at five pence? | I ba faint y daw hyny wrth bum ceiniog? |
| Five shillings and ten pence. | Pum swllt a deg ceiniog. |
| What a pound is the mutton? | Pa faint y pwys yw'r manllwyn? |
| Six pence halfpenny. | Chwech a dimai. |
| How much will that loin weigh? | Faint a bwysa y lwyn yna? |
| Nine pounds and a quarter. | Naw pwys a chwarter. |
| Have you any veal? | A oes genych gig llo? |
|
No, it is all sold. |
Nac oes, y mae i gyd wedi ei werthu. |
| What is the price of this goose? | Beth ydyw pris yr wydd yma? |
| Three and sixpence. | Tri a chwech. |
| How much do you ask for the ducks? | Faint ydych yn ei ofyn am yr hwyaid? |
| You shall have the two for half a crown. | Chwi a gewch y ddwy am hanner coron. |
| What a pound is the butter? | Faint y pwys yw'r menyn? |
| Fourteen pence. | Pedair a'r ddeg. |
| How many eggs are there for a shilling? | Faint o wyau sydd am swllt? |
| Eighteen. | Deunaw. |
| I want a measure of potatoes. | Mae arnaf eisiau mesur o gloron. |
| What sort? | Pa fath? |
| The best you have. | Y rhai goreu sydd genych. |
| Please come to the shop. | Os gwelwch yn dda deuwch i'r siop. |
| Let me see your blue cloth. | Gadewch i mi weled eich brethyn glas. |
| How much a yard is it? | Faint y llath ydyw? |
| Nine and sixpence. | Naw a chwech. |
| Cut me a yard and a half. | Torwch i mi lathen a hanner. |
| Have you any fine linen? | A oes genych liain main? |
| Yes, plenty. | Oes ddigon. |
| I want a pair of woollen stockings. | Mae arnaf eisiau par o hosanau gwlan. |
| What is the price of them? | Beth ydyw eu pris? |
| Three and nine pence. | Tri a naw. |
| They are too dear. | Maent yn rhy ddrud. |
| Here is a very cheap pair. | Dyma bâr rhad iawn. |
| What do you ask for this hat? | Beth ydych yn ofyn am yr het yma? |
| Twelve shillings. | Deuddeg swllt. |
| Can you change a ten pound note? | A ellwch chwi newid papur deg punt. |
| Yes, sir, I can. | Gallaf, syr. |
| Have you been to market? | A fuoch chwi yn y farchnad? |
| Yes, and am very much tired. | Do, ac yr ydwyf wedi blino yn fawr. |
|
Did you see my mother? |
A welsoch chwi fy mam? |
| Yes, she was waiting for your father. | Do, yr oedd yn aros am eich tad. |
| How is the market to-day? | Sut y mae y farchnad heddyw? |
| Every thing very dear. | Pol peth yn bur ddrud. |
| Every kind of corn is much dearer. | Pob math o yd yn llawer drutach. |
| Flesh meat is getting dearer. | Mae cig yn myned yn ddrutach. |
| There is no scarcity of anything, except money. | Nid oes prinder o ddim, oddi eithr arian. |