WeRead Powered by ReaderPub
I'r Aifft Ac Yn Ol cover

I'r Aifft Ac Yn Ol

Chapter 15: PENOD IX.
Open in WeRead

Explore more books like this:

About This Book

A Welsh travel memoir recounts the author’s voyage to and travels through Egypt, combining shipboard anecdotes, diary entries, and on-the-spot sketches. It records daily life aboard ship, encounters with fellow travellers and officials, train and river journeys, and urban scenes in Alexandria and Cairo, including bazaars, mosques, and visits to ancient monuments such as pyramids and the Sphinx. Personal impressions and contemplative passages about landscape, religion, and local customs alternate with practical observations, while illustrative plates and brief descriptive chapters give the work a varied, reflective structure.

PENOD V.

*

RHAGOR AM Y BYWYD BOD DYDD.

M un cenid y gloch ginio.

Cawl go dene’ oedd y rhagarweiniad i’r eilbryd fynycha’. Nid yr un oedd ei ddeunydd bob dydd, ond yr un oedd ei drwch. Yna fe ddeue rhyw gymysgfa y gelwid curry arno. Pare hwn imi chw’thu, a chw’su, a chochi, a thynu f’anadl ataf, a cholli dagre, gan mor dwym’ ydoedd; ond yr oedd y ddau frawd ar fy nghyfer yn peri iddo ddiflanu heb grychu talcen. Arferwn yfed swm difrifol o ddw’r wrth drafod y crëadur yma, nes y des i wel’d nad oedd dim yn tycio, yna ymatelies. Cig eidion, neu borc wedi ei biclo a ddilyne, mor flasus â dim oedd yn y fwydgell. Caled oedd y blaena’, a meddal yr ola’, ond canwn eu clodydd yn uwch na dim arall, a bendithiwn y diwrnod pan y gwnaent eu hymddangosiad ar y bwrdd. Dirwynid y ginio i fyny weithie gan ŵr bonheddig o’r enw Roland Poland—yr hwn, yn ein munude mwya’ chwareus, a alwem yn “roly-poly;” a phrydie erill gan bwdin o’r un teulu a’r llall y sonies am dano. Bydde’r pryd nesa’n cyfranogi o rai o’r elfene dywededig, y’nghyd a chwpaned o dê oedd yn peri i mi ame’ ai nid coffi ydoedd. Hwn oedd y pryd cyfreithlon ola’; ond mi fydde aelode’r Cyfrin-gyngor yn cael sgwlc cyn y wyliedwrieth naw o’r nos, a mine yn eu cysgod. Yr wyf yn meddwl imi wneud y sylw yna o’r blaen, yr hyn a ddengys nad dibwys yw yn fy ngolwg i.

Tra ar y pen hwn, cystal imi sôn am y modd yr ymdarawem wrth y bwrdd ar dywydd garw.

Wedi ini fyn’d i fewn i’r Bau Mawr, ac i hwnw, ’nol ei arfer, ein siglo’n ddiseremoni, nes gwneud i’m cydbwysedd i a sefydlogrwydd gwahanol bethe dd’od yn faterion i alw sylw atynt—gwelwn y ’stiward un diwrnod, pan oedd yn tynu at amser cinio, yn sicrhau rhyw grëadur cam a chrwca wrth y bwrdd, ac y’myn’d ymaith. Nis gwyddwn beth i wneud o hono. Ar ol taith igam-ogam, es ato, ac ni bum yn hir cyn d’od i’r penderfyniad taw nid peth i’w fwyta ydoedd. Gwir na wyddwn am gyraeddiade’r cogydd y ffordd yna, ond teimlwn yn bur hyderus na fu’r creadur hwn erioed mewn na chrochan, na sospan, na phadell ffrïo. Gwneid ef i fyny o beder ’styllen, yn rhedeg gyda hyd y bwrdd, a dwy bob pen yn rhedeg gyda’i lêd. Yr oedd tri o wagleoedd rhwng y ’styllod, a’r canol oedd y lleta’. Wrth edrych arno’n ddyfal, tybiwn fod y wawr yn tori, a disgwyliwn y ’stiward yn ol a’r datguddiad gydag ef. Ac i wneud ’stori fer o ’stori hir, dyma ydoedd:

Math o garchar i gadw’r dysgle a’r platie rhag dïanc dros yr ymylon pan fydde’r llong y’myn’d wŷsg ei hochr i radde mwy nag a fydde’n ddymunol. Amddiffyn y llestri lleia’ rhag direidi’r llestr mwya’ oedd ei genhadeth, ac yr oedd yn amlwg na ellid gwneud hebddo. Yr oedd defnyddio cyllill a ffyrc dan amode fel hyn yn orchwyl peryg’; ac yr oedd yn rhaid i ddyn gadw’i lyged yn agored os am gadw’i geg yn iach. Yr enw arno oedd crwth. Nid oedd ynddo ddim yn debyg i grwth cyffredin, ond yr oedd y llestri pridd a phiwtar yn tynu tipyn o fiwsig allan o hono. Bu raid ini wrth wasaneth y “crwth” cy’d ag y buom yn y bau, a throion wed’yn; a ’does dim dadl nad oedd yn un o’r cre’duried mwya’ gwas’naethgar yn y llong.

Fy nghydymeth ffyddlona’ wrth fyn’d a dychwelyd oedd cath fechan ar ei phrifiant o’r enw Bismarc. Nid oedd yr enw’n ffitio’i rhyw, oblegid yr oedd y’nes perthynas i wraig Bismarc nag i Bismarc ei hun yn yr ystyr hono. Tebyg taw cath ystrai ydoedd, a ddaethe i fewn yn y Bari Doc pan oedd y llong yn llwytho. Talai am ei lle y’null arferol y math yma o bedrod, sef trwy hela llygod a’u dal. Mae morwyr yn hoff o gre’duried ar y bwrdd, a bydde lladd un o honynt trwy fwriad neu amryfusedd yn creu hylabalŵ ofnadwy. Yr oedd byd braf ar Bismarc, ac yr oedd ei gôt yn profi hyny. Gofale’r cadben am ei frecwast, y prif swyddog am ei ginio, a’r ail am ei dê. Nid wyf yn gwybod pa’m y dodwyd yr enw Bismarc arno, os nad oblegid ei hirbeneiddiwch. Os methwn a bwyta’r cwbl osodid ger fy mron, deue Bismarc heibio, a dealle’r sefyllfa’n union. Nid oedd terfyn ar ei rwbio a’i ganu nes y cynygid y gweddillion iddo; ond os dealle fod pob un y’meddwl myn’d trwy ei waith heb adel dim ar ol, fe ymneilldue’r gwalch nes y bydde’r cwbl drosodd. Yna fe ddychwele at ei blât ei hun.

Treulies lawer o f’amser i chware’ gyda’r gath, ac nid oes arnaf g’wilydd d’wedyd hyny. Mae’n amheus genyf a fu’r crëadur bach ar y môr o’r blaen, oblegid ’roedd symudiade dideddf y llestr yn peri dyryswch mawr iddo. Credwn weithie fod ganddo wybodeth reddfol fy mod i’n debyg iddo yn hyny o beth. Bid fyno, hefo mi y myne fod pan fydde’r gwynt yn uchel, a’r môr yn dringo wrth ei sodle. Yr oedd yn siwr o fod wedi cyfri’ ar fwy o gydymdeimlad gen i na neb arall. Pan gode’r llestr ar ei hochr, nes gwneud i mi genfigenu wrth y clêr am fedru cerdded a’u peue’ i lawr, safe Bismarc yn sydyn am eiliad, fel pe bai’n ceisio ymresymu’r pwnc—yna fe ruthre ar ei gyfer mor wyllt a diseremoni, nes yr ofnwn iddo daro’i fenydd yn erbyn y pared. Cyn ei fod wedi cael ei draed dano, mae’r llong yn rhoi tro i’r ochr arall, nes gyru Bismarc, druan, i’r cyfeiriad cyferbyniol, a’i edrychiad fel edrychiad dyn meddw’n ceisio bod yn sobr. Nid oes amheueth genyf nad oedd y gath y’ngafel selni’r môr lwyred y bu cath erioed—na dyn chwaith, pytae fater am hyny. Ar ol i’w fewnolion gael eu troi a’u trosi, eu chwilio a’u chwalu, eu corddi a’u cordeddu tua dau ddwsin o weithie yn y modd yna, fe orwedde i lawr yn y man lle bydde fel un wedi rhoi’ fyny’r ysbryd, a cholli pob gobeth am wel’d llygoden byth ond hyny.

Ni fydd y benod yn gyflawn heb i mi dd’we’yd gair am y dydd cynta’ o’r wythnos. Yr o’wn wedi awgrymu i’r cadben mewn pryd y byddwn at ei wasaneth i bregethu ychydig i’r dwylo ar y dec, neu i fyn’d dros rai o done Sanci hefo’n gilydd. Ond ce’s ar ddeall yn fuan fod yn well ganddo beidio; a’i reswm oedd—fod yna’r fath gasgliad o wahanol opiniyne ar faterion crefyddol a gwleidyddol, nes ei gwneud yn ddoethach i gadw’n glir oddiwrth bethe felly’n gyhoeddus, a gadel ei ryddid i bob un i feddwl fel y myne am y naill a’r llall, neu i beidio meddwl o gwbl. Er nad o’wn o’r un farn ag e’ ar y pwnc, efe oedd y meistr, ac nid oedd apelio i fod oddiwrth ei ddyfarniad.

Y Sul cynta, es am dro cy’belled a phen blaen y llong, ac yno gwelwn gortyne o’r naill bôst i’r llall, ac arnynt bob math o bilin, gwlyb a sych, adnabyddus ac anadnabyddus, o bob lliw a llun, cyfen ac anghyfen, yn chwyfio’n yr awel ac yn clecian yn y gwynt, nes peri imi feddwl fod yno gynrychioleth o faneri holl genedloedd y byd. Wedi holi, ce’s ar ddeall taw dy’ Sul oedd diwrnod golchi’r criw; a dyna lle’r oedd rhai o honynt wrthi’n brysnr—un yn golchi ei grys, un arall yn golchi ei ’sane, ac un arall yn golchi ei gorff ei hun, oedd fryntach na’i grys na’i sane. Gan nad oedd yr arogl a ddeue odd’no’n ddymunol iawn i’r ffroene, mi a ddychweles i’m caban, ac a dreulies y gweddill o’r dydd yn cydaddoli o ran yr ysbryd â’m pobl fy hun gartre’.

PENOD VI.

*

AR Y DAITH.

AE’N bryd imi bellach gymeryd stoc o’r byd sy’n gorwedd o’r tu allan i’r llong, rhag i chwi fyn’d yn sal o glefyd y môr drwy gael eich cyfyngu cy’d rhwng y plancie.

Yr oedd y nos y cychwynes allan o ddoc y Bari yn “dangos gwybodeth” ar ei gore’, ac yn “traethu ymadrodd” cystal a’r dydd am ei ddanedd. Fe wincie goleuade Gwlad yr Ha’ draw arnom fel pe ba’em y’myn’d allan ar ryw ddireidi, a nhwthe’n y gyfrinach. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod goleuade glane Morganwg yn cenfigenu wrth eu chwiorydd yr ochr arall i’r Sianel, ac am hòni cyment o wybodeth a’r Saeson, a d’we’yd y lleia’. ’Roedd ambell i oleuad yn ymddangos i mi fel pe bai’n cael difyrwch diniwed am ein pen; un funud edryche arnom fel plentyn drwg yn ei wely—y funud nesa’ fe fydde a’i ben dan y dillad—i fyny drachefn heb ei ddisgwyl—i fyny ac i lawr, i fyny ae i lawr, mor brofoclyd a dim wolsoch erioed. Gelwir y math yma’n oleuad trofäol; ac erbyn sylwi, y mae i’w gael ar ei ganfed ar hyd y glane y’mhobman. Nid oedd y lleni wedi eu tynu dros ffenestri’r ffurfafen chwaith, ac yr oedd cysgod engyl i’w wel’d yn pasio heibio iddynt ol a gwrthol. Dyna oedd f’esboniad i pan yn blentyn ar ansefydlogrwydd y sêr, ac ni elles ymddihatru oddiwrtho byth. Adlewyrche’r dw’r o gwmpas sêr y nefoedd a sêr y glane, a theimlwn yn ddigon hunanol i feddwl fod yr holl gre’digeth wedi d’od allan i ddymuno mordeth dda i mi. Cure calon yr hen long mor rheoledd a phe bai’n canu unod mewn cystadleueth, a gwylltie’r hwylysydd weithie mewn cyfeiliant iddi. Rhodde’r môr ffordd yn foneddigedd i’r llestr basio, cusane’r mân done ei hochre geirwon wrth fyn’d heibio, ac ymestyne ei llwybr yn ol i fynwes y nos fel llwybr arian.

Dacw oleuade Ilfracombe yn pefrio’n y pellder; ac wele gilfach Westward Ho! lle bum unweth yn chwilio am unigedd ac yn temtio seibiant, heb ddim ond gole’ gwyliedydd y glane i dd’we’yd lle mae. Wedi murmur “Nos da” wrth ynys Lundy, trymhaodd fy llyged, ac yn hwyrfrydig es i chwilio am fy ngorweddle. Nid heb gryn gyflafareddiad y llwyddes i’w sicrhau at fy ngwasaneth; ac wedi myn’d iddo, yr oedd pobpeth fel wedi ymdynghedu i’m cadw’n effro. Bum amser hir yn ysbïo drwy’r ffenest’ gron oedd yn f’ymyl ar oror Cernyw y’myn’d ac yn d’od. Bum wed’yn yn gwrando ar ddirgryniade’r llestr, neidiade’r hwylysydd yn union odditanaf, ergydion y peiriant, a llaib y dw’r yn erbyn yr ochre. Y peth nesa’ wy’n gofio’n groew ydyw’r stiward yn d’od i fewn a’i gwpaned coffi. Ond noson drallodus ydoedd; a phe b’asech yn fy lle, gwn na f’asech damed gwell, os cystal, er eich bod yn awr yn barod i chwerthin am fy mhen.

Pan ddeffröes y bore’ cynta’, yr oedd pen pella’ tir Pryden ar fin myn’d o’r golwg. Delies i syllu arno hyd y gall’swn, a phan y colles ef, daeth ochened drom i fyny o rywle heb fy nghaniatâd. Tybiwn imi glywed eco iddi o’r tu ol, a mi drois yn sydyn; ond ni weles neb ond yr ail beirianydd yn chwilmanta gerllaw. Ni wyddwn am ei dricie’r pryd hwnw; ond wedi i mi dd’od i’w adnabod yn well, a meddwl am y peth, drwg dybiwn ef o fod yn gwneud difyrwch o honof, a taw efe oedd yr eco. Erbyn hyn, ’doedd dim yn y golwg ond môr ac awyr, ac ambell i long arall yn pasio. Yr o’em bellach yn nesu at y Bê Bisce, yr hwn oedd wedi bod i mi’n fwgan y dydd, ac yn hunlle’r nos oddiar pan y penderfynes fyn’d y ffordd hono. Clywswn gyment o sôn am dano, ei fôd yn grëadur mor ofnadwy, nes fod myn’d drwyddo bron bod yn gyfystyr a myn’d trwy lỳn cysgod ange’.

Ond diwrnod ardderchog oedd hwn, gan’ad sut y bydde’n y Bau. ’Does dim eisie’ croesi’r bont cyn d’od ati. “Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.” Mae’r haul yn gry’, a’r gwynt yn isel. Mae’r môr fel gwydr, a’r gwylanod yn ein dilyn yn ffyddlon. Chwareua haid o bysgod y gelwir “porpoesied” arnynt yn ymyl trwyn y llestr. Neidiant o’r dw’r y naill ar ol y llall, yn cael eu blaenori gan borpoesyn mwy na’r cyffredin; desgrifiant haner cylch yn yr awyr ar eu taith, yna plymiant i’r dyfnder drachefn, gan fyn’d drwy’r un chware’r ochr arall. Bum yn gwylio’r rhai hyn am orie bwy gilydd. Yn y cyfamser, ele llonge erill heibio i ni, ager a hwyl—rhai yr un ffordd, a rhai i’n herbyn. Ha! dacw hen drampes fel nine ychydig o’n blaen, gafodd gwarter awr o fantes arnom wrth gychwyn o’r Bari. Yr ydym wedi enill arni, a dyma hi’n “râs.” Mae ei thanwyr yn cael gorch’mynion i lanw’i berwedyddion â glo, a chw’da fwg du, tew, allan o’i gene’ nes cuddio’i hun o’r golwg. Gwnawn nine’r un fath, nes peri imi dybied am foment fy mod y’nghanol gwaith Dowles. Erbyn i’r mwg glirio, ’ro’em ar y blaen i rywle. Caed aml i brofion ar hyd y daith taw gwaith anodd oedd curo hon gan longe o’r un dosbarth a hi. Nid llawer o gyffröade sy’ mewn bywyd ar fwrdd llong o’r natur yma; ond mae rhedeg râs â llong arall yn sicr o fod yn un o honynt.

Yr ail nos mi dreulies y dog-watch ar y bont y’nghwmni’r ail swyddog. Ymestyna’r wyliadwrieth yma o chwech i wyth. Mae’r gwyliadwriaethe erill yn beder awr bob un. Sut y daw hon i fewn, nid wyf yn gwybod, na pha’m y gelwir hi dog-watch. Buont yn ceisio esbonio’r blaenaf i mi, ond mae’r bai naill ai ar fy neall neu ar fy nghôf. Ni wyddent yr olaf eu hunen, felly, ni ddisgwylir i mi ei wybod. Gallaf ddych’mygu, ond nid ’grifenu dych’mygion wyf, eithr ffeithie. Yr o’wn wedi gwneud darpariade heleth ar gyfer y ddwyawr ar y bont; a phe gwelech fi, gwn y bydde’n naturiol i chwi gredu fy mod ar y ffordd i’r Pegwn Gogleddol. Côt fawr dros fy nghôt isa’, a chôt ar gyfer gwynt a gwlaw dros hono drachefn, a choleri’r tair i fyny fel tair catrod. Menyg tewion am fy nwylo, a chap blewog am fy mhen. Yr oedd gan y cap glustie, ac yr oedd gen ine glustie, a gwasanaethe’r naill i amddiffyn y lleill. Rhwng pobpeth, yr o’wn mor gysurus a phe b’aswn wrth y stôf yn y caban. Cyn i’r wyliadwrieth dd’od i fyny, aeth un o’r llonge mwya’ heibio i ni o fewn cwarter milldir; ac yr oedd yn ymddangos fel pentre wedi ei oleuo ar amser rhïolti.

Pan y ceisies godi’r ail fore’, methwn a dyfalu beth oedd yn bod. Ni fu’r fath helynt erioed ar ddyn yn ceisio d’od o’i wely; ac erbyn y cofiwch fod y “bwnc” y gorweddwn ynddo gryn bellder o’r llawr, golyge anturieth bwysig.

“Mae’r bendro arnaf,” meddwn; “neu ’rwy’ wedi tori ’nirwest heb wybod i mi fy hun.”

Ond mi ddigwyddes edrych drwy’r ffenest’ fach, a mi weles fod y môr wedi codi hefyd, a thrafferthed a mine wrth y gorchwyl. Yr oedd fel pe bai’n ddig wrth yr hen long am ei aflonyddu’n rhy fore’—fel y byddwn ine wrth y ’stiward ambell dro; ac ysgydwe hi’n enbyd—fel y bygythiwn ine wneud i’r ’stiward. Wedi do’d drwy’r anhawsdere o wisgo a ’molchi, mi gerddes mor barchus ag y medrwn i’r dec, ac yno mi ddealles ein bod wedi myn’d i mewn i’r Bau Mawr rywbryd yn y nos, a’n bod wedi myn’d gwarter y ffordd drwyddo. Yr oedd y gwynt o’r gogledd-ddwyren, ac yn fwy o help ini nag o rwystr. Ond, O’r symudiade! Yr oedd gwel’d y llong yn cusanu’r dw’r hyd ei rhagfurie, a’r tone’n neidio drostynt, y mynydde dyfrllyd yn erlid ar ein hole, a’r pantie dyfnion a grëid gan y sugndyniad, Chips yn cael ei ddala’r ochr yma, a’i wlychu at y croen, a’r ’stiward yn gwylio’i gyfleusdra’r ochr arall, ac yn dïanc â chroen ei ddanedd—yr oedd bod yn dyst o’r golygfeydd hyn a’u cyffelyb am haner awr cyn brecwast yn gosod y prawf llymaf ar f’ystumog a’m calon. Dyma’r bore’ y daeth y “crwth” i’r ford gynta’. “Dal llygoden a’i bwyta” oedd y drefn ar bryd bwyd bellach, a’r “dal” yn fwy o gamp na’r bwyta. Dyma fel y bu drwy’r dydd, a dyma fel y bu drwy’r nos wed’yn. Nid af i gelu fod braw arnaf, ond dim salwch. D’wedir i mi pan fo salwch nad oes dim braw. P’run yw’r gwaetha’, nis gwn. Ni dd’wedaf chwaith sut y treulies y nos hono, rhag crechwenu o’r Philistied. Ond ganol dydd dranoeth yr o’em wedi myn’d drwy’r Bau, ar ol haner cant o orie gerwin eu gwala. Bellach, dyma “Wlad yr Haul” yn y golwg.

PENOD VII.

*

FY NYDDIADUR.

R draul ail-adrodd fy hun—yr hyn yw fy “mhechod parod” wrth siarad a ’sgrifenu—gosodaf yma ddarne o’m dyddiadur. Mae hwnw’n siwr o fod mor agos i’w le o ran cywirdeb a dim sydd wedi ymddangos, ac a ymddengys eto. I dreulio’r uwd a’r pytatws a gawswn i frecwast, y peth cynta’ wnawn oedd ’sgrifenu ar fy nyddiadur, oni fydde’r hen long yn bechadurus o ansefydlog; ac af yn feichie dros y nodiade sydd ynddynt, eu bod yn adlewyrchiade gonest o’r hyn a weles, a glywes, ac a deimles drwy’r holl helyntion. Chwi gofiwch fy mod yn ’sgrifenu ddiwrnod ar ol y dyddiad a geir.

Dydd Sadwrn, Chwef. 23ain.—Y’nghanol y Bê Bisce. Wedi myn’d drwy ran o hono neithiwr, dïolch am hyny. Yn weddol o dawel drwy’r bore’, ond ar ol haner dydd dechreuodd y tone guro ar y llong, a’n hanes wed’yn oedd ymsuddo ac ymrolio hob yn ail—weithie o ben i ben, bryd arall o ochr i ochr—a’r dw’r yn golchi dros y dec yn gyfrole trwchus. Felly am y gweddill o’r dydd, ac ar hyd y nos—ond nid oedd blas genyf i ganu’r hen alaw. Bwyta mewn gefyne. Pawb fel wedi meddwi, a’r hen long y’nghanol ei bloddest. Lle rhyfedd yw’r bau hwn: y mae fel pytae pobpeth o chwith yma. Pysgod y’neidio allan o’r dw’r, ac adar y’myn’d dros eu pene iddo. Porpoesied yw’r naill, a gwylanod yw’r lleill. Mor falch yw’r gwyliedydd i wel’d yr haul yn d’od i’r golwg pan y mae’n gymylog! Mae’r haul yn cadarnhau’r cyfeiriad. Ond pan na bo haul, na lloer, na seren yn y golwg, mae’r cwmpas ganddo o hyd. Gŵyr y mordeithwyr ysbrydol am rywbeth tebyg.

“Tywydd da yw hwn,” ebe’r ail swyddog.

“O’r anwyl! beth am y drwg, ynte?” meddwn wrtho.

Ofn nad oes dim llawer o gysgu heno eto. Dim gogwydd at selni mor belled. Dywed y cadben wrthyf fy mod yn un o fil. Mỳn y ’stiward fy mod wedi camgymeryd fy ngalwedigeth—taw morwr ddylaswn fod. Yr wyf o’r un farn ag e’ weithie’ am y cynta’, ond yn ame’r ola’n fawr. Beth dd’wede pobl Bethania, tybed?

Dydd Sul, y 24ain.—Codi am saith. Y llong yn chware’i phrancie o hyd, y môr yn tori drosti, a phawb ar y dec yn wlyb dyferu. Eto, dyma dywydd cyffredin y Bê Bisce! Fel hyn y budrwy’r bore’; ond erbyn canol dydd yr o’em wedi dianc o’i grafange. Ysgyrnygu ei ddanedd arnom yr oedd y crëadur yn y bore’n ddiame genyf, wrth ein gwel’d yn ffoi o’i derfyne. Gobeithio’r anwyl na cheidw’i ddialedd nes y dychwelwn. Wedi cael tir Sbaen rhyngom a nerth y gwynt, aeth yn dawelwch mawr. Ac O! brydnawn Sul. Haul clir, tanbed, ffurfafen ddigwmwl, môr didone, a’r llong yn cerdded drosto fel boneddiges y’nhraed ei ’sane—ardderchog, a d’we’yd y lleia’. Y tir o gwmpas Corunna ddaeth i’r golwg gynta’. Cofio am Syr John Moore, a’r farwnad anfarwol a wnaed iddo gan y Parch. Charles Wolfe. Gorffwysdra i’r llygad oedd gwel’d tamed o dir ar ol y fath dafell o fôr. Dacw’r arfordir gorllewinol i lawr hyd Benrhyn Finisterre. Cawsom engraff o ddïogi’r Sbaenied yn y Penrhyn hwn. Mae yma orsaf i dderbyn arwydd llonge. Codasom yr arwyddion arferol, ond ni ddaeth arwydd yn ol mewn atebiad; a thynge’r cadben (nid yn gableddus) taw cysgu oedd y tacle. ’Doedd dim perswâd ar yr ail beirianwr na chlywse hwy yn chw’rnu’r pellder hwnw! Mynyddig a garw yw’r darn yma o dir Sbaen. Collasom ef yn fuan, a disgwyliwn wel’d tir Portugal ’fory.

Dydd Llun, y 25ain. Bore’ heddyw disgynodd fy llyged ar dir Portugal. Mor wahanol i dir Sbaen! Yn lle mynydde uchel a geirwon yn codi’n syth o’r môr, ceir yma ffermdai a phentrefi bychen a mawrion i’w gwel’d y’mhob man. Caëe a gwinllane, perllane ac olewydd-lane ar lechwedde’r brynie, a’r mynydde draw yn y pellder yn dir cefn iddynt. Pentrefi pysgota ar y làn, a thraethe swynol o dywod gwỳn a chaled yn dysgleirio’n yr haul. Lle braf i fyn’d a phicnic Ysgol Sul am brydnawn. Hwyrach taw’r ffordd fydde dipyn y’mhell o Gwm Rhondda. Yr oedd yn ddiweddar yn y dydd pan weles gyffinie Lisbon. Yr oedd y ddinas ei hun yn llechu o’r golwg i fyny’r afon Tagus. ’Roedd hafdy’r brenin yn sefyll ar fan amlwg iawn, yn union uwchben y ddinas, mi allwn dybied. Adeilad mawr gwỳn ac unffurf ydoedd, yn pregethu llai o gysur na bwth Beti New Cross ar dir y Godor, mi wna’ lw. Ar y dde’ mae tair neu beder o greigie daneddog yn codi’n ddirybudd o ganol y dyfnder. Creigie’r Birlings y gelwid hwy. Mae dim ond edrych arnynt yn ddigon i’ch argyhoeddi eu bod yn beryg’ i longe, ’nenwedig ar amser niwl. Yn agos i’r fan yma y collwyd llong fawr berthyne i’r Anchor Line. Dacw Benrhyn Espechel, lle cawsom yr arwydd. Ar bigyn ucha’r mynydd fan draw mae lleiandy aruthrol—y mwya’n y byd, medde nhw. ’Roedd ei adeiladu’n golygu llafur blynydde i rywrai. Un o olygfeydd mwya’ dymunol y darn yma o’r byd yw y bade pysgota tlws a syber sy’n dawnsio o’n deutu, Mi weles sgoroedd o honynt heddyw, a rhedent o flaen yr awel mor ysgafn-droed a’r awel ei hun. Cyfarfyddasom â llong ryfel, a chyfarchasom hi. Dychwelodd hithau’r cyfarchiad yn foneddigaidd ei gwala. Mae’r môr mor dawel â Llyn Tegid ganol ha’, a thripia’r llong yn llawn mursendod drosto. Cyredd gyferbyn â Phenryn Rocca cyn nos. Y tir yn cilio eto, ac nis gwelwn ef mwy hyd y bore’. Dïolch i Dduw am ei amddiflyn.

Dydd Mawrth, y 26ain.—Tybies fod rhywun yn curo’r ffenest’ pan o’wn rhwng cysgu a deffro. Beth oedd ond gwlaw! Bysedd y gawod a’m dihunodd. Bu’n gwlawio’n drwm drwy’r bore’. Mae gwlaw a niwl yn cydgyfeillachu ar y môr: anaml y ceir y naill heb y llall. Diflas yw bod ar dir pan y mae’n bwrw gwlaw; diflasach yw bod ar y dw’r. Ond daeth yn deg cyn cinio, a pharodd yn deg drwy’r dydd. Cryfhaodd yr haul, a chryfhaodd y gwynt o’r tu ol ini, nes peri i’r llestr siglo’n enbyd ar brydie. Tir yn y golwg, ond yn rhy bell i wneud fawr o hono. Pasio heibio i leoedd a hanes iddynt, megis St. Vincent a Trafalgar. Mae’r hen long yn cael côt newydd o baent y dyddie hyn—nid rhyfedd ei bod mor rodresgar ei symudiade.

Dydd Mercher, y 27ain.—Wedi myn’d drwy Gulfor Gibraltar yn y nos—yn hytraeh, dri o’r gloch y bore’. D’wede’r cadben wrthyf fod y llong wedi teithio’n gyflymach o’r Bari i’r Gib nag y gwnaethe’ ’rioed o’r blaen. Mor garedig yw’r Llywodraethwr Mawr ini! Mae’r Hwn sy’n cadw’r gwynt yn ei ddwrn yn ei ollwng allan yn dameidie cysurus, a’r Hwn gerddodd ar y tone gynt yn cerdded arnynt eto. Dyma Fôr y Canoldir o’r diwedd! Y Môr Mawr! Môr yr Apostol Paul! A’r môr y taflwyd Jona’ ’styfnig iddo! Onid yw yn llawn swyn i’r efrydydd Beiblaidd? Mae ei ddyfroedd yn loew ac yn lâs heddyw, a’i dòne’n fân ac yn fuan. Yr ydym bellach y’mordwyo tua’r dwyren—o’r blaen tua’r de’ y mordwyem. Mae fy wyneb yn awr tua chodiad haul. Dacw dir Affrig yn y golwg i’r dde’, a thir Sbaen yn y golwg i’r aswy. Mynydde uchel, a’u coryne’n wynion gan eira. Dilynant ni am dros gan’ milldir. Mae golygfa fawreddog i’w chael arnynt. Sylles yn hir ar y cyfandir tywyll, a cheisiwn adgofio pob emyn ac adnod a dd’wedent rywbeth am dano.

Mi ro’is dro yn y tŷ peiriant cyn myn’d i gysgu, o dan arweiniad yr ail beirianwr. Teithies dan y dec o’r naill ben i’r llall. Ni fum mewn gwlad ryfeddach erioed. Dyma lle mae cyfnewidiad hinsodde! Ceir y gwynt oera’ a’r gwres mwya’ llethol am y drws i’w gilydd. Mae yma bob sicrwydd dynol am ddiogelwch. Ele iase drosof pan ddechreuwn feddwl taw dim ond ychydig droedfeddi oedd rhyngof a’r dyfnder du; ac yr oedd llaib y dw’r yn ymyl fy nhroed yn gwneud imi oeri a chw’su bob yn ail. Cyn dychwelyd i’r dec, cymeres stoc o’r tanwyr y’ngole’r ffwrneisie. ’Roedd eu düwch, a’u meindra, a’u taldra, a’u noethder yn eu trawsffurfio’n ellyllon mewn ymddangosiad. Wedi eu gwel’d wrth eu gwaith, nid o’wn yn synu mwyach eu bod mor sychedig.

Mae’n ddiwrnod ardderchog, a’r haul yn ei ogoniant. Mae’r awyr eisoes yn gliriach nag awyr Pryden. Erbyn diwedd y dydd, yr ydym wedi gosod dros dri chant ar ddeg o filldiroedd hyngom a’r Hen Wlad.

PENOD VIII.

*

DALEN ARALL O’M DYDDIADUR.

YDD Iau yr 28ain.—Pen yr wythnos ar y dw’r. Dacw dir Affrig eto—glane Morocco ac Algeria. Dim ond mynydde uchel sydd i’w gwel’d, a rheiny’n edrych yn noeth, a chas, a thywyll. Ni weles fynydde ’rioed a’r fath olwg ddiserch arnynt. Tybed nad rhein yw’r “mynyddoedd tywyll” y sonia’r proffwyd am danynt? Trwy’r ’spïeinddrych gwelaf ychydig bentrefi yma a thraw, ond y maent yn rhy bell i’w gwahaniaethu’n glir. Arabied yw’r boblogeth, a lladronllyd yw eu cymeriade. Mae’r pentrefi hyn yn hen nythleoedd môr-ladron o’r rhywogeth waetha’. D’wedodd y cadben bethe rhyfedd wrthyf am danynt. Maent wrth eu hanfadweth heddyw pan gânt gyfle. Anfonodd Swltan Morocco rybudd dro’n ol i holl deyrnasoedd Ewrob, am i’w llonge beidio caniatau i fade lanio’n sengl ar y traethe hyn oherwydd y môrladron; ac os bydde i rywbeth anymunol gymeryd lle ar ol y rhybudd, na fydde fe’n gyfrifol i neb am hyny. Ond aeth bâd allan o long Ellmynedd ar waetha’r gwaharddiad. Yr oedd haner dwain o ddynion ifanc gwamal ynddo; a phan ddaethant o fewn haner milldir i dir, ymsaethodd tri o fade hirion, meinion, yn llawn o ddynion, allan o un o’r cilfache, cymerasant hwy yn garcharorion heb fawr trafferth, ac yr o’ent oll wedi diflanu cyn i neb ar y llong wybod fod dim wedi cymeryd lle. A’r darn prudda’ o’r hanes yw, na chlyw’d siw na miw am y trueinied byth wed’yn! Nid oes lle i ame’ na chawsant eu cludo i un o farchnadoedd y Sahara, a’u gwerthu’n gaethion i’r canolbarth.

Mae’r tywydd mor ddiserch a’r tir, heb fawr haul, a’r gwynt yn eillio mwy nag a f’asech yn feddwl mewn lle fel hyn. Mi deimles fwy o wres lawer gwaith yn yr Hen Wlad y’mis Chwefror nag a deimlaf heddyw y’ Môr y Canoldir. Mae’r dyfroedd yn dawel ryfeddol, a’r llestr yn cadw heb siglo ond ychydig. Dim ond un llong a weles drwy’r dydd—nyni sy’n teyrnasu. Ddoe ’roedd y dw’r yn loew iawn; heddyw y mae’n dywyll iawn. Y rheswm o hyny yw fod y dyfroedd yn adlewyrchu gwyneb y wybren. Awyr lâs, ddigymyle oedd awyr ddoe—glas a gloew oedd y dyfroedd; awyr o blwm yw awyr heddyw—cyfranoga’r dyfroedd o’r un lliw yn union. Onid yw hyn y’meddu ar wirionedd cyfatebol mewn cylchoedd moesol a chrefyddol? Mi sylwes fod y llestr yn cynyrchu ei thone a’i hawel ei hun wrth fyn’d rhagddi, ac mi ofynes i mi fy hun—Onid yw dyn yn gwneud peth tebyg wrth fyn’d drwy’r byd, beth bynag fo’i gymeriad? Prydferth yw gwel’d y gwylanod yn gorphwys ar y tone. Mae’r Hwn ddysgodd Petr i gerdded ar y môr gynt yn dysgu ei saint eto i droi tone dig môr bywyd i fod o wasaneth iddynt, i’w helpu i gyredd pen y daith. Dyna ddigon o bendrymu; rhaid ymneillduo bellach. Dacw ole’ Algiers yn dawnsio yn y pellder draw, ac es i gysgu wrth edrych arno drwy’r ffenest’ gron.

Dydd Gwener, Mawrth 1af.—Diwrnod braf, dïolch am dano. Mwy o haul, a llai o wynt. Yn wir, ’does dim gwynt o werth son am dano heddyw, yn unig awelen o grë’digeth y llong ei hun. Pasiwyd Algiers, fel Gibraltar, yn y nos. Yr unig at-daliad a geisiaf yw eu pasio yn y dydd wrth ddychwelyd. Gorore’r cyfandir du yn y golwg o hyd. Y mynydde’n uwch, ac eira ar goryne y rhai ucha’. Cip ar fynydde’r Atlas, sy’n cadw gwynt deifiol yr anialwch rhag gwneud Ewrob yn bentewyn. ’Does dim yn ddeniadol mor belled yn y darn hwn o dir Affrig—hwyrach y gwella wrth fyn’d y’mlaen. Rho’es y cadben ei ’spïeinddrych mawr yn fy llaw, a pharodd imi edrych i gyfeiriad y gogledd. Gwnes hyny, ac ar ol cael y crëadur i ganolfan prïodol, a fy hunan i fedru ei ddal heb grynu, gwelwn fwg yn dyrchu’n dew draw’n y pellder, Wedi deall taw mynydd Etna yn Sicili ydoedd, ’r o’wn yn falch dros ben, er na welwn ond ei fwg. Nid o’em lawer yn fyr o gan’ milldir oddiwrtho, ond ’roedd y pellwelydd yn un cryf dros ben. Oera’r awyrgylch yn fawr ar ol machlud haul, a disgyna’r gwlith yn drwm. Par hyny ei bod yn beryg’ i mi fod allan ar y dec wedi iddi ddechre’ t’w’llu. Mae’r criw wrthi fel lladd nadrodd yn glanhau’r hen long, drwy ei phaentio a’i thrwsio, ei golchi a’i thario. Bwriedir iddi fod fel prïodasferch wedi ymdrwsio i’w phriodas erbyn cyredd Alecsandria. Eto, unffurf iawn yw bywyd o hyd. Dathlu Dy’gwyl Dewi yn fy meddwl, drwy ddwyn ar gof i mi fy hun sut y dathlem ef pan yn blant yn hen dre’r sir. Cofio am y seindyrf yn chware’, y clybie’n cerdded, y baneri’n chwyfio, a’r pwdine a gaem y’nghysgod ein perthynas â rhai o’r swyddogion. Torwn allan i chwerthin weithie pan ddeue ambell i ddireidi i’r wyneb, a thybiwn fod y prif swyddog yn edrych yn amheus arnaf. Ni ŵyr y Cymro arall ddim am Dewi Sant a’i wyl, mwy nag y gŵyr twrch daear am yr haul.

CAIRO.

Dydd Sadwrn, yr 2il.—Tir Tunis yn y golwg. Safle’r hen Garthage, cartre’ Hanibal, a gwrthymgeisydd Rhufen am feistroleth y byd. Dacw bont grogedig Bizarte. Dyma ynysoedd Galita, y Brodyr, Zembra, a Zambretta. Mae mynachlog yn perthyn i Eglwys Groeg ar ben Zembra. Mae darne’ o’r ynysoedd hyn dan arwyneb y dw’r, ac felly’n beryg’ i longe. Darne o’r cyfandir, yn ddïame, ydynt oll, ond wedi myn’d yn wahanedig rywbryd drwy gyffröad tanddaearol a thanforol. Gwel’d amryw o bysgod hedegog; y mae un o honynt o faintioli ’sgadenyn go fawr. Ceir sharcod y ffordd yma hefyd, er na weles i yr un. Ped ymollyngwn dros ymyl y llong i’r môr i ymdrochi, gwnawn fy llw y teimlwn y cna’n union, os na welwn ef. Tynu at Malta—disgwyliwn ei gwel’d rywhryd ’fory.

PENOD IX.

*

UN ARALL ETO.

YDD Sul, y 3ydd.—Tywydd tawel o hyd—dïolch i Lywydd y môr am hyny. Diwrnod golchi’r criw: golygfa ryfedd i Gymro crefyddol. Mae pen blaen y llong fel cefen un o dai Treorci, yn gortyne a dillad golchedig o gẁr i gẁr. Rywbryd yn y bore’ aethom heibio i ynys o’r enw Pantellaria. Perthyna i’r Eidal, ac y mae ynddi benydfa i droseddwyr dan lygad y Llywodreth. Mae’r tai a’r gerddi i’w gwel’d yn dlws a swynol nodedig o’r llong. Tua chanol dydd ce’s gipolwg ar un o’r ynysoedd Melitaidd draw y’mhell—prin y gwyddwn y gwahanieth rhyngddi a chwmwl yn codi o’r môr. Erbyn tri y prydnawn yr o’em wedi d’od gyferbyn â hi. Gozo yw ei henw, a hi yw’r ail mewn maintioli. Mae’n ddarn braf a gwrteithiedig drosti. Ceir arni bentrefi mawrion, heb fawr o drefn, ond llawer o brydferthwch. Cyfnewidiwyd arwyddion wrth basio. Yn union ar ol cwmpasu Gozo, dyma Malta i’r golwg—Melita Llyfr yr Actau. Meddwl mwy am Paul nag erioed. Oasis y’nghanol anialwch dyfrllyd yw Malta. Ceir perllane a gwinllane’n dryfrith drosti. Mae’r llwybre cochion sy’n croesi’r caëe yn peri imi redeg yn ol i Bontargothi. Y brif dre’ yw Valetta. Mi weles long y’myn’d i mewn i’r porthladd. Mae gene hwnw’n gul, a chyflegre fel rhes o ddanedd ar ei fin. Ce’s olwg braf ar y dre’, am ei bod ar safle uchel. Dacw’r barracks a phebyll y milwyr, a dacw’r milwyr eu hunen y’myn’d drwy eu hymarferiade. Dacw ddwy neu dair o eglwysi’n dyrchu eu pigdyre i gyfeiriad y nefoedd. Ust! mae’r awel yn cario sain clyche un o honynt dros y tone i glustie’r alltud unig nas gŵyr beth a wna, ai chwerthin ai wylo. Dacw’r castell coch ei furie, ac adfel hen fynachlog. Ha! a dacw’r ’strydoedd llithrig a cheimion, a phobl yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddynt fel gwybed ar gwarel ffenest’. Mae hen air yn d’we’yd na fedr un Iuddew fyw y’Malta nac Aberdeen; a’r rheswm am hyny yw, fod y Melitied a’r Ysgotied yn gorfaelu cribddeilieth, fel nad oes dim ar ol i’r Iuddew. Dangoswyd i mi fau bychan ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i’r ynys, a elwir Bau Sant Paul, am y tybir taw yno y daeth efe a’r achubedigion erill i dir. P’run bynag a oedd hyny’n wir neu beidio, yr oedd yn wir i mi ar y pryd; a daliwn i syllu ar y fan nes i’r ynys fyn’d o’r golwg. Mi weles heno’r haul-fachludiad gogoneddusaf a weles erioed. Nid af i geisio’i ddesgrifio, am ei fod y’mhell y tu hwnt i’m darfelydd egwan i. Fel ’roedd yr haul y’machlud, fe ddeue’r lleuad i fyny’r ochr arall, ac er fy syndod, yr oedd yn werdd i gyd drosti! Yr oedd yn debycach i gosyn o gaws Gorgonzola na dim arall. Gofynes i rywun pa’m yr oedd felly, a’r atebiad ge’s oedd taw gwyrdd oedd prif liw’r haul wrth fachlud, a taw cyfranogi o hwnw oedd y lleuad. Cyflwynaf ef am ei werth, ond nid yw’n anhygoel. Dim tir eto nes cyredd yr Aifft.

Dydd Llun, y 4ydd.—Dim helynt o fath yn y byd heddyw. Darn diserch iawn o’r daith yw hwn o Malta i Alecsandria. Dim ond awyr a môr a haul—ac ä’r haul o’r golwg weithie. Dim aderyn yn y wybren—dim pysgodyn y’neidio allan o’r dw’r—dim llong ar wyneb yr eigion yn unman. Meddyliwn am gân Alecsander Selkirk:⁠—

“I am monarch of all I survey,

 My right there is none to dispute.”

A gall’sai’r hen long fabwysiadu’r syniad yn llawn cystal. Yr haul yn gwresogi ar brydie, ond y gwynt o’r gogledd-ddwyren yn para i eillio o hyd, gan gymedroli’r gwres. Disgyna gwlith trwm yn gynar wedi i’r haul fyn’d lawr. Mae hyn yn nodweddiadol o’r dwyren. ’Does dim rhyfedd fod cyment o son am wlith yn y Beibl. Gwneir parotöade mawrion ar gyfer glanio, a theimlaf ychydig gyffro yn fy meddianu ine.

Dydd Mawrth, y 5ed.—Y tone wedi codi, ac yn peri i’r llestr siglo’n enbyd. Y gwynt yn gry’ ac yn oer. Cael y môr i ni ein hunen o hyd. Ysgrifenu at deulu bychan y’Nhreorci, sydd a’i bryder yn fawr am danaf. Ysgriblo gore’ medrwn at gyfeillion hefyd. Tynu i derfyn y daith, a dïolch am hyny.

Dydd Mercher, y 6ed.—Dyma’r diwrnod gwaetha’ gawsom oddiar pan y gadawsom y Bari. O’r anwyl! Daeth rhuthrwynt ofnadwy o’r gorllewin arnom, a gwlaw mawr yn ei gôl. Yr enw sy’ gan y morwyr ar y math yma o dywydd yw squall. Mae’r tone fel mynydde, ac yn disgyn ar y dec yn dunelli. Mae’r llong yn gwegio fel meddwyn, nes ei gwneud yn a’mhosib’ cerdded yn gywir, bwyta’n weddus, nac ysgrifenu’n daclus. Mae’r cadben yn bryderus rhag y bydd yn rhaid i’r llong aros o’r tu allan i’r porthladd, a’i thrwyn i’r gwynt oherwydd y ’storm. Dipyn yn beryg’ yw myn’d i mewn i ambell i borthladd ar dywydd garw. Mae porthladd Alecsandria felly, am fod ei ene mor gul. Ar ol d’od i ymyl y làn mor ddidrafferth, mae’n anodd i’r bechgyn gadw ffrwyn yn eu gene wrth wel’d y drafferth wedi eu gorddiwes yn y diwedd. Nid oes genyf ond gobeithio y tawela’r gwynt erbyn y bore’, ac y cawn fynediad cysurus i’r hafan cyn nos yfory. Cyflwynaf fy hun, a’r llong a’i llwyth, i ofal yr Hwn y ceisiaf yn anheilwng ei was’naethu.

Dydd Iau, y 7fed.—Y gwynt wedi gostegu, y môr wedi tawelu, a’r gweddïe wedi eu hateb. Daethom i olwg y tir cyn haner dydd. Hwre!

O hyn allan gadawaf fy nyddiadur, gan roi hanes fy helyntion tra yn yr Aifft, heb ymgais i’w dyddio a’u trefnu, yn union fel y digwyddant guro wrth ddrws y côf.

PENOD X.

*

GLANIO.

WEDI pythefnos o ymlwybro ar hyd wyneb y dyfnder, a “Dafydd Jones” yn “byhafio” fel gŵr bonheddig—yr un fath a phe gwydde fod iddo gâr o’r un enw ar fwrdd y llong—des i olwg tir yr Aifft pan o’wn bron yn ei ymyl. Y rheswm am hyny yw, fod y tir yn fflat fel eich llaw, heb iddo na mynydd, na bryn, na bryncyn, na chodiad cyment a thwmpath gwahadden yn dir cefen i’w farcio allan o’r pellder. Pan ddaeth y llygad noeth yn alluog i’w wahaniaethu, ymddangose fel llinell lwyd wedi ei thynu gan bwyntil o blwm, ac yn tori rhwng dw’r ac awyr. Ond dyna! cyn imi braidd gael amser i roi ’nghap yn deidi ar fy mhen, ce’s arwyddion y’nes ataf fod tir gerllaw.

O amgylch ogylch y llestr yr oedd bade, fychen a mawrion, yn llawn o fode ar lun dynion—rhai yn rhwyfo, erill yn eistedd a’u dwylo ’mhleth, ac erill drachefn yn sefyll ar eu traed mor ddidaro a phe baent ar y làn. Y peilot oedd un, a’i neges ef oedd ein cyfarwyddo i mewn i’r porthladd. Un o swyddogion y dollfa oedd y llall, yn d’od i archwilio’r papyre, y’nghyda chargo unrhyw deithiwr fel fy hunan a all’sai fod ar y bwrdd. Yn awr y gweles y fantes o fod ar enw un o swyddogion y llong, hyd y’nod pytae heb fod ond gwerth swllt y mis. Oblegid wrth fy ngwel’d â phin ysgrifenu wrth fy nghlust, un arall rhwng fy nanedd, bwndel o bapyre yn fy llaw, fy nghap ar fy ngwegil, ac awdurdod diapêl yn argraffedig uwchben fy llyged, cafodd f’eiddo i lonydd, a’u perchenog y fath arwyddion o barch, nes gwneud iddo dybied am foment ei fod yn perthyn i warchodlu Arglwydd Cromer.

Dyma’r meddyg yn d’od i wel’d fod pawb yn iach yn ein plith. Yr oedd y ffaith fy mod wedi arwyddo’r erthygle fel talydd yn fy nïogelu rhag ymosodiade hwn eto. Ac mi dd’wedaf wrthych pa’m. Pe daethe i wybod taw fel dyn claf yn chwilio am iechyd yr es allan, deg i un na f’ase’n gwneud y ffwdan creulona’, yn gwarafun i’r llong fyn’d i’r porthladd nes y ceid ardystiad o’r ochr hyn i sicrhau nad o’wn wedi bod yn dyodde’ oddiwrth glefyd heintus—hwyrach y gorfodid y llong i aros o’r tu allan am wythnos neu ragor, yr hyn fydde’n golygu coste o ganoedd o bune i’r perch’nogion. Ond megis y mae llawer ffordd i ladd ci heblaw ei grogi, felly y mae rhagor nag un ffordd i dd’od allan o honi heblaw drwy ddrws y ffrynt, a’r naill onested a’r llall.

Ha! dyma’r llythyr-gludydd, wirionedd i, yn d’od a’r llythyre i’r bwrdd. Efe oedd yn cael y croeso mwya’ o bawb. Mor dda oedd genyf fyn’d ’nol i Dreorci am bum’ munud, a rhoi llam dros dair mil o filldiroedd o fôr i siarad â rhai oedd anwyl genyf. Nid yw fy “ngwir gymar” wedi f’anghofio, nac Eunice fy merch, fy unig blentyn, o’i hysgol yn Caint. Bendith arnynt! Erbyn imi dd’od i ben draw’r epistole, yr o’em wedi d’od i ben draw’r daith, a bwrw angor yn ymyl y cei. Y’mysg y dyrfa amryliw a wylie’n dyfodiad oddiar y cei, yr oedd nifer o blant o bum’ mlwydd oed a than hyny, heb ddim o’u cwmpas i ddynodi eu rhyw, a chan ddued a’r eboni. Tra’r o’wn yn syllu arnynt gyda dyddordeb, diflanasant fel mwg, heb un ar ol; ac yn fy myw y medrwn ddyfalu pa beth a ddaethe o honynt. Ond pan drois fy llyged dros ymyl y llong yr ochr nesa’ i’r môr, mi weles ddwsin o bene duon y’nofio fel cyrc hwnt ac yma, ac yn crio “Bacsheesh!” dros y lle. Mi dafles ddwy neu dair ceiniog i’w canol, ac i lawr a hwy ar eu hole fel pysgod. Buont cy’d yn d’od i’r wyneb drachefn, nes peri i mi ofni eu bod wedi glynu yn y mwd ar y gwaelod! Ond pan ddaethant, mi weles arwyddion yn union oedd yn d’we’yd fod yna ysgarmes ofnadwy wedi bod o’r golwg, a’r cwbl am dair ceiniog! Gwn am ddynion—heb sôn am blant—y’nes yma na’r Aifft, a ânt drwy ysgarmese a farciant eu cymeriade—heb sôn am eu cyrff—hyd y bedd, yn eu hawydd aniwall i gofleidio traed y duw Mammon.

O’r diwedd, ar ol pwffio, a ’sgriwio, a chwibanu, a gwaeddi mwy na mwy, gollyngwyd yr angor, a sicrhawyd y llong â rhaffe wrth gyrn ei hallor ei hun. Cyn pen pum’ munud, yr o’wn mewn bâd hwylie y’nghwmni’r cadben yn ’sgimio dros wyneb y dw’r yn groes i’r porthladd, i’r ochr nesa’ i’r ddinas. Enw’r badwr oedd Alec, ac enw’i brentis oedd Achmed. Cofier taw Cymraes yw’r “ch” yn enw’r prentis. Daeth y badwyr a mine’n ffrindiol ryfeddol cyn i mi ddychwelyd. Daethant a ni’n gysurus i’r làn draw. Neidies o’r bâd yn gynta’, a theimles fy nhraed yn taro tir yr Aifft am y tro cynta’ ’rioed. O’m cwmpas yr oedd scoroedd o Arabied talgryf ac ysgwyddog, capie cochion hirgul ar eu pene, a’u gwisgoedd yn fath o gymodiad rhwng Dwyren a Gorllewin. Pan o’wn yn croesi’r ffin or plentyn i’r llanc, yr wy’n cofio’n dda na yre dim fwy o arswyd arnaf na gwel’d “dyn du” ar y ’stryd: rhedwn adre’ ar golli f’anadl, ac ni theimlwn yn ddïogel nes y cawn fy hun yn llechu dan ffedog fy nain, fel estrys a’i ben yn y tywod. Ac er fy mod yn ddyn “llawn deugen mlwydd oed” pan ge’s fy hun y’nghanol yr ebonied clebrllyd y prydnawn hwnw yn Alecsandria, nid heb ychydig bach o gyffro yn f’ochr chwith y gall’swn gymeryd ’stoc o honynt â chil fy llygad.

Pan ddechreues sylweddoli’r ffaith fod gwadne fy nhraed a daear yr Aifft wedi cusanu eu gilydd, meddianwyd fi gan deimlad go ddyeithr. Dyma’r wlad y mae ei hanes y’myn’d yn ol i fabandod y byd, a’i gwareiddiad yn berffeth “cyn bod Abraham.” Dyma’r wlad lle magwyd Moses bach, yr addysgwyd ef yn holl ddoethineb yr Aifftied nes y daeth yn Foses mawr, ac y dysgyblwyd ef i gyfrinion Duw’r Hebrëwyr nes iddo fyn’d yn Foses mwy. Dyma’r wlad lle bu’r etholedig genedl yn codi temle a phyramidie oesol y Pharöed, yn gweithio am y rhan fwya’ o bedwar cant a haner o flynydde â phriddfeini heb wellt iddynt, ac yn cynyddu mewn rhifedi a nerth er gwaetha’r caledi a ro’id arnynt i’w cadw i lawr. Dyma wlad y Nile, dyfroedd yr hon a dröwyd yn waed gan Dduw i ddïal gwaed ei bobl, ar fynwes yr hon y gosodwyd gwaredwr cynta’ Israel i orwedd dan gysgod yr hesg a’r prysglwyni, a’r hon a addolid gynt, ac a addolir eto, gan filiyne o breswylwyr ei glenydd. Dyma’r wlad lle bu Duw (ys d’wedai’r anfarwol Dewi Ogwen), yn agor dwylo Pharo’ bob yn fys i ollwng y genedl i ffwrdd, lle bu rhan o “lu mawr” yr Arglwydd—y llau, y llyffent, a’r locustied—yn cyflawni eu hymdeth ddinystriol wrth orchymyn eu llywydd, a lle bu angeu’n cynal ei loddest y’mhob teulu’r un pryd trwy’r wlad i gyd ond Gosen. Ac os cywir y casgliad taw’r Saeson yw’r deg llwyth sydd ar wasgar, ac a gollwyd y’mysg y cenhedloedd, dyma’r wlad sy’n cael ei llywodraethu heddyw gan ddisgynyddion y dynion fu’n gaethion ynddi bum’ mil o flynydde’n ol. A dyma’r wlad, mi greda’, a ddaw eto’n ail i Eden mewn prydferthwch, i ddyffryn yr Iorddonen mewn ffrwythlonrwydd, i Bryden Fawr mewn gwareiddiad, ac i Walia Wen mewn crefyddolder, y’mhen dwy neu dair o genedlaethe.

Yr o’wn wedi myn’d i freuddwydio ar ddihun fel hyn, y gwaetha’ o bob breuddwydio, a llais y cadben ddaeth a mi’n ol at sylwedde bywyd:⁠—

Come away, sir, or they will think you mad!

A phan edryches, dyna lle’r oedd tẁr o fadwyr cymysgliw o’m cwmpas yn syllu arnaf fel pe bai dau gorn ar fy mhen. Mi ge’s ragor na dau ar fy nhraed cyn dychwelyd; ond ni fu brys mawr arnaf wed’yn i freuddwydio ar ganol y ’stryd.