WeRead Powered by ReaderPub
I'r Aifft Ac Yn Ol cover

I'r Aifft Ac Yn Ol

Chapter 21: PENOD XV.
Open in WeRead

Explore more books like this:

About This Book

A Welsh travel memoir recounts the author’s voyage to and travels through Egypt, combining shipboard anecdotes, diary entries, and on-the-spot sketches. It records daily life aboard ship, encounters with fellow travellers and officials, train and river journeys, and urban scenes in Alexandria and Cairo, including bazaars, mosques, and visits to ancient monuments such as pyramids and the Sphinx. Personal impressions and contemplative passages about landscape, religion, and local customs alternate with practical observations, while illustrative plates and brief descriptive chapters give the work a varied, reflective structure.

PENOD XI.

*

MEWN DALFA.

I raid i chwi fod fawr o amser y’ngwlad yr Aifft cyn y cewch eich taro gan amldra ei thrigolion. Y maent fel locustied, nid yn unig yn y trefi a’r dinasoedd, ond hefyd yn y pentrefi a’r wlad oddiamgylch. D’wedir nad yw nifer trigolion Alecsandria dros dri chan’ mil; ond wrth gerdded dros ei ’strydoedd, hawdd fydde madde’ i chwi pe haerech fod yno filiwn. Mae culni’r ’strydoedd yn peri fod y dre’n ymddangos yn llawnach nag ydyw mewn gwirionedd. Gydag ychydig eithriade, ac heb gyfri’ y rhan hono lle mae Ewropied yn byw ac yn dwyn y’mlaen eu trafnidieth, chwi ellwch boeri o un ochr i’r llall yn y ’strydoedd brodorol, a hyny heb aflonyddu ond y nesa’ peth i ddim ar gyhyre eich gwyneb. Y canlyniad yw, fod y dynion yn ’sgwyddo’u gilydd fel mewn ffair. Weithie, chwi gewch eich hunen y’nghanol y dyrfa ryfedda’ heb fedru symud cam i’r dde’ na’r aswy, y’mlaen nac yn ol, mor ddigymorth ag aderyn mewn rhwyd. Chwi aethoch i’r sefyllfa boenus yna’n ddïarwybod i chwi, a chwi ddeuwch allan o honi’r un modd. Yn sydyn, mae’r wasgfa’n cilio; ac os ydych yn bryderus o gywreingar i wybod yr achos o’r waredigeth, byddwch ar eich gwyliadwrieth y tro nesa’ y cewch eich hunen mewn sefyllfa debyg. Buan y gwelwch haner dwsin o heddgeidwed y’nghyrion y dyrfa, a buan y clywch sŵn eu pastyne’n dyfod i wrthdarawiad â nifer o bengloge ’styfnig ar eich cyfer. Rhydd hyn ollyngdod mawr cyn pen ychydig eiliade, a pharod fyddwch i ddïolch taw nid ar eich pen chwi y disgynodd y pastwn.

Soudanied yw’r heddgeidwed bron yn ddieithriad—brodorion y wlad sy’n gorwedd i’r de a’r de-orllewin o’r Aifft; a gwneir heddgeidwed o honynt ar gyfri’ eu gwydnwch a’u ’stoicieth. “Gwŷr cedyrn” ydynt o ddifri’—tal, ’sgwyddog, brest-lydan, can ddued a’r t’w’llwch, a’r duwch hwnw’n dysgleirio fel grât y gegin ar fore’ Sadwrn y’nhŷ’r wraig syber Gwefuse tewion, yn ymestyn y’mlaen, ffroene llyden, yn ymestyn yn ol o glust i glust y’mron, a dwylo fel dwy balfes gwedder. Ar y pen yr oedd cap coch, hirgul, tebyg i lestr blod’yn wedi ei droi a’i wyneb yn isa’, a thusw o’r un lliw yn rhedeg dros yr ymyl. Am y traed yr oedd esgidie o ledr, cryfion a thrwchus, yn dwyn tebygrwydd nid bychan i ddwy wagen gymedrol; a’r syndod i mi ydoedd, sut yr oedd y dynion yn gallu dygymod â’r fath garchar ar ol bod yn draednoethion erioed dros dywod yr anialwch. Rhwng y ddau eithafion yna—y pen a’r traed—yr oedd ganddynt wisg o’r un doriad ag eiddo heddgeidwed Morganwg, ond fod y botwne’n fwy. Maent i’w cael ar ben pob heol, os nad yn amlach; a chwi dde’wch ar eu traws fynyched nes eich cyfiawnhau i ame’ ai tybed nad gwylio’ch symudiade chwi oedd neges fawr eu bywyd. Ar y cynta’, wrth feddwl am hyn, tueddwn i fyn’d dipyn yn bryderus; ond mi dde’s yn gyfarwydd â’r gwŷr yn fuan. Yn wir, mi dde’s i delere siarad â dau neu dri o honynt a gerddent yn ymyl y doc. Yr o’wn wedi pigo ychydig froddege Arabaeg i fyny’r diwrnode cynta’, a defnyddiwn bob cyfleusdra a gawn i’w hawyru. Pan y’myn’d o’r llong i’r dre’ yn y bore’, cyfarchwn hwy â’r frawddeg, “Narak said,” wrth basio, ystyr yr hyn yw, “Dydd da;” a phan y dychwelwn yn yr hwyr, dywedwn, “Iltak said,” sef “Nos da:” chyfarchent fi’n ol bob tro’n siriolach nag y gwneir yn aml y’Nghymru.

Eu pechod parod yw bod yn or-swyddogol a garw pan gânt gyfle. Rhyngoch chwi a mine, hwyrach taw dyna yw pechod parod eu brodyr sy’n byw y’nes atom na’r Aifft. Yn ddystaw bach, onid dyna bechod parod pawb sy’ mewn swyddogaeth? Gan nad beth am hyny, parodd rhein dipyn o flinder i mi ar ddau achlysur yn eu hawydd angerddol i fawrhau eu swydd. I ddirwyn y benod i fyny’n brydlon a blasus, mi dd’wedaf wrthych pysut.

Rhwng y docie a’r dre’ yr oedd clwydi tebyg i’r hen dollbyrth gynt. Yn eu hymyl safe nifer o blismyn, gwaith y rhai oedd edrych na bydde nwydde trethol o un math yn cael eu smyglo drwodd o’r llonge i’r dre’, ac o’r dre’ i’r llonge. Yr ochr arall i’r ffordd, yn union gyferbyn a’r clwydi, yr oedd adeilad crwn, tebyg i dŵr castell, yn yr hwn yr eistedde dau swyddog o awdurdod dïamheuol, y rhai a agorent ac a archwilient bob pecyn a ddrwg-dybid—ac na ddrwg-dybid yn aml. Nid oedd hawl gan y bechgyn yn ymyl y clwydi, er ame’ eich pecyn, i’w agor, nac hyd y’nod i’w gymeryd o’ch llaw yn y fan hono: eu dyledswydd hwy oedd myn’d a chwi a’ch pecyn i’r tŷ crwn yr ochr draw. Ond yr oedd ambell un y’mynu rhoi cam neu ddau dros ben ei ddyledswydd, ac fe wnele fyr waith o’ch eiddo’n bur ddiseremoni o dan lyged y werin, os nad argyhoeddech ef eich bod cystal gŵr ag yntau am ei ddanedd. Gwnaed hyny â mi ddwyweth—pan o’wn y’myn’d i ddal y trên i Gairo, a phan o’wn yn dychwelyd. Ond mi achwynes arnynt y ddau dro yn y tŷ crwn, ac ni chlywsoch erioed y fath dafod a gawsant! Ceisiasant wneud yr un peth â mi wed’yn, heb fy adnabod; ond daliodd un o honynt fy llygad mewn pryd, d’wedodd air wrth ei gymydog, a gwthiasant fi’n llyth’renol i’m ffordd—megis y gwthie’r Aifftied yr Israelied gynt i’w taith. Ar ol hyny, yr wyf bron yn sicr y gall’swn smyglo faint fyd fynwn o “lâs,” a thybaco, a sigeri drwy’r clwydi o dan drwyne’r heddgeidwed, pe dewiswn, a phe bawn yn tueddu at bethe felly, heb iddynt dd’we’yd gair, ond yn falch i wel’d fy nghefn yn diflanu’n y pellder.

Pa faint roe ambell un adwaenwn am gyfleusdra tebyg!

PENOD XII.

*

TREM ODDIAR Y TROTHWY.

ON yr o’wn am amldra’r trigolion pan ddaeth yr heddgeidwed i fewn i’r fusnes—y byddai hyny’n un o’r pethe cynta’ a’ch tarawe.

Peth arall a’ch tarawe mor debyg a dim fydde amrywieth y gwynebe a’r gwisgoedd. Nid y bechgyn sy’n peryglu’r heddwch wrth geisio’i gadw yw yr unig rai sy’n gwisgo capie cochion, ond ceir hwy’n gyffredin iawn. Yr enw arnynt yw “tarbwshus,” a mi weles dri o honynt yn cael eu gwneud wrth orchymyn, yn y siop lle’r es i’w prynu. Gwisgwn un fy hun wedi’r nos yn Cairo, a thybiwn fy mod yn gwneud Arab go lew. Mae’n siwr gen i taw prin y tybie neb arall hyny. Mae’r “turban” bron mor gyffredin a’r llall. Math o ddeunydd gwỳn, neu las, neu felyn, yw hwn, wedi ei dorchi drosodd a throsodd am y penglog, a chryn lawer o fedr yn cael ei ddangos yn y gwaith. Mae gan y Mahometanied selog ystyr i’r gwahanol liwie: dynodant radde o agosrwydd ysbrydol i’r blaenor Mahomet. Gwisgir mantelli hirllaes dros y corff hyd at y traed gan y mwyafrif o’r bobl, o bob lliw yn y byd; ac am y traed, weithie sandale, ond yn amlach hebddynt. Rhwbir rhyw fath o sylwedd melyn ar wadne’r traed i’w caledu rhag y gwres, a defnyddia’r merched a’r gwragedd yr un ’stwff at ewinedd eu dwylo—i’w caledu, medd rhai, i’w prydferthu, medd erill. Fy marn i oedd taw prin oedd y prydferthwch; ond dyna, ’does dim cyfri’ i fod am chwaeth. Bid fyno, mae blaenion bysedd y boneddigese’n ymddangos yr un fath yn union a phe baent yn bwyta mêl â hwynt drwy gydol y dydd.

Ryw ddiwrnod, mi ge’s gader i eistedd arni ar ben drws un o swyddfeydd llonge Alecsandria, fel y gall’swn wylied y “llïaws cymysg” a elent heibio. Bum yno awr: ac i mi, yr oedd yn un o’r orie mwya’ difyr ac adeiladol a dreulies yn yr holl wlad.

Dyma beneth rhyw lwyth Arabedd yn pasio, naill ai mewn dwfn fyfyrdod, a’i ben ar ei frest, neu mewn hwyl herfeiddiol, a’i drwyn yn yr awyr. Fel rheol, clobyn o ddyn tal, cyfartal, prydweddol, lluniedd, ystwyth, a chryf yw’r “shêch,” neu’r peneth; ei groen yn bygddu, ei drwyn yn hir a syth, ei lyged yn fychen, duon, ac aflonydd, fel pe baent yn chwilio am elyn ar bob llaw, ei wefuse’n feinion, ei ffroene’n deneuon, ei farf yn dywyll a chwta, a’i ben yn hirgul. Crachboera wrth basio pob Ewropiad, a chwi ellwch ei glywed yn murmur melldithion ar ei ben wedi iddo fyn’d heibio. Pe cae ef a’i wehelyth eu hewyllys, ’sgubid ymeth bob ci o Gristion allan o’r terfyne cyn pen fawr amser, ac allan o’r byd gynted a hyny. Dyna i chwi deip o’r gwir Arabiad,—cydnerth, cyfrwys, creulon, coelgrefyddol.

Dyma Negröed o’r canolbarth, a mwy o’r anifel yn perthyn iddynt na dim arall: eu pene’n fawr a chrynion, eu pengloge’n gelyd a gwlanog fel gwlan y ddafad ddu, eu crwyn yn ddu a seimlyd, eu trwyne’n fflat, eu ffroene’n llyden, eu gwefuse’n dewion, a’u danedd fel ifori. Plant y cyhydedd a’r anialwch ydynt, a phrin y cânt eu hanadl y’nghanol y ’strydoedd culion.

Dyma i chwi Dwrc a’i wyneb difynegiant⁠——

Ac ar ei ol Bersiad yn ei garpie⁠——

Ac wrth ei sodle ynte un o breswylwyr Ceylon a hireth-Cymro-am-ei-wlad yn ei lyged⁠——

A dacw Chinëad a’i gynffonbleth⁠——

A’r ochr arall i’r ’stryd ŵr o Japan a’i lyged bychen hirgrwn, a’i aelie ymofyngar⁠——

A dyma Roegwr llyswenog⁠——

A Sais o filwr yn ei gôt goch yn ei ddilyn⁠——

Ac un o blant Abram yn plygu dan bwyse’r groes ro’ed ar gefn ei genedl⁠——

A morwr o Ynys Pryden yn cerdded yn ’sgwarog ar ei ol⁠——

——Hach! beth yw hwn sy’n moes-ymgrymu o fy mlaen, ac o ba le y daeth? Edrycha fel tẁr o ddillad budron parod i’w golchi, neu dẁr o garpie parod i’w llosgi. Dyma law a braich yn ymestyn dan y carpie tuag ataf, ac O! nid ydynt ond croen ac esgyrn ar y gore’. Rhytha gwyneb ’sgerbydol arnaf odditan benguwch ffïedd, a llosga dwy lamp loew y’nhylle’r llyged. Prin y mae arnaf ei ofn, a phrinach y mae arnaf ei chwant. Dealles yn fuan taw un o fegeried y wlad ydoedd, yn ei dawch a’i duchan; a haws oedd i Paul ysgwyd y wiber oddiwrth ei law, nag i mi gael gwared o’r aflendid hwn. Dosbarth sy’n nodweddiadol iawn o’r Dwyren yw ei fegeried, y rhai sy’n boen ac yn bla i’r ymwelwyr. Glynant wrthynt fel gelod. I geisio rhoi cyfeiriad arall i’w gamre, mi ro’is iddo geiniog; ond yn lle hel ei bac at ei gilydd a myn’d i’w ffordd, dal i estyn ei law wnele’r hen bechadur, gan furmur rhwng ei ddanedd, a gofyn am ragor, fel Oliver Twist. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny taw aderyn hawdd ei blyfio o’wn i, ac nid o’wn yn chwenych ei ewinedd fwlturedd, rhag iddo fyn’d y’nghyd a’r gwaith yn llyth’renol. Ond mi ge’s brawf buan fod Rhaglunieth yn gofalu am ei phlant. Dyma un o ddynion y swyddfa yn d’od allan ar y funud, pan oedd pethe’n dechre gwisgo gwedd go ddifrifol—ac ar ol deall sut oedd pethe’n sefyll, gỳr y cardotyn egr ac aflan ymeth gyda rhes o’r geirie mwya’ cyflym eu dylanwad a glywes erioed. Ni f’asech byth yn credu gynted y casglodd y crëadur ei gwbl y’nghyd, ac y symudodd ei bres’noldeb afiach o’r gym’dogeth. Afred yw ’chwanegu iddo dywallt diluw o felldithion ar ben fy nghymwynaswr, ac anghofio dïolch i mine am y geiniog a gawse.

Dacw ferched o Ynys Malta’n pasio, ac edrychent mor ’smala nes imi syllu ar eu hole’n hŵy nag y mae’n weddus i ddyn prïod wneud peth felly’n gyffredin. Yr o’ent o faintioli glew y’naturiol, ond yr oedd y fantell oedd am danynt yn gwneud iddynt ymddangos deirgwaith gyment. Nis gwn beth oedd deunydd y fantell, ond yr oedd yn sicr o fod o ddeunydd ysgafn iawn. Cychwyne am y pen fel cwcwll, yna tynid ef i mewn am y gwddf, nes yr oedd fel awyren fechan. Dyna balŵn No. 1. Wed’yn, fe rede i lawr hyd at y wâsg, tynid ef i mewn yno drachefn, nes cyfansoddi balŵn No. 2. No. 3 oedd y fwya’, oblegid yr oedd hono’n rhedeg i lawr o’r wâsg i’r ffere. Wrth edrych arnynt o’r tu ol, yr oedd y tair awyren yn ymddangos mor ddoniol o ddigri’, nes peri i mi dynu sylw a chilwg ambell i hen shêch a ele heibio, gan mor uchel y chwarddwn. Pan gydgerdde tair o honynt ochr yn ochr, cyrhaeddent o balmant i balmant; a’r peth a’m syne i oedd—os taw felly y gwisgent yn Ynys Malta, sut gebyst yr o’ent yn cael lle yno! Yr oedd modrwye ganddynt ar bob bys, hyd y’nod y bodfys, a breichlede ar arddwrn a migwrn—os nad yw sôn am freichled ar figwrn yn sawru braidd yn Wyddelig. Sut bynag, dyna fel ’roedd. A peth arall oedd yn ogleisiol: O dan yr ardderchawgrwydd i gyd, mewn sidan, a modrwye, a breichlede, yr oedd pob un o honynt yn droednoeth, heb gysgod hosan na sandal yn agos iddynt!

PENOD XIII.

*

FFAWD A FFWDAN.

AE Alecsandrida’n ddinas fawr, a’i phoblogeth dros dri chan’ mil; ond ni weles ei haner. Mae ynddi rai ’strydoedd gwychion, a llu o adeilade fydde’n gredyd i Paris; ond culion a brwnt oedd y rhan fwya’. Wedi ’sgriwio drwy haner dwsin o’r rhai cula’, a dyodde’ dirdyniade heb fesur oherwydd a’mhwylledd y gyriedydd ac arafwch y gwŷr traed i symud oddiar y ffordd, ryw ddiwrnod ce’s fy hun yn sydyn yn y Grand Square, a’r cadben hefo mi. Mae’r ’sgwâr hwn yn deilwng o unrhyw ddinas yn Ewrob. Dyma lle mae’r bancie, a’r gyfnewidfa, a’r prif fasnachdai, a’r swyddfeydd pena’, a’r gwestai gwycha’. Y’nghanol y ’sgwâr y mae cofadel i Mahomet Ali (os wy’n cofio enw’r gŵr yn iawn), un o gynfawrion y tir, a gerddi, a sedde; tra y rhuthra olwynion masnach a phleser heibio o bob tu ac i bob cyfeiriad. Cedwir y ’sgwâr yn lân a chryno, ac y mae i’r llygad fel darn o Baradwys y’nghanol yr anialwch. Allan o hono y rheda’r brif heol a elwir ar enw Cherif Pasha, ac yma de’s i gyffyrddiad â’r Cymro twym’galon a gwladgarol y soniaf am dano yn fy Rhagymadrodd. Oni b’ase am dano ef a’i frawd yn Cairo, mae’n anodd gwybod pa beth a ddaethe o honof yn y wlad bell hono. Er yn frodor o Sir Gynarfon, mae wedi enill ei blwy’ yn yr Aifft er ys agos i ugen mlynedd; a’i frawd yr un modd. Nid oes ei barchusach y’mhlith dinaswyr Alecsandria. Masnachu y mae mewn nwydde Seisnig, a’i lwyddiant yn gyfiawn ac yn sicr. Y’mhlith ei wasanaethwyr yr oedd bachgen o Gymro o’r enw Huws o Abergele, a bachgen melynddu o’r enw Selim, y rhai fuont arweinwyr i mi o bryd i bryd. Preswylia’r boneddwr ychydig allan o’r ddinas, a che’s y mwynhad o dreulio un prydnawn Sabbath o dan ei gronglwyd. Mewn “fflat” y trigai—y “fflat” ucha’n yr adeilad, yr hwn oedd yn sicrhau nen y tŷ at wasaneth y teulu. Yr oedd yn cynwys amryw ’stafelloedd, wedi eu dodrefnu’n bena’n ol y dull Dwyreiniol. Yr oedd yr holl ffenestri’n agored, a’r awel garedica’n tramwy drwy’r tŷ. Oddiar nen y tŷ ceid golwg braf ar y ddinas a’r wlad oddiamgylch; ac mewn congl gerllaw fe gane ceiliog yn Gymraeg, ac fe ymdreche iar neu ddwy glochdar yn yr un iaith. Boneddiges o Aberystwyth yw Mrs. Bryan, ac yr oedd ganddi, pan o’wn i yno, beder o’r merched bach tlysa’ fu gan fam erioed. Gwyn oedd fy myd I’r prydnawn hwnw; bydded hwythe wynfydedig byth gan yr Arglwydd.

Yr wyf y’meddwl imi ddechre’r benod hon gyda chyfeiriad at y cadben a mine y’myn’d i mewn i’r ’sgwâr yn y cerbyd ar ryw ddiwrnod, ac yr wyf y’meddwl hefyd taw’r diwrnod y glanies oedd y diwrnod hwnw. Ar ol bod yn y llong am bythefnos, yr oedd fy aelode isa’ dipyn yn chwareus, a chawn fy hun yn taro’n erbyn rhyw Ismaeliad o hyd. Anodd oedd peidio, gan mor aml y dynion a chul yr heolydd. Cymerasom y traed cyn cymeryd y cerbyd, ac wedi pasio drwy un o byrth y deyrnged, cawsom ein hunen y’nghanol y dyrfa. Croesasom y ’stryd—anturieth heb fod yn ddiberyg’, o herwydd y cerbyde o bob math a chwim-basient i fyny ac i lawr. Heb fod nepell oddi-yma y mae palas y Khedive, brenin yr Aifft. Gorchuddia ddarn mawr o dir, ac nid oes dim yn brydferth ynddo. Llanastr o dŷ isel ydyw, yn wỳn i gyd drosto, yn ffenestri bob tamed o hono, ac yn gwynebu i’r môr. Yr oedd yn anodd dal i edrych arno, gan fel yr oedd yr haul yn t’w’nu ar ei furie gwynion a’i ffenestri gloewon. Nid yw y brenin yn byw yma’n barhaus. Yn Cairo y mae ei brif balas; ond pan ä’n rhy boeth i fyw yno’n gysurus, symuda i Alecsandria, i gael y fantes o awelon y môr. Dilynir ei esiampl gan y rhan fwya’ o’r mawrion. Troisom ar y dde i heol gul, oedd yn llawn siope, a swydd-dai, a cherbyde, a phobl, a phlant. Yr oedd yr heol guled fel, pe safech ar ei chanol, y gallech ysgwyd dwylo’n dalïedd â’r dynion oedd bob ochr i chwi. Yr oedd lled llaw o balmant yn rhedeg gyda’r ochre’ ond camp i chwi fydde sefyll arno am ragor nag eiliad. A phan wthid chwi oddiarno gan rywun neu gilydd un foment, gyrid chwi’n ol y foment nesa’ gan ryw Jehu a fygythie redeg drosoch. Yr oedd siope agored bob ochr i’r ’stryd, tebyg i stondine ffeirie Cymru, yn y rhai yr oedd pob math o nwydde, a dau neu dri o beryt yn crogi wrth eu cewyll oddiallan, ac yn ’sgrechen Arabeg i dynu sylw’r dyrfa. A mi wna lw nad oedd sylw neb yn fwy effro na f’eiddo i.

I b’le bynag y crwydrwn yn Alecsandria, deuwn yn ol, fel swllt drwg, i’r llong erbyn pob hwyr i gysgu. Weithie’n gynar, weithie’n ddiweddar: dibyne hyny ar hŷd y daith am y diwrnod, ac ar y cwmni, ac ar yr amgylchoedd y cawn fy hun ynddynt. Nid o’r un cyfeiriad y deuwn bob tro, ac nid ar fy nhraed y byddwn bob amser. Dïogelach oedd llogi cerbyd pan fydde wedi myn’d yn hwyr iawn, er hwyrach y byddem yn ddau a thri mewn nifer. Gwneud cilwg gâs ar dramorwr o’r Gorllewin mae dosbarth o’r Arabied, ac ysgyrnygant ddanedd arno pan dybiant y gallant wneud hyny a bod yn groeniach. Ymddygant felly liw dydd gole’; afred yw d’we’yd eu bod yn fwy haerllug liw nos pan gânt gyfle. Ni fum i heb gwmni’n cerdded i’r llong gyment ag unweth, ond bum yn un o ddau gryn ddwsin o weithie; ac er na ddigwyddodd i mi na niwed nac anffod yn y gwibdeithie nosol hyn, mi ge’s beth braw ragor na siwrne. Bernwch chwi.

Yr oedd y cadben a mine wedi bod ar ein hynt yn rhywle, ac wedi cael ein hunen rywbryd gyda’r nos, rhwng dau ole’, yn bur bell o’r fan lle’r oedd y llong yn gorwedd, ac wedi blino heb gellwer: y gwyneb a’r dwylo’n ’stiff gan lwch a haul, y pen yn poeni, a’r traed yn poethi—yr o’em wedi myn’d i hercian fel dau drempyn er’s meityn, ac yn hiraethu am y caban bach yn y llestr, er lleied oedd. Drwy ryw gydymdeimlad cyfrin, daethom i ddeall beth oedd prif angen y naill a’r llall yr un pryd; a’r canlyniad oedd, ini alw’n dau yr un pryd ar gerbydwr a ele heibio, yr hwn, ar ol cymeryd arno ei fod yn gwybod y cwbl ac yn deall rhagor, a’n cymerodd o’r fan hono yn ei gerbyd. Ac O, gyfnewidiad cysurus! Rhoisom raff i’n mwynhad, a buom ddall, mud, a byddar i bobpeth arall am ysbed chwarter awr. Tybiaf ini dd’od ’nol i’n hamgylchoedd agosa’ tua’r un adeg. Beth bynag, tynodd y cadben fy sylw i at gymeriad amheus y gym’dogeth yr aem drwyddi, a thynes ine ei sylw ynte at gymeriad amheus y gyriedydd a eistedde o’n blaen.

“Nid dyma’r ffordd i’r doc!” ebe’r cadben.

“Nid hwn yw’r dreifer a logasom!” ebwn ine.

Yr oedd y cadben y’nes i’w le na mi. Gwge hen furddynod hagr arnom ar bob llaw, sarheid ein ffroene diniwed gan arogliade amryw a dieithr, a merwinid ein clustie gan gri begeried. “Bwrw tân” atom y bydde ambell i lygad wrth basio; ac er galw ar Jehu, ni chymere arno’n clywed, ond gyru’n ynfyd a wnai. Y’mhen hir a hwyr, daethom at ffordd haiarn, ac yr oedd yn rhaid ei chroesi neu droi’n ol. Er fod y clwydi’n gauad, nid oedd na thrên na pheiriant yn y golwg. Disgynodd Jehu i agor y clwydi o’r ochr hyn, ac wedi arwen y ceffyl a nine i ganol y cledre, dyma chwibaniad! a dyma’r swyddog oedd yn gofalu am y groesffordd yn d’od allan o’i focs, yn cydio y’mhen y crëadur o law’r crëadur arall, ac yn gollwng allan y diluw mwya’ ’sgubol o fras hyotledd. “Tra yr oedd hwn yn llefaru,” dyma ruthr o gyfeiriad y clwydi cyferbyniol, lle’r oedd dynion a cherbyde ganddynt yr ochr arall, ac yn disgwyl am gyfleusdra i groesi. Heb estyn dim at y ’stori, yr oedd yno gryn haner cant o’r tafode grymusa’, yn cael eu helpu gan draed, a dwylo, a llyged, a danedd, duon a gwynion, fflachiade mellt y’nghanol caddug—y cerbyd, a nine ynddo, ar ganol y rheilie—dim posib’ myn’d y’mlaen, dim siawns i fyn’d yn ol—trên yn ymyl a’i beiriant yn ’sgrechen ei anadl allan—a’r Pandemonium mwya’ cysurus o amgylch ogylch! Golygfa i’w chofio ydoedd. Deallem eu bod oll y’mhen ein gyriedydd ni, ond haws oedd deall iaith gwydde Cymru amser Nadolig, na iaith y gwerinos hyn. Yr oedd gwyneb y cadben wedi newid ei liw droion, ac nid oedd fy ngwep ine ronyn gwell, mi wn. Yr oedd e’ o’r farn taw gwell oedd disgyn; barnwn ine taw gwell oedd ini lynu wrth y cerbyd, ar dir rheswm a ’sgrythyr. A dyna fu ore’. Wedi ymryddhau o’r criw ’stwrllyd, a chael llwybr clir drachefn, cawsom ddigon o achosion i ddïolch taw nid ar ein traed yr o’em. Yr oedd y cerbydwr wedi colli’r ffordd cyn cyredd y clwydi, a chollodd ei ben wed’yn; y canlyniad oedd, ini gael awr arall o chw’sfa cyn cyredd y doc, rhwng ofn a phryder a phobpeth. Chwarddasom yn galonog y noson hono, ar ol ini gael ein traed ar ein tomen ein hunen.

Pan o’wn wedi bod yn treulio’r prydnawn Sul hwnw gyda’r ffrind o Gymro y sonies am dano, tua chwech o’r gloch mi feddylies ei bod yn bryd i mi gychwyn yn ol, os o’wn am gael odfa bregeth yn y Sefydliad i’r Morwyr, yn ol y cynllun. Yr oedd genyf awr o amser wrth gefn. Cymerodd fy nghyfell boen i’m cyfarwyddo sut i gael gafel ar y tram, ond bum yn hir cyn d’od o hyd iddi. Cerddes fwy na mwy, ac er holi, nid oedd neb yn fy neall, na mine’n deall neb. O dïolch, dyma hi o’r diwedd—ond mae hon yn rhy lawn i gynwys rhagor. Gadewes iddi fyn’d, ac aroses am y nesa’. Wel, wel, mae hon yn llawnach na’r llall, ac yn colli drosodd o ddynion! Rhaid imi dreio bachu’r drydedd, neu ffarwel i’r odfa. Neidies i fyny, a ches led troed ar y grisyn i sefyll. Ni welsoch gynifer o bobl erioed mewn un cerbyd. Dringent ar hyd ei ochre fel gwybed. Yr oedd yn rhaid i’r tocynwr dreisio’i ffordd drwy’r dyrfa, a synwn at ei amynedd. Mor bell ag y gall’swn wel’d, myfi oedd yr unig ddyn gwyn o fewn i’r lle; a mi’r o’wn getyn gwynach nag arfer hefyd. Dywedase fy nghyfell wrthyf fod y tram y’myn’d drwy’r Grand Square, a llygadwn am hwnw’n bryderus. G’yd y deuem iddo! Tybed fy mod wedi camgymeryd y cerbyd! Ond para i redeg a wnae ar hyd heolydd culion—mor gulion, nes peri i mi wasgu fy hun yn erbyn ochr y cerbyd rhag fy ’sgathru gan y murie. Mi benderfynes lynu wrtho b’le bynag yr ae, deled a ddele i’m cyfarfod. Cofiwn i hyny dalu’r ffordd imi’n ddiweddar. Mi ofynes i’r swyddog fy ngosod i lawr yn ymyl y Gabara, neu’r carchar. Nid am fy mod wedi bod ynddo, ond am y gwyddwn fy nghyfeiriad oddiwrtho. Eithr ysgwyd ei ben a dangos ei ddanedd wnae’r swyddog pan dd’wedes y gair, ac y mae mor debyg a dim nad o’wn yn ei seinio’n briodol. O’r diwedd, dyma’r ’sgwâr, a dyma ben ar fy mhenyd ine. Milldir arall, a disgynes ar gyfer y Gabara; ac ar ol ugen munud o gerdded cyffrous, mi gyrhaeddes y Sefydliad yn brydlon erbyn y bregeth.

Yr ochr nesa’ i’r ddinas o’r tollborth sy’n arwen o’r docie mae tua dwsin o dafarne, isel y’mhob ystyr, y rhai sy’n byw’n bena’ ar arian a dillade’r morwyr. Cedwir nifer o sharcied ar lun dynion yn y tylle hyn, a denant Jac i fewn; yna dygir ei synwyre oddiarno gan y gwenwyn a ŷf, a theflir ef allan i’r heol agos y’noethlymun. Dilynodd dau o’r giwed hyn myfi ac un arall un noson am bellder ffordd, a chynyddent mewn beiddgarwch er gwaetha’n protestiade. ’Doedd dim i wneud ond troi arnynt. Prynaswn ffon o groen rhinoceros ychydig cyn hyny, a phan y bygythies hwy â hono, ciliasant yn eu hole fel dau whelpyn wedi eu curo. Da i mi na wyddent beth dd’wede fy nghalon!

PENOD XIV.

*

AR GRWYDR.

ERBYD sy’ mewn bri mawr yn yr Aifft yw yr un y gelwir arabeyah arno. Tebyga i hansom cab ein gwlad ni, ond ei fod yn ysgafnach na hwnw, a’r gyrwr o’ch blaen yn lle o’ch ol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich dwyn i gyffyrddiad a’ch gilydd yn y benod flaenorol. Mae canoedd o honynt i’w cael yn y prif drefi, a’r oll yn gyfrifol i’r Llywodreth. Maent wedi eu rhifo’n ofalus, a’r gyrwyr hefyd, yr un modd a nine. Eto, prin yr anturiech i ambell un o honynt, gan mor ddigymeriad yr ymddengys y cerbyd a’r cerbydwr. Ac os anturio wnewch, yr ydych yn y purdan c’yd ag y byddwch ynddo. Mi allwn dybied nad oes yno un ddeddf yn gwahardd ac yn cosbi gyru eithafol. Paradwys i “yrwyr ynfyd” o ddosbarth motorwyr a dwy-rodwyr y Gorllewin; ac ni fydde gan aml i amaethwr wrthwynebiad i ryddid gogoneddus o’r fath wrth ddychwelyd o’r dre’ brydnawn Sadwrn. Y syndod i mi oedd, sut na fase llawer yn cael eu hanafu a’u lladd, yn enwedig o blant, gan mor llawn a chulion y ’strydoedd, a chan mor ddireswm y gyrid. Ni chlywsoch y fath Babel erioed ag sy’ rhwng y gyrwr yn dirwyn ar y ceffyl ac yn gwaeddi ar y dyrfa i symud oddiar y ffordd, ar y naill law, a’r dyrfa hithe yn tywallt anatheme ar ei ben, ar y llaw arall.

Pe gallech feddianu eich hun i gymeryd ’stoc o’r amgylchoedd, deuech yn fuan i fod o’r farn taw un o’r cyfrynge gore’ i wel’d bywyd cyffredin y bobl yw yr arabeyah. Yr ydych yn eu canol, ac eto’n ddidoledig oddiwrthynt. Ond bydd chwarter o ysgol, a d’we’yd y lleia’, yn ofynol cyn y llwyddwch i gyredd y ’stad ddymunol yna. Rhaid i mi gyfadde i mi fethu. Y tro cynta’r es iddo, yr oedd yn ferthyrdod perffeth. Sôn am ’storm ar y môr! Yr oedd yn felus o’i chymharu â chwarter awr mewn arabeyah! Ni weles neb mor ddibris o einioes a meddiane.

Yr wyf wedi sôn am olwg ddiolwg y cerbyd a’r cerbydwr; mae’n ddrwg genyf orfod d’we’yd am y ceffyl, nad oedd ynte, druan, ddim gwell. Yr oedd edrych arno ef, a’i gyd-grë’duried yn dwyn i’m cof bob ’stori a glywes am geffyle tene erioed. Cofiwn am y gŵr cyflym hwnw a basie heibio i efel gôf pan oedd ceffyl yn aros i’w bedoli. P’run ai sefyll ai gorwedd oedd y crëadur, mae’n anodd d’we’yd gan mor dene ydoedd.

“Ai dyma lle ma’ cyffyle’n ca’l u gneud?” gofyne’r gŵr cyflym i’r gôf.

“Eu gneud!” ebe mab Vulcan, heb wel’d yr ergyd; “bewt ti’n feddwl?”

“O, dim ond ’mod i’n gwel’d ffrâm ceffyl yn y fan yma, dyna i gyd!” ebe’r arabus; a ffwrdd ag e’. Gyda llaw, fe dd’wedwyd i mi fod y gôf hwnw heb wel’d yr ergyd byth! Un go dew ei fenydd yw ambell i ôf, ysyweth.

Sonie Kilsby am gi oedd mor dene nes ei bod yn angenrheidrwydd poenus arno i bwyso yn erbyn y wàl bob tro y cyfarthe!

Pan o’wn yn byw ar Gefncoedcymer, yr oedd yna bydler yn gweithio y’ngwaith y Gyfarthfa a chanddo gi can deneued a’r teneugi teneua’ a welsoch mewn deng mlynedd. Llusge’r ci ar ol ei feistr i’r gwaith bob dydd. Gofynodd rhywun iddo—nid i’r ci, ond i’r pydler:

“B’le ce’st ti’r ci ’na, Ianto?”

“Dw i ddim wedi ga’l o yto,” ebe Ianto.

“Sut hyny, bachan?”

“O, d’od ma’s yn rhana’ ma’ fa,” ebe’r pydler. “Pan ddaw a ma’s i gyd, mi fydd yn gyfrol biwr ddigynyg!”

Perthyn i’r dosbarth yna o bedwar-carnolion ysgerbydol yr oedd y ceffyl a lusge’r cerbyd y bum i ynddo ar un achlysur yn Alecsandria. Tebyg i’r buchod a welse Pharo’n ei freuddwyd—drwg yr olwg a chul o gig. Yr oedd ffrewyll y gyrwr ar ei wàr a’i ochre’n ddibaid, a’i lais cryglyd yn gwaeddi ar y bobl am droi o’r neilldu’n ddïatal. Lletye ’nghalon yn fy ngwddf c’yd ag yr eisteddwn o’r tu ol iddo. Gwelwn ddynion a merched yn cael eu gwasgar o’i flaen fel haid o ddefed; a chauwn fy llyged yn dỳn pan dybiwn fod cerbyd arall y’myn’d i’n rhedeg i lawr.

Yr unig dro y mwynhês i fy hun mewn arabeyah oedd pan aeth y cadben a mine am ddarn diwrnod allan o’r dre’ i wel’d Colofn Pompi, y Bedde Tanddaearol, Gerddi’r Brenin, glane’r Nile, a Ramle, un o’r maesdrefi. Ac am y tro hwnw yr wyf y’myn’d i sôn yn awr.

Heblaw Jehu, llogasom ddyn o’r enw Moses yn arweinydd i ni; ac yr oedd yr enw a’r swydd yn taro eu gilydd i’r dim. Arabiad oedd Moses, ac arno ef yr oedd gofal y llong yn y nos c’yd ag yr oedd yn y doc. Edryche’n frwnt ddiraen wrth ei waith, ond y prydnawn hwn yr oedd wedi ymbincio’n anghyffredin; yr oedd ei wisg yn wèn fel eira, a’i ymddangosiad yn foneddigedd dros ben. Efe oedd yr unig Arabiad a glywes yn ceisio siarad Cymraeg; ond cystal i mi ei dd’we’yd a pheidio, nid oedd ei eirie’n yr hen iaith mor ddewisol ag y b’aswn yn caru eu bod. Yr oedd ganddo ddwy wraig a thri o blant. Bydde’r prif swyddog yn hoff o gellwer ag ef.

“P’sawl gwraig, Moses?”

“Dwy.”

“P’sut wyt ti’n gallu rheoli dwy, a fine’n methu rheoli un?”

“Rhoi un i ofalu am y llall, a fine i ofalu am hono,” ebe Moses.

“Faint o blant sy’ genti?”

“Tri.”

“O, un-a-haner bob un, ai e? Oes cynffone gyda nhw, Moses?”

“Nag oes,” ebe’r Arab yn syn.

“Siwr o fod—mwncis bach ydyn’ nhw, Moses,—chwilia di am u cynffone nhw heno!” Ni ddangose Moses gysgod anfoddlonrwydd i’r cateceisio manwl hwn, ond fe ddangose’i ddanedd gwynion mewn llawn tymer dda.

Y lle cynta’ y daethom iddo oedd Colofn Pompi a’r Bedde. Un darn anferth yw’r Golofn, sydd yn peri i chwi synu sut y gosodwyd hi ar ei phen erioed. Un o gadfridogion Rhufain oedd Pompi, yn byw oddeutu haner cant o flynydde cyn Crist. Ai ganddo ef ei hun, ynte gan rywun arall er cof am dano, y codwyd y golofn, ’does neb a ŵyr. Ond mae’n sicr o fod yn hen iawn, fel bron bobpeth sydd yn y wlad ’rwy’n traethu am dani.

Yn ymyl mae’r Catacombs, neu’r Bedde Tanddaearol. Yn gynta’, eir i lawr ddeugen o risie’n yr awyr agored; yn ail, eir i fewn yn sydyn i fath o dwnel; ac yn drydydd, disgynir yn raddol wrth ole’ canwylle nes y deuir i d’w’llwch y gellir ei deimlo. Tybir taw’r Crist’nogion Coptaidd cynta’ gleddid yn y bedde hyn; ond mae’r cyrff oll wedi eu symud i’r Amgueddfa yn Alecsandria. Mi weles nifer o honynt yr un diwrnod wrth ddychwelyd. Y bedde’n unig oedd yma. Math o dylle hirgul oedd y rhein, wedi eu gweithio i fewn i’r ochre, ac i’w cael ar bob llaw i’r llwybre. Mae’n hawdd i ddyn golli ei ffordd yn y dyrysle hwn, ac oni bai fod genym arweinydd lleol,—ein harwen at y lle’n unig wnai Moses,—mae’n amheus genyf a wele’r cadben a mine ole’ dydd drachefn. Wesul tipyn, daethom i ’sgwâr, o’r hwn yr oedd yr holl lwybre’n rhedeg, ac i’r hwn y dychwelent. Ar ganol y ’sgwâr yr oedd careg anferth o dywod wedi caledu, a throsti yr oedd canoedd o enwe wedi eu ’sgriblo gan bersone fuont yno, fel fy hunan, yn aberthu i dduw henafieth. Ar ol chwilio am damed glân, tores ine f’enw y’mhlith y llu, er afrwydded oedd. Yr oedd hyn yn fwy o gamp nag a feddyliech; ac wedi gorffen, dyhewn am dd’od o’r twll myglyd i anadlu awyr iach Duw’r Nefoedd. Pan ddaethom allan, yr oe’m yn chw’su fel tanwyr, yn chw’thu fel cŵn ar wres mawr, yn wincio ar yr haul fel dallhuanod, ac yn siglo fel dynion wedi meddwi. Ac wedi meddwi yr o’em ar beth gwaeth na chwrw a licwr,—ar awyr wenwynig, yr hon y buom awr gron gyfan yn drachtio o honi.

Ffwrdd a ni wed’yn i gyfeiriad yr afon, a buom yn olwyno gyda’i glane am hir ffordd. Yr ochr arall iddi yr oedd canoedd o fwdgabane, a dynion yn ymolchi ynddi ac yn yfed o honi. Yr ochr hyn iddi yr oedd gerddi gorwych, pyrth henafol yn arwen i mewn i balase teg, ac hyd y’nod i hen furddyne adfeiliedig. Gwelwn ambell i fad afrosgo’n croesi, ac weithie’n glynu’n yr hesg. Tyfe’r hesg yn dew ac yn uchel dros rane o’r afon,—mor dew ac mor uchel nes cuddio peryg’ i’r ymdrochwyr a’r gwehynwyr dwfr. Welwch chi’r tamed tywyll acw sydd yn edrych fel darn o bren pwdr y’nghanol y llafrwyn? Ha! dyna fe’n symud, ac yn llithro’i lawr i’r dw’r. Beth yw hwna, Moses? Dyna un o grocodilied yr afon, y rhai a ddeuant i lawr can ised a hyn yn amser newyn, a’r rhai a addolir gan y bobl fwya’ anwybodus, fel na wnant ddim iddynt i achub eu bywyd eu hun na bywyde eu gwragedd a’u plant.

Ar ol teithio tair milldir neu ragor gyda glàn yr afon, troisom i fewn i erddi’r Brenin. Maent yn eang ac yn ffrwythlon, ond mor afler a’r tamed gardd sydd genyf fi y tu cefn i’r tŷ lle’r wyf yn byw. Ceir ynddynt goed palmwydd wrth y miloedd, yn enwedig y date-palm. Tŷf y rhai’n yn dalion iawn. Mi weles ddynion yn rhedeg i fyny i’w brige ucha’ fel gwiwerod, i’w talfyru. Rhwymant wregys cryf am eu canol, ac am y pien, ac esgynant mewn cyfres o herciade. Mae yma hefyd nifer fawr o goed ffigys a banane. Nid hir y buom cyn myn’d i’r Amgueddfa i wel’d y cyrff fu’n gorwedd ar yr estyll yn y Bedde Tanddaearol. Ni ddeil hon i’w chymharu âg Amgueddfa Ghizeh, yn Cairo. Ei phrif nodwedd oedd hyfdra’r swyddogion ofalent am dani. Codent dreth arnoch am gael anadlu ’mron, a bu gorfod i mi siarad tipyn o Gymraeg â hwy cyn iddynt dewi, er mawr ddifyrwch y cadben. Cafodd amgenach dylanwad arnynt hwy nag a gafodd ar hen sipsiwnen wrth draed y Pyramidie, am yr hon y cewch glwed eto. Bu’r hen iaith o fantes anrhaethol i mi ragor na siwrne. Yr oedd y cnafon yn deall acen a goslef y Sais a’r Ffrancwr; ond nid oedd ganddynt syniad am dafodieth Cwm Rhondda, a gosodwn y diffoddydd arnynt mewn byr amser.

Aethom allan i’r wlad drachefn, o dan gysgod y palmwydd am filldiroedd, nes d’od i Ramle’, un o faesdrefi Alecsandria. Dyma lle mae’r bendefigeth yn byw, a braf yw eu byd. Erbyn hyn yr oedd yn dechre’ nosi, a throisom yn ein hole. Pan gyrhaeddasom y llong, yr o’em ein dau mor newynog a bleiddied ar amser eira, ac mor flinedig a phlant sy’n talu ’mlaen am eu gwely wrth chware’ ar hyd y dydd.

A d’wedwch chwi os na fum yn crwydro y diwrnod hwnw.

PENOD XV.

*

YN Y TREN I GAIRO.

AE gwel’d trên yn yr Aifft yn ysbeilio’r wlad henafol hono o swm nid bychan o’r gogoniant gysylltir â hi’n gyffredin, ac â phob gwlad o’i bath. Bid siwr, ceir ynddi gamelod ac asynod, ychen a dromedaried, y’nghyda phedwaried cyffelyb; ond ceir ynddi drên hefyd, ac y mae hwnw’n Gorllewineiddio pethe’n anghyffredin. Ac eto, oni bai am y trên, sut y galle teithwyr glirio cyment o dir mor ddidrafferth, a gwel’d cynifer o ryfeddode mewn can lleied amser? Yr oedd y pryd hwnw’n rhedeg i Cartŵm, pellder o ddwy fil o filldiroedd; ac y mae wedi rhedeg bwer y’mhellach oddiar hyny. Tebyg yw na orphwysa mwy nes y tramwya o eitha’r Gogledd i eitha’r De. Pan yn codi tocyn o Alecsandria i Cairo, mi ofynes o gywreinrwydd pa faint a gostie tocyn o Alecsandria i Cartŵm un ffordd: a be’ feddyliech oedd yr atebiad? “Deg punt ar hugen!” Mi wnes fy meddwl i fyny’n union taw gwell i mi oedd peidio myn’d mor bell a hyny y tro hwn, gan’ad sut y bydde wed’yn. Gorwedda dros chwech ugen milldir o dir gwastad i’r llygad rhwng Alecsandria a Cairo, a rhedasom y pellder yna, neu rhedodd y trên a ni, mewn teirawr, yn gwneud cyfartaledd o ddeugen milldir yr awr. Pan gofiwch nad yw’r peiriant na’r peirianwyr i fyny y’mhopeth ag eiddo’n gwlad ni, chwi gydnabyddwch ini redeg yr yrfa’n òd o ebrwydd. Mi dybia’ fod y daith hon yn werth penod, ac felly cychwynwn yn ddiymdroi.

Codir y tocyn o’r tu allan i’r orsaf: ni cheir mynediad i mewn hyd y’nod i’r ystafell aros, heb sôn am y platfform, heh docyn teithio. Hyny yw, at wasaneth teithwyr, a theithwyr yn unig, mae’r orsaf yn Alecsandria. Cyflwynaf y wers i awdurdode rheilffyrdd y wlad hon. Nid yw Cairo cystal. Mae tri dosbarth yn perthyn i drên yr Aifft fel trên Lloegr, gyda hyn o wahanieth,—nid yw’r trydydd i’w gael gyda’r cyntaf a’r ail. Ymffurfia hwnw’n drên ar ei hen ei hun. Ce’s gip arno pan yn aros yn un o’r gorsafe, a thebygwn ef yn fy meddwl i drycie dâ’r T. V. R. ugen mlynedd yn ol! Es i fewn i gerbyd o’r ail ddosbarth. Mae tri neu bedwar o’r rhein mor agos gysylltiedig â’u gilydd, fel y gellwch gerdded yn gysurus o un pen i’r naill i’r pen arall i’r llall. Mae llwybr i’w gael o bwrpas i’r perwyl. Rhwng pob cerbyd mae platfform isel, i fyny’r hwn yr ewch wrth fynd i fewn, ac ar yr hwn y gellwch sefyll, os dewiswch, ac os na thry eich pen yn Brotestant, c’yd ag y mynoch, yn yr awyr agored, ac heb ddim rhyngoch a’r wlad oddiallan. Bum yn sefyll arno droion am amser hir, a mi dd’wedaf wrthych yn union pa’m.

Yr oedd y trên yn llawn o deithwyr, ac ni fum yn cyd-drafaelu â theithwyr rhyfeddach yn fy nydd erioed. Brodorion y wlad o’ent gan mwya’, yn dduon, a melynion, a chochion,—a budron hefyd lawer o honynt. Eisteddent ar y sedde a’u traed odditanynt fel teilwried, ac ysmygent sigreti’n ddidor. Ychydig sylw wnaent o’u gilydd, a llai fyth o’m siort i, os na fydde eisie tân arnynt; dïolchent am fatsen fel pe bai ffortiwn. Bum am ysbed heb wel’d neb arall, a thybiwn taw myfi oedd yr unig ddyn gwyn yn y lle,—er y gell’sid ame’ fy lliw ine. Ond mi gwrddes â dau Ellmyniad yn fuan ar fy hynt drwy’r cerbyde, y rhai a edrychent can wyllted a geifr ar darane. Yr o’wn wedi eu gwel’d o’r blaen y’ngerddi’r Brenin yn Alecsandria. Wrth eu clywed yn ymddifyru gyda’r “ch,” mi ofynes iddynt yn Gymraeg:

“Ai sych yr ymbesychasoch?”

Ond edrych arnaf mor hurt a lloi a wnaent. Treies wedy’n:

“Ai chwech-a-chwech yr un a roisoch am berchyll bychen cochion eich hwch goch chwychwi a’ch chwaer?”

Bobl anwyl! Dyma’r gafod greulona’n dilyn mewn atebiad, nes y bu gorfod i mi droi at ryw hen “shêch” a eistedde gyferbyn â mi am amddiffyniad, yr hwn oedd yn dangos ei ddanedd fel pe’n deall y cwbl.

Yr oedd digon o ffenestri yno i foddloni ffatri, ac yr o’ent oll yn agored. Y canlyniad oedd fod y gwynt mwya’ dïarbed yn tramwy pob cwr o’r trên, yn cario lon’d ei gôl o dywod, ac yn ei daflu i’ch llyged ac ar draws eich dillad mor ddiseremoni a phe baech wedi rhoi archeb am y cwbl. Lle ofnadwy ydoedd i ddyn oedd yn ferthyr i’r ddanodd! Weithie, fe ddeue’r gwynt gyda’r fath ruthr direidus nes dynoethi’ch pen, oni fyddech ar eich gwyliadwrieth. Gwnaeth hyny â mi siwrne, a bu mor anfoesgar a bwrw fy nghapan i wyneb yr hen “shêch” y sonies am dano. Bu raid i mi wneud ymddiheurad i hwnw drosof fy hun a’r gwynt, a’r aberth cymod oedd haner dwsin o “fatsus.” Dyna pa’m y safwn am ysbed ar y platfform, i gael llai o wynt a mwy o gysgod. Ond ’roedd yno ddigon wed’yn i droi meline Sir Fôn bob un! Gwell oedd peidio ffraeo âg ef, oblegid yr oedd meddyginieth yn ei esgyll oddiwrth wres a phob drwg-arogl.

Yn rhyfedd iawn, ni welwn un o’r “rhyw deg” yn un man wrth gychwyn, dim ond dynion geirwon lle bynag yr awn. Ai tybed fod merched yr Aifft yn fwy ceidwadol na’r dynion, gan ddewis yn hytrach lynu wrth yr asyn a’r camel na chymeryd eu llusgo wrth gynffon yr agerbeiriant? Ond cyn cyredd Cairo, mi ge’s allan fod ganddynt hwy eu cerbyd eu hunen, a gwae’r crëadur y gelwir “dyn” arno fuase’n anturio i’w presenoldeb! Y fath chwedleua raid fod yn y cerbyd hwnw! Oblegid mae’r foneddiges o’r Dwyren mor hoff o ’stori ag yw ei chwaer o’r Gorllewin am ei danedd.

Sut yr edrycha pethe oddiallan? Drwy ba fath wlad y teithiwn? Wel, mae pethe oddi allan mor hynod ag yw pethe oddifewn. Nid trwy ganol caëe gwair a meusydd llafur, coed a pherthi, mynydde a brynie, heirdd drefi a harddach pentrefi y teithiwn, fel pe bawn y’Nghymru, ond dros wastadedd o dywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr. Pasiwn heibio i wmbredd o bentrefi, yn fwy ac yn llai, a ’doedd dim yn hardd ynddynt i lygad a chwaeth Cymro. Tomene o laid wedi sychu’n yr haul nes bod fel y gallestr—nen y tŷ’n fflat, lle mae dillade’n crogi, dynion yn gorwedd, a ffowls yn ffraeo—yr ochre wedi eu rhidyllu bob hyn-a-hyn, y tylle mwya’n golygu’r dryse, a’r tylle lleia’n golygu’r ffenestri. Plant yn chware’ heb bilin yn eu cylch i’w cloffi—y mame’n clebran â’u gilydd yn y cywer C dwbl—y gwŷr yn ceisio dal pen rheswm â’u hasynod a’r asynod y’methu cydwel’d. Ychydig o balmwydd talion yn ysgwyd eu dail uwch eu pene, a’r amgylchoedd pell ac agos yn cyfranogi’n bena’ o dywod, a mwd, a dwfr—tywod, a mwd, a dwfr.

Dyna’r pentrefi; a’r unig wahanieth rhyngddynt a’r trefi oedd fod yr ola’n domene mwy eu maint. Ymsaetha pinacl y “mosc” i fyny o ganol y pentre’ gwaela’, ac y maent i’w gwel’d yn y trefi draw bron can amled a’r tai. Heb fod nepell o’r pentrefi agosa’, gwelwn ddarn o dir wedi ei gau i fewn, a chodiade trefnus a chyfartal dros y rhan fwya’ o hono. Wedi imi gael esboniad, mi ddealles taw mynwentydd o’ent, y rhai a gedwir gan yr Arabied lawer glanach na’u tai. I dori’r unffurfieth, gan fod yn help i’r llygad orphwys, fe ddeue i’r golwg weithie gaëe gleision o ryw fath o borfa i ddyn ac anifel. Ymddangose’n dehyg i’r llysie y gelwir “berw’r dw’r” arnynt; a mi weles sacheidie o hono wed’yn yn Cairo gan yrwyr anifeilied, y rhai a’i bwytaent bob yn ail a’u gilydd, a’r naill mor awchus a’r llall.

Trwy gydol yr amser yr oedd miloedd o bobl yn pasio i fyny ac i lawr—llu ar draed, lluaws ar anifeilied, a lluoedd mewn cerbyde o bob math—a neb yn brysio, ond pawb yn ysgafala. Gwelwn y Nile o hyd, ac ar y cynta’ cawn fy nyrysu gan ei thröade sydyn a diddeddf. Bron na wnai imi gredu ei bod y’mhobman yr un pryd. Ond pan gofies fy mod y’myn’d drwy ei delta, a bod iddi saith tafod o’r pen meina’ i’r pen lleta’, sef o Gairo i’r môr (yn ol yr Ysgrythyre), darfyddodd fy nyryswch yn y fan. Yr afon ryfedda’n y byd yw’r Nile. Yr un ffurf yn union sydd i’r Pyramidie ag sydd i ddelta’r afon: ai tybed taw oddiwrth yr ola’ y ca’dd cynllunydd y blaena’ ei syniad? Tra’r o’wn mewn syn-fyfyrdode o’r natur yna, dyma gyffro y’mysg y teithwyr—mae’r trên yn arafu—ac heb ragor o ragymadrodd, ce’s fy hun y’ngorsaf Cairo. Yn siwr i chwi, nid wyf bell o dŵr Babel o ran lle nac amser. Nid oedd genyf ond un celfigyn yn fy llaw, eithr ymestyne cant o ddwylo duon am dano. Yr oedd pawb yn siarad ond myfi, ond yr wyf y’meddwl taw myfi oedd yr unig un oedd yn gwrando. Syllwn hefyd o’m cwmpas yn bur bryderus am y gŵr oedd wedi addo fy nghyfarfod; a phan oedd fy nghalon ar fin cychwyn ei thaith i lawr i gym’dogeth f’esgidie, clywn rywun yn gwaeddi:

“Ai Cymro ydych?”