Ar ddeulin yr addolynt
Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt;
A Bleiddan, drwy fwynlan fodd,
Ar Dduw a hir weddiodd;
Eiddunodd newydd anian,
A mawr les, i Gymru lân;
I beri hedd, nes byrhau
Ochain hon a’i chynhennau,—
A throi i’r wir athrawiaeth
Rai’n ol, ar gyfeiliorn aeth;
Ac yna, na cha’i Morganiaeth,—na gwenwyn
O geuneint Derwyddiaeth,
Fwrw’u dilyf ar dalaeth,
Yn hwy’n lle manna a llaeth.
Bedyddio wnaent—(byd dd’ai’n
wyn)
Wyr mewn oed,—rhai mân wedyn;
Yna’r sant ’nol gweini’r swydd
Ystyriol—mewn distawrwydd,
Yn ei wisgoedd wnai esgyn
I ochr llethrawg, frithawg fryn;
Ac eurmyg lleuai Garmon,
A’i dafod aur, eiriau’r Ion;
Gwrthbrofi, dynodi wnaeth
Amryw gynneiddf Morganiaeth;
Mor ffraeth ei araeth euraidd,—
Enaid a grym hyd y gwraidd;
Y llu ddaeth i gablu gwyr,
Hwy ddeuent yn weddiwyr:
Trwy’r gair llym y troir gerllaw
Annuwiolion i wylaw;
Pan felltenai Sinai serth
I gydwybod,—gwaed aberth
Wna’i fellten a fa’i wylltaf
Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf;
Agorai wefus gwrel,
A’i fant a ddyferai fêl;
Drwy lawn gainc, darluniai gur
Tad a Cheidwad pechadur,—
Yr iawn a ro’es, drwy loes lem,
Croeshoeliad Oen Caersalem;
Ban dug, trwy boenau dygyn,
Fodd i Dduw faddeu i ddyn;—
Ei araeth gref am wyrth gras
Wnai un oer bron yn eirias.
Dychryn y ffoaduriaid.
Ynghanol y dduwiol ddysg,
Clywid cynnwrf, twrf terfysg;
Llefau galar gyda’r gwynt,
Sitwyr yn neshau atynt!
Ar hyn, dyna ofngar haid
O derydd ffoaduriaid,—
Lu gwael o liw—ac ael wleb,
A gwannaidd oedd pob gwyneb:
“Daeth,” dyhenent d’wedent hwy,
“Awr hyf warth a rhyferthwy;
Mae Saison, anunion wyr,
A brathawg lu y Brithwyr,
A’u miloedd dros dir Maelawr,—
Gwelsom fin y fyddin fawr!
Temlau a thai llosgai’r llu—
Nen a magwyr sy’n mygu;
Ha! erlidiant ar ledol
Y rhai ddaeth yn awr i’r ddôl;
Clywch dôn anhirion eu nâd,
Ffown, ffown! am amddiffyniad.”
Y gair, fel loes gwefrawl, a
Darfodd pob rhan o’r dyrfa;
A chwerw nod dychryniadau
Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau;
Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd,
Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd;
Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd,
Un teilwng, a’u hataliodd—
Nad oedd y fyddin, erwin hynt,
Eto yn agos atynt:
Enynnodd aidd hen anian
Y milwr dewr, mal ar dân.
Milwr a Sant.
“Rhyfel!” dolefai Rhufon,
Ag araul fryd gwrol fron,
“Heddyw fy hen gleddyf hir,
I ddwyn aeth a ddyncethir;
Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch—
Gwnaf weld eu llu’n llyfu’r llwch;
Codwn, arfogwn fagad
O wrol wych wyr y wlad;
A’m milwyr a’u hymwelant,
Pob gwr fydd gonc’rwr ar gant;
Wyf Rufon, er f’oer ofid,
A ddeil arf drwy dduwiol lid;
Terwyniant ein tariannau
Ni ddeil bron y gâlon gau;
Heno o’u balch lu, ni bydd
Un i leidio’n haelwydydd;
Trwy ryfel dihefelydd,
Ac enw Duw,—cawn y dydd!
Y’mlaen! pur yw’n hantur hon!”
“Arafa, danbaid Rufon!”
Eb Garmon,—“Er pob gormes
Yn fur prawf, yn farrau pres,
Mae telid gadernid Iôn
Is awyr o gylch Seion;
Ei phen a’i hamddiffynydd
Yw’r Duw sy’n Greawdwr dydd;
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid
Ar Dduw a’i wir addewid;
A Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd o’r hadledd hwn;
“Y Duw a barai fod aberoedd
O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,—â dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a’i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—
A Pharaoh a’i anhoff yrroedd—wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu’n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o’r Brithwyr wanu’r Brython.”
Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a’u galaru;
Heb ddal ynni, boddlonynt
I weision Ior hwylio’r hynt.
Hwy roddent gyfarwyddyd
Am hwyl y gorchwyl i gyd.
Ag ysgafn droed i goed gwydd,
Encilient dan y celydd;
Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,
Anwylaidd, safai’n olaf;
A thawel gynorthwyai
Y gweinion efryddion rai.
Yn ol dod dan gysgod gwig
I gyd, ar lawr y goedwig,
Plygent lin, ac â min mel
Yn ddwys mewn gweddi isel:
Yn ysbaid hyn, os bai twrf,
Ochenaid lesg, a chynnwrf,—
Codai Garmon lon ei law,
Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.
Er gwersi, er gweddi’r gwyr,
Er teg osteg, ac ystyr,—
Gwael agwedd y golygon
Ddwedai fraw y ddiwad fron.
Ar hyn, dyna’n syn neshau
Athrist dwrf, a thrwst arfau;
Lwyrnych estronawl oernad,
Croch gri, a gwaeddi,—“I’r gâd”;—
Yr waedd oedd yn arwyddaw
Fod gâlon llymion gerllaw:
Yna y treigl swn eu traed,
Yn frau o fewn cyrrau’r coed,—
Lleng a’u gwich am ollwng gwaed
Gwyr o ryw hawddgara ’rioed.
Adeg alarus ydoedd,
Ac awr heb ei thebyg oedd;
Awr gerth, na ddileir o go’,
Ac awr calonnau’n curo;
Y goch ffriw aeth a’i lliw’n llwyd,
Dewr wedd ae’n orsedd arswyd.
Trwy’r ddôl y gelynol lu,
Groch anwar, wnai grechwenu,
Er dannod gwarth Prydeinwyr,—
(Rhy fuan gogan y gwyr.)
Gan ymnerth, ac un amnaid,
Yn llu yn awr, oll ’e naid
Y Brython,—yn llon eu llef,
Unllais, ac adlais cydlef,
Germain oedd, rho’i Garmon air,
Addasol ei ddewisair,—
Haleluia! Haleluia! lawen,
Ar y gair, ebrwydd y rhwygai’r wybren,
Creigiau,—a chwedi pob crug a choeden
Yn y dyspeidiad oedd yn d’aspeden;
A’r engyl yn yr angen—yn uno,—
A gawriai yno holl gôr y wiw-nen.
Chwai hyrddiwyd gâlon chwerw-ddull,
Dychrynnent, ffoent mewn ffull.
“Frithwyr ffel! beth yw’r helynt?
Dewch i gâd,—ymffrostiech gynt!
Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,
Hwi’n golofn,—dacw’n gelyn!
Ymrestrwch,—troediwch mewn trefn,
Och! enrhaith! beth yw’ch anrhefn?”
Unwaith ni wrendy’r annuw,
I’w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;—
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y’nglŷn.
Clywai Alun destun da,
Alawon Haleluia;
A chiliodd dros ei cheulan,—
Hi droes lif ar draws y lan;
A mynnent hwy, er maint hon,
Yn eu braw, rwyfaw’r afon:
I dawch Alun dychwelynt,—
Aeth hon fel y Gison gynt:
A mawr dwrdd—ym merw’r donn,
Cell agerdd cylla eigion:
Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,
Gael yno dorf gâlon Duw;
Llafuriodd y llifeiriaint,
Gyda si, i gadw y saint;
Sugnai’r llyn y gelyn gau,
Gwingodd dan grafanc Angau.
O foreu dwl, ar fyrr daeth
Gwawr deg o waredigaeth;
’Nawr gwelai’r Cymry’r gâlon,
Yn soddi is dyli’r donn;
Gan wau yn dyrrau dirif,
A swn eu llais yn y llif;
Llifeiriant a i holl farrau,
Tonnau certh, arnynt yn cau:—
Nodent nad oedd mewn adwy,
Glan, na maes, un gelyn mwy;
Prin coelient—safent yn syn—
Ddolef eu ciaidd elyn.
Dyferai eu clodforedd,
Drwy’r glynnau yn hymnau hedd;
Ac yn eu plith canai plant,
Swn melus atsain moliant.
Yna’r saint mewn eres hwyl
A anerchent,—iawn orchwyl—
Araf lef i’r dyrfa lân,
Dorrent ollyngdawd eirian.
“Ein Ner, mewn blinder, fu’n blaid
I’w wâr union wirioniaid;
Duw’n y blwng wrandawai’n bloedd,—
Boddai yna’r byddinoedd.
“Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,
Barai’r dolydd, y wybr a’r dalaeth,
I wyrthiol adsain germain gaeth,—Alun
Foddai y gelyn,—caem fuddugoliaeth.
“Duw Ner roes yr hoewder hwn,
I’n Duw eilchwaith diolchwn;
Llawforwyn fu’r llifeiriant,
Gyda bloedd i gadw ei blant.
“Iolwn na byddo’i wiwlwys—ogoned,
Ac enaint Paradwys,
Gilio oddiar Gwalia ddwys,
Na’u aroglau o’r Eglwys.
“Duw’r hedd fo’n eich harwedd chwi,
Drwy genedl lawn drygioni;
A chwedi oes heb loes lem,
Noswyliaw boch yn Salem.”
Hwy wahanent ar hynny,
Heb wybod ofn,—bawb i’w dŷ;
A’r lleddf ddau genadwr llon
Draw hefyd i dŷ Rhufon.
Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,
Dwyrëent mewn dir awydd,
I rodio i lawr at ffrwd lâs,
Glennydd lle bu galanas:
’Nawr aber, fel arferol,
Ydoedd hi ar hyd y ddol;
Ciliai’r dylif, clwy’r dylaith,
A’i dwrf oll, pan darfu’i waith;
Dai’r ardal yn dir irdeg,
Lle berwai tonn, ddai’n llwybr teg:
Gwelent hwy, wrth geulan tonn,
Gelanedd eu gelynion;
Yn dyrrau, ’n rhesau di ri,
O’r Belan hyd i’r Beili.
Gwelai Rhufon dirionwawr,
Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.
Ei ddull, ei wedd, a’i ddillad,
A’i lun, oedd fel un o’r wlad.
Craffai arnaw—draw fe drodd,
A lliw egwan llewygodd;
Oherwydd y tramgwydd trwm
A ddyrysodd ei reswm;
Drwy’i galon a’i dirgeloedd,
Safai bâr,—can’s ei fab oedd;
Ei deulu o’i ddeutu ddaeth,
Gan weled ei ddygn alaeth;
Rhoent uwch ei fab, drygfab,—dro
Eu ced olaf,—cyd-wylo;
Uchel oernych alarnad
Wrth ei ddwyn fry i dŷ i dad:
(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,
A dal dig, a gadael Duw,—
Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,
Wnai ei ddwyn i’w ddienydd!)
Hwy ddeallent, modd hollol,
A ddwedai, ’nawr, am ddod’n ol,
Ryw ddiwrnod, a dyrnod du
Dialedd ar ei deulu.
Iddo fe gwnaed angladd fawr,
Hir wylwyd ar ei elawr:
(Mae natur bur ei bwriad
A maith ddeddf mewn mam a thad;)
Er brad, er braenaru bron
Ei rieni, rai union,—
Eto wylodd y teulu,
Am y mab, fel cynfab cu;
Ni pheidient am anffodion
A thranc gwas ieuanc, a son;
Ac a pharch gwnaent er cofthau,
Hel peraidd, lwysaidd lysiau;
Hel mwysion freila maesydd,
Hel blodau ar gangau’r gwŷdd;
Hel mawr ar lili mirain,
Hel y rhos ar ol y rhain;
Hel llawryf digoll irwedd,
Hela’r bawm i hulio’r bedd:
A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,
Mwydent, llenwent y llannerch.
Garmon, er cof mwynlon mad,
Gweddus, o’r holl ddigwyddiad,
O fewn y tir roes faen teg,
A geiriau ar y garreg;—
“Daw hinon, er llid annuw,
I’r dyn doeth a gredo’n Duw;
A dylaeth, barn, a dolef,
I’r adyn fo’n erbyn Nef.”
ABERIW.
AT MR. E. PARRY.
Berriew, Chwef. 10, 1824.
ANWYL GYFAILL,
Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o’r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a’r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i’r Brif Ysgol,—ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a’u tymherau i’w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o’r bru, a’r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o’m hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae’r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd “dyma etifeddiaeth deg.” Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf—y llanerchau a fuont olygfeydd fy chwareuyddiaethau plentynaidd,—neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion lliosog a hawddgar,—ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma’r fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb ei wadu—fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fêl i’m genau ac yn iechyd i’m hesgyrn. Os gwelwch chwi neb o’r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y’nghoflyfr Gwalia,—dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.
Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu (ni’m cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o’m harddel.
IFOR CERI.
TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.
Berriew, March 1st, 1824.
REV. AND DEAR SIR,
In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and I cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting such a person to be my tutor. His kind solicitude for my domestic comforts, is as unremitting as his attention to my advancement in literary pursuits. His religion is so far removed from wild enthusiasm as it is from cold and affected formality. The chaste and pious manner in which he offers up the family devotions, with his Christian precepts and example, have made so deep an impression upon my mind, as will prove, I trust, to my spiritual advantage.
EMYN PASG.
Wele’r Ceidwad gaed yn Meth’lem
Acw’n marw dan ei loes,
A gwyryfon tyner Salem
’N gwlychu â dagrau droed ei groes:
Caua’r haul ei lygaid llachar
Rhag gweld clwyfo’r Sanct ei hun;
Ei ruddfanau sigla’r ddaear,
Cryna pob peth ond y dyn.
Deuwch saint, gollyngwch ddagrau
Uwch trychineb Calfari,
Dros yr hwn a roes ochneidiau
Dan y baich haeddasoch chwi;
Drosoch hidlodd ddafnau heilltion
Is arteithiau gŵg y nen,
Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,
Yna trengodd ar y pren.
Dyma dristwch heb ei debyg,
Gras a chariad pur y’nglŷn,
Duw’r gogoniant dan y dirmyg,
Ac yn marw i brynu dyn:
Ond wele achos llawenychu!
Testun cân dragwyddel fydd,—
Iesu’r Ceidwad sy’n dadebru
’N gynnar ar y trydydd dydd.
Gwelwch fel mae’n concro angau!
Syllwch ar ei ddwyfol wedd!
Grym ei fraich, a gair ei enau,
Sydd yn dryllio bolltau’r bedd:
Llengau’r nef, anrhaethol nifer,
A’i gwarchodant tua’i wlad—
Rhwygai cerddi yr ehangder,
Cerddi croeso i lys ei Dad.
Bellach, saint, eich dagrau sychwch,
T’rewch y gu dragwyddol gân,
C’weiriwch eich telynau, cenwch
Wyrthiau eich Gwaredwr glân:
Dwedwch iddo fathru’r gelyn,
’Speilio lluoedd certh di ri’,
T’wyso angau du mewn cadwyn,
A chysegru’r bedd i chwi.
Bloeddiwch, ‘Ryfedd Frenin Sion,
Doed y ddaear dan dy iau!
Ganwyd ti’n Waredydd dynion,
Wyt yn gadarn i iachau.’
Gofynnwch wedyn i’r anghenfil,
‘Ple mae’th golyn oer yn awr?
Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,
P’le mae’th fuddugoliaeth fawr?’
ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.
Eisteddfod y Trallwm, 1824.
Gwalia lwyd lonwyd eleni,—Awen
Flodeua fel lili;
Bron bun yw ei gardd hardd hi,—
Hil anwyl hael Lyweni.
“A PHA LE Y MAE.” Job xiv. 10.
“Ya le y mae! ow gwae! ai gwir?
Nad yn ei dir, o dan y dail
A eiliai gynt drwy helyg îr?—
Nid uwch ei fîr—gan d’wchu ei fail;—
Ni wela wych olygfa’r waen,
Ni swnia’i droed yn nawnsiau’r dref,
Gwych yw’r olygfa fel o’r blaen,
A dawnsia myrdd, ond ple mae ef?
Ei ddiddan Elia ddyddiau’n ol
Dywysai i’r ddol ar hwyrol hynt;
Wrth ochrau’r llyn o’r dyffryn dardd
A gwaelod gardd fe’i gwelwyd gynt;
Is gwê o fill ni wasga’r fun,
(Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef
Ag urdd o ros). Mae’r gerddi’r un,
Ac Elia’r un—P le gwelir
ef?
Fel nablau’r côr rhoe’i gerddor gân,
O’i deithi glân, nid aeth yn gloff;
Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,
Oddeutu ei nant sydd eto’n hoff
O’i dŷ—mur hwn nid yw mor hardd;
Adwyau geir ar hyd ei gae,
A gwywa’n rhês eginau’r ardd,
Ymhola mill—Y mh’le mae
ef?
Mae beddfan newydd yn y Llan,
Yr aelwyd ddengys gadair wag;
Ac wrth y bedd, a’r wedd yn wan
Doluriau serch rhyw ferch a fâg;
A’r ddol, lle bu yn gadu’r gwynt,
Ni wela’i lun, ni chlywa’i lef,
Bonllefau rhai a garai gynt,
Pa le maent hwy? Pa le mae ef?
GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.
Englynion difyfyr i’r Arglwyddes Clive a’i phlant.
Enynnwn i uniawn annerch—talaeth,
Am roi telaid eurferch
Montrose, mewn rhwymyn traserch
I Bowys hen—man gwîb serch.
Yr ysgeill yn ol hir wasgar—can-oes
I’r cenin sy’n gymar;
Tan wên cyd-dyfant yn wâr
Eu deuodd yn fri daear.
Mwy yn yr hîl, y mae’n rhaid—y rhennir
Holl rinwedd y ddwy-blaid;
Trwy eu bron, yn hylon, naid
Hen nwyfau eu hynafiaid.
Os daw rhyw haid, i rwystro hedd—ein tir,—
Nes troi ein tai’n garnedd,
Yn y ddiras gynddaredd,
Hil Clive fydd yn dal y cledd.
Ond i hedd a dyhuddiant,—i godi
Dysgeidiaeth, tueddant,
Awenyddion a noddant,
Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.
Trwy’u diwrnod tyrred arnynt—bob undeb
A bendith—llwydd iddynt;
Anwylaidd gynnal wnelynt
Dud a gwaed hen dadau gynt.
CAROLINE.
Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes,
merch y
Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan,
Trefaldwyn.
Ceisiais dybio’r son yn anwir,
Syrthio Caroline i lawr,
Ac nad allai seren eglur,
Fachlud wedi t’wnnu ond awr:
Ond y glul ar gefn yr awel,
Swn y fron yn hollti’n ddwy,
Adsain och sy’n gwaeddi’n uchel,
Ofer anghrediniaeth mwy.
Hir y cofir y diwrnod
A esgorodd ar y gwae,
Pan y rhedai i gyfarfod
Cyfeillesau i odrau’r cae;
Blaenai’r dyrfa tu a’r annedd,
Crechwen ar ei hwyneb pryd;
Ychydig dybiai mai i’w hangladd,
’Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.
Gyd âg eistedd, deuai angau
’N nesu ati gam a cham,
Ac ni throi oddiar ei siwrnai,
Er gwaedd mil, er gweddi mam;
Delwai’r tylwyth gan yr alaeth,
Gwnaent ei gwely fel yn lli’,
Hithau’n dawel dan yr artaith,
Pawb och’neidient ond y hi.
Pan oedd oed yn rhoddi coron
Aeddfed ar ei dull a’i dawn;
Myrrh ac olew yr Ysgolion,
Wedi’i pherarogli’n iawn;
Pob disgwyliad gwych yn agor,
Hithau’n ddedwydd yn ei rhan,
Cadd ei galw ar ei helor,—
Y swyn a dorrwyd yn y fan.
Treigliad ei golygon llachar,
Ei throediad ysgafn ar y ddol,
Corff ac enaid oll yn hawddgar,
Dynnai’r galar ar ei hol;
Ond mae tryliw rhos a lili,
Wedi gwelwi ar ei gwedd,
’N awr ni ddena serch cwmpeini
Mwy na phryfed mân y bedd.
Ffarwel iddi! boed i’r ywen
Gadw llysiau’i bedd yn llon,
A gorwedded y dywarchen
Werdd, yn ysgafn ar ei bron
Sycher dagrau ei rhieni,—
Ior y Nef i’w harwain hwy,
Nes y cwrddant ryw foreuddydd,
Na raid iddynt ’mado mwy.
CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF SEISNIG.
Ty llong gadd lan, lle’r oedd fy nghais,—
O’r tonnau treiddiais trwy;
Er dryllio’m hwyl gan lawer gwynt,
Na chlywir monynt mwy.
O gernau’r ’storm ces ddod yn rhydd,
Daeth angau’n llywydd llon,
A pharodd im’ mewn gobaith glân,
Angori’n ’r hafan hon.
BUGEILGERDD.
Ar dôn “Kate Kearney.”
DEWI.
A welaist, a ’dwaenaist ti Doli,
Sy’ a’i defaid ar ochr Eryri?
Ei llygad byw llon
Wnaeth friw ar fy mron,
Melusach na’r diliau yw Doli.
HYWEL.
O do, mi adwaenwn i Doli,—
Mae’i bwthyn wrth droed yr Eryri;
’D oes tafod na dawn
All adrodd yn iawn
Mor hawddgar a dengar yw Doli.
Un dyner, un dawel yw Doli,—
Mae’n harddach—mae’n lanach na’r lili;
’Does enw îs nen
A swnia’n ddisen
Mor ber gyda’r delyn a Doli.
DEWI
Ow! ow! nid yw’n dyner wrth Dewi,—
’Does meinir yn delio fel Doli,
Er ymbil â hi
A’m llygad yn lli,
Parhau yu gildynus mae Doli.
Ymdrechais wneyd popeth i’w boddio,
Mi gesglais ei geifr idd eu godro,
Dan obaith yn llwyr
Y cawn yn yr hwyr
Gusanu yn dalu gan Doli.
Mae’i mhynwes mor wynned a’r eira,—
Mae’i chalon mor oered mi wiria’;
Ar f’ elor ar fyrr
Fy nghariad a’n ngyrr—
O oered a deled yw Doli!
Tri pheth a dim mwy wy’n ddymuno,—
Pob bendith i Doli lle delo,—
Cael gweled ei gwedd
Nes myned i’m medd,—
A marw yn nwylo fy Noli.
YR HEN AMSER GYNT.
Bu’n hoff i mi wrth deithio ’mhell
Gael croesaw ar fy hynt;
Mil hoffach yw cael “henffych well”
Gan un fu’n gyfaill gynt.
Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,
Yr hen amser gynt;
Cawn wydriad bach cyn canu’n iach,
Er mwyn yr amser gynt.
Yn chwareu buom lawer tro,
A’n pennau yn y gwynt;
A phleser mawr yw cadw co
O’r hyfryd amser gynt.
Er digwyddiadau fwy na rhi’,—
Er gwario llawer punt;
Er llawer coll, ni chollais i
Mo’r cof o’r amser gynt.
Tra cura calon yn fy mron,
Drwy groes neu hylon hynt,
Rhed ffrydiau serch drwy’r fynwes hon
Wrth gofio’r amser gynt.
I —
Ty anwyl ferch, delw’m serch, clyw annerch clwy enaid,
Tro’ist yn ddu’r cariad cu, a chanu’n ochenaid;
A oedd un llaw drwy’r dref draw i nharaw’n anhirion?
A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy ŵg dagrau ddwg i’r golwg o’r galon,
Oni chaf hedd af i’m bedd i orwedd yn wirion.
P’le mae’r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?
Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?
P’le mae’r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?
Torrai’n syn swyn y llyn, y delyn, a’r dolydd:
Yn iach i’th wedd, mi wela ’medd, wan agwedd yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?
Pan weli sail y bedd, a’r dail ar adail mor hoewdeg,
Ac uwch y tir, ysgrif hir, o’r gwir ar y garreg,—
Mai d’achos di, greulon gri, fu’n gwelwi’r fau galon;
Ai dyma’r pryd, daw gynta’i gyd, iaith hyfryd o’th
ddwyfron?
Gorchwyl gwan rhoi llef drwy’r llan, troi’r fan yn afonydd,
Rhy hwyr serch felly, ferch, i’m llannerch bydd llonydd.
GADAEL RHIW.
Gofid dwys a wasga ’nghalon,
Adael Rhiw a’i glannau gleision,
Dolau hardd lle chwardda’r meillion,
A chysuron fyrdd:
Gadael mangre englyn,
Diliau mel, a’r delyn;
Gadael cân gynhenid lân,
Eu cael a’u gadael gwedyn;
Gadael man na sangodd achwyn;
Ond er gadael ceinciau’i gorllwyn,—
Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn,
Ar fy
nghof yn wyrdd.
Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad
A bro na welir cuwch ar lygad,
Na diffyg ar ei haul na’i lleuad,
I ddylu blodau fyrdd;
Troi i sych Rhydychen,
O Bowys, hen bau Awen,
Lletty hedd, a bwrdd y wledd,
Lle’r adsain bryn â chrechwen:
Gadael llon athrawon gwiwfwyn
Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.
Try yr ymadawiad ysol,
Nwyf i loesau anfelusol,
Ond pa’m beiaf rhagluninethol
Anorffennol ffyrdd
Dyma law ’madawiad,
A’r llall mi sychaf lygad;
Mae’r fen gerllaw, i’m cludo draw,—
Ofer—ofer siarad;
Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,—
Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.
RHYDYCHEN.
AT GYFAILL.
Athrofa’r Iesu, Rhydychen,
Rhagfyr 19, 1824.
Gobeithio eich bod yn myned y’mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i’ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,—os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,—os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin â rhai’ny,—os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,—os gyrrwch ambell i ddernyn i’r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,—os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,—ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough—meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes. Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?
Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. Ni wna ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw bleser teilwng o’r enw: yn hytrach gwna i’ch cwpan redeg trosodd—addurna chwi ger bron eich gwlad—a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn, hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im’ am unwaith ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i’m tynged. Ond, trwy y moddion rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, “yn dy waed bydd fyw.” Cefais yn barod lawer prawf o’i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i’w fyddin ac i gludo ei faner. Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi’m llaw at ddail y pren sydd yn iachau’r cenhedloedd, dymunwn amneidio â’r llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.
COLLEGE LIFE
TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.
Jesus College, Oxford,
December 16th, 1824.
Upon the whole, I find College life far less irksome than I had anticipated. The change, from the bosom of a family to a cloister, was certainly not very pleasant. Yet upon that account I have less to regret than many: my disposition or taste never quarrels with solitude. In one instance I was rather unfortunate.—Of the three undergraduates I knew upon my coming to College, one only was a ‘reading man.’ By means of the other two, as my acquaintances increased, my room became in a little time the daily resort of those most miserable and unprofitable of beings, technically called ‘loungers.’ This, of course, retarded my studies; and I was often compelled to sit up, after the drones had gone away, till four o’clock in the morning, to prepare my Lectures for the following day. Hints were thrown away, upon my visitors, in vain. At last I saw that either politeness or my character must be hazarded: the first was sacrificed to preserve the last. I made a candid avowal of the low state of my acquirements, and, that having so much to do, it would be madness in me to trifle my days; but if they allowed me to fix a particular hour each day, for receiving their calls, I should be most happy in seeing them. They good-humouredly assented; and from seven o’clock in the morning till eight was mentioned. I have my room to myself ever since; and this has not made them less friendly. I have seen that an extensive acquaintance is the bane of College life.
Of intimate friends, I have here only one; and he is a bosom friend, one whose intelligence, urbanity, abilities, and piety are alike conspicuous. He is a son of La Trobe, the celebrated African traveller. Unfortunately for me, he intends taking his final examination next Easter term, and will consequently leave Oxford. When he is gone, I will endeavour to replace him with another of the same stamp; and if I fail, I will turn an anchorite.
I have mixed with but very few parties; though, thanks to my fellow-collegians, I have been occasionally invited. I have adopted this course, partly from a wish of not incurring a debt, which it would be a crime in one of my station to discharge; but chiefly from a distaste of all nocturnal revels. The truth is, I never yet saw a drinking party, two hours old, that I could lay down even one of Elis y Cowper’s songs, for the purpose of enjoying it.
The devotional exercises, morning and evening, are profitable and interesting; and I have an opportunity every Sunday of hearing some of the most eloquent and impressive sermons I have ever heard. Excellent opportunities are also afforded for reading. I ‘sport my oak’ and sit down, nothing disturbs or annoys me; and had it not been for the rumbling of carts along Ship-lane, and cries of ‘muffins,’ I should consider myself in a hermitage. As for temptation, it is all a bugbear. I have seen none here that would not vanish before a virtuous resolution.
AT LENOR.
(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)
Athrofa’r Iesu, Rhydychen,
Chwefror 25ain, 1825.
Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;—rhai o herwydd eu hoerfel at yr achos Cymreig,—a llawer am fod rhannau eraill o’r wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau. Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur gwyrthiau.
Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o’i choleddu, ac eneidiau Cymru yn werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a’i caech.
Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,—y mae’r gŵr hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy. Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio’r heolydd i ddangos fy “nghenin,” a gadael i’m henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.
Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.—Credwch fi,—mor syml a diniwed â Meudwy, a mor ddedwydd â Thywysog. Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy ngenedigaeth, a dyna’r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i’r eithaf, a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.
Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i’ch Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd â’r Brifysgol y’mhen pum’ mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion “Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid,” a ddymunwn gyflwyno i’ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell.
A wirionwyd ar unwaith—yr adyn
Pan redai i estroniaith,
I wadu’i wlad, gyda lediaith,
Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?
A yw’n gywilydd gan ei galon—iaith serch
Iaith su ei fam radlon?
Ddyddiau hir, mor dda oedd hon
I ynganu angenion?
Ai gwr yw a gâr awen—heb arddel
Iaith beirddion disgywen?
Ai un am les hanes hen
Wrthoda chwaer iaith Eden?
Iaith oedd araeth i ddewrion,—wroniaid
Drwy enwog ymdrechion,
Tan eu heirf bloeddient yn hon
“Trowch i’r gad! tr’ewch ergydion!”
Ac onis dewis y dyn—y gyngan
Sydd rhwng cangau’r dyffryn?
A gwin i’w fant? ac ni fyn
Iaith hudoliaeth y delyn?
Onid yw iaith fyw mor fad—yn deilwng
O’n dilyth arddeliad?
Neb ond un gwrthun a’i gwad
Neu a ludd ei choleddiad.
Y mae doethaf gymdeithion—Cymroaidd,
Ac amryw o’r Saeson—
Y’Ngwalia mae angylion
Gyda’u heirf am gadw hon.
A cheir yn pleidio ei choron—euraidd
Iorwerth a’i gyfeillion,
A gwr mawr o gyrrau Môn
Yn Llywydd yn Nghaerlleon.
Mwy addas i was isel—a’i osgedd
Am esgyn yn uchel,
Garu ei iaith, a’r gwr wêl
Werth ei hurdd wrth ei harddel.
O’i gwrthod, gwawd ac erthwch,—a’i dilyn
Hyd elor drwy dristwch;
Ni cha lîn goruwch ei lwch,
O glod goreu gwladgarwch.
Boed gan Gymro ym mhob broydd—o’i brif-iaith
Bur fôst yn lle c’wilydd,
Fel na ddel, tra y del dydd,
Lediaith ar ein haelwydydd.
TELYN CYMRU.
Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol Rhuthyn, 1824.
O delyn oesol! dyro eto gainc,
Fel pan ewynai’r hirlas yn y wledd;
Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,
Pan wlychid byrddau Owain gan y medd:
O Delyn! deffro ’ngrym yr oesoedd hen,
Adleisia’r bryn dy geinciau gyda gwên.
Dy dant ni’s tyr—Rhufeinydd erchyll dôn
Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,
Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Môn,
A gwnai gromlechau’n garnedd yn ei nwyf,
Rhoi lwch y creiriau gyd â’r gwynt a’r lli’,
Delyn, rho gainc, nis gallai d’atal di.
Dy dant ni’s torrir. Chwyfiodd baner Sais
Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,
Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,
Pan guchiai’i gestyll ar y clogwyn serth,
Cynhyrfai’th dôn y dewrion i fwy bri,
Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi
Oes ddu oedd hon; pan gwympai’r glew dirus,
Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,
Pan lechai’r llwynog yn y drylliawg lys,
Oedd nerth i ti’r pryd hyn—dawn ym mhob tant,
Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,
O Delyn bêr! o’th dannau un ni’s tyr.
AT EI RIENI.
Athrofa’r Iesu, Rhydychen,
Chwefror, 11fed, 1826.
ANWYL RIENI,
Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o’r modd yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf yn cael fod “darllen llawer yn flinder i’r cnawd.” Nid ydyw caethiwo fy hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.
Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na’m hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais eto,—cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy ngwybodaeth o’r Lladin a’r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd â Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o’u mebyd, yn colli’r dydd. Y mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn. Y’mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun—at fy nghynalwyr—ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal—ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd a’i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon a’r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth â llawer o foneddigion,—rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i’r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a’m hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i’m rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i’r Duw a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu hanner dwsin o’m cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, “Rhoddaist fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu bŷd a’u gwin hwynt.”
Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a’i mam, ond mae hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo—mae’r galon yn llawn, os yw’r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi yn lle Valentine:
Henffych, ferch, i fyd o ofid,
Byd y dagrau, byd y groes:
Agoraist lygad ar yr adfyd,
Ti gei flinder os cei oes.
Mae gwlad well tu draw i’r afon,—
Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy’n Sïon,
Fo’n dy noddi, Marged bach.
Mae’m dychymyg fel yn gwrando
P’un a glywaf mo dy sain,—
Gan holi’r awel sy’n mynd beibio,
A yw’th wyneb fel dy nain?
A oes eurwallt ar dy goryn?
A oes rhosyn ar dy rudd?
A pha dybiau sydd yn dirwyn
Drwy’th freuddwydion nos a dydd?
Pe bawn yna, anwyl faban,
Mi’th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
Mi’th gyfrifwn fel fy merch:
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
Fyth i’m dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
Garu ei nithoedd megis tad.
Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,—hyd wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir pytatws, a phesgi’r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy nhad? A ydyw’n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau—a’r ganwyll yn llosgi i’r ganwyllbren—ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,
Eich dyledog fab,
J. BLACKWELL.
CYWYDD Y GWAHAWDD:
A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri, at Wilym Aled a’i Gywely.
Eto, Aled, atolwg
Gad si’r dre’, a mangre mŵg;
Gad Saeson, gwawd, a sisial
Arian, a thincian, a thâl;
Gad wbwb a gwau diball
Mammon i feibion y fall:
Rho i’th law,—pryd noswyliaw sydd,
Eleni un awr lonydd;
Gwamal i ti ogymaint
Hela myrdd, a holi maint
Ydyw gwerth yr indigo,
A ffwgws, heb ddiffygio,
Gan na cheir gennych hwyrach
Weled byth un Aled bach,
Na geneth, a drin geiniog
O dyrrau llawn dy aur llog.
O fewn llong tyrd tros gefn llwyd
Y Mersey, heb ddim arswyd,—
A’th gymar sydd werth gemau
Prysurwch, deuwch eich dau
I Geri, fan hawddgaraf,
Man gwâr, lle mae hwya’r hâf:
Mor loewlon y mae’r lili
A’r rhos yn eich aros chwi,
A phleth rydd yr adar fflwch,
Hyd awyr, pan y deuwch;
Cewch eich dau wenau uniawn
Ifor a Nest, fore a nawn:
(Yma diolch raid imi
“Amen dywed gyda mi,”
Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,
A’i wiw Nest, i Geri’n ol:)
At un Nest dda west, ddiwall,
Tyred a dy Nest arall;
Braint cyn bedd, cael medd a maeth
Maesaleg un mis helaeth;
Y mae sylwedd Maesaleg,
A’i dôr, yn y Geri deg.
Y mae un gwr mwy nag oll,
Awch digoll uwch ei degan:
Ifor bach sydd a’i ferw byth,
Drwy gofio yn dragyfyth;
“Mae’r gwr yn mhryd mebyd mau,
Enynnodd hen awenau
Y glyn, nes oedd bryn a bro,
A gwig las, yn gogleisio;
Ai pell—ai trapell y trig—y gwiwddyn
Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?”
Tyrd Aled, ira d’olwyn,
A thyrd i ddoldir a thwyn;
Ac awyr lem Ceri lân,
Perarogl copa’r Aran;
Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw—rhwng deilfur,
Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;
Rhodio i wrando’r ehedydd,
Dringo’r bryn ar derfyn dydd;
Hufen Nest a chân Ifor,
A dŵr mad, drwy rad yr Ior,—
Wnant it’ neidio a gwisgo gwên,
Deui’n foch-goch,—doi’n fachgen.
Gan Alun, gwan wehelyth,
O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,—
Gwely nid oes, nac aelwyd,
Na bir i’w gynnyg, na bwyd,—
Cei law a chalon lawen,
A mwy ni cheisi, Amen.
DISADVANTAGES AND AIMS.
TO R. GARNONS,
Jesus College, Oxford,
October 2nd, 1826.
I can hardly hope, in four short years, to surmount the disadvantages of my youth, and gain academical distinction. To him, who in his 20th year, learnt his Greek alphabet, a first class at College must be a hopless aim; while an University prize must be beyond the reach of one who merely began to speak English about his twentieth year. Aware of these circumstances, the friends whom I consult have advised me to collect (should necessary studies allow me leisure) as much as I can of such information as will be useful to me in the sacred office I shall be called upon to fill. What I shall lose in attainments, I will endeavour to make up in Christian conduct. That God, who is the sole Dispenser of all the blessings that has been showered upon my path, claims my first duty. My next ambition will be to fulfil my ministry with that zeal and decorum which characterize the spirit of our venerable Establishment; while gratitude will prompt me to dedicate my leisure hours to the literature of my native Principality.
That I may thus live, is my fervent prayer; and all I ask in addition, is a situation where I may watch over the wants of my poor, but worthy parents; and make as far as depends on human aid, their evening set in smiles.
I am, Sir, your most obedient servant,
J. BLACKWELL.
CALVINISM.
To the Committee of the Welsh
Church in Liverpool.
Neptune Hotel, Liverpool,
July 20th, 1827.
GENTLEMEN,
I was nurtured among Calvinists. To their Sunday School I am indebted for almost all the education my youthful years were blessed with. Towards some of them I was taught in infancy to look up with reverence and esteem; and the recollection of their Christian virtues proves to me that whatever tendency Calvinism may have to relax the ties of moral obligation, the argument cannot be drawn from the lives of many of its professors. With many Clergymen who take Calvinism for their creed, I have still the happiness to live in bonds of Christian friendship; but my respect for the men does not blind me to their opinions. I am no Calvinist, and ever since I have been capable of forming a judgment upon theological subjects, I have not been a Calvinist. The sincerity of my attachment to our national Church cannot, I trust, be doubted. I was made a member of her by Baptism, and ever since I have attained to years of discretion, my public devotions have been offered up within her pale. For many a dark year—long before the idea of my being elevated to the clerical function had received a shadow of existence, I had resolved to live and die an humble worshipper at her altar.
J. BLACKWELL.
AT EI FAM, PAN OEDD WEDDW.
Athrofa’r Iesu, Rhydychen,
Hyd. 19eg 1827.
FY ANWYL FAM,
Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn nag un tro o’r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a’ch carant. Digon gwir cawsom golled fawr,—collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto “na thristawn fel rhai heb obaith.” Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod wedi myned i ddedwyddwch—i wlad well na daear, “lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd.” Ac os dilynwn ei lwybrau, ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag ymadawiad o’i mewn. “Gwir ddymuniad fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw sydd erddoch.”
CWYN AR OL CYFAILL.
Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827.
(Efelychiad o “Bugail Cwmdyli,” gan I. G. G.)
Trwy ba bleserau byd
Yr wyt yn crwydro c’yd?
Mae pleser fel y lli’,
A’r moethau goreu i mi
Yn wermod hebot ti,
Sior anwylaf.
Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godre’r bryn,
A gwyrddion lannau’r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
Sior anwylaf.
Mae peraidd flodau d’ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A’th ddefaid hyd y ddôl,
A’u gwirion ŵyn o’u hol
Yn gofyn ddo’i di’n ol,
Sior anwylaf.
Mae’n Nghymru laeth a mêl,
Mae’n Nghymru fron ddi-gêl,
Mae’n Nghymru un yn brudd
O’th eisiau, nôs a dydd,—
A’i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.
MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.
Lle treigla’r Caveri {101}
yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a’r pîn
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a’r gwîn;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A’i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—
“Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.
“Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
I’th fynwes fendithion rhagorach nag un,
Yn ofer âg urdd bryd a phryd y’th anrhegwyd,
Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.
“Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;
Yn ofer y gwisgwyd pob dôl a phob dyffryn
A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
Yr angrhed a’i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.
“Dy goelgrefydd greulon wna d’ardd yn anialdir,
Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham:
Pa oergri fwrlymaidd o’r Ganges {102a}
a glywir?
Maban a foddwyd gan grefydd y fam:
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw’r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah {102b}
’n adseinio
Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.
“Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A’r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c}
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d}
“A’th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
A’th enaid yn dân o enyniad y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
Gyda’r un serch ac addfwynder ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai’r digred at y groes a’r gwirionedd,
Llonyddai’r gydwybod mewn nefol drugaredd;—
Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.
“Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
Cyfrenit elfennau danteithion y nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i’r trallodus—
Heddyw ffraethineb sy’ fud ar dy wefus—
Ehedaist o’r ddaear heb wasgfa ofidus,
I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a}
’Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti’r diwrnod
’Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;
Y grechwen sy’n codi o demlau’r eulunod,
Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut {103b}
erch barotoa’i olwynion—
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—
Duodd y nos—ac i deulu Duw Sïon
Diflannodd pob gobaith am weled y dydd.”
Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
Gwnai gam âg addewid gyfoethog yr IÔR:
A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?
Os pallodd yr aber, a sychodd y môr?
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o’r Gauts hyd gopâu Himalaya, {104a}
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.
A hwyrach mai d’wyrion a gasglant dy ddelwau
A fwrir i’r wâdd ar bob twmpath a bryn,
Ar feddrod ein Heber i’w rhoi yn lle blodau,—
Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn:
Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,
Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,
Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,
Os dinôdd y gerdd bydd y llygad yn llyn.
Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i’r beddrod,
Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;
Yn nghanol dy lesni y gwywaist i’r gwaelod,
A’th ddeilen yn îr gan y wawrddydd a’r
gwlith:
Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,
A’r fantell esgobawl am wisg wen yn Sïon,
Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,
A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.
Llwyni Academus, {104b}
cynorsaf dy lwyddiant,
Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a’r gwâr;
Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant
O alar ac alaeth i’r lluoedd a’th gâr:
Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i’th hoffi,
Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri
A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri
Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.
Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,
O Helicon yfaist ym more dy oes;
Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,
A swyn pob testynau daearol a ffoes:
Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,
A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;
Tithau’n ddi-fôst a dderbyniaist eu cedau,
I’w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.
Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,
Gan addaw pob mwyniant os unit âg ef,—
Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn
Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a’r nef:
Yn Hodnet {105}
yn hir saif dy enw ar galonnau
Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy’th bregethau—
Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau—
Y weddw a noddaist—y wan wneist yn gref.
Gadewaist a’th garant—yn ysbryd Cenadwr
Y nofiaist tros donnau trochionog y môr,
I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr
I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;
Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain—
Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain—
Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain
Na sengaist ti India heb gwmni dy IÔR.
O Gôr Trichinopoly, cadw di’n ddiogel
Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
Gofynnir adfeilion ei babell bob un;—
Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,
A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,
Yn arwyl y Bardd â pha odlau cymhwysach
Dilynir ei elor na’i odlau ei hun?
“Diangaist i’r bedd—ni alarwn am danad,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw’r bedd;
Agorwyd ei ddorau o’r blaen gan dy Geidwad,
A’i gariad gwna’r ddunos yn ddiwrnod o hedd.
Diangaist i’r bedd—ac ni welwn di mwyach
Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen:
Ond breichiau rhad râs a’th gofleidiant ti bellach,
Daeth gobaith i’r euog pan drengodd yr Oen.
“Diangaist i’r bedd—ac wrth adael marwoldeb
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.
Diangaist i’r bedd—byddai’n bechod galaru,
At Dduw y diangaist—y Duw a dy roes:
Efe a’th gymerodd—Efe wna’th adferu
Digolyn yw angau trwy angau y groes.”
* * * * *
Cyfieithiad yw’r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—
“Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee,
Though sadness and sorrow encompass the tomb.”
SEREN BETHLEHEM.
(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.)
Pan bo sêr anhraethol nifer
Yn britho tywyll lenni’r nen,
At un yn unig drwy’r eangder
Y tâl i’r euog godi ei ben;
Clywch! Hosanna’n felus ddwndwr
Red i Dduw o em i em,
Ond un sy’n datgan y Gwaredwr,
Honno yw Seren Bethlehem.
Unwaith hwyliais ar y cefnfor
A’r ’storm yn gerth, a’r nos yn ddu,
Minnau heb na llyw, nac angor,
Na gwawr, na gobaith o un tu,
Nerth a dyfais wedi gorffen,
Dim ond soddi yn fy nhrem,
Ar fy ing y cododd seren,
Seren nefol Bethlehem.
Bu’n llusern a thywysydd imi,
Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,
Ac o erchyll safn y weilgi
Dug fi i borthladd dwyfol hedd;—
Mae’n awr yn deg, a minnau’n canu,
F’achub o’r ystorom lem,
A chanaf pan bo’r byd yn ffaglu
Seren! Seren! Bethlehem!
AT MANOR DEIFI.
TO E. WHITLEY, ESQ., BRONCOED.
Cardigan, March 30th, 1835.
MY EVER DEAR SIR,
Old recollections—and recollections dearer for being old—make Broncoed and the name of Whitley much dearer to my memory and heart than other names and places. My own former humble home is now another’s,—I know it no more; and there is scarcely a house now in the parish into which I would venture to turn besides yours, your cousin’s, Mr. Clough’s and two or three more. Yet, I feel a tie between me and Mold and its inhabitants, which nothing but death can unloose. There lies the grave of my dear, though poor parents, and there burst the dawn of my brightest days. The same Providence which smiled upon the beginning of my happier years, continues kind still. I have indeed abundant reason to thank heaven for the many, many blessings which have been showered upon my path; nor do I forget the kind hands which were employed in showering them, and your own amongst the number.
When I first came to Manordeifi, there was but one service on the Sunday, and that almost entirely in Welsh. Seeing that five of the principal families in Pembrokeshire were under my pastoral care, and that neither themselves nor their dependants understood any Welsh, I established two services, one entirely English, the other exclusively in our beloved Welsh.
CATHL I’R EOS.
Pan guddio nos ein daear gu
O dan ei du adenydd,
Y clywir dy delori mwyn,
A chôr y llwyn yn llonydd;
Ac os bydd pigyn dan dy fron
Yn peri i’th galon guro,
Ni wnai, nes torro’r wawrddydd hael,
Ond canu a gadael iddo.
A thebyg it’ yw’r feinir wâr
Sydd gymar gwell na gemau,
Er cilio haul, a hulio bro
A miloedd o gymylau;
Pan dawo holl gysurwyr dydd,
Hi lyna yn ffyddlonaf;
Yn nyfnder nos o boen a thrais
Y dyry lais felusaf.
Er dichon fod ei chalon wan
Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna, i flino’i hanwyl rai,—
Ei gwên a guddia’i gofid:
Ni pheidia’i chân trwy ddunos faith,
Nes gweled gobaith goleu
Yn t’wynu, megys llygad aur,
Trwy bur amrantau’r boreu.
ABAD-DY TINTERN.
Pa sawl bron a oerodd yma?
Pa sawl llygad ga’dd ei gloi?
Pa sawl un sydd yn y gladdfa,
A’r cof o honynt wedi ffoi?
Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber
Swniai’r gloch ar hyd y glyn?
Pa sawl Ave, cred a phader,
Dd’wedwyd rhwng y muriau hyn?
Ar y gareg sydd gyferbyn,
A faluriwyd gan yr hin,
Tybiaf weld, o flaen ei eilun,
Ryw bererin ar ei lin;
Tybiaf fod y mwg o’r thuser
Eto’n codi’n golofn wen,
A bod swn yr organ seinber
Eto yn dadseinio’r nen.
Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell
Lle cartrefai’r anthem gynt;
Nid oes yma, o gor i gangell,
Un erddygan, ond y gwynt.—
Felly darffo pob coel-grefydd,
Crymed byd ger bron y Gwir;
Hedd a chariad, ar eu cynnydd,
Fo’n teyrnasu tros y tir.
CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.
Gorffwys donn, dylifa’n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa’m y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,—
Cysga dithau ar dy dywod.
Gorffwys for! mae ar dy lasdon
Un yn dwyn serchiadau ’nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga’n dawel ar dy dywod.
Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi?
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:
Tyrd a bad fy ngwr i’r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.
Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo’i gwr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dig dy donnau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O bydd dirion wrth fy mhriod,—
Cysga’n dawel ar dy dywod.
Byddar ydwyt i fy ymbil,
For didostur, ddofn dy grombil;
Trof at Un a all dy farchog
Pan bo’th donnau yn gynddeiriog;
Cymer Ef fy ngwr i’w gysgod,
A gwna di’n dawel ar dy dywod.
Y DDEILEN GRIN
Sech yw’r ddeilen ar y brigyn,
Buan iawn i’r llaid y disgyn;
Ond y meddwl call a ddarllen
Wers o addysg ar y ddeilen.
Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,
Gwawr y nef orftwysodd arni;
Gyda myrddiwn o gyfeillion,
Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.
Darfu’r urdd oedd arni gynnau,
Prin y deil dan wlith y borau,
Cryna rhag y chwa ireiddlon
Sydd yn angeu i’w chyfoedion.
Ni all haul er ymbelydru,
Na llawn lloer er ei hariannu,
Ac ni all yr awel dyner
Alw yn ol ei hen ireidd-der.
Blaguro ychydig oedd ei chyfran,
Rhoi un wên ar wyneb anian;
Llef o’r nef yn Hydref waedda—
Darfu’th waith,”—a hithau drenga.