V. MAB Y MÔR.
UN o blant y môr oedd Sion Morys, a’r môr oedd ei hoffter pennaf. Nid rhyfedd hynny ychwaith. Morwyr oedd y teulu er cyn cof. Yr oedd y môr fel pe buasai’n galw arnynt yn blant, ac nid allent hwythau beidio âg ufuddhau iddo. Yr oeddynt fel hwyaid am y dwfr. Yr oedd yn wybyddus fod pum cenhedlaeth o feibion y teulu yn forwyr. Hwyrach fod rhagor. Yn wir, mae’n dra sicr fod. Taid Sion Morys a holwyd gan y dyn hwnnw oedd yn ofni’r môr.
“Ym mhle bu farw’ch tad?”
“Ar y môr.”
“A’ch taid?”
“Ar y môr.”
“A’ch hen daid?”
“Ar y môr hefyd, a’i hen daid ynte yr un fath.”
“Gwarchod ni!” meddai’r ofnus, “os gynnoch chithe ddim ofn marw ar y môr?”
“Wel,” eb yr hen wr, “lle bu dy dad di farw ynte?”
“Wel, adref yn i wely, siwr.”
“A’th daid?”
“Yr un fath.”
“A’i daid ynte?”
“Ie, yr un fath.”
“Wel, ar f’engoch i, mi ddylet wneud rhywbeth! Oes arnat tithe ddim ofn marw yn dy wely, dywed?”
Ar y môr mewn gwirionedd y bu farw y rhan fwyaf o hynafiaid Sion Morys, ac yn y môr y claddwyd hwy. Yn wir, cyn belled ag yr oedd cof yn mynd, un ohonynt yn unig a fu farw ar y lan ac a gladdwyd yn y ddaear, a thrwy ddamwain y bu hynny hefyd.
Yr oedd mam Sion Morys yn ofni’r môr yn arw, ac am hynny, mynnodd fynd i fyw yn ddigon pell oddi wrth y môr cyn geni Sion. Yr oedd hi am ddwyn Sion i fyny i fyw ar y tir, ac yr oedd wedi gwneud cytundeb a’i gŵr cyn ei briodi ei bod hi i gael byw ynghanol y wlad yn mhell oddi wrth y môr, a bod y plant i gael eu dwyn i fyny i fyw ar y tir. Yr oedd yntau wedi cytuno. Hwyrach ei fod yn teimlo yn sicr nad allai dim dorri ar yr olyniaeth forwrol. Prun bynnag, ni bu iddo ef a’i wraig ond un mab, sef Sion, ac yr oedd Sion yn ddeg oed cyn gweled y môr o gwbl. Gwir ei fod er yn blentyn yn hoff iawn o’r dwfr, ac mai ei ddifyrrwch pennaf, pan gai gefn ei fam, fyddai mynd i chware i’r llyn mynyddig oedd heb fod ymhell oddi wrth ei gartref. Pan oedd o tua deg oed, sut bynnag, tybiodd ei fam y gallai fentro ei gymryd gyda hi i Laneigion i gyfarfod ei dad. Yr oedd ei dad heb fod adref ers tair blynedd, ac yr oedd y fam wedi addo y cae Sion fynd i’w gyfarfod pan ddeuai. Daeth y llong o’r diwedd i Laneigion, ac aeth Beti Morys a’i mab yno i’w chyfarfod.
Yr oedd Capten Morys yn awyddus iawn am weld ei fab, ond yr oedd yn cofio yn dda fod Beti Morys yn ofni’r môr, a’i bod yn debyg o fod wedi dwyn ei mab i fyny i’w ofni yr un fath â hi ei hun. Eto, pan welodd y bachgen, deallodd rywfodd ar ei osgo mai mab ei dad ydoedd ac nid mab ei fam. Nid ai Beti Morys i aros ar fwrdd y llong, ac felly yr oedd yn rhaid cymryd lle iddi hi a’r bachgen mewn tafarn yn y dref.
Y bore ar ol glaniad y llong, yr oedd Capten Morys wedi mynd i’r dafarn at ei wraig a’i fab. Bore Sul hyfryd ym mis Gorffennaf ydoedd, ac yr oedd hyd yn oed Beti Morys yn teimlo y buasai tro ar lan y môr yn braf. Aeth y tri ar y traeth, ac wedi cerdded o gwmpas nes blino braidd, eisteddasant ar y tywod. Yn fuan iawn yr oedd y capten wedi cysgu yn yr haul, a Beti Morys hithau yn teimlo yn bur swrth hefyd. Am Sion, yr oedd o wedi synnu at y môr a’i ryfeddodau, ac yn gwylio’r bobl oedd yn ymdrochi gyda dyddordeb anghyffredin.
Cysgodd y capten yn drwm, a hunodd Beti Morys hefyd, er gwaethaf ei phryder am y bachgen. Toc, sut bynnag, deffroes Beti, a’r peth cyntaf a wnaeth oedd edrych o’i chwmpas am Sion.
Nid oedd olwg arno yn unman.
Dychrynodd Beti Morys a deffroes ei gŵr.
“Huw!” ebr hi, “lle mae’r bachgen?”
Deffroes y capten yn araf.
“Be sydd?” meddai.
“Lle mae’r bachgen?” ebr Beti.
“Wn i ddim,” meddai’r capten, “ble’r aeth o ynte?”
“O! mae o wedi mynd i rywle. Rhaid i fod o wedi boddi! O, machgen annwyl i, a ninne yn cysgu yn y fan yma!”
“Boddi? Choelia i fawr!” meddai’r capten. “Foddodd yr un o’r Morysiaid erioed ond drwy i’r llong dorri arnyn nhw ynghanol y môr agored!”
“Ond ’does dim golwg am dano fo,” ebr Beti Morys, “i ble ’rae o? Rhaid i fod o wedi boddi, Huw! Faddeua i byth i mi fy hun!”
“Gadewch i ni weld ynte,” meddai’r capten, gan godi yn araf ar ei draed ac edrych o’i gwmpas.
Yr oedd Beti ar ei thraed eisoes, ac yn edrych yn graff yma ac acw. Toc, dyma hi yn gweled rhywbeth ac yn rhoi ysgrech.
“Be sydd?” meddai’r capten.
“Dyma’i ddillad o!” ebr Beti.
A dyna lle yr oedd dillad Sion yn swp ar y traeth.
“O, wel, rhaid i fod o yn y dwr ynte,” ebr y capten, gan fynd ymlaen at y dwr, a dal ei law uwchben ei lygaid ac edrych o’i gwmpas.
Yr oedd Beti wedi rhedeg ar ei ol, ac yn sefyll yn ei ymyl mewn ofn mawr.
“Dacw fo,” meddai’r capten.
“Ym mhle?” ebr Beti.
“Ond yn y dwr.”
“Ond fuo fo ’rioed yn y dwr o’r blaen, mi foddiff yn siwr! Ewch i’w nol o!” ebr Beti.
“Mae o’n nofio yn braf!” meddai’r capten.
“Nofio, a fynte erioed wedi gweld y môr o’r blaen?”
“Ie, siwr,” meddai’r capten, “ond oedd y Morysiaid i gyd yn medru nofio o’u mebyd.”
Ac yr oedd Sion yn y dwfr yn nofio yn braf ers hanner awr. Pan gafodd ddigon ar y dwfr, daeth i’r lan, a chafodd wers lem gan ei fam, a hanner coron gan ei dad.
Ar ol y diwrnod hwnnw, ofer oedd ceisio cadw Sion o’r môr. Yr oedd yntau wedi clywed galwad yr eigion, ac er holl ofal ei fam, yr oedd wedi rhedeg i’r môr cyn ei fod yn ddeuddeg oed.
Ac yn y môr y bu ar hyd ei oes nes oedd yn hen ŵr trigain a phump oed. Yr adeg honno, aeth drwy ryw anap yn rhy fusgrell i allu dilyn ei alwedigaeth yn hwy.
Wedi’r anghaffael hwnnw, bu raid i Sion Morys roddi’r goreu i’r môr, a chyda gofid mawr y gwnaeth hynny. Yr oedd ganddo ddigon o arian i fyw yn gysurus o ran hynny, ond nid oedd gysur i Sion mewn byw ar y tir. Yr oedd o erbyn hyn hefyd yn dra amddifad. Yr oedd ei wraig wedi marw ers blynyddoedd, a’i unig fab wedi mynd i’r môr ac wedi colli yn rhywle ers llawer o amser. Bu Sion heb wybod yr hanes am flwyddyn a hanner neu ddwy flynedd ei hun, a phan ddaeth i dir o’r diwedd a chlywed fod llong ei fab ar goll ers deunaw mis, edrychodd ar y môr yn hir ac yn graff, sychodd ddeigryn o’i lygad ac yna ymostyngodd i’r dynged fel dyn, neu yn hytrach fel morwr. Bu ar led ei hun am flynyddoedd wedi hynny, ond o’r diwedd yr oedd yr hen forwr cadarn ar y lan, fel hen long wedi ei dryllio a’i thaflu ar y traeth gan y tonnau i fynd yn ddarnau yn araf deg dan bwys y tonnau a dannedd y graig.
Ac yn Llaneigion y glaniodd Sion Morys am y tro olaf. Cymerodd lety yno, mewn tŷ ar lan y môr, lle’r oedd hen gydnabod iddo gynt yn byw. Yno yr wyf fi yn ei gofio gyntaf, yn hen ŵr deg a thrigain oed, a’i wallt a’i farf yn wyn fel y llin, neu yn hytrach
“Fel ewyn y donn pan fo’n creuloni,
A mawr rhuolwynt ar y môr heli.”
Yr oedd ei wyneb yn rhychau dyfnion, a’i ddwylaw yn gelyd fel haearn. Cerddai yn araf, gan grymu tipyn ar ei gefn, a gellid ei weled bob dydd, haf a gaeaf yr un fath, yn mynd am dro i lan y môr. Byddai yno yn cerdded ar y traeth am oriau bob dydd, ni waeth pa fath dywydd a fyddai. Yn wir, pan fyddai yn ystorm, byddai Sion Morys yno yn hwy na phan fyddai yn braf, a pho ffyrnicaf yr ystorm, goreu yn y byd ganddo. Ar hyd y blynyddoedd, ymdrochai bob bore, a nofiai o gwmpas am yn hir er gwaethaf anystwythder ei goes a’i fraich chwith. Yn y prynhawn gwelid ef ar y cei gyda hen forwyr ereill oedd wedi mynd yn rhy hen i ddilyn eu galwedigaeth mwy, ond nad oeddynt mor hoff o’r môr ag ydoedd Sion Morys. O leiaf, ni byddent hwy yn mynd i lawr i’r traeth bob dydd nag yn ymdrochi fel y byddai ef. Llawer ysgwrs a fyddai rhyngddynt ar y cei yn y prynhawn, a llawer son am hen gydnabod ac am bethau wedi digwydd ym mhellter byd flynyddoedd lawer yn ol, pan oeddynt hwy yn eu pwmp.
Ond yr oedd Sion Morys yn mynd yn hŷn ac yn fusgrellach, ac o’r diwedd, aeth i fethu ymdrochi mwy. Yr oedd hynny yn pwyso ar ei feddwl yn fawr, ond yr oedd yn dal ati o hyd i ymlusgo i lan y môr bob dydd, ac yn aros yno am oriau i wylio’r tonnau yn curo’n dragywydd ar y traeth. Un gaeaf, clafychodd, a bu drwy’r gwanwyn heb fedru mynd i lan y môr. Yr oedd hynny yn torri ei galon. Teneuodd yn arw, a chrymodd ei gefn, ac aeth yntau yn ddistaw a hurt ei olwg. Ond fel yr oedd yr haf yn dynesu a’r tywydd yn tyneru, dechreuodd Sion Morys godi allan drachefn, a cheisiodd gerdded tua’r môr fel o’r blaen. Yr oedd y daith yn ormod iddo ar y dechreu, ond o dipyn i beth medrodd un diwrnod yn nechreu haf gyrraedd y traeth. Yr oedd y môr fel llyn a’r dwfr yn chware yn gynnes ar y traeth. Tynnodd Sion Morys am dano, a cherddodd yn araf a musgrell i’r dwfr. Daeth hen deimlad ei ieuenctyd yn ol iddo, ymollyngodd i’r tonnau gan geisio nofio fel o’r blaen, ond yr oedd dyddiau nofio Sion Morys drosodd.
Y noswaith honno cafwyd hyd iddo ar y traeth. Ac fel ei hynafiaid, bu yntau, yr olaf o’r teulu, farw yn y môr.
VI. UN BREGETH GRUFFYDD JONES.
‟TOMOS DAFIS, gawn ni air gynnoch chi i ddechre ar achos Huw?” ebr William Huws, y pen blaenor, ar ol i Dafydd Cae Crwn ddechre’r seiat yn y Capel Bach.
Yr oedd yno gynhulliad mwy nag arfer, a theimlid dyddordeb anghyffredin yn y materion oedd i ddyfod gerbron y noswaith honno.
Yr oedd Gruffydd Jones i gael dechre pregethu neu beidio, yn ol fel y penderfynai yr eglwys, ac yr oedd Idwal Wmffre i gael ei dorri allan. Teimlai y bobl oreu ddyddordeb mawr yn yr achos cyntaf, a’r bobl symol a’r cnafon fwy o ddyddordeb yn yr ail.
Yr oedd Gruffydd Jones wedi cael cennad i roi pregeth o flaen y gynulleidfa y nos Sul cynt, ac ar bwys barn y bobl am honno y dibynnai a gai ei achos fynd ymhellach ai peidio.
Yr oedd Idwal Wmffre wedi meddwi a mynd i drwbl waeth na hynny a thynnu un arall i’w ganlyn, ac am hynny yr oedd yn rhaid ei ddiarddel.
“Dowch, Tomos Dafis,” ebr William Huws.
Yr oedd Tomos Dafis yn hir yn dechreu.
Ond o’r diwedd, cododd ar ei draed yng nghornel y set fawr. Crydd ydoedd. Dyn bychan ag wyneb gwastad, hir ganddo; barf wedi ei thorri yn weddol ferr; ei wefus uchaf wedi ei heillio yn lân; llygaid gleision, bychain; talcen mawr a choryn moel.
“Wel,” eb efô, ac yr oedd ei lais rhwng cras a pheidio, “wel, rhaid i mi ddechre, mae’n debyg. ’Roeddwn i yn disgwyl fy somi yn Gruffydd, waeth i mi ddeyd y gwir na pheidio. Welis i erioed ddim byd neilltuol iawn ynddo fo, er fy mod yn gwybod i fod o yn fachgen da. Un o’r bechgyn hynny sy’n edrych weithie yn rhy dda i ryw greadur fel fi.”
Tawodd Tomos Dafis am ennyd. Yn ei ieuenctid, bu Tomos yn dipyn o fraddug, ond bellach nid oedd amheuaeth am ei dduwioldeb.
“Mi fydda i,” meddai yn araf, “yn meddwl y dyle pregethwr fod yn gwybod tipyn am demtasiyne’r bobol y bydd o yn mynd i bregethu iddyn nhw. Ni chlywis i erioed gystal pregethu â phregethu ambell i hen bechadur go ffyrnig wedi cael gras. Ond waeth heb fynd y ffordd yna heno. ’Roeddwn i yn disgwyl fy siomi yn Gruffydd. Ac mi ges fy somi hefyd.”
Tawodd Tomos Dafis drachefn, ac yr oedd pawb bron yn dal eu hanadl. Yr oedd Gruffydd wedi plesio pawb. Sut yr oedd Tomos Dafis wedi ei somi? Dyna oedd ym meddwl pob dyn a dynes yno.
“ ’Roeddwn i,” ebr Tomos Dafis, yn araf, “yn disgwyl rhyw bregeth dila, fel fyddwn ni yn arfer gael gan y bechgyn yma, gan Gruffydd, ond yn lle hynny mi gawsom bregeth addawol dros ben gynno fo.”
Anadlodd pawb yn rhydd, ac aeth Tomos Dafis yn ei flaen.
“Yr oedd yn dda dros ben gen i gael fy somi, ar yr ochor ore,” ebr efô. “ ’Rydw i yn meddwl y gwneiff yr hogyn bregethwr da. Mae gynno fo feddwl yn perthyn iddo fo’i hun, a dawn i’w ddeyd o. Waeth i mi heb ddeyd chwaneg. ’Roedd llawer o feie yn i bregeth o, mae’n siwr. Cofia di hynny, Gruffydd, machgen i, a phaid a mynd i feddwl gormod ohonot dy hun. Ond ’rydw i yn deyd yn dy wyneb di mod i wedi mhlesio yn fawr yn dy sylwade di nos Sul. O’m rhan i, mi gei fynd yn dy flaen.”
Galwodd William Huws ar un arall o’r blaenoriaid, ac ar amryw o’r aelodau, a chafwyd gan bob un ohonynt air da iawn i bregeth Gruffydd Jones. Yr oedd pawb wedi synnu ato, ac yn harod iawn i roi pob cefnogaeth iddo. Yr oeddynt yn sicr y byddai yn bregethwr mawr, ac yr oedd y meddwl am godi pregethwr mawr yn y Capel Bach wrth fodd yr eglwys i gyd. Rhoed y peth ger bron, a chafwyd pawb yn unfryd dros roi cennad i Gruffydd Jones fyned rhagddo yn ol rheolau y cyfundeb. Rhoes William Huws, Tomos Dafis, John Jones, ac Edward Williams, y blaenoriaid; a John Parry a William Ffowcs, y ddau a gredai y dylasent hwythau fod yn flaenoriaid ers blynyddoedd, res o gynghorion buddiol iawn iddo ar ddechreu ei yrfa. Ac yr oedd cyngor William Huws yn un nodedig, fel arfer.
“Gruffydd, machgen i,” eb efô, “ ’roeddwn i yn teimlo wrth wrando arnat ti nos Sul fod gen ti rywbeth i’w ddeyd, a’th fod ti yn i ddeyd o fel ti dy hun, ac nid fel rhwfun arall. Wel, dal di at hynny. Dyna’r unig ffordd onest. ’Dalla i ddim aros y bobl yma sy heb ddim i’w ddeyd eu hunain, y rhai sy’n byw ar ryw hanner deyd meddylie pobol ereill. Cadw atat dy hun, beth bynnag wnei di, mi fyddi yn rhywbeth felly, goelia i.”
Yr oedd Gruffydd yn wylo yn dost wrth wrando ar y cynghorion hyn. Tybiai llawer mai ei grefyddolder oedd yn peri iddo wylo, a thybiai ereill ei fod yn teimlo dros Idwal, oedd i gael ei dorri allan, canys yr oedd y ddau yn hen gyfeillion, wedi chware gyda’i gilydd, ac yn cydweithio yn y gwaith mwyn.
Bu distawrwydd, ac yna cododd William Huws ar ei draed yn sydyn.
“Mae gynnon ni ddyledswydd arall,” meddai, “ac un gas ydi hi. Ond rhaid gwneud dyledswyddau cas. Dylem eu gwneud hwyrach yn fanylach a mwy gofalus na rhai fel arall. Waeth heb fynd i son llawer am y peth. Yr ydech chi i gyd yn gwybod yr hanes. Mae Idwal Wmffre, bachgen wedi ei fagu yn y seiat yma, wedi troi yn fachgen drwg. Mae o wedi troi yn feddwyn cyhoeddus, ac y mae o wedi tynnu un arall i’w ganlyn i drwbwl, ond ’does a wnelo ni yma ddim â’r un honno. Yr oedden ni yn disgwyl llawer oddiwrth Idwal. Gwyddem fod ei dad a’i fam yn dalentog, a chawsom brofion ei fod ynte yn meddu doniau nodedig iawn. Clywais un o’n gweinidogion sy’n fardd yn dywedyd y gwnai Idwal ei farc os ceisiai. Ond y mae o ar y llwybr drwg. Mae’n boen i mi feddwl am i dorri fo allan, yn boen fawr. Ond ’does dim arall i’w wneud. Rhaid i ddiarddel o.”
Cododd Tomos Dafis yn araf. Yr oedd golwg ryfedd ar ei wyneb.
“Wel,” meddai, “mewn un ffordd, mi faswn yn hoffi medru amddiffyn Idwal. Mae o ar lawr, ac yr ydym ninnau yn mynd i’w gicio allan. ’Does mo’r help. Rhaid gwneud hynny, Eto, cofiwn nad ydi’n dyledswydd ni ddim yn darfod wedi i ni i droi o dros y drws. Gadewch i ni geisio i ddwyn o yn i ol, ac os medrwn ni, mi wneiff well dyn, ’dydw i yn ame dim, na phe base fo erioed heb lithro.”
Bu distawrwydd drachefn. Yr oedd Gruffydd yn wylo o hyd. Yr oedd Idwal yn edrych yn graff ar Tomos Dafis, ond nid oedd ddeigryn yn ei lygad o. Edrychai pawb arno yn eu tro, ond nid oedd Idwal yn newid ei wedd nac yn gwingo o gwbl. Yr oedd rhai eisoes yn dechreu teimlo ei fod yn wyneb galed, ac yn haerllug iawn, ac ereill yn rhyw gydymdeimlo âg o, ar eu gwaethaf.
“Oes gen ti rywbeth i’w ddeyd dy hun, Idwal?” ebr William Huws.
“Oes, lawer,” ebr Idwal, “ond waeth i mi heb i ddeyd o chwaith.”
“Pam? Os oes rhywbeth ar dy feddwl di, dywed o.”
“Ie siwr,” ebr Tomos Dafis.
“Wel,” ebr Idwal, “waeth i mi heb geisio f’amddiffyn fy hun. ’Roeddwn i ar fai. Ond nid ar gymaint o fai ag yr ydech chi yn meddwl ychwaith. Mae’n ddrwg gen i am y meddwi, ond am yr helynt arall, wel waeth i mi dewi.”
“Na waeth,” ebr William Huws, yn gwta. “Waeth i ni orffen. Gwnewch yr arwydd arferol, bawb sydd o’r farn mai diarddel Idwal a ddylem.”
Cododd pawb ei law ond Gruffydd Jones.
“Gruffydd,” ebr William Huws, “mi welaf nad wyt ti ddim yn codi dy law. Beth ydi dy reswm di?”
“Fedra i ddim!” meddai Gruffydd, a thorrodd i wylo yn chwerw iawn.
“Wel, mae’r ddau yn hen gyfeillion o’u mebyd,” ebr Tomos Dafis.
“Ydyn, ’does mo’r help,” ebr William Huws; “ond cymer di ofal, Gruffydd!”
Mewn distawrwydd, torrwyd Idwal allan, a gorffennwyd y cyfarfod yn fyrr gan William Huws ei hun.
Yr oedd hi wedi tywyllu erbyn i’r bobl fynd allan o’r capel. Ar ol siarad â’r blaenoriaid a’i gael ei hun yn rhydd o’r diwedd, rhedodd Gruffydd ar ol Idwal, a daliodd ef ar gwrr y dref yn mynd tua chartref yn araf.
“Idwal,” eb efô, “fedri di fadde i mi, dywed?”
“Am be, Guto? Ti oedd yr unig un safodd drosta i.”
“Ie, ac mi ddylswn inne gael fy nhorri allan hefo thdi.”
“Pam, Guto?”
“Wel, mi wyddost!”
“Na wn i yn siwr. ’Dwyt ti ddim wedi meddwi na dim arall.”
“Nag ydw. Ond y bregeth!”
“O, paid a phoeni! Oni bae dy fod di mor gynhyrfus, mi wnaethet un lawer iawn gwell dy hun.”
“Na wnaethwn byth.”
“O gwnaethet.”
“Choelia i ddim, Idwal. Ac ’rydw i wedi eu twyllo nhw i gyd! Mi gyfaddefaf y cwbwl eto.”
“Paid a bod yn ffwl. Wnes i ddim ond taclu tipyn ar dy syniade di dy hun, ac yr oedd yn hawdd i mi wneud hynny am fy mod i yn medru cadw fy mhen yn oer. Taset tithe heb fod mor gynhyrfus mi faset yn medru gwneud gwell gwaith na fi ar fy ngore.”
“Wyt ti yn siwr, Idwal?”
“O ydw, yn siwr iawn! Dal di ati hi. Wnes i ddim. Paid a bod yn ffwl ’rwan. ’Rwyt ti ar ben y llwybr.”
“Ond i ble yr ei di?”
“Wn i ddim. Hwyrach y do i yn fy ol eto. Pwy a ŵyr?”
“Ie, tyrd yn dy ol, Idwal!”
“Mi gawn weld. Hwyrach. Nos dawch, Guto.”
“Nos dawch, Idwal.”
Aeth blynyddoedd heibio, ac aeth Gruffydd yn ei flaen. Ond nid ymhell. Siomodd bawb yn fuan. Ei bregeth gyntaf oedd ei un bregeth addawol. Cwbl ddilewyrch oedd y lleill i gyd. Ni wnaeth argraff ar neb, a methodd a gwneud dim ohoni yn ei arholiadau. Eto, rywfodd, cripiodd yn ei flaen hyd ei lwybr, a daeth yn bregethwr o ryw fath er gwaethaf pob anhawster. Ond ni byddai byth yn cael galwad, na llawer o gyhoeddiadau ychwaith. Methiant truenus ydoedd, ac ni fedrodd neb byth egluro ei un bregeth lwyddiannus.
Ac Idwal? Aeth o ddrwg i waeth.
Ar lan ei fedd, gweddiodd Gruffydd Jones nes oedd pawb yn wylo, ac aeth a’i ddau blentyn bach amddifad gydag ef oddi yno i’w gartref ei hun.
“Chware teg iddo!” meddai ’r bobl.
Vox populi, vox Dei!
VII. YSMALDOD Y SAIS MAWR.
Y MAE llawer blwyddyn er pan ddaeth y Sais mawr i’r ardal i fyw. Pan ddaeth, nid oedd ganddo syniad yn y byd am Gymru na dim Cymreig. Yn wir, nid oedd ganddo y syniad lleiaf fod dim ar wyneb y ddaear yn bosibl ond Sais a Saesneg. Os oedd ganddo ddamcaniaeth ar y pwnc o gwbl, gallem feddwl mai Sais oedd yr hollalluog yn ol ei syniad ef, ac mai Saeson oedd holl bobloedd y byd ar y dechreu, ond eu bod wedi dirywio a mynd yn bechaduriaid mawr a mwy yn ol y radd yr ymbellhasant oddiwrth fod yn Saeson. Felly, pan ddaeth i Gymru a chlywed iaith ddieithr iddo a gweled arferion estron, deallodd ar unwaith fod y Cymry yn bechaduriaid aruthr. Rhaid eu bod. Nid oedd dim arall yn bosibl. A hwy yn byw yn ymyl y Saeson, eto dewisent fod yn Gymry. Yr oeddynt, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhywfaint o Saesneg, ac eto yn dewis siarad rhyw gawdel o gydseiniaid, fel y tybiai ef, heb ystyr yn y byd iddynt, ac heb fod yn bosibl eu swnio heb i ddyn dorri ei gorn gwddw neu roi ei dafod o’i le.
Wrth gwrs, penderfynodd y Sais ar unwaith nad oedd ystyr yn y byd i’r geiriau a lefarai y Cymry wrth ei gilydd, ac nad oedd bosibl i neb arall, yn enwedig Sais, fyth ddysgu arfer y geiriau diystyr hynny. Nid oedd yno neb yn yr ardal, meddai, a allai siarad yn ddeallus ag o, am nad oeddynt yn medru ond rhyw ychydig Saesneg, digon i son am y tywydd a rhywbeth felly.
Daeth ar ddamwain i gyfarfod âg un neu ddau o Gymry yn medru Saesneg yn weddol rigl, megis y doctor a’r offeiriad, ond yr oedd yn well hyd yn oed gan y ddau hynny siarad Cymraeg, ac yr oedd hynny ynddo’i hun yn profi fod y pechod gwreiddiol yn gryf ynddynt hwythau hefyd, er gwaethaf y Saesneg a’r cwbl.
Ni buasai yntau yn gwneud rhyw lawer â’r ddau hynny mwy nag â’r bobl gyffredin oni bae fod yn rhaid iddo fynd at y doctor weithiau, a bod yn rhyw fath o raid arno yn ol ei syniadau crefyddol ymddwyn o leiaf ychydig yn fwy cwrtais tuagat wr eglwysig. Felly ryw dro, pan oedd wedi mynd at y doctor, aeth yn ymddiddan rhyngddynt ynghylch Cymru a Chymraeg.
“Beth ydyw’ch enw chwi hefyd?” meddai wrth y doctor.
“Cadwaladr Gruffydd,” ebr y doctor.
“Gwared pawb!” ebr y Sais, “sut yr ydych yn medru byw gyda’r fath enw?”
“O, wel, yn eitha,” meddai’r doctor. “Pa beth yw’ch enw chwithau, syr?”
“Cuthbert Cathcart Strongbridge,” ebr y Sais.
“Felly, yn wir,” meddai’r doctor, “enw hynod beraidd a hawdd i’w ddywedyd, yn siwr.”
“Ie,” ebr y Sais, “nid rhyw dwrr o gydseiniaid na fedr neb eu swnio.”
“Nage, ’ddyliwn,” ebr y doctor.
“Ond rhyw bobl heb ddim digrifwch nag ysmaldod yn eu natur ydych chwi, y Cymry,” meddai’r Sais.
“Ie, mae’n debyg,” ebr y doctor.
“Ie yn siwr,” ebr y Sais, “yn siarad rhyw iaith mor ddychrynllyd fel hyn o hyd. Fum i ’rioed mewn gwlad a’r bobl yn siarad cymaint o’u hiaith eu hun ynddi.”
“Aie?” meddai’r doctor. “Fuoch chi ’rioed yn Lloegr?”
“ ’Rioed yn Lloegr? Wel do, debyg iawn. Lle’r ’rydech chi yn meddwl mod i wedi bod, syr?”
“O, be wyddwn i,” ebr y doctor, “ ’roeddwn i yn meddwl—wel, wn i ddim be, wrth gwrs. Mae arna i ofn mod inne, fel fy nghydwladwyr, yn amddifad iawn o bob syniad am ddigrifwch ac ysmaldod.”
“Mae’n siwr,” meddai’r Sais, “os oeddech chi yn meddwl na fum i erioed yn Lloegr.”
“Ie, wel, ’does mo’r help,” ebr y doctor.
“Beth ydyw enw y pentref nesaf yma hefyd?” ebr y Sais.
“Pa un, y nesaf ar y dde?”
“Ie siwr.”
“O, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch,” meddai’r doctor, gan edrych cyn sobred â sant.
“Y nefoedd fawr!” ebr y Sais. “Y fath dryblith! Wn i ddim sut y mae neb yn medru dywedyd y fath beth, a byw! Dywedwch yr enw eto.”
Dywedodd y doctor ef yn bwyllog a difrif fel o’r blaen.
“Ac y mae hwnyna yn enw ar ryw bentref bychan fel yna?” meddai’r Sais mewn syndod.
“Ydyw,” ebr y doctor, yntau mewn syndod hefyd.
Ni wyddai y meddyg pa beth a ddygodd y fath beth i’w ben, ond ni chlywodd mo’r enw erioed ei hun o’r blaen. Daeth dros ei wefusau bron ohono ei hun. Synnai fod y fath gasgliad o eiriau wedi taro i’w feddwl o ei hun rywsut, ond yr oedd yn synnu mwy fod neb ar y ddaear wedi cymryd yr ysmaldod o ddifrif.
Yr oedd y Sais Mawr sut bynnag, cyn sobred â sant, ac yn murmur wrtho’i hun, “tremenjus! tremenjus!”
Toc, troes at y doctor.
“Buaswn yn hoffi medru dyweyd y gair yna!” meddai. “Buaswn felly yn torri pob record!”
“Yn ddiameu, i Sais!” ebr y doctor yn ddifrifol.
“A wnewch chwi fy nysgu i, ynte?”
“Wel, gwnaf, os medraf,” meddai’r doctor yn ddifrif o hyd.
“O’r goreu!”
Ac am ddyddiau lawer, bu’r Sais yn cerdded i dŷ’r doctor i ddysgu dywedyd yr enw newydd ar Lanfair Pwll Gwyngyll. Wedi hir ymdrech, llwyddodd i ddywedyd rhywbeth heb fod yn hollol anhebyg iddo, ac yna aeth am dro adref i Loegr rhag ei flaen i “dorri’r record.” Pan ddaeth yn ei ol, aeth i dŷ’r doctor i ddyweyd yr hanes, a’i hysbysu fod pobl yn Lloegr wedi synnu ato a’i fawr fedrusrwydd. Yr oedd yntau mewn gwirionedd wedi dotio ato ei hun, ac yn dywedyd yr enw yn ei ffordd ei hun bob cyfle a gai. Aeth y son am dano ar led, ac o’r diwedd, gwelodd rhyw Gymro o argraffydd tipyn craffach na’i gilydd fod yn bosibl gwneud arian o’r peth. Argraffodd yr enw ar lain hir o bapur gan ei alw yn gamp i Sais a’i werthu am geiniog, a chyn pen ychydig flynyddoedd gwnaeth ffortun ohono.
Yr oedd y Sais Mawr o hyd yn hawlio yn gryf mai efô oedd y cyntaf i dorri’r record, ac yn dal ati i lefaru’r gair lawer gwaith bob dydd rhag ofn ei anghofio neu golli ei fedr i’w lefaru. Prin yr oedd ganddo unrhyw amcan mewn bywyd ond hynny, a’i un ysmaldod ym mhob cwmpeini lle bynnag y byddai oedd yr enw aruthr hwnnw. Byddai Saeson yn chwerthin am ei ben. A’r Cymry hefyd. Ond nid am yr un rheswm.
Un diwrnod, galwyd yn sydyn ar y meddyg i dŷ y Sais Mawr. Yr oedd yr hen greadur wedi cael ergyd o’r parlys, ac yr oedd y diwedd yn bur agos ato. Buasai fyw yn dda ar hyd ei oes. Yr oedd yr ystumog genedlaethol ganddo. A gwnaeth fwy na chware teg â hi am ran helaeth o’i oes. Buasai farw yn llawer cynt oni bae iddo feddwl am dorri’r record fel y gwnaeth. Tynnodd hynny dipyn o’i sylw oddiar ei ystumog a’r modd i’w bodloni. Ond y mae lle i ofni na ddarfu ond symud y pwys hefyd. Yn lle bod ei ymborth yn bwys ar ei ystumog, aeth y record yn bwys ar ei ben. Ac i’r lle gwannaf y mae popeth yn mynd, wrth gwrs. Pa beth bynnag oedd yr achos, yr oedd y parlys wedi gafael yn y Sais Mawr, o’r diwedd.
Ond nid ar ei leferydd, ond ar ei freichiau a’i goesau. Nid ŵyr y meddyg yn iawn hyd heddyw pa un ai bwyd a diod, ai Llanfair Pwll Gwyngyll, &c., a’i lladdodd.
Yr oedd y meddyg un noswaith yn sefyll wrth erchwyn ei wely. Yr oedd yn amlwg fod y diwedd yn agos iawn. Yr oedd y Sais Mawr yn dawel ae yn ddistaw ers tro, ac yn anadlu’n wannach wannach o hyd. Daethai ’r offeiriad yno rhag ofn y buasai arno eisiau rhyw air o gysur ganddo fo cyn i’r diwedd ddyfod. Ac yr oedd yr offeiriad a’r meddyg yn sefyll un o bobtu i’r gwely, yn edrych weithiau ar y claf ac weithiau ar ei gilydd.
Yn sydyn, rhoes y claf ryw dro anesmwyth, a deallodd y meddyg fod arno eisiau rhywbeth. Plygodd ato, a gofynnodd iddo pa beth a fynnai, ond ni fedrai y Sais Mawr ddywedyd ei feddwl erbyn hyn. Yr oedd ei leferydd wedi mynd yn aneglur, ond tybiodd y meddyg ei fod yn dywedyd rhywbeth tebig i “go—go—god,” a meddyliodd y byddai yn well i’r offeiriad geisio deall y claf. Dywedodd wrth hwnnw am geisio.
Plygodd yr offeiriad i lawr a gofynnodd yn garedig i’r Sais Mawr pa beth a fynnai. Ac yna daeth llewyrch rhyfedd i lygad y Sais, a chlywodd y ddau ef yn sibrwd —
“Thlanvairpoolgwynhillgogherikhwirndroboolthlantissiliogogogock!”
A dyna air olaf y gwr mawr hwnnw.
VIII. DARN O FYWYD.
YR oedd y simnai fawr wedi ei gorffen, un o’r rhai mwyaf yn yr holl wlad. Yr oedd mor uchel fel yr oedd edrych arni o’r gwaelod yn ddigon i godi’r bendro ar ddyn.
Yr oedd yr holl ysgaffaldiau wedi eu tynnu i lawr, ac yr oedd un dyn ar ben y simnai, un o’r dynion hynny sy’n medru sefyll mewn lle uchel mor ddi daro âg ar lawr. Yr oedd yn gorffen gosod y wifren oedd yn rhedeg gyda’r simnai o’r brig i’r bôn i dynnu’r mellt ati a’u harwain i’r ddaear rhag difrod i’r simnai. Yr oedd ganddo raff oddi mewn i’r simnai i fynd i lawr pan fyddai yntau wedi gorffen ei waith.
Yr oedd y gweithwyr eraill wrthi yn clirio’r ysgaffaldiau ar y gwaelod, ac ambell un obonynt yn awr ac yn y man yn edrych i fyny tua brig y simnai gan gysgodi ei lygaid â’i law, i weled pa fodd yr oedd y dyn ar y brig yn dyfod ymlaen gyda’i waith.
O’r diwedd, gorffennodd hwnnw ei orchwyl. Cododd ar ei draed, safodd ar ymyl y simnai, tynnodd ei gap a gwaeddodd “Hwre!” Gwaeddodd y dynion ar lawr “Hwre!” yr un modd, gan chwifio eu capiau hwythau.
Yr oedd y dyn ar y brig yn un mentrus. Grwaeth na hynny, yr oedd yn un gorchestol. Safodd ar yr ymyl, ar ei untroed, a’i droed arall allan dros y dibyn a’i law ar led yn chwifio ei gap, a’r llaw arall yn pwyso ar ei ystlys, yn ddi-daro.
Troes amryw o’r dynion oedd ar lawr eu golygon draw rhag edrych arno. Yr oedd fel pe buasai yn herio ffawd yn y fath le, ac wrth wneud y fath branc. Gwelodd yntau ei fod yn rhoi braw iddynt. Chwarddodd, a dechreuodd ddawnsio ar yr ymyl, a throi o gwmpas rhimyn cul y simnai, mor chwim a di-daro ag aderyn.
“Cymer ofal, Wil!” llefodd un o’r dynion oedd ar lawr, “cymer ofal rhag ofn iti syrthio!”
Ond yr oedd Wil yn ei elfen, chwarddodd drachefn, a daliodd ati i brancio ar ben y simnai nes oedd ei gydweithwyr yn dechreu mynd yn sal eu calon wrth ei weled.
Yna, yn sydyn, daeth cyfnewidiad dros Wil. Yr oedd wedi plygu i lawr i edrych i mewn i’r simnai, ac yna wedi codi a sefyll, ac yr oedd bellach yn edrych yn syn ar y dyfnder tano.
Pa beth oedd wedi digwydd?
Clywyd llais Wil yn dyfod i lawr o’r uchter, —
“Be wna i ’rwan, hogia? Mae’r rhaff wedi rhedeg i lawr!”
Dychrynwyd hwy i gyd ar y cyntaf. Pa fodd y doi Wil i lawr? Nid oedd ond un ffordd am dani. Rhaid codi’r ysgaffaldiau i gyd yn eu holau! Gwaeddasant arno fod yn llonydd yno, a dechreuasant ddyfod a’r coed a’r rhaffau ar eu holau at fôn y simnai.
Y funud honno, dechreuodd pobl dyrru i’r lle o’r pentref ger llaw. Yr oedd yr hanes wedi ymledu yn gyflym, ac yr oedd y bobl mewn dychryn wrth edrych i fyny a gweled lle’r oedd y dyn, heb foddion yn y byd i ddyfod i lawr oddi yno. Gwyddent am orchestion y dyn, ond yr oeddynt yn awr yn dechreu meddwl ei fod wedi “ei gwneud hi,” ac wedi mynd i le rhy beryglus hyd yn oed iddo yntau fedru dyfod ohono yn ddiogel. Yr oeddynt yn sefyll yn dyrrau o gwmpas ac yn siarad â’i gilydd yn ei gylch, yn rhyw hanner distaw, fel y bydd pobl yn siarad mewn claddedigaeth neu o gwmpas gwely dyn ar farw.
Drwy eu canol, rhedodd dynes a hogyn bychan i’r lle. Yr oedd yn amlwg fod y ddynes mewn cryn gyffro, ond pan welodd hi Wil yn eistedd yn dawel ar ymyl y simnai a’i droed drosodd, tawelodd hithau hefyd.
“Wedi bod yn chware castie gwirion fel arfer y mae o?” meddai hi.
“Ie, y rhaff wedi rhedeg,” ebr un o’r dynion ger llaw.
“Be wnewch chwi ’rwan, ynte?” ebr hi.
“Codi’r ysgaiffaldie yn ol,” meddai’r dyn. “Beth arall wnawn i?”
Safodd y ddynes o’r neilltu, yn syn.
Gwraig Wil oedd hi. Yr oedd yr hogyn bach wedi bod yn chware o gwmpas drwy’r dydd. Teulu crwydr oeddynt, ac nid oedd y plentyn yn mynd i’r ysgol. Pan welodd y bychan pa beth oedd wedi dyfod i ran ei dad, rhedodd adref ar ei gyfer a dywedodd wrth ei fam pa beth oedd wedi digwydd. A daeth hithau yno rhag blaen, er mai prin y disgwyliai fedru gwneud dim ond edrych ar Wil yn ei berigl ymhen y simnai.
Yr oedd y dynion wrthi yn brysur yn paratoi at ail godi’r ysgaffaldiau. Pa beth arall oedd i’w wneud? Llafur mawr, a hynny o achos gwrhydri gwyllt y dyn ar y brig!
“Yr hen benbwl gynno fo!” ebr un o’r dynion.
“Ie,” meddai un arall, “mi fase’n hawdd ddigon iddo fo golli gafel i draed a dwad i lawr ar i ben.”
“Base, ag eitha gwaith a fo, mewn rhyw ffordd hefyd!”
“Ie. Edrych mor ddi-daro y mae’r cena yn y fan acw!”
Tra’r oedd yr ymddiddan yn mynd ymlaen, yr oedd y ddynes wedi eistedd ar ddarn o bren ger llaw.
Bu hi unwaith yn ddynes hardd, yr oedd yn amlwg. Yr oedd ganddi wallt melyngoch hir a chyrliog, ond ei fod wedi colli ei ddisgleirdeb oherwydd bod yn hir heb ei olchi a’i gribo. Yr oedd ganddi lygaid gleision prydferth, ond yn awr, yr oedd cleisiau duon oddi tanynt. A’r dyn oedd ar frig y simnai a roes y cleisiau iddi hefyd, yn ei ddiod y nos Sadwrn cynt. Nid oedd hi eto ond dydd Mercher, ac nid oedd y cleisiau wedi colli eu lliw dugoch. Yr oedd Wil yn eithaf dyn yn sobr. Ond gwae bawb rhagddo yn ei ddiod.
Yn sydyn, cyfododd y wraig ar ei thraed ac edrychodd i fyny ar ei gwr yn yr uchter mawr.
Dododd ei dwylaw un o bobtu i’w genau a gwaeddodd, —
“Wil! Wil!”
“Be sydd?” ebr yntau, gan blygu uwch ben y dyfnder.
“Pa sane sydd gen ti?”
“Y sane gwlan newydd rheiny.”
“O’r gore. ’Roeddwn i yn meddwl. Oes gen ti gyllell?”
“Oes?”
“Wel, tyn dy esgid.”
Tynnodd Wil ei esgid a thaflodd hi i lawr, nes oedd yn ymgladdu mewn swp o dywod wrth odre’r simnai.
“Yrwan, tyn dy hosan,” meddai’r wraig.
Tynnodd Wil ei hosan, ond yr oedd yn amlwg na wyddai pa beth oedd ym meddwl ei wraig.
“ ’Rwan,” ebr hithau, “cymer dy gyllell a datod flaen yr hosan a thyn yr ede allan dipyn.”
Gwnaeth Wil felly.
“Dyna ti,” ebr y wraig. “ ’Rwan, cymer dy gyllell a rhwyma hi wrth flaen yr ede, a gollwng hi i lawr yn ara deg. Cymer ofal, ’rwan, y penbwl!”
Gwnaeth Wil fel y gorchmynnwyd iddo, a dechreuodd y gyllell ddyfod i lawr yn araf.
Tra yr oedd hyn yn digwydd, galwodd y wraig ar yr hogyn, a dywedodd rywbeth wrtho. Gwelwyd yr hogyn yntau yn carlamu ymaith yn ddioed.
Cyn pen ychydig eiliadan, yr oedd y gyllell wedi cyrraedd y llawr, a’r gweddill o’r hosan oedd heb ddatod yn llaw Wil ar ben y simnai.
“Feder o byth dynnu’r rhaff i fyny gerfydd yr ede wlan yna!” meddai un o’r gweithwyr ar lawr.
“Na feder, siwr,” ebr y ddynes, “ond rhoswch chi funud ——”
Ar hynny carlamodd yr hogyn i’r lle yn ei ol, a phellen o linyn go gryf yn ei law.
“Dyna fo i’r dim!” ebr y wraig, gan gipio’r bellen o law yr hogyn.
Datododd y gyllell oddi wrth flaen yr edef, a rhwymodd flaen y llinyn wrthi.
Yna, cododd ei phen a gwaeddodd ar ei gŵr —
“ ’Rwan, Wil, benbwl, tyn y llinyn yma i fyny atat!”
Tynnodd Wil y llinyn i fyny yn chwyrn, ac wedi iddo gael ei ben i’w law, stopiodd.
“ ’Rwan ynte,” ebr y wraig, “ble mae y rhaff honno!”
Dygwyd y rhaff iddi rhag blaen, a chylymodd hithau hi wrth flaen y llinyn.
“Tyn hi i fyny ’rwan, ynte, y catffwl gen ti!” ebr hi.
A thynnodd Wil y rhaff i fyny eto i ben y simnai.
Pan gafodd afael ar y rhaff, neidiodd ar ei draed ar ben y simnai drachefn, dawnsiodd o gwmpas yr ymyl, safodd ar ei untroed fel o’r blaen, a’i gap yn un llaw a’r rhaff yn y llall, a gwaeddodd a’i holl egni —
“Hwre i’r hen wraig, myn cebyst hefyd!”
A gwaeddodd y dynion ar lawr dair hwre egniol i’r “hen wraig.”
Yr oedd hithau yn sefyll ar y darn pren a’i breichiau ymhleth, heb wên ar ei hwyneb. Cododd ei llais yn sydyn.
“Wil,” ebe hir, “tyrd i lawr, y cena gwirion gen ti. ’Rydw i wedi achub dy fywyd di chwe gwaith yrwan. Wna i ddim eto, fel mai byw fi!”
Cyn pen dau funud, diflannodd Wil y tu mewn i’r simnai, ac ymhen eiliad neu ddau wedyn, yr oedd ar lawr yn ymyl ei wraig.
“Myn cebyst!” ebe fo, “wyddost ti be, Catrin, mae’n aflwydd o gwilydd i mi fod wedi duo dy lygada di fel yna, ydi, tawn i’n marw y munud yma! Tyrd, wna i byth eto!”
A chan ruthro ati, taflodd ei freichiau am dani, a chusanodd ei hwyneb hanner glân yn ffyrnig ac yn hir.
Ac edrychodd y bobl ar y ddau mewn syndod.
IX. Y BARDD.
‟Y BARDD” y byddem i gyd yn ei alw yn y siop. Yr oedd rhywbeth yn debyg i fardd yn ei olwg, a dyna sut y cafodd yr enw. Yr oedd yn hurt ac yn syn, a phan ddywedech rywbeth wrtho, caech ateb hollol chwithig yn aml. Felly, galwasom ef yn “Fardd.”
’Doedd o i hun ddim wedi meddwl i fod yn fardd cyn hynny ychwaith. Ar y dechre, ’doedd o ddim yn leicio’r enw, ond prin y bu ddeuddydd nad oedd o wedi’n credu ni. Hynny ydi, yr oedd wedi llwyr benderfynu mai bardd oedd o.
Gyda’i fod o wedi credu i fod yn fardd, cafodd allan fod i daid yn arfer gwneud rhigymau yn amal iawn, a bod i dad unwaith wedi bod yn astudio’r cynghaneddion, ond i fod o wedi rhoi’r gore iddi yn rhy fuan o lawer, a hynny yn bennaf am nad oedd ganddo amser.
Mwy na hynny. O’r dydd y credodd i fod o yn Fardd, ni thorrodd “Y Bardd” byth mo’i wallt. Yr oedd o braidd yn hir o’r blaen, ond cyn pen y mis, yr oedd ganddo wallt a fuasai’n gredyd i Archdderwydd unrhyw ddydd. A ’doedd dim byd i’w gael ganddo wedyn ond son am wneud englynion, a dywedyd rhyw eiriau gwirion wrthych, a’r rheiny yn ateb i’w gilydd, rywsut. Meddai fo. Ni byddai neb arall yn clywed eu bod yn ateb i ddim.
Wel, o’r diwedd, cafodd Y Bardd ryw lyfr yr oedd o yn i alw yn “Ysgol Farddol,” a dyna lle’r oedd o a’i drwyn yn hwnnw o hyd. Bu agos iddo golli i le lawer gwaith o achos y llyfr hwnnw, canys byddai y meistr yn ei ddal o a’i drwyn ynddo yn lle bod wrth ei waith.
Bu wrthi gyda’r llyfr hwnnw am fisoedd, sut bynnag. Pan aem ni i gysgu, byddai y Bardd wrthi gyda’r llyfr, a phan ddeffroem yn y bore, dyna lle byddai yn darllen y llyfr o hyd. Nid wn i ddim yn iawn a fyddai yn cysgu ai peidio. ’Doedd dim i’w gael ganddo ond son am ryw reolau a phethau felly, nes oedd pawb ohonom wedi diflasu arno, ac yn gofidio yn arw ein bod wedi ei berswadio i gredu ei fod yn fardd. Ond ’doedd mo’r help bellach. Yr oedd o wedi credu. Ac ni buasai dim yn y byd yn ei argyhoeddi i’r gwrthwyneb. Dyna’r drwg i ddyn gredu ei fod yn fardd. Ni fynn byth newid ei feddwl wedyan. A fo yn gyffredin fydd yr unig un heb ei newid ar y pen hwnnw. Felly yr oedd Y Bardd.
O’r diwedd, meddyliodd un ohonom am ddull i geisio symud tipyn arno. A dyna oedd y dull hwnnw, gofyn iddo wneud englyn, yn lle son am danynt fyth a hefyd. Cafodd y peth argraff fawr arno a dywedodd yn y fan y gwnae o un y noswaith honno, os cai hwyl, neu os doi yr awen ato, fel y dywedodd i hun.
Bu ar i draed drwy’r nos, ond erbyn y bore, ’doedd yr englyn ddim yn barod. Ni ddoi yr awen ddim, eb efô. Felly, bu raid rhoi ail gynnyg arni. Do, a thrydydd a phedwerydd hefyd, a chwaneg na hynny. Bu ar i draed bob nos am wythnos gyfa, ac o’r diwedd, fore’r seithfed dydd, dyma fo atom, a’i lygaid yn goleuo gan lawenydd ac athrylith.
“Yr ydw i wedi gorffen yr englyn o’r diwedd!” eb efô.
“Aie?” eb un ohonom, “gad i ni i glywed o, ynte.”
“Na chewch,” ebr y Bardd yn fawreddog, “chewch chi mo’i glywed o, na’i weld o ychwaith nes bydd o mewn print.”
“Mewn print?” eb un arall, “pwy printiff o, dywed? Wyt ti am i wneud o yn llyfr?”
Chwarddodd y Philistiaid gennym, ond edrychodd Y Bardd yn ddifrifol iawn, a dywedodd yn urddasol fod ei englyn ef yn sicr o gael ei brintio.
“Ym mhle, dywed?” ebr un o’r criw.
“Yn Y Lleuad, dyna lle bydd o,” ebr y Bardd, “yng ngholofn farddonol Y Lleuad, sydd dan olygiaeth y Bardd Cadeiriol Pastynfardd.”
Edrychasom oll arno gyda chryn syndod erbyn hyn. Tybed mewn difrif y byddai englyn Y Bardd yn Y Lleuad, o dan olygiaeth Pastynfardd? Yr oeddym braidd yn ameu a oedd y fath beth yn bosibl, ac yn dechreu rhyw led dybio y gallai ein bod wedi dyfod o hyd i fardd wedi’r cwbl, er mai o fregedd yr oeddym ni wedi rhoi’r enw arno.
Gwelodd Y Bardd ein bod yn synnu, a dywedodd yn ddifrifol i fod wedi ysgrifennu’r englyn ar ddarn o bapur te a’i ddanfon i Pastynfardd, golygydd barddonol Y Lleuad.
“Mi fydd i mewn yr wythnos nesaf, yn siwr i chi,” meddai, “englyn i’r Ysgol Sul ydi o.”
Wel, bu disgwyl mawr ar hyd yr wythnos honno. Yr oedd Y Lleuad yn codi—hynny ydi, yn dyfod allan ar ddydd Mercher. Ac fel yr oedd y diwrnod yn nesu, yr oedd Y Bardd yn mynd yn fwy urddasol o hyd. Prin y gwrandawai arnom ni, yr hogiau ereill, yn siarad, ac ni ddeuai cymaint a gwên dros ei wyneb pan ddywedem rywbeth mwy neu lai digrif. Yn ystod yr wythnos honno, rhoes sebon i bobl yn lle siwgr, ac oel paraffin yn lle ymenyn. Aeth i’w wely heb dynnu am dano un noswaith, a dododd ei wasgod o tan ei grys un bore. Ni bu erioed y fath ddisgwyl.
O’r diwedd, daeth dydd Mercher.
Brecwest? Na, ni chyffyrddodd Y Bardd damed o fwyd y bore hwnnw, nac o ginio ychwaith.
’Roedd Y Lleuad yn dyfod allan yn y prynhawn, tua thri o’r gloch, ac fel yr oedd yn digwydd bod, yr oedd Y Bardd wrthi yn gwneud neges rhywun i fyny ar y pryd. Cododd ei olwg arnaf fi pan glywodd y cloc mawr yn taro tri, a deallais innau ei feddwl. Gan fy mod yn rhydd, allan a mi i nol copi o’r Lleuad, er ei fwyn ef a phawh arall ohonom. Nid allasai neb byth anufuddhau i’r apel fud oedd ar ei wyneb pan edrychodd arnaf fi wrth glywed y cloc yn taro tri. Yr oedd yr un fath a’r apel a welsoch yn llygad ambell gi ar dro.
Rhedais i siop Huw Chwe Cheiniog i nol y Lleuad, ac yn fy ol â mi a’r trysor yn fy llaw, heb feiddio ei agor ar y ffordd. Erbyn i mi gyrraedd, yr oedd y siop yn llawn, a’r Bardd wrthi yn tendio ar Marged Jones y Geg Fawr, un o’r merched mwyaf anodd i’w phlesio yn y greadigaeth yma.
Gwelodd Y Bardd fi yn llithro i mewn, a bwriodd olwg arnaf, golwg cymysg o awydd a phoen, o deimlad da ataf fi ac o gasineb marwol at Marged Jones y Geg Fawr. Yr oeddwn yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Nid oedd raid i ddyn fod ar frys am weled ei waith mewn print er mwyn dymuno gweled y Geg Fawr yn mynd ymaith ——, i’r lle fynnoch chi.
Y tro hwnnw, bu’r Geg Fawr wrthi yn waeth nag arfer. Yr oedd arni eisiau pob math o bethau, a’r Bardd druan yn rhedeg yn ol a blaen ac yn cymysgu pethau yn ddiobaith o hyd, ac yna yn rhoi ei ddwy law ar y cownter, yn plygu tipyn ar ei ben at un ochr, ac yn gofyn, “Rhywbeth arall, os gwelwch chi yn dda,” a’r wên fwyaf drychiolaethus ar ei wyneb llwyd.
Ond o’r diwedd, fel popeth arall yn y byd hwn, fe ddarfu chwedl y Geg Fawr, ac o dipyn i beth, cliriodd y siop. Bellach, daeth y cyfle. Yr oedd Y Bardd i weled ei waith mewn print, ac yr oeddym ninnau i gyd i gael clywed yr englyn i’r Ysgol Sul.
Tyrasom i ben draw’r siop at Y Bardd. Yr oeddym oll yn dal ein gwynt bron. Yr oedd wyneb Y Bardd yn welw a’i wefusau a’i ddwylaw yn crynu. Estynnais y papur iddo, ond yr oedd ei deimladau yn rhy gynhyrfus iddo fedru ei agor ei hun. O leiaf, yr oedd ei ddwylaw yn rhy grynedig.
“Darllen di o, Wil,” meddai wrthyf fi, gan estyn y papur i mi yn ol.
Cymerais innau’r papur ac agorais ef, a throais at y tu dalen lle’r oedd y farddoniaeth.
Yr oedd pawb yn dal eu gwynt.
Rhedais fy llygaid i lawr hyd y golofn. Nid oedd yno ddim barddoniaeth i’r Ysgol Sul.
“ ’Does yma ddim englyn i’r. Ysgol Sul,” meddwn, gan edrych ar Y Bardd.
Gwelwodd ei wyneb dipyn mwy nag o’r blaen.
“O, hwyrach eu bod nhw wedi ei gadw fo tan yr wythnos nesa,” ebr Y Bardd. “Edrych yn nhop y golofn, ydi’r golygydd ddim yn deyd rhywbeth am yr englyn?”
Edrychais innau, ac yn wir, gwelwn baragraff am yr englyn.
“Ydi, mae o’n deyd rhywbeth,” meddwn.
“Darllen o,” ebr Y Bardd, a’i wyneb yn troi’n goch fel y tân.
Darllenais innau’r paragraff, fel y canlyn, —