WeRead Powered by ReaderPub
Folk-Lore of West and Mid-Wales cover

Folk-Lore of West and Mid-Wales

Chapter 90: CHWEDL AM YSPRYD.
Open in WeRead

About This Book

A compilation of folk beliefs, tales, and customs gathered across western and mid-Wales from elderly informants and local tradition. It presents translated Welsh narratives and organized material on fairies, mermaids and water‑horses, ghosts, witches and wizards, omens, animal superstitions, and popular spells, alongside accounts of wedding, birth, funeral, inheritance and sheep‑shearing customs, divination practices, augury, and prophecies. The emphasis is on literal fidelity to oral testimony and on preserving vanishing traditions rather than offering theoretical interpretation.

CHWEDL AM YSPRYD.

“Yn mhlwyf Llangeler, yn Sir Gaerfyrddin, Mai 21ain, 1719, y dechreuodd yspryd yr hwn a barhaodd dros hir amser, i daflu ceryg at rhai oedd yn y maes yno. Dydd Iau y Sulgwyn y dechreuwyd dyrnu, oddeutu wyth y boreu, ac y dechreuodd yntau daflu ceryg. Un o’r dyrnwyr yn gyntaf a welodd y gareg yn disgyn ar y llawr dyrnu. Yr ail gareg a ddisgynodd ar glin morwyn y ty, nes ydoedd clais arni; ac yn mhen ychydig llanwasant y llawr dyrnu a’r twyn oddiamgylch, yr hyn a wnaethant wedi hyny. Y dyrnwyr a roisant heibio eu gwaith, ac a aethant i edrych pwy oedd yn eu taflu hwynt, ond ni allasent weled neb.

“Dydd Gwener,—Y forwyn, pan yn yr ardd, a darawyd dair gwaith. Tarawyd amryw o’r plant, nes iddynt fyned allan o’r ty. Daeth llawer yn nghyd i weled y rhyfeddodau hyn, ac yr oedd pawb ag oedd yn dyfod yn cael gweled y ceryg yn disgyn.

Dydd Sadwrn,—Tarawyd y forwyn ac un o’r dyrnwyr. Yr oedd rhai ceryg yn chwyrnu, ac megys cleisiau ar amryw o honynt. Y ceryg ni welid nes byddent yn disgyn, a phan godid hwynt byddai eu hol ar y llawr, megys pe byddent yno flwyddyn o’r blaen. Daeth pawl mawr yn groes i’r ffenestr, heb neb gweledig yn dyfod ag ef. Rhai ni chredent nes danfon cenadon i weled, ac i gyrchu rhai ceryg adref i’w tai. Cyfodwyd cyff mawr o bren o’r croch i ben y ty, ac a ddisgynodd mewn man arall.

Dydd Sul,—Daeth llawer iawn yn nghyd i weled, ac amryw o honynt yn tyngu ac yn rhegu, ac yn siarad yn gableddus ac yn ysgafn. Disgynodd ceryg mawrion ar y lloft yn y ty, ond ni welwyd hwynt nes disgynent. Tarawyd bar haiarn allan o’r ffenestr, a phlygwyd un arall fel bach ysdarn; a’r ffenestr a dorwyd yn friwion man. Wedi’r nos daeth ceryg i’r gwelyau, a chloriau’r ffenestri a aethant i’r llofft; a gorfu ar dylwyth y ty gyfodi o’u gwelyau a myned i dy cymydog. Nid oedd ond y ceryg yn llawn yn y ty ac oddiamgylch iddo.

“Nos Fercher,—Llosgwyd yr ysgubor a’r llafur, a llawer o bethau eraill; yr oedd ef bob dydd yn taflu ceryg, ond nid bob awr. Yr oedd weithiau yn taflu mor gynted ag y gellid eu rhifo, a’r rhan fwyaf o honynt yn geryg afon, a rhai o honynt yn chwech pwys neu ragor o bwysau.

Daeth cymydogion yn nghyd un noswaith i weddio ar Dduw yn y ty, ac ni fu yno fawr o stwr y noson hono. Llawer o bethau yn rhagor a wnaeth efe, ond o’r diwedd efe a ddarfu ac a beidiodd.”

For the benefit of those who are unable to read Welsh, I give the following translation of the above account:—