WeRead Powered by ReaderPub
Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig cover

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig

Chapter 5: III. SAM.
Open in WeRead

Explore more books like this:

About This Book

A collection of Welsh short stories presents vignettes of rural life—humorous, poignant, and observant—ranging from tales centered on an unusually intelligent dog and farmyard rivalries to accounts of a stranger transforming a village by buying cottages and gardens. The stories combine anecdote, local dialogue, and moral reflection to depict shifts in community life, domestic struggles, and the interplay between people, animals, and landscape. Individual episodes foreground everyday details, regional character, and changes wrought by newcomers, often blending affection, irony, and folklore-inflected incidents. The volume's structure gathers compact narratives that illuminate provincial customs and social change through vividly sketched scenes.

The Project Gutenberg eBook of Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig

This ebook is for the use of anyone anywhere in the United States and most other parts of the world at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this ebook or online at www.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you will have to check the laws of the country where you are located before using this eBook.

Title: Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig

Author: T. Gwynn Jones

Release date: September 27, 2018 [eBook #57981]

Language: Welsh

Credits: Produced by Mardi Desjardins & the online Distributed
Proofreaders Canada team at https://www.pgdpcanada.net

*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK BRETHYN CARTREF: YSTRAEON CYMREIG ***

LLANEFRON FEL YR OEDD.


“Daeth rhyw wr dieithr yno un diwrnod, ac aeth o gwmpas y lle. A chyn pen ychydig amser yr oedd wedi prynnu’r tai a’r gerddi am ychydig bunnau.”

 

BRETHYN CARTREF:

YSTRAEON CYMREIG.

 

 

 

 

 

GAN

THOMAS GWYNN JONES.

 

 

Caernarfon:

Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, (Cyf.),

Swyddfa “Cymru.”

MCMXIII.

 

 


RHAGAIR.

Feallai nad oes nemor gamp ar y torri a’r gwnïo, ond am y brethyn, y mae hwnnw cystal â dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto, canys nid myfi a’i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, pe bae’r grefft cystal â’r deunydd, fe dalai’r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo’i amgenach wrth law, ryw ran o’r pedwar amser.

T. G. J.

Aberystwyth,

Mehefin 21, 1913.


CYNHWYSIAD.

Tud.
I.Twrc7
II.Yr Hen Gartref13
III.Sam21
IV.Ynghwsg ai yn Effro?28
V.Mab y Môr35
VI.Un Bregeth Gruffydd Jones43
VII.Ysmaldod y Sais Mawr51
VIII.Darn o Fywyd58
IX.Y Bardd65
X.Ci Dafydd Tomos72
XI.Catrin Lei Bach Fawr81
XII.Cariad Dico Bach90
XIII.Araith Dafydd Morgan98
XIV.Elin eisian Fôt105
XV.Ffrae Lecsiwn Llangrymbo113

BRETHYN CARTREF:

YSTRAEON CYMREIG.

I. TWRC.

NAGE, nid dyn oedd o.

Yn wir, ni waeth i mi ddywedyd y gwir yn y’ch wyneb chwi, syr. Ni welais i neb erioed o’r blaen yn barod i gydnabod fod Twrc yn ddyn. Clywais rai yn eu galw yn gŵn. Ond nid teg fyddai hynny â’r Twrc yr wyf fi yn son am dano, canys ci oedd hwnnw. Yr wyf yn cofio fod yn gweithio gyda fy nhad, pan oeddwn i yn hogyn, hen ŵr a’i enw Ned ——. Nid wyf yn cofio Ned beth. Waeth prun. Galwn o yn Ned. Wel, ’roedd gan fy nhad gi a’i enw Pero. Ryw ddiwrnod, gwnaeth Pero rywbeth i blesio Ned, ac ebr Ned wrthyf finnau, —

“Wyddoch chi beth, y mae ambell ddyn yn gi drwg ofnadwy, ac ambell gi yn ddyn da dros ben!”

Un o’r cŵn sy’n ddynion da dros ben oedd Twrc.

Ci fy mrawd oedd o. O leiaf, felly y buaswn i fy hun yn dywedyd, ond fel arall y dywedodd fy mrawd.

“Ai dy gi di ydi o?” meddwn, pan welais Twrc gyntaf.

“Nage,” ebr fy mrawd, “ei ddyn o ydw i.”

Chwerddais.

“Wyt ti yn ame?” ebr fy mrawd.

“Nag ydw i, os wyt ti ’n dweyd felly.”

“Well iti baid, hefyd. Tase fo’n gwybod dy fod ti ’n f’ame i, mi fase ’n ddrwg arnat. Mae o fel Cristion—hynny ydi, yn llawer iawn gwell. ’Does yma ddim un ohonyn nhw yn y plwy yma cyn onested â fo. Fore ddoe, ’roedd o newydd ddwad allan o’i gut, ac heb fwyd er bore echdoe, mi wyddwn fy hun. ’Roeddwn i wedi gosod magal yng ngwaelod y cae yma. Aeth gwnhingen iddo tua ’r funud y gollyngais inne Dwrc yn rhydd fore ddoe. Wyddwn i mo hynny ar y pryd, wrth gwrs, ond clywais ryw ysgrech. Heibio i mi â Thwrc fel ergyd. Y munud nesaf, dyna fo yn i ol, a gwnhingen yn i geg. Wedi torri ’r fagal? Ie. Ond welswn i na’r fagal na’r wnhingen yn dragywydd tase un o’r Cristnogion wedi mynd heibio.

“Ci gwirion ddywedais ti? Bum yn meddwl hynny fy hun. Ond dim perigl! Cefais o yn gi bach, a byddwn yn ei gadw mewn cut mochyn. Tyfodd yn glamp o gi yno, ond neidiodd o erioed dros y wal na’r drws oddi yno. Ryw ddiwrnod, symudais o i gut arall â gwal uwch o’r hanner. Dyma fo drosti rhag i flaen. Fuo fo byth yn gi bach wedyn.

“Dal pethau? Braidd. Daliodd ddeg o dyrchod daear yr wythnos ddwaetha. Choeli di ddim? Aros, ynte. Twrc? Twrc?—Twrch!”

Gyda bod fy mrawd wedi galw, dyma Dwrc yn moeli ei glustiau, yn rhoi ysgydwad i’w ben, a chwythad drwy ei ffroen—fel y gwelsoch ambell hen gnowr tybaco—yn codi ei gynffon, ac ymaith âg o tua ’r cae tatws yr ochr draw i’r buarth.

“Rhŵ-ŵ-ŵ-ŵ-necc!”

Daeth rhyw swn tebyg i hynyna o’r cae, a’r munud nesaf, dyna Dwrc i’r golwg a thwrch daear ganddo gerfydd ei gynffon!

“Dyna iti lythyren y gyfraith!” ebr fy mrawd.

“Beth?” meddwn innau.

“Welais ti gi o’r blaen yn rhywle a wyddai wahaniaeth rhwng y naill lythyren â’r llall?”

“Beth ydi dy feddwl di?”

“Wyt ti ddim yn gweld? Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc? Twrc?—Twrch! onid ê?”

“O, mi welaf!” meddwn.

“Pe tase fo cyhyd â thi yn gweled, lle base’i dwrch o?”

“Byd a’i gwyr!”

Troisom i edrych arno. Nid oedd Twrc yn y golwg. Yr oedd y twrch daear ar lawr a’i dorr i fyny, ac yn rhoi ’r ddau gic olaf am byth â’i draed ol. “Lle mae——.” Cyn i fy mrawd gael gorffen, yr oedd Twrc yn ein hymyl eilwaith, a thwrch daear arall gerfydd ei gynffon ganddo!

“Dyna ti!” ebr fy mrawd. “Clywodd fi ’n gofyn iti—‘Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc?—Twrc?—Twrch! onide?’ ”

Gyda’r gair, rhoes y ci ysgeg i’r ail dwrch, ac ymaith âg ef eto, ond galwodd fy mrawd arno.

“Dyna ddigon!” meddai, a gorweddodd Twrc ar lawr.

Buom yn ddistaw am ennyd, ac yna dechreuodd fy mrawd drachefn.

“Ddeydais i hanes o a’r mochyn wrthyt ti? Naddo? Wel, yr oedd gynnon ni ryw hen fochyn y llynedd, callach na’r cyffredin o foch. Un go dila oedd o ar ddechre ’i yrfa, y salaf o’r torllwyth, felly. Pan oedd y lleill yn barod i’w gwerthu, ’doedd fawr o lewyrch arno fo, ‘Chwerwyn,’ fel y byddem yn i alw. Felly, cadwyd o i’w besgi, os oedd pesgi arno. Bwytaodd beth cynddeiriog, ac o’r diwedd, pesgodd. ’Roedd rhyw elyniaeth naturiol rhyngddo â Thwrc ar hyd yr amser, am ryw reswm neu gilydd. Byddent yn ymladd weithie, ac wrth gwrs, ’doedd gan Chwerwyn fawr o siawns yn erbyn Twrc. Gwaedwyd i glustie lawer gwaith yn yr ysgarmes. Un tro, sut bynnag, digwyddodd lwc i’r hen fochyn. ’Roedd hi ’n ddiwrnod poeth arswydus yn yr haf. ’Roedd hi mor boeth ganol dydd fel y bu raid i mi fynd a throi ’r peiriant nithio er mwyn cael gwynt. ’Roedd hi lawn cyn waethed ar yr hen fochyn, a chan na chae o wynt, mae’n debyg, meddyliodd am gael dwr—ne laid, yn hytrach. Aeth i’r llyn i ymdreiglo, a bu yno ’n hir. Rhuthrodd Twrc arno, ond yn ei flinder, syrthiodd Chwerwyn ar ei gefn. Medrodd Twrc ymryddhau, ond cafodd Chwerwyn lonydd. Nid osiodd Twrc ymosod arno wedyn hyd nes sychodd y llaid. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, dyma Dwrc am Chwerwyn, a Chwerwyn am y llyn. Felly y buont drwy’r haf. Wel, daeth amser lladd Chwerwyn. ’Roedd y cigydd wedi dwad, a ’roedd Chwerwyn allan ar y buarth, bron yn ymyl i gut. ‘Hel o i mewn, Twrc!’ medde finne. Rhuthrodd Twrc ato, ond ni symudai Chwerwyn gam iddo. Pan ai Twrc at i ben o, ceisiai Chwerwyn i ysgythru. Pan ai Twrc at i gynffon, safai yntau ’n llonydd. Twlciodd Twrc o, i geisio i yrru yn i flaen. Ond yn ofer. Aeth o’i flaen gan ddangos i ddannedd a chilio, ond nid ai’r ben fochyn ar i ol o. O’r diwedd, daeth Twrc i ganol y buarth; safodd am funud a’i ben yn gam, a phenderfynodd sut i wneud. Rhedodd, cydiodd â’i ddannedd yng nghynffon Chwerwyn, a dechreuodd dynnu yn ol.

‘Wch!’ ebr Chwerwyn, a chythrodd i mewn i’r cut!

“Ie, dyna fo iti, ’does yma ddim gwell dyn na fo yn yr holl wlad yma!” ebr fy mrawd.

“Glywais ti ’r stori honno am yr hen Ffinn, arwr y Gwyddelod, a’i gi?” gofynnais.

“Naddo. Sut y mae hi?”

“Wel, dyma hi. ’Roedd Padrig Sant yn pregethu i Ffinn a’i wroniaid am y nefoedd, ac yn deyd y fath le gogoneddus a hyfryd oedd yno. Pagan oedd Ffinn, wyddost, ac yr oedd yn gwrando ’n astud. O’r diwedd, eb efô, —

‘Ga i fynd â fy nghi gyda fi i’r nefoedd yma?’

‘Na,’ ebr Padrig, ‘fydd yno ddim cŵn yn y nefoedd.’

‘H’m!’ ebr Ffinn, ‘ ’does arna i ddim eisio mynd yno ynte!’ ”

“Go lew fo, go lew fo! Ie, ’d elwy fyth o’r fan yma!” ebr fy mrawd, gan blygu i lawr ac anwesu Twrc, rhag i mi weld y deigryn oedd yn ei lygad.

II. YR HEN GARTREF.

‟DIOLCH am gael dwad o’r diwedd!” ebr dyn canol oed wrth ddisgyn o’r tren yn stesion Llanefron, tua deg o’r gloch un noson ym mis Awst.

Yr oedd Llanefron wedi altro yn arw yn ystod ugain mlynedd. Prin yr oedd yno ddim yr un fath yn union. Pentref bychan ydoedd gynt, a rhyw ddeucant o dai ynddo ar y goreu, y rhan fwyaf ohonynt yn fychain iawn, ac yn sal dros ben. Yr oedd yno ryw ddwy siop yn gwerthu bwyd a dillad, dwy dafarn, un capel ac un eglwys. Rhyw drichant o bobl oedd yn byw yno, y rhan fwyaf o’r dynion yn labro ar y ffermydd o gwmpas, a rhyw ddeg ar hugain neu ddeugain yn gweithio yn chwarel y Coed Bach, tua phum milltir oddi yno. Byddai rhyw ddwsin o’r bobl yn mynd i’r eglwys, rhyw ddeucant yn mynd i’r capel, a’r gweddill yn bwrw’r Sul heb fynd i unman.

Ond daeth tro ar fyd. Yr oedd y ffordd haearn yn rhedeg heibio’r lle, a gwelodd rhywrai fod yno gyfle i wneud arian. Yr oedd y môr yn agos, ac yr oedd yr ardal yn un iach. Daeth rhyw ŵr dieithr yno un diwrnod, ac aeth o gwmpas i weled y lle. Nid oedd fawr o gamp ar y pentref ei hun. Bychain a budron oedd y rhan fwyaf o’r tai, ac arogl lludw a dŵr golchi lloriau yn llenwi’r awyr o’u cwmpas bob amser. Ni thalodd yr estron ond ychydig sylw i’r pentref, ond yr oedd yr ardal o’i gwmpas yn ei blesio yn fawr. Yr oedd y pentref yng ngwaelod y pant, ac afon fechan yn rhedeg drwy ei ganol. Ar du’r dwyrain, yr oedd y tir yn codi yn raddol nes cyrraedd cryn uchter, ac ar y llethr ddymunol honno yr oedd cryn nifer o dai bychain a gardd go helaeth yn perthyn i bob un ohonynt. Yr oedd pobl yn byw yn weddol daclus yn y tai hynny, ond nid yn ddi-drafferth ychwaith. Yr unig rai sydd yn medru byw yn ddi-drafferth yn y wlad hon yw’r rhai sy’n gwneud dim. Gweithwyr oedd yn byw yn y tai y soniwyd am danynt, ond trwy eu bod yn byw yn gynnil ac yn syml ac yn gwneud y goreu o’r ardd a’r cut mochyn, yr oeddynt yn medru talu eu ffordd yn lled dda. Yn eu plith yr oedd amryw yn berchenogion eu tai eu hunain. At y rhai hynny yr aeth y gŵr dieithr, a chyn pen ychydig amser yr oedd wedi prynu’r tai a’r gerddi am ychydig bunnau, a’r hen drigolion yn gorfod troi i chwilio am gartrefi ereill.

Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion lle’r oedd y bythynod a’r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt. Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho’r llethr a’i llenwi â thrigolion. Yr oedd yno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf, pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ychydig iawn o’r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron â’r hen dai, ac nid oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr budr ymaith i’r môr, lle’r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr haf yn ymdrochi, a’r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn gwneud lles mawr iddynt.

Felly yr oedd pethau bellach, y noswaith y daeth y dyn canol oed o’r tren yn y stesion ac y diolchodd am gael dwad o’r diwedd.

Dyn tua phump a deugain oed ydoedd, yn dal a golygus, ond a’i wallt yn wyn fel y llin. Yr oedd golwg iach ar ei dalcen. Yr oedd gydag ef ddynes tua’r un oed ag yntau, ac wrthi hi y llefarodd y geiriau a ddyfynnwyd ar y dechreu. Yr oedd hithau yn dal a shapus, ond yr oedd rhychau ar ei thalcen, a’i gwallt, a fu unwaith yn felyngoch, bellach wedi troi yn felynwyn.

“Ie,” ebr hithau wrtho, “diolch am gael dwad o’r diwedd!”

Cerddodd y ddau allan o’r stesion mewn distawrwydd, ac aethant ymlaen tua’r hen bentref. Yr oedd y pellter tua milltir, a chynt nid oedd ond ffordd wledig, gul, yn arwain drwy ganol tir amaethyddol o’r stesion i’r pentref. Bellach, yr oedd yno ffordd lydan, a thai mawrion o bobtu iddi.

Safodd y dyn a’r ddynes toc, yng ngoleuni un o’r lampau trydan yno, ac edrychasant ar ei gilydd.

“Yden ni wedi colli’r ffordd, dywed, Elin?” meddai’r dyn.

“Wel, yden, ne ynte mae’r lle wedi altro yn ofnadwy,” ebr hithau.

“O, ie, wrth gwrs,” ebr yntau, “mae’n debyg mai dyna’r rheswm. Wedi bildio y maen’ nhw. Tyrd yn dy flaen ynte, ’nghariad i.”

Aeth y ddau ymlaen mewn distawrwydd am dipyn. Yr oedd y ffordd yn llydan o hyd a thai o bobtu yr un fath.

“Elin,” meddai’r dyn, “ ’ryden ni wedi i methu hi yn siwr i ti.”

“Methu be, Dafydd?”

“Methu yr hen ffordd. ’Roeddwn i yn disgwyl gweld yr hen wrychoedd a’r hen lidiarde a’r hen gamfa, lle bydden ni yn sefyll cymaint ers talwm.”

“Ie,” ebr y ddynes, ac yna tawodd.

“A dyma be sydd yma!” meddai’r dyn, gan daflu ei law yn ddirmygus at y tai ar y naill ochr a’r llall i’r ffordd.

“Ie,” ebr hithau, gan nesu ato a chydio yn ei fraich.

LLANEFRON FEL Y MAE.


“Ac yr ydych wedi dwad yr holl ffordd o’r America i weled yr hen gartre?”

“Does yma ddim lleti ni. Tyrd, Elin!” Ac ymaith a hwy.

Cydiodd yntau am ei chanol, plygodd ei ben a chusanodd hi. Yna cerddodd y ddau ymlaen yn ddistaw eilwaith.

“Ble’r awn ni ynte, Dafydd?” meddai hi yn y man.

“Wn i ddim,” ebr yntau, “waeth mo’r llawer ble. Ond i’r hen dafarn yr oedden ni wedi meddwl mynd, onte? Waeth i ni fynd yno.”

“Na waeth!” ebr hithau, gan bwyso yn drymach ar ei fraich o hyd.

Cerddasant ymlaen, a daethant i ddarn o’r ffordd oedd heb dai o bobtu. Ond yr oedd y ffordd yn y fan honno yn llydan, a gwal uchel o bobtu iddi, ac nid gwrychoedd.

“O,” meddai’r dyn, “melldith arnyn nhw a’u hen walie hagr!”

“Ie,” ebr y ddynes yn ddistaw.

Daethant o’r diwedd i’r hen bentref, ond nid oedd yntau yr un fath a chynt, mwy na’r hen ffordd.

“Mae nhw wedi bod yma hefyd,” meddai’r dyn. “Ple mae’r hen dafarn?”

“Wn i ddim ym mhle yr yden ni yn iawn,” ebr y ddynes. “Mi ddylase’r hen dafarn fod draw yn y fan acw, os nad ydw i yn methu.”

“Dylase,” ebr yntau, “gad i ni fynd i chwilio ynte.”

“Aeth y ddau hyd ystryd weddol lydan, a chroesasant yr afon, hyd bont fawr a’r trydan yn goleuo nes dangos y dwfr yn yr afon islaw yn llwyd-ddu a thipyn o ewyn budr hyd ei wyneb yma ac acw.

“Dim golwg am yr hen dafarn,” meddai’r dyn.

“Nag oes,” ebr y ddynes; “yn y fan acw y dylase hi fod, goelia i.”

“Ie, ’nghariad i, yn union yn y fan acw. ’Ryden ni yn ymyl y lle y buon ni—wyt ti yn cofio, Elin?”

“Ydw, machgen i.”

Daeth llencyn heibio gan chwibanu un o’r pethau y bydd y Saeson yn eu galw yn gerddi digrif. Pasiodd o fewn dwylath i’r dyn a’r ddynes.

“Hanner munud,” meddai’r dyn wrtho, “fedrwch chi ddeyd ym mhle mae’r hen dafarn—Y Dafarn Goch?”

“Pardon, syr,” ebr y llanc.

Ail ofynnodd y dyn ei gwestiwn.

“I speaks no Welsh,” meddai’r llencyn, braidd yn ysgornllyd.

“Nor English,” ebr y dyn, a chan afael ym mraich y ddynes, aeth yn ei flaen.

Cyfarfuasant ereill, a holodd y dyn, ond nid oedd yno neb a allai ei ateb yn Gymraeg, nag yn Saesneg ychwaith o ran hynny, na neb yn gwybod dim am y Dafarn Goch. Nid oedd neb yn cofio ei gweled yno. Fel yr oedd ar y pryd yr oeddynt hwy yn cofio’r lle.

“Be wnawn ni?” meddai’r dyn.

“Wn i ddim,” ebr y ddynes. “Waeth i ni heb fynd i chwilio am yr hen fwthyn, mae’n siwr.”

“Na waeth, mi waranta. Ond gad i ni fynd. Hwyrach fod y cnafon wedi gadel y wlad fel yr oedd hi.”

“Hwyrach!”

Aeth y ddau yn eu holau dros y bont, ac yna ymlaen tua’r llethr, ond ystrydoedd a thai oedd o’u cwmpas ym mhob man, a bron bawb a’u pasiai yn siarad rhyw fath o Saesneg—geiriau Saesneg a chystrawen ac acen Gymreig, peth i ferwino clustiau Cymro a Sais.

“Mi ddylen fod o gwmpas y lle,” meddai’r dyn; “ ’ryden ni yn cerdded ers ugien munud. Ond weli di, ’does yma ddim ond tai o gwmpas.”

“Nag oes. Rhaid eu bod nhw wedi tynnu’r lle i lawr, Dafydd!”

“Y lladron!” meddai’r dyn.

“Nos dawch!” ebr hen wr cloff, gwargam, wrth basio.

“Nos dawch!” ebr y dyn. “Os gwelwch chi yn dda, fedrwch chi ddeyd wrtha i lle me Tyddyn Huwcyn?”

“Wel,” meddai’r hen wr, “ ’rydech chi yn sefyll tua’r fan lle’r oedd o gynt—mae’r stryd yma yn mynd drwyddo fo, fel tase.”

“ ’Roeddwn i yn meddwl! Diolch i chi.”

“Ydech chi yn cofio’r lle, syr, fel yr oedd o?”

“O, ydw ugien mlynedd yn ol. Mae’r lladron wedi andwyo’r lle!”

“Wel, hwyrach yn wir. ’Roedd hi’n well arna i yn yr hen amser, sut bynnag. Ie, yr hen Dyddyn Huwcyn druan! Dyn byw, ’roeddwn i yn ffryndie hefo’r hen bobol, coffa da am danyn nhw. Oeddech chi yn eu nabod nhw, syr?”

“Oeddwn. Fy nhaid a nain.”

“Yr holl allu! Nid Dafydd ydech chi?”

“Ie, siwr, a dyma Elin, fy ngwraig i, merch y Dafarn Goch ers talwm ——.”

“Trugaredd fawr, wel, mae’n dda gen i’ch gweld chi! Ydech chi ddim yn cofio’r hen dowr, Huw Dafis y Towr?”

Ysgydwasant ddwylaw, a buont yn siarad yn hir am yr hen amser, a dywedodd yr hen wr mai fô oedd bron yr unig un oedd yn fyw o’r hen drigolion.

“Ac yr ydech chi wedi dwad yr holl ffordd o’r America i weld yr hen gartre?” meddai’r hen wr. “Wel! ac i ble’r ydech chi am fynd?”

“Yn ein hole rhag blaen,” ebr Dafydd, “does yma ddim lle i ni! Tyrd, Elin!”

Ac ymaith a hwy.

III. SAM.

Ci oedd Sam. Dwywaith erioed y gwelais ef, ond bu’n gyfaill pur i mi. A chofiodd fi yn hwy na llawer “cyfaill” arall a fu i mi. Y mae ugain mlynedd, oes, a rhagor, er hynny. Rhaid fod Sam wedi marw. Nid wn i ym mha le y claddwyd ef. Ond dyma air er cof am dano.

Hogyn deg oed oeddwn, ac yn ddieithr yn yr ardal. Yr oedd fy nhad wedi symud yno o ardal arall, ddeugain milltir i ffwrdd. Ffermwr ydoedd fy nhad. Yr oedd dydd Calanmai wedi dyfod, ac yr oeddwn i a’m brawd yn y ffarm newydd ers rhai dyddiau, a fy nhad wedi mynd ymaith i’r hen gartref i nol fy mam a’r brawd ieuengaf, y pryd hwnnw yn fachgen bychan penfelyn teirblwydd oed, ac erbyn heddyw yn ei fedd yn huno’n dawel yn ymyl ein mam.

Yr oeddwn i wedi cael gorchymyn i fynd i’r dref ar ryw neges neu gilydd, ac wedi mynd. Yr oedd y tywydd yn braf, yn wir, yr oedd yr haul yn boeth iawn a’r ffyrdd yn llychlyd, er nad oedd hi ond y cyntaf o Fai. Yr adeg honno, yr oedd y gwanwyn a’r haf yn dyfod yn gynharach ac yn llawer brafiach nag ydynt erbyn hyn. O leiaf, dyna fel y mae’n ymddangos i mi. Euthum i’r dref ar y neges. Nid oeddwn erioed wedi gweled tref gymaint o’r blaen, nag erioed dref a hen gastell ynddi, ac yr oedd mynd i’r dref yn beth pwysig. Bum yno hwyrach yn hwy nag oedd raid, yn cerdded o gwmpas ac yn fflatio fy nhrwyn ar ffenestri siopau. Bum hefyd yn edrych yn hir ar yr hen gastell, ac yn dychmygu faint o bethau rhyfedd a ddigwyddodd yn yr hen le mawreddog hwnnw erioed.

Ond o’r diwedd, cychwynnais adref, a’r neges gennyf. Torth a thipyn o de a siwgr ydoedd, os da’r wyf yn cofio, at wneud tamed i fy nhad a’m mam a’r brawd bach pan ddeuent. Pan oeddwn ar gwrr y dref ar fy ffordd adref, deuthum i brofedigaeth.

Yr oedd yno haid o hogiau yn chware yn ymyl capel. Gwelsant fi, a deallasant fy mod yn hogyn dieithr. Wrth gwrs, yr oedd am hynny yn ddyled arnynt luchio cerrig ataf. Gwnaethant hynny yn egniol. Os gwnaethant bob dyledswydd o hynny hyd hyn cystal, rhaid eu bod yn ddynion go lew.

Prun bynnag am hynny, pan ddechreuodd y cerrig ddisgyn yn gawod o’m cwmpas, teimlais fod gennyf finnau ddyledswydd. Dechreuais daflu’r cerrig yn ol atynt hwythau.

Gan fod yno o leiaf hanner dwsin ohonynt hwy a dim ond un ohonof finnau, bu raid i mi encilio yn raddol o flaen yr ymosod. Gwneuthum hynny gan ymladd oreu gallwn. Bu’r chwech wrthi am chwarter awr o leiaf yn fy ngyrru led cae, ond er fy mod yn dal fy nhir yn gyndyn, cilio yr oeddwn. Hyd hynny, nid oeddwn wedi cael fy nharo, er fod hynny wedi digwydd i un neu ddau o’r ymosodwyr. Haws taro un o chwech nag un ar ei ben ei hun, hwyrach. Prun bynnag, cyn bo hir, cefais ergyd yn fy mraich a’m gwnaeth yn llai abl i’m hamddiffyn fy hun. Ond fe’m creulonodd, ac yr oeddwn dipyn yn gyndynnach nag o’r blaen, ac yn lluchio yn ddygnach. Yr oedd y frwydr yn ffyrnicach, ond yr oeddwn yn encilio’n arafach, er mai encilio o hyd yr oeddwn.

Yr oedd pethau yn edrych yn hagr arnaf, a’m braich yn brifo yn arw. Yr oeddwn yn dechreu meddwl mai rhedeg a fyddai ddoethaf. Pa beth allai un yn erbyn chwech? Ac yr oeddwn eisoes wedi gwneud mwy o ddifrod arnynt hwy nag a wnaethent hwy arnaf fi. Credwn rywfodd na byddwn yn rhyw lwfr iawn pe buaswn yn rhedeg.

Yr oeddwn ar droi a ffoi.

Yn sydyn, dyma gi heibio i mi. Rhoes ddau neu dri thro o’m cwmpas, cyfarthodd, ac yna, fel mellten, ymaith ag ef am yr hogiau ereill, gan gyfarth yn ffyrnig.

Gwell un ci da na chwe hogyn drwg.

Cyn pen eiliad, yr oedd yr hanner dwsin wedi troi a ffoi. Rhedasant yn gynt na chyffredin, a’r ci ar eu holau yn cyfarth ei hochr hi.

Yr oeddynt yn diflannu o’r golwg mewn tro yn y ffordd ym mhen dim amser. Yr wyf yn gweled eu sodlau y munud yma. Ie, dyna hwy wedi mynd, a’r ci ar eu holau.

Prin y cawswn amser i feddwl. Digwyddodd y cwbl mor sydyn. Wedi myned yr hogiau a’r ci o’r golwg, cerddais innau tuag adref, gan feddwl ynof fy hun ei fod yn beth rhyfedd iawn i gi dieithr felly gadw chware teg mor brydlon i mi. Byddwn bob amser yn ffrynd i gwn (yr wyf felly eto), a thybiais mai rhyw gi ydoedd hwn wedi cymryd ataf yn sydyn heb unrhyw reswm arbennig dros hynny, ond mai fi oedd y gwannaf.

Yr oeddwn yn cerdded tuag adref gan feddwl am y peth.

Yn sydyn, dyma gi heibio i mi drachefn. Troes o’m cwmpas nid wn i ba sawl gwaith, gan gyfarth ac ysgwyd ei gynffon, neidio a’i draed blaen ar fy mynwes a llyfu fy nwylaw.

O wir ddiolch iddo am ei gymwynas â mi yn fy nghyfyngder, rhoddes innau anwes iddo, ac yna, daeth yn ei flaen i’m canlyn fel pe buasem yn hen gydnabod.

Y mae’n resyn na fedrai cwn siarad. Yr wyf yn berffaith sicr eu bod yn ceisio eu goreu, ac yn gwbl sicr hefyd y byddai ganddynt lawer amgenach ysgwrs nag aml i ddyn. Ond ni roddwyd iddynt allu siarad, hyd yma; ac felly nid oeddwn innau fymryn nes i wybod pam y gwnaeth y ci hwnnw gymwynas â mi.

Cerddasom ill dau yn ein blaenau, ac yntau bob yn ail a pheidio yn llyfu fy llaw ac yn sefyll o’m blaen gan ysgwyd ei gynffon, a golwg mor gall a deallus arno.

Deuthom at fuarth y ffarm. Troais i mewn. Daeth y ci i’m canlyn. Euthom ymlaen at y ty. Aeth yntau o’m blaen, a phan oeddwn i yn cyrraedd y drws, yr oedd yntau yn mynd i mewn.

“Hylo, Sam, ’y ngwas i, o ble doist ti?”

Clywais y geiriau hyn. Gwraig yr hen denant oedd yno. Yr oeddynt yn mudo y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi wrthi yn gwneud llymed o de ar fwrdd bychan yn y gegin i’w yfed cyn cychwyn, a’r drol ar y buarth yn disgwyl i’w chymryd hi a’r bwrdd a’r ychydig fân bethau oedd eto ar ol, ymaith i’r lle newydd.

A’r funud honno, cofiais innau fy mod wedi gweled Sam o’r blaen.

Hanner blwyddyn cyn hynny, yr oeddwn yn y ffarm gyda fy nhad, sef Galan Gaeaf, pan oedd rhan o’r tir yn dyfod gyntaf i feddiant y tenant newydd. Yr oedd fy nhad a minnau wedi dyfod yno ar dro, ac yr oeddwn i yn digwydd bod yn sefyll ar y buarth ym mrig yr hwyr, pan ddaeth gwas yr hen denant adref gyda’r wedd o’r ffarm yr oedd hwnnw yn symud iddi. Yr oedd y gwas a’r wedd wedi bod yn y lle hwnnw am fis, o leiaf. Yr oedd Sam gydag ef yno ar hyd yr amser, a phan gafodd ei hun unwaith yn rhagor yn ei hen gartref, teimlodd yn ddiau yn falch ac yn llawen.

Danghosodd ei falchter drwy roi rhyw gyfarthiad a dechreu rhedeg o gwmpas. Tybiodd yr ieir a’r hwyaid oedd ar y buarth mai rhedeg ar eu holau hwy ydoedd ei amcan, a dechreuasant esgyllio o gwmpas gan wichian yn arw. Yr oedd y gwas wrthi yn dadfachu’r wedd oddi wrth y drol ar y buarth. Tybiodd yntau, fel y cydnabu wrthyf wedyn, mai rhedeg ar ol yr ieir yr oedd Sam, a chymerodd y chwip a fflangellodd ef.

Rhaid fod y gwas hwnnw mewn tymer go ddrwg ar y pryd neu ynte ei fod yn un creulon wrth natur, canys chwipiodd y ci yn llawer gwaeth nag y dylasai, hyd yn oed a chaniatau ei fod wedi rhedeg yn fwriadol ar ol yr ieir a’r hwyaid.

Gwaeddodd Sam yn druenus, a chiliodd tuag ataf fi a’i gynffon yn ei afl ac un droed i fyny, a’r llanc ar ei ol a’r chwip yn ei law.

“Peidiwch, peidiwch,” meddwn innau, gan sefyll rhyngddynt, “wnaeth o ddim i’r ieir—rhyw chware yr oedd o, dyna’r cwbwl.”

“Chware yn wir, mi dysga i o!” ebr y gwas, gan fynd yn ei ol yn anfoddog.

Anwesais innau y ci, a daeth yntau gyda mi i’r ty. Bu yn gorwedd ar lawr wrth fy nhraed drwy’r dechreunos, ac yn cael tamed o’m swper. Weithiau, gwthiai ei drwyn i’m llaw, tynnwn innau fy llaw hyd ei ben, a llyfai yntau hi yn hir ac yn dyner. Buom felly yn ffryndiau mawr hyd nes euthum i gysgu y noswaith honno.

Erbyn i mi godi drannoeth, yr oedd Sam wedi myned ymaith drachefn i’r lle arall i ganlyn y meistr a’r gwas, ac ni welais innau mohono mwy hyd nes daeth o hyd i mi yn fy nghyfyngder ac yr achubodd fi rhag llid yr hogiau drwg y diwrnod hwnnw, dros chwe mis ar ol yr amser y cedwais i chware teg iddo yntau.

Dyna hanes fy nghydnabyddiaeth i a Sam. Ni welais byth mohono ar ol y diwrnod hwnnw, ond nid anghofiaf byth am dano. Ci defaid ydoedd, ci cryf, braf, a blewyn melyn, sidanaidd, llaes arno, ci bonheddig, call, a chywir. Dywedais yr hanes wrth aml i un ar ol hynny. Gwelais rad yn gwenu, ac yna byddent yn awgrymu nad oeddynt yn rhyw barod iawn i’w gredu. Nid gwaeth gennyf fi, ond mi wn un peth. Ni wyddai y personau hynny ddim am gwn. Nag am ddynion ychwaith.

IV. YNGHWSG AI YN EFFRO?

YR oedd Morris Jones wedi priodi, wedi bod i ffwrdd am y mis mel, ac wedi dyfod adref i ddechreu byw.

Yr oedd ganddo dŷ bychan glanwaith a chyfleus yn Llanfodlon, ac yr oedd wedi ei ddodrefnu yn barod, fel nad oedd drafferth yn y byd yn aros ei wraig pan ddygodd o hi i’w ganlyn i’w chartref newydd.

Ond nid oedd Hannah yn fodlon. Yr oedd hi yn gweled y tŷ yn anhwylus, ac nid oedd y dodrefn yn hollol wrth ei bodd ychwaith. Nid hynny, sut bynnag, oedd yn ei phoeni fwyaf.

Yr oedd hi wedi cael y syniad i’w phen rywsut fod Morris yn edifarhau ei fod wedi priodi.

Yr unig reswm oedd ganddi dros dybio felly oedd ei fod ef ar ol eu priodas yn llawer iawn distawach a mwy digalon ei olwg nag ydoedd cynt.

Nid oedd hi wedi dywedyd dim wrtho am y peth. Yn wir, yr oedd arni ofn son am dano, rhag digwydd fod ei thybiau yn gywir. Yr oedd arni ofn ei bod hi ei hun wedi gwneud neu ddywedyd rhywbeth i’w ddigio, ond er meddwl llawer am ei gweithredoedd a’i geiriau, nid allai hi yn ei byw alw i gof ei bod wedi gwneud na dywedyd dim y dylasai efô fod yn ddig wrthi o’i blegid.

Ceisiodd ei pherswadio ei hun mai dychymig oedd y cwbl, ac nad oedd dim byd o’i le ar Morris ychwaith.

Hwn oedd y diwrnod cyntaf iddynt ill dau yn eu cartref newydd. Daethant adref ar hyd y nos o Lundain, ac felly cyrhaeddasant i Lanfodlon tua deg o’r gloch y bore. Aeth Morris at ei waith i’r offis lle’r oedd yn glerc, a daeth adref i’w ginio, y cinio cyntaf iddo yn ei dŷ newydd, a’r cyntaf i Hannah ei ddarparu iddo.

Hwyrach mai y cinio oedd heb fod wrth ei fodd. Daeth hynny i feddwl Hannah, ond erbyn ystyried, nid dyna oedd achos distawrwydd a digalondid Morris. Yr oedd o yn ddistaw a digalon cyn amser cinio.

Penderfynodd Hannah wneud ei goreu, pa beth bynnag oedd yr achos. Meddyliodd am wneud y lle mor siriol ag y gallai ar ei gyfer erbyn y deuai adref i gael te. Bu wrthi drwy’r prynhawn yn taclu pethau, ac erbyn amser te, yr oedd y tŷ yn edrych yn siriolach lawer, er nad oedd y dodrefn yn hollol wrth fodd Hannah.

Daeth Morris i nol ei de, ond yr oedd cyn ddistawed a chyn brudded ei olwg ag o’r blaen. Ceisiodd Hannah fod yn siriol a siaradus, a gwnaeth hynny i Morris edrych dipyn yn llonnach ei hun. Siaradodd dipyn â hi hefyd, ond nid cymaint âg arfer. Yr oedd rhywbeth yn ddiau yn pwyso ar ei feddwl o hyd. Aeth yn ei ol at ei waith, gan adael Hannah yn bur ddigalon.

Ond wedi meddwl a meddwl, penderfynodd Hannah wneud un ymdrech arall. Aeth ati i wneud y lle yn siriolach fyth, ac i ddisgwyl Morris adref i’w swper.

Yr oedd Morris yntau wrthi gyda’i waith yn yr offis, ond yn dra chythryblus ei feddwl o hyd am ryw reswm neu gilydd. Gofynnodd un o’i gyd-glercod iddo yn chwareus,—

“Morris, be sydd arnat ti? ’Rwyt ti yn edrych yn ddigalon iawn. Wyt ti yn edifaru priodi, dywed?”

Ceisiodd Morris chwerthin, ond nid atebodd air. Daeth amser cadw noswyl, ac aeth Morris allan o’r offis. Cerddodd yn ei flaen ar hyd yr ystryd, nid tua’i gartref, ond i’r cyfeiriad arall yn hollol.

Gwelodd y clerc y soniwyd am dano eisoes ef yn mynd, a meddyliodd am alw ar ei ol a gofyn o ran direidi a ydoedd wedi anghofio ei fod wedi priodi, ond meddyliodd nad oedd hynny ond peth ofer. Diau fod gan Morris ryw neges yn rhywle, ac yr oeddynt wedi herian digon arno eisoes yn ddiameu. Felly cafodd Morris lonydd y tro hwn, ac aeth yn ei flaen yn araf drwy’r dref, ac allan i’r wlad. Pe buasai y clerc arall yn ei weled yn mynd y ffordd honno, buasai yn synnu, hyd yn oed os na buasai yn gofyn iddo i ba le yr oedd am fyned.

Yr oedd hi yn noswaith hyfryd ym mis Medi. Yr oedd y meusydd ŷd yn wynion, a’r meusydd porfa yn wyrddion iawn. Yr oedd dail y coed eisoes yn dechreu troi eu lliwiau, a rhyw dristwch distaw yn gorffwys ar bopeth. Felly, o leiaf, y teimlai Morris. Cerddai yn ei flaen yn araf o hyd, gan edrych o gwmpas yn awr ac eilwaith ac yna edrych ar lawr am yn hir.

Daeth o’r diwedd at groesffordd, ac yno, heb betruso o gwbl, troes o’r ffordd fawr, a cherddodd yn ei flaen yn araf fel o’r blaen hyd ryw hen lôn las, a gwrych uchel o bobtu iddi.

Cerddodd yn ei flaen nes daeth at fwthyn bychan tô gwellt a gardd o’i flaen.

Yr oedd penwar bychan yn agor o’r ffordd i’r ardd, a llwybr yn arwain at ddrws y tŷ. Yr oedd yno ddigonedd o flodau tlysion o bob math yn yr ardd, a hocys tal a blodau o bob lliw arnynt yn eu plith.

Heb sylwi ar y blodau na dim arall, agorodd Morris y penwar, aeth drwodd, caeodd ar ei ol a cherddodd yn araf hyd y llwybr at y tŷ. Yr oedd y drws yn agored. Aeth Morris i mewn heb guro, ac aeth ac eisteddodd ar gadair wrth y tân, bron dan yr hen fantell fawr gysgodol.

Yr oedd y lle yn berffaith ddistaw. Nid oedd yno neb ond efô ei hun, na neb yn agos—o leiaf, nid oedd swn neb i’w glywed nag yn y tŷ nag yn yr ardd o gwmpas.

Dododd Morris bwys ei fraich ar y bwrdd a’i ben ar ei fraich, ac yn fuan iawn, yr oedd yn cysgu yn drwm.

Ac eto, nid oedd neb wedi dyfod i’r tŷ, na swn neb i’w glywed o gwmpas.

Gallesid meddwl nad oedd neb yn byw yno, er fod yn y lle ddodrefn derw da a glân, ac olion ddigon fod rhywun yn preswylio yn y bwthyn. Yr oedd hyd yn oed y tegell yn canu ar y tân a’r gath yn canu ar yr aelwyd, y naill a’r llall yn ddu ac yn canu yn y gwres.

Pa beth a ddaethai o’r trigolion? Yr oedd Morris yno ers awr bellach, ac yn cysgu yn braf o hyd, gan anadlu’n drwm ac yn rheolaidd. Yr oedd y lle wedi mynd yn dywyll erbyn hynny. Disgynnai tipyn o oleuni gwan o’r tân ar lawr, lle’r oedd y gath yn cysgu ac yn canu, ond yr oedd Morris yn y cysgod, fel nad allasai neb ei weled heb oleuo cannwyll neu rywbeth arall. Ac yr oedd yn cysgu yn drwm o hyd.

Yn sydyn, daeth rhywun drwy’r penwar ac i fyny’r llwybr at y drws. A daeth i mewn i’r tŷ heb guro ar y drws na dim arall, ỳn union fel y gwnaeth Morris.

Dynes ieuanc ydoedd, a barnu wrth ei ffurf a’i cherdded.

Daeth i mewn i ganol y tŷ, edrychodd o’i chwmpas, yn enwedig ar y tân, ac yna, tynnodd ei het oddi am ei phen, gan ryw fwmian canu yn isel. Dododd yr het o’r neilldu ar y dresel dderw oedd gyferbyn â’r drws. Yr oedd goleuni gwan y dydd wrth ddarfod yn disgyn ar y fan honno drwy’r drws agored nes ei wneud yn ddigon goleu iddi weled pa beth yr oedd yn ei wneud.

Yna, aeth y ddynes drwodd i’r ystafell gefn, ac yn fuan, daeth yn ei hol a channwyll oleuedig yn ei llaw.

Yn sydyn, yng ngoleuni’r gannwyll, gwelodd y dyn oedd yn eistedd ar y gadair a’i ben ar y bwrdd ac yn cysgu’n braf.

“Hylo,” ebr hi, “ydech chi wedi dwad yn ol yn barod, ac wedi cysgu hefyd?”

Wrth ddywedyd, aeth yn ei blaen tua’r drws heb sylwi rhagor ar y dyn, ac aeth drwy ddrws arall i’r siambr. Nid atebodd y dyn hi, a bu hithau am dipyn yn y siambr. Toc, sut bynnag, daeth yn ei hol i’r gegin, a’r gannwyll yn ei llaw.

“Cysgu’r ydech chi o hyd?” meddai hi, dipyn yn uwch nag o’r blaen.

Ar hynny, deffroes Morris, a chyfododd ei ben.

Yr oedd y ddau erbyn hyn wyneb yn wyneb a’i gilydd.

Edrychasant yn fud mewn syndod am rai eiliadau.

Y ferch a lefarodd gyntaf.

“Morris!” ebr hi, “be ydech chi yn ’i wneud yn y fan yma?”

“Elin!” ebr yntau, a’i lais yn gryg gan ryw deimlad, “be ydech chi yn ’i wneud yma?”

“Ond yma yr ydw i yn byw, debyg iawn——.”

“Yma yr oeddech chi yn byw ers talwm, cyn i ni—cyn i chi fynd i ffwrdd, a chyn i ni——.”

“Ie,” ebr hithau, “yma yr oeddwn i yn byw, ac yma yr ydw i yn byw eto er pan gladded fy mam——”

“Er pan gladded ych mam? Pryd y bu hynny?”

“Yr wythnos ar ol i chi briodi a mynd i ffwrdd. Chlywsoch chi ddim? Mae tair wythnos er hynny.”

“Ac ers pryd yr ydech chi yma?”

“Er hynny, wrth gwrs.”

“Ydech chi yn byw yma eich hun ynte?”

“Fy hun? Na, mae fy ngwr hefo fi, debyg iawn.”

“Eich gwr!”

“Ie siwr, ac mi fydd yma yn union deg, bellach!”

“Rhaid i mi fynd,” ebr Morris, gan godi ar ei draed yn frysiog. “Maddeuwch i mi. Wn i ddim sut y dois i yma. Rhaid mod i yn breuddwydio yn effro. Meddwl am yr hen amser, hwyrach. Ond rhaid i mi frysio adre. Mi fydd fy ngwraig yn methu dallt lle’r ydw i! Nos dawch,—Elin!”

“Nos dawch, Morris!”

Ac aeth Morris ymaith, fel drychiolaeth. Ni ddywedodd wrth ei wraig ym mha le y bu, ond ar ol y noswaith honno, nid oedd Morris mor ddistaw a digalon ychwaith.