WeRead Powered by ReaderPub
I'r Aifft Ac Yn Ol cover

I'r Aifft Ac Yn Ol

Chapter 25: PENOD XIX.
Open in WeRead

Explore more books like this:

About This Book

A Welsh travel memoir recounts the author’s voyage to and travels through Egypt, combining shipboard anecdotes, diary entries, and on-the-spot sketches. It records daily life aboard ship, encounters with fellow travellers and officials, train and river journeys, and urban scenes in Alexandria and Cairo, including bazaars, mosques, and visits to ancient monuments such as pyramids and the Sphinx. Personal impressions and contemplative passages about landscape, religion, and local customs alternate with practical observations, while illustrative plates and brief descriptive chapters give the work a varied, reflective structure.

PENOD XVI.

*

CAIRO WEDI’R DYDD.

YMRO o’r un enw a mine ddaeth i’m gwaredu o ddwylo’r Arabied y’ngorsaf Cairo, ac i mi yr oedd fel angel Duw. ’Does dim dwyweth nad oedd y giwed haerllug wedi ffroeni diniweidrwydd cyfleus o gwmpas fy mhersonolieth i, a fy mod wedi cael fy marcio allan ganddynt fel aderyn hawdd i’w blyfio; ac er fy mod yn ceisio gwneud gwep gâs, gwyddwn yr un pryd taw methiant cywilyddus ydoedd. Haws genyf gredu fy mod yn edrych yn debycach i ddafad ar goll, nag i lew wedi ei yru yn erbyn y wàl. Gwn fod mwy o’r ddafad nag o’r llew yn f’esgyrn. Bachgen o Gynarfon oedd y Moses hwn, ac aelod yn Salem; ac er na fydde’i weinidog byth yn ymwel’d ag e’, yr oedd ganddo ef “olwg” ryfeddol ar ei weinidog, a siarade am dano hyd at ei addoli bob tro y cai gyfle. Cynorthwywr ydoedd y’ngwasanaeth brawd fy nghymwynaswr o Alecsandria; ac er i hwnw fod mor garedig i mi ag oedd modd, synwn i ddim na thynodd ei frawd yn Cairo’r “shein” o hono, Hwyrach iddo gael gwell cyfleusdra. Yr oedd y ddau’n gyfranog yn y gwaith o anfon “Jones bach” i’m cyfarfod; a bendith ar eu pene.

PONT DROS Y NILE.

Mi fydde’n dda gen i fod yn help i roi anfarwoldeb i’r bechgyn o Gairo. Ni wyddwn am danynt cy’myn’d yno, ond nid aeth diwrnod heibio wed’yn nad y’nt wedi bod yn fy nghôf ac yn fy nghalon. Yr oedd yna wahanieth dybryd rhyngddynt, ond yr oedd pob un o honynt yn garedig yn ei ffordd ei hun, ac am y caredica’. Jones oedd yn cael ei ollwng amla’ hefo mi, am ei fod yn “Sentar” fel fine. Bachgen glân ei groen a’i siarad oedd efe—gwisgi ar ei droed a’i dafod—ei bersonolieth yn f’adgofio o Towyn a’i “arian byw”—y’medru siarad â’r brodorion fel un o honynt hwythe—ac yn gwybod am bob “twll a chornel” yn y ddinas cystal a’r trempyn o gi mwyaf afradlon y tu fewn i’r lle. Bu’n waredwr i mi ragor nag unweth ar ol y tro hwnw’n yr orsaf, ac ni f’aswn iached fy nghroen na llawned fy llogell yn gadel Cairo oni bai am dano ef. Un o ardal Gwrecsam oedd Roberts, ac ni che’s ei gwmni ef ar ei ben ei hun, fel y ddau arall, ond bob tro’n un o’r tri. Dipyn yn dỳn ar ei ’piniwn oedd Roberts, ac mi a’i gweles siwrne agos a d’od a ni i drybini go gâs oherwydd yr elfen amlwg hono yn ei natur. Ac eto, fe ddeue i fyny fel corcyn i wyneb y dw’r pan fydde pobpeth y’myn’d i brofi ei fod i lawr yn y gwaelod er’s meityn. Collasom y ffordd un noson, ac er y myne Jones a’r brawd arall taw i’r cyfeiriad yma y dylasem fyn’d, yr oedd ewyllys Roberts yn gryfach na’r ddau, ac i’r cyfeiriad acw’r aethom. Wedi bod yn crwydro “drwy leoedd geirwon, enbyd iawn,” yn chwŷs ac yn lludded—Roberts yn ei brasgamu o’n blaen, Jones a mine’n tuchan ar ei ol, a Huws yn murmur anatheme wrth ein sodle—am awr o amser, cawsom afel ar ein lledred o’r diwedd; ac ebe Roberts mor hunan-feddianol a bricen⁠—

Fi oedd yn reit, boys, drwy’r cwbwl!

—yr un fath yn union a phe na baem wedi bod wrthi bum’ munud. Yr oedd ganddo allu rhyfeddol i ddisgyn ar ei draed o bob d’ryswch yn y byd. Yr olaf, ond nid y mwya’ dibwys o’r tri, oedd Huws—hamddenol, ’smala, gogleisiol ei sylwade, a mwy o stoicieth y Gorllewin yn perthyn iddo nag o nwyd y Dwyren. Ni weles ef yn cael ei gynhyrfu ond siwrne, pan y rho’wd iddo ychydig o dybaco’r Hen Wlad ar ol bod “yn haner starfio’i hun ar sychddail llwydwyn yr Aifft.” Mi gredes yn siwr y b’asai’n cael ffit y pryd hwnw. Dyna’r “tri llanc” wnaethant i mi deimlo’n rhydd a chartrefol y’nhir y caethiwed, ac y mae iddynt le cysurus yn ymyl y tân ar aelwyd gynes fy nghalon.

I ddychwelyd i’r orsaf. Ni fu Jones chwinciad cyn gwasgaru fy mhoenwyr, a myn’d a mi mewn “bus” reit gyffredin i’r gwesty lle’r o’wn i aros. Yr oedd hwnw’n cael ei alw ar enw Bryste—pa’m, nis gwn: Hotel Bristol, yn ol dull Ffrainc o siarad. Groegwr oedd yn ei gadw, a’i enw yn cynwys y rhan fwya’ o lyth’rene’r wyddor. Ar ol ymolchi, ac ymdrwsio, ac ymborthi, aeth fy ffrind a mi i wel’d ychydig o’r lle, ac yr oedd genym brydnawn cyfan wrth ein cefne.

I gychwyn, croesasom bont hir-lydan oedd wedi ei bwrw dros y Nile, oblegid nid oedd yr afon eto wedi fforchogi’n saith tafod. Cewch gip ar y bont yn y darlun gerllaw. Pwysasom am dipyn ar wàl y barracks, lle’r oedd nifer fawr o filwyr y’myn’d dan ddysgyblaetb. Yna troisom i’r dde, a cherddasom dan gysgod y palmwydd, allan o dwrw a gwres yr heolydd, y’nghanol y golygfeydd mwyaf atdyniadol i lygad gŵr o wlad machlud haul. Draw gwelwn dẁr o Ewropied yn chware’ cricket, a’u dillad gwynion yn disgleirio’n yr haul, heb hidio botwm am Rudyard Kipling na neb. A pha’m lai? Ar bob llaw ini yr oedd y “gamŵs” yn talu treth am ei fodoleth. Y “gamŵs” sy’n gwneud pobpeth ar y tir i’r llafurwr Aifftedd. Yr enw sydd ar y dosbarth yma yw’r fellaheens, meibion y tir; a d’wedir taw hwy yw hen frodorion y wlad. Mae’r “gamŵs” i’r fellaheen fel mae’r ych neu’r ceffyl i ffermwr Cymru; ’does dim pall ar ei adnodde. Crëadur onglog, afrosgo ydyw; ei ddefnyddioldeb, ac nid ei brydferthwch, sy’n ei wneud yn werthfawr. Mae traddodiad gan yr Arabied am dano. Pan wnaeth Duw y fuwch, cenfigenodd Satan wrtho, ac aeth ynte i geisio gwneud un debyg; ond be’ ddaeth allan o’i law e’ ond y “gamŵs!” Wel, gwnaeth beth salach ganweth. Dyna haid o adar yn codi o ymyl rhyw furgyn, ac yn rhuthro dros ein pene.

“Beth yw rheina, Jones?” meddwn.

“Brain,” ebe ynte. A dealles nad yw brain yr Aifft yn dduon, ond brithion, hyd at fod yn wynion, rai o honynt. Mi dybies yn union taw dyma lle’r oedd genesis yr “hen frân wen” y canodd Emrys am dani! Hawyr! oes yma “rasus dynion” heddyw? Beth yw’r ddau slimin main hyn sy’n rhedeg mor gyson ochr-yn-ochr, a’u gwisg fel pe wedi tyfu am danynt fel crwyn? Rhedegwyr o flaen cerbyde gwŷr mawr ydynt hwy, druen; a chyda’r gair, dyma gerbyd gwych yn dilyn, a dau o fonedd y wlad ynddo. Neges y rhedegwyr ydyw clirio’r ffordd i’r cerbyd, a d’wedid wrthyf y rhedent ugen milldir yn aml heb aros. Derbyniant gyfloge uchel, ond nid ydynt byth yn byw yn hir. Pa ryfedd? Rhedant eu hunen allan o wynt cyn haner eu dyddie. Ond dyma gerbyd heb redegwyr iddo, ac ebe’m cydymeth wrthyf:

“Craffwch ar y dyn nesaf atoch.” Mi graffes, ac mi dynes fy het iddo, yn ol yr esiampl a gefes. Cydnabyddodd y cyfarcbiad yn siriol, a gofynes i Jones pwy ydoedd.

“Arglwydd Cromer,” medd ynte. Edryches ar ei ol nes aeth o’r golwg, oblegid teimlwn yn falch o gael cipolwg ar y dyn sy’n llywodraethu’r Aifft yn enw Pryden, ac wedi gwneud y wlad yr hyn ydyw heddyw. Gwelwn adeilad aruthrol o’m blaen, yn cael ei gylchynu gan erddi ardderchog. Hen balas i un o’r teulu brenhinol ydyw, wedi ei droi’n westy, a gelwir ef y Ghezireh. Troisom i fewn i’r gerddi, a buom yno’n eistedd am awr neu ddwy yn gwrando ar un o’r seindyrf milwrol yn chware’. Yr oedd y lle’n llawn o ymwelwyr—Americanied gan mwya’.

Yn lle dychwelyd i’r ddinas yr un ffordd ag y daethom, croesasom yr afon mewn bad bychan, a glaniasom mewn cẁr arall o honi. Drwy ran o’r hen ddinas y daethom yn ol. Heolydd culion a phelmynt culach, yn llawn o bobl, ac yn llawnach o nwydde. Bu raid i mi wasgu fy nhrwyn rhwng bys a bawd bron ar hyd y daith hono—yr oedd yr arogliade mor apeliadol. Cawsom dipyn o waith pigo’n llwybr o’r afon i’r ’sgwar lle’r oedd y cerbyde trydanol. Yn ymyl yr afon mae pob bryntni’n byw; a chryn orchwyl oedd osgoi’r clêr gwenwynig a garient hade marwoleth gyda hwy i bobman, a’r begeried a ffroenech o draw, a’r cryts a’r crotesi haner noethion a waeddent “Backsheesh!” yn eich gwyneb egred ag Arabied y ’strydoedd yn eu man perffeithia’. Yr oedd y gwiberod bychen yn pigo’ch sodle bob cam a roech, a bu raid ini droi arnynt yn sydyn a sarug ragor na siwrne; a cheid digrifwch nid bychan wrth edrych arnynt yn cwympo draws eu gilydd yn eu hymgais i ddïanc. Chwardde rhai o’r edrychwyr yn iach am eu pene, ond cilwgu’n ofnadwy wnai’r lleill.

Erbyn ini gyredd y man y cychwynasom o hono, yr o’em ein dau yn chwŷs dyferol, ac yn chw’thu fel dau ddromedari.

PENOD XVII.

*

CAIRO WEDI’R NOS.

ORCHWYL blinedig yw cerdded yno’n hir iawn. Un peth sy’n peri hyny yw, fod y gwres gyment. Peth arall, nid yw’r dynion sy’n myn’d i’r dwyren am dro yn gwneud fawr wahanieth yn eu gwisgoedd: o ganlyniad, teimlant yn fwy oddiwrth y gwres. Temtasiwn i mi oedd gwisgo “mwfflar” yn yr Aifft, yn unig am ei fod yn bechod parod imi y’Nghymru. A pheth arall, ar amsere neillduol ar y flwyddyn, yn enwedig cyn i’r haf dd’od i fewn, disgyna gwlaw lled drwm; a rhwng y gwlaw a’r deunydd meddal sy’n cyfansoddi’r ffyrdd, gadewir swm cyfrifol o fẁd trwchus ar ol. Dyma’r adeg y mae pobl y Gorllewin yn ymwel’d â’r Aifft fynycha’; ac y mae cerdded ar wadne llyfn o ledr yn y mẁd Aifftedd hwn yn orchwyl sy’n tynu’r chwŷs ac yn trethu’r dymer. Bron nad ydych y’myn’d gyment yn ol ac y’mlaen, fel mai ychydig o gynydd ymarferol a wnewch drwy’r dydd. Nid yw’r brodorion yn teimlo dim oddiwrth yr anhawsder yma, am eu bod yn droednoeth; a thra byddwn i’n cosbi ’nghorff i gadw ’nghydbwysedd, yn eu blaen yr elent hwy fel pe baent wedi eu geni mewn mẁd, ac mor gartrefol ynddo a chŵn yr heolydd. Erbyn pob hwyr, yr o’wn fel un o’r “German Band” a welir weithie’n cerdded o fan i fan, mor glunhercyn a phe bydde geny’ gorn dan bob bys.

Ond os am wel’d, a sylwi, a chraffu, a marcio’n fanwl, yr unig ffordd am dani yw ar draed. Mi wnes rai o’m pererindode mwya’ dyddorol yn y modd hyn. Os na fyddwn wedi blino gormod ar ol bod yn crwydro’r dydd, yr oedd myn’d am dro gyda’r hwyr, wedi i’r haul fachlud, yn talu am bob anhwyldeb. Ar draed, rhwng cinio a gwely—cinio gwŷr mawr, cofiwch!—y gweles ochr seimlyd dinas Cairo; ac os oedd rhyw gyment o gariad ynof tuag at bechod yn flaenorol, yr wyf yn meddwl iddo ddiflanu i gyd y noson hono. Mi adroddaf i chwi’r helynt.

Yr o’em yn bedwar gyda’n gilydd—pedwar Cymro. Yr oedd y bechgyn yn f’aros tra’r o’wn i’n mwynhau pryd ola’r dydd, ac yr oedd golwg ddoniol arnynt. Capie cochion ar eu pene, a ffyn yn eu dwylo, eu lwyne wedi eu gwregysu, a’u lampe wedi —— na, gan gofio, nid oedd lampe ganddynt: ond parodd eu hymddangosiad i mi feddwl yn gry’ am blant Israel yn cychwyn o’r wlad y sangwn ei daear y funud hono. Gan mai prin y mae’n ddïogel i Sais fentro allan yno heb ffon wedi’r dydd, chwaithach wedi’r nos, cymeres ine un brâff ei gwala; a chan ei bod yn fantes i gydffurfio â dull y bobl o wisgo hyd ag y mae’n weddus, mi ’stwffies ine ’mhen i gap coch; a dyna ni’n barod i gychwyn. Gwydde’r bechgyn am bob careg yn y ddinas, ac yr o’ent y’myn’d a mi y noson yr wy’n sôn am dani i ranbarth neillduol lle’r oedd Satan yn ben a Phechod yn teyrnasu. Chware’ teg iddynt, rhoisant i mi fy newisiad i fyn’d neu beidio. D’wedent wrthyf ei fod yn lle garw, ac y byddem yn gosod ein bywyde mewn enbydrwydd—ond y lleihaem y peryg’ wrth gadw gyda’n gilydd, a taw myfi fydde’r Cymro cynta’ i fyn’d hefo hwy y ffordd hono, os mentrwn. Ac yn y blaen. Gan fod y Crëawdwr Mawr wedi rhoi dogn da o ysbryd anturiaethus yn fy natur, mi es hefo hwy: a’r hyn a weles â’m llyged, a glywes â’m clustie, ac a deimlodd fy nghalon y noson hono, yr wyf y’myn’d yn awr i’w fynegi i chwi.

Enw’r lle’r aethom iddo ydoedd “Wassa,” ystyr yr hyn yw cul. Mae’r ’strydoedd mor gulion fel nad oes eisie breichie Phineas Fletcher o ddyn i gyffwrdd y ddwy ochr yr un pryd. Y maent hefyd mor llawn o ddynion, fel y cymer i chwi haner awr i fyn’d gwarter milldir; a chyda’r anhawsder mwya’ y llwyddem i gadw gyda’n gilydd. Dyma’r darn isela’i foese yn yr holl ddinas. Yma’r ymgynull lladron a llofruddion: ac yma y cedwir puteinied o dan nawdd y Llywodreth Aifftedd, a chymeradwyaeth y Llywodraeth Brydeinig—merched ieuenc o bob lliw, a bron o bob gwlad a chenedl, wedi eu cau i fyny fel anifeilied gwylltion mewn ffeue, ac yn llygadu arnoch drwy fare’r ffenestri. Ceir hwy’n yr oedran tyner o bymtheg, ïe, a deuddeg, ïe, a deg, yn gosod eu hunen yn ebyrth gwirfoddol i raib a nwyd y crëadur y gelwir “dyn” arno! Yr oedd yn dda geny’ glywed nad oes byth eneth Brydeinig yn eu plith. Gynted y clyw Llysgenadwr Pryden Fawr fod yn Cairo neu Alecsandria ferch o’r hen wlad wedi gadel ei gwasaneth, ae mewn peryg’ o fyn’d ar ddisberod, ymofynir am dani’n union, a thelir ei llong-lôg yn ol i’w gwlad ei hun gyda’r cyflymdra cynta’. Gwaedu wnai ’nghalon bob cam wrth wel’d golygfeydd mor ofnadwy. Ferched ieuenc fy ngwlad! gwerthfawrogwch gymeriade da, a pheidiwch byth a gwerthu’ch diweirdeb am bris yn y byd—oblegid pa beth a ro’wch yn gyfnewid am dano?

Yn sydyn, collasom un o’r cwmni.

“B’le mae Roberts?” gofyne’r naill i’r llall. Gyda hyny, dyma sŵn chwibanogl yn disgyn ar ein clustie. Chwibanogl Roberts ydoedd, a thystio’r oedd fod ei pherchen mewn peryg’, ac y’mofyn ein help. Yn ol a ni, a buan y cawsom ein cydymeth dewr yn dal pen rheswm a ’beitu haner dwsin o’r tacle mwya’ digymeriad yr olwg arnynt a welsoch mewn blwyddyn, y rhai a’i rhwystrent i dd’od yn ei flaen. Nid wy’n meddwl eu bod ar y cynta’n golygu dim ond direidi, nes iddynt wel’d Roberts yn dechre’ dangos y “bluen wen.” Troisant yn gâs wed’yn; a phan y daethom atynt, mae’n rhaid cyfadde fod pethe’n edrych dipyn yn ddifrifol yno. Edryche Roberts ei hun can wyllted a phe b’ase wedi cael ei hun yn y lleuad. Clebre â hwynt mewn amryw ieithoedd, a digri’ oedd clywed ambell i air Cymraeg yn cael ei seinio mewn lle ac amgylchiade mor anghartrefol. Ond ’doedd dim yn tycio. Os dealla’r gwehilion hyn fod arnoch eu hofn, hwy sydd ben; ond os trowch arnynt heb fenyg ar eich dwylo, hen gywardied o’r fath waela’ ydynt, a pharotach ydynt i’ch llyfu na’ch llarpio. Gwelodd Roberts ni’n d’od, a dechreuodd ymwroli: cododd ei ffon, a dygodd hi i wrthd’rawiad â, chymale duon dau neu dri o honynt—gwnaethom nine’r un peth â’r lleill; wedi cael Roberts o’u gafaelion, bygythiasom hwy eilweth, a ehawsom yr hyfrydwch o’u gwel’d yn slincio’i ffwrdd fel corgwn, a’u cynffone rhwng eu coese. Eto, tybiasom taw doetnineb ynom oedd cefnu ar y diriogeth hono gynted y gallem.

Ar y ffordd, troisom i fewn i ffau Ffawd, i wel’d yr hap-chwareuwyr. Pregeth ar drachwant gaed yma—trachwant aur ac arian: a phregeth effeithiol dros ben ydoedd. Mi sylwes yn arbenig ar un dyn, yr hwn oedd yn colli’r cwbl a roe ar y bwrdd, a’r hwn oedd wedi colli llawer cyn i ni fyn’d yno. Yr oedd ei lyged bron a chwympo allan o’i ben—yr oedd mor welw a’r galchen, ac eto, rhede’r chwŷs yn ddiferyne mawrion dros ei dalcen, y naill ar ol y llall—ei ddanedd a rincient yn erbyn eu gilydd—yr oedd ei law’n crynu fel taw prin y gallase osod ei arian ar y lliw—a phob tro y colle, fe ollynge’r fath ochened nes cynyrchu crechwen drwy’r ffau.

“Dowch allan, hogie,” meddwn; “mae pum’ munud mewn lle fel hwn fel pum’ mlynedd.” Ac allan yr aethom. Ni wnaethom ond yn hrin gyredd y ’stryd, nag y rhuthrodd rhywun heibio i ni, heb het ar ei ben, ac fel pe bydde lleng o gythreulied wrth ei sodle.

“Dyna’r dyn oedd yn colli,” ebe Roberts. Cauodd y dyrfa am dano, a synwn i ddim na chollodd o ’i gorff a’i ened cyn haner nos.

Wedi gwel’d rhagor, a chlywed mwy, y rhai a ferwinent eich clustie pe’r adroddwn hwynt i chwi bob yn un ac un, tynasom tuag yn ol; ac erbyn imi gyredd f’ystafell wely, ac edrych arna’ fy hun yn y drych, mi dybies am foment fod un o boenwyr Roberts wedi fy nilyn! Breuddwydies lawer cyn y bore’ am lewod a theigrod ar lun dynion. Nid wyf wedi edifaru imi fyn’d i wel’d Cairo wedi’r nos; ond mae’n amheus genyf a chwenychwn y profiad eto.

PENOD XVIII.

*

ANTURIAETHUS.

ID wyf wedi d’wey’d ond y nesa’ peth i ddim eto am y merched a’r gwragedd yn yr Aifft. Gwir nad wyf wedi d’we’yd ond ychydig am neb. Ond gwn y dylase’r boneddigese fod wedi cael y sylw cynta’ a’r sylw pena’, am eu bod bellach yn arfer ei gael, ac, o ganlyniad, yn ei hawlio y’mhob cylch a safle. Nid yw cyment ag wyf wedi ei dd’we’yd am danynt yn òd o flasus, a rhyw betruso’r wyf sut y cymerant yr hyn fyddaf yn ei dd’we’yd am danynt yn y benod hon. Bid fyno, rhaid ei dirwyn i ben ar ol dechre’.

Mae’r gwragedd Mahometanedd oll yn cuddio’r darn isa’ o’u gwynebe â math o hugan, yr hwn a sicrheir y tu ol i’r pen â rhwymyn; sicrheir ef hefyd ar ganol y talcen â darn o fetel gloew. Y ddau lygad yn unig sydd yn y golwg, a sylla’r rhai hyn arnoch yn felancoledd i’w ryfeddu. Mae’r merched ieuenc yn cerdded allan â gwyneb agored; ond gynted y prïodant, yr hyn gymer le’n aml pan nad y’nt ond deuddeg oed, ymneillduant y tu ol i’r llen y sonies am dani, ac nid oes neb yn cael gwel’d eu gwynebe mwy y tu allan i gylch uniongyrchol y teulu. Gorchwyl go beryg’ yw syllu mwy na mwy arnynt, yn enwedig os bydd y gwŷr yn digwydd bod gerllaw. Mi glywes am un, oedd a’i gywreinrwydd yn fwy na’i synwyr, fentrodd lygadrythu’n sarhaus i wyneb un o’r gwragedd gwyledd hyn, ac a aeth mor bell ac estyn ei law at y gorchudd. Buasai’n well iddo beidio. Bu raid iddo adel y wlad ar ffrwst mewn canlyniad. Dilynid ef i bob man lle’r ele, a phrin y dïangodd a’i fywyd ganddo ragor na siwrne. Achwynodd ei gŵyn wrth un o gynrychiolwyr awdurdodedig ei wlad; a chynghorodd hwnw ef, ar ol deall yr amgylchiade, i ddychwelyd adre’ y cyfle cynta’ gaffe. Nid gorchwyl pleserus hyd y’nod y’Nghymru yw tynu gwg y “rhyw deg” arnoch; ond yn y Dwyren y mae yn ymgymeriad difrifol. Cuddiant eu gwynebe rhag dyeithried er yn eu tai eu hunen, ac y’nghanol eu pobl eu hunen.

Ce’s achlysur i fyn’d i dri o anedde’r Arabied—un yn Alecsandria, un yn Cairo, ac un yn ymyl y Pyramidie. Cy’myn’d i’r ddau gynta’, yr oedd yn rhaid rhoi rhybudd mewn pryd; ac yr oedd hyny’n anfantes i wel’d y gwreiddiol yn ei wreiddiolder. Ond aeth fy ffrind a mine i mewn i’r llall heb ganu’r gloch, yn syth ar ein cyfer. Ac nid anghofiaf yr olygfa. Yr wyf yn meddwl taw Huws oedd hefo mi, ac yr oedd yn ddatguddiad i ni’n dau. Ni ddigiwch wrth destyn y benod pan adroddaf i chwi sut yr ymdarawsom.

’Roedd yr haul mor danbed oddiallan, a’r goleuni mor brin oddifewn, fel y cymerodd ychydig eiliade ini fedru gwel’d ein hamgylchoedd. Bob yn dipyn, fel tomen ludw ar doriad gwawr, daeth i’r golwg y ddynes hagraf a weles yn fy nydd, heb orchudd dros ei gwyneb, ond y synedigaeth hyotlaf yn ei llyged. A’r fath lyged! ’Ro’ent mor fawrion a chrynion a dwy soser dê gymedrol! P’run o honom oedd wedi cael mwya’ o ddychryn, ai hi ynte Huws a mine, mae’n anodd d’wey’d. Sut bynag, pan ddeallodd yr hen chwaer ei sefyllfa, trodd ei chefn arnom, a gweles hi wrthi’n prysur wneud rhywbeth â’i dwylo o gwmpas ei phen—yn debyg fel y gweles rai o foneddigese ieuenc Treorci’n maldodi eu gwallt o’r tu ol, mewn trefn i gael allan wrth synwyr y fawd os yw’r gyrlen yn ei lle, a’r pine ar eu gwyliadwrieth! Mi dybies i taw ’molchi oedd y genawes, oblegid ’doedd dim dadl nad oedd hyny’n ddyledswydd a esgeulusid ganddi; ond gynted y gwynebodd ni drachefn, gwelsom taw wedi bod yn gosod y gorchudd i fyny’r oedd. A phe b’asech yn gwel’d y ddau lygad mawr, byw, a duon rheiny oedd yn bwrw tân dros ben y gorchudd, heb eich bod wedi cael cip ar y wyneb yn gyflawn cyn hyny, awn ar fy llw, pe bydde raid, y b’asech yn d’od i’r penderfyniad ei bod yn un o’r merched glanaf yn y byd. Ah! fel y medr y veil dwyllo dyn! Yn siwr i ch’i, mae iddi ei mantes yn y Dwyren. A pha ryfedd fod y dych’mygol mor berffeth y’mysg y Dwyreinwyr, pan mae’r llyged gloewen hyny sy’ fel y wenlloer yn ’sbïo arnoch o’r tu ol i’r cwmwl yn pregethu prydferthwch cyffredinol mor onest a hyodl!

Garech ch’i glywed sut fu arnom yn y mwd-gaban wrth draed y Pyramidie? Dïau i’r hen wraig deimlo dïogelwch arbenig y’nghysgod y gorchudd; ac fel milwr wedi codi gwrthglawdd rhyngddo a’r gelyn, dechreuodd danio’n union. Nis gwyddwn beth a dd’wede, ond barnwn wrth ei llyged a’i hoslef ei bod yn trin ei thafod yn erwin. Ac erbyn y cymerwch bobpeth i ystyrieth, ’doedd o ryfedd yn y byd. Dealle fy nghyfell un gair am bob dwsin, a dyfale’r unar-ddeg erill oddiwrth yr un hwnw. Ond bu raid iddi yn y diwedd ymatal i gymeryd ei hanadl; ac yn y saib byrhoedl hwnw, amcanodd Huws dd’we’yd wrthi beth oedd ein neges, taw d’od i wel’d y tŷ y daethom, ac nid ei gwel’d hi. Ac fel prawf ymarferol o hyny, a ystyrie ’fe yn anwrthwynebol, dangosodd iddi ddarn bychan o arian ar ei law.

Mae’n ddrwg genyf orfod d’we’yd yn y fan yma i’r hen dafotreg gamddeall geirie fy nghyfell, a chamddeall cenadeth y darn arian. Hwyrach nad oedd ei Arabeg cystal ag yr arfere dybio ei fod, neu hwyrach fod y darn arian yn rhy fychan; nis gwn am hyny, ond cofiaf y canlyniade tra b’wyf byw. Cododd wythod ar ei thôn, nes eich cyfiawnhau i gredu fod ganddi glôch dan bob dant; a chauodd ei dyrne, gan eu chwyfio fel pe b’ai wedi ymdrawsffurfio’n felin wynt. ’Doedd dim posib’ cael gair i fewn ar ei ochr. Wrth wel’d Huws y’methu, treieis ine hi’n Gymraeg; ond och fi! yr oedd yr hen iaith fel olew ar y tân, yn peri iddi losgi’n fwy. Erbyn hyn, yr oedd nifer o blant wedi ymgasglu o gwmpas y drws, a haner dwsin o fenywod. ’Roedd yn hawdd gwel’d fod rhein yn deall y cwbl, a rhagor, a chlebrent fel gwydde â’u gilydd.

DAN Y PALMWYDD.

“Gwell ini gym’ryd y goes,” meddwn wrth fy nghyfell, yr hwn oedd wedi ei gythruddo’n fawr am na b’ase’r ddynes yn ei ddeall yn siarad. Mi gyfeiries tua’r drws gyda’r gair, a dilynodd ynte mor barchus ag oedd modd. Ond hyd y’nod wedi ini osod y Sphinx rhyngom â’r lle, yr oedd ei chlôch yn ein clustie’n barhaus. Ar ol cyredd Cairo, adroddasom yr helynt wrth gyfell arall. Wedi chwerthin yn iachus am ein trybini, trodd atom ein dau, ac ebe fe’n ddifrifol:

“Wel, ’roedd yn dda i ch’i nad oedd gŵr y ddynes gartre’.”

“Sut f’ase pethe wed’yn?” gofynwn yn gyffrous.

“O,” ebe ynte, a’i ddifrifoldeb yn chwyddo, “caech fedd yn y tywod am ddim, a neb i adrodd yr helynt. Mae claddu’n y tywod dan amgylchiade neillduol yn y ffasiwn ffordd yma byth er amser Mosus, pan wnaeth o’r gymwynas hono â’r Aifftiwr ’slawer dydd.”

Ein tro ni’n awr oedd chwerthin.

Ond wedi hilio’r cwbl, cawsom taw dyna oedd ein pechod mawr—dala’r faeden heb ei gorchudd, a chynyg arian iddi os tyne’r gorchudd i ffwrdd eilweth, er mwyn ini gael syllu ar ei gwyneb glân, a’i thegwch cynddiluwedd. Dyna fel ’roedd hi wedi esbonio pethe; a dyna lle gadawaf hi’n awr i ddawnsio ar ei thomen ei hun.

PENOD XIX.

*

BYD AC EGLWYS.

YW fore’, yr o’em yn chwech mewn nifer ar gyfer un o brif fasnachde Cairo, yn barod i gychwyn i daith ag oedd wedi cael ei threfnu’r diwrnod cynt. Yn ol y dosbarthiad cyffredin, yr oedd y chwech yn cael eu gwneud i fyny o bedwar bôd rhesymol a dau afresymol. Ond fe f’ase’r sylwedydd diduedd yn siwr o droi’r ffigyre’n ol y bore’ hwnw, a sicrhau fod y chwech yn cael eu gwneud i fyny o ddau fôd rhesymol a phedwar afresymol. A phan y byddaf yn meddwl yn f’orie hamddenol am yr hynt a’r helynt hono, yr wyf yn cael fy hun yn gogwyddo i’r un farn ag ef. Un o’r trindod ffrindie yr wyf wedi bod yn sôn am danynt eisoes, a mine, dau arweinydd brodorol, a dau asyn oedd yn cyfansoddi’r finte. Chwi allech feddwl ein bod y’myn’d i Timbuctoo. Jones oedd y ffrind, ac Ali a Mustapha oedd enwe’r arweinwyr enwe arnynt o gwbl. Ond yr wyf yn cofio eu teithi meddyliol yn dda, a chofiaf hwynt tra bwy’ byw. Ali oedd bïa’r asynod, ond Mahomet oedd bïa Ali, gorff ac ened.

Yr o’em wedi trefnu i fyn’d i ymwel’d â’r “bazaars,” ac un o’r prif eglwysi Mahometanedd, a bore’ cyfan i gael ei gyflwyno i’r gwaith.

“Dewiswch eich anifel,” ebe Jones yn garedig. Yr o’wn, wedi cymeryd stoc o’r ddau’n barod, ac wedi astudio’u pwyntie, da a drwg, yn bur dda, dybygwn i.

“O’r gore,” meddwn, “mi gym’ra’ i at y brawd yma;” a chyfeiries at yr un a ymddangose i mi y diniweitiaf o’r ddau. Yr oedd y llall yn bradychu drwg-dymer anghyffredin—yn ffroeni ac yn sodli, yn cychwyn ac yn cilio—nes ei bod yn beryg’ i Gristion sefyll yn ei ymyl. Ond yr oedd ei frawd yn peri imi feddwl am Issachar, yr hwn y d’wede’i dad am dano ei fod fel “asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn.” Yr unig symudiad a wnai oedd ysgwyd tipyn ar ei ben mewn protest mud pan y deue cleren neu wybedyn i ’sbïo bôn ei glust. Nid o’wn wedi bod mor agos a hyny i asyn pedwartroed er pan o’wn yn hogyn, ac yr oedd hen adgofion am y gymdeithas yn gwneud imi ddyfalu sut y cymerem at ein gilydd.

Bid fyno, wedi gwneud y dewisiad, prysurwyd gwartholion nag y ce’s f’argyhoeddi o dwyll y crëadur oedd danaf. Aeth yn grëadur newydd yn y fan. Yn lle ei fod yn Biwritan hyfwyn a thringar, aeth yn wrthryfelwr penboeth, a ’doedd dim posib’ ei gael i fyn’d yn ei flaen wrth reol. Ele ar garlam wyllt un eilied, yna fe safe’n sydyn nes d’rysu cydbwysedd y truan oedd ar ei gefn, a’i yru ef yn ei flaen yn ddïewyllys. Desgrifie gylche ac ongle ar y ’stryd mor gywir a dim a welsoch mewn Euclid, ac yr oedd yn ymddangos i mi’r prydie hyny fel pe’n awyddus i wybod safle anianyddol ei gynffon. Yr o’wn yn hollol at ei drugaredd, ac nid hir y bum cyn d’od yn arg’oeddedig fod yn rhaid i mi fod ar ddihun o’m pen i’m traed y diwrnod hwnw os am fod yn groeniach. Wedi gwneud penderfyniad o’r natur yna, yr oedd yn rhaid glynu wrtho; a cha’nad o’wn mewn cyflwr prïodol o ran fy meddwl i fedru gwahaniaethu rhwng y penderfyniad a’r asyn—er fod genyf ryw syniad amrwd fod yna berthynas gyfrin rhyngddynt—mi dybies fod glynu wrth y naill yn gyfystyr a glynu wrth y llall. A dyna fel y llwyddes.

Trwy gydol yr amser, edryche Ali’n dawel arnom; a phan y ’storiwn ddigon o anadl i apelio ato, dyna dd’wede:

“Peidiwch ofni—daw ato’i hun yn union!”

A gwir a dd’wedodd. Ond pan ddaeth ato’i hun, daeth Ali ato hefyd, a dechreuodd ei bastynu’n ddidrugaredd: a dyna sy’n gwneud i mi betruso rhwng y rhesymolion a’r afresymolion. Sut na fase Ali yn ei bastynu pan oedd yr asyn yn an’stywallt, ac nid wedi iddo edifarhau? Ond os o’ent hwy’n deall eu gilydd, pa wahanieth?

Pan y gelles anturio edrych heibio’i ddwy-glust, gwelwn Jones yn y pellder, a’i asyn ac ynte fel pe baent wedi eu morteisio. Mi weles yn union ei fod e’n feistr ar y sefyllfa, ac wedi bwrw’i brentisieth er’s blynydde. O, fel y gofidiwn na b’aswn wedi dewis yr asyn arall pan ge’s y cyfle! Tra’r o’wn yn ffigyrol fwyta f’ewinedd fel hyn, rhoes Ali bren yn fy llaw, gyda chyfarwyddyd i chwilio am eis y crëadur: gwnes hyny, a che’s fy hun yn ymyl pedion y llall fel cyfri’ llyfrithen. Mi ddealles fod gogles ar Ned yn y gym’dogeth hono, a bu’r wybodeth o fantes i mi wed’yn.

Gwaith cynil oedd ymlwybro drwy’r dyrfa o ddynion ac anifeilied a cherbyde ar hyd y ffordd, ac mi gredes fy mod yn d’od i helbul ragor na siwrne. Profiad dyeithr i mi oedd bod ar gefn asyn mewn dinas yn y Dwyren—camelod a dromedaried yn f’amgylchu yn lle ceffyle a gwartheg, ac Arabied cilwgus yn lle Cymry rhadlon. Ga’nad beth, ’mhen hir a hwyr cyraeddasom y fynedfa i fewn i un o’r “bazaars,” a roedd yn rhaid gadel y dynion a’r asynod o’r tu allan. Nid wy’n cofio perthyn i ba wlad neu genedl yr oedd y gynta’r aethom iddi, ond i lygad anghyfarwydd fel ’r eiddo’ fi, ychydig o wahanieth oedd rhyngddynt. Lleoedd culion, hirion o’ent, yn llawn o nwydde a dynion—mor llawn fel taw prin y gallech weithio’ch ffordd y’mlaen gyda’r gradd lleia’ o lwyddiant. Yr oedd yn gryn gamp i ni ein dau dena’ i gerdded ochr-yn-ochr ambell i getyn. Stondine bychen ar bob llaw, ar dori gan y ’stwff gwerfchfawr a diwerfch a werthid, y’nghyda mynedfa gul yn y canol i’ch arwen i fewn i’r faelfa ryfeddol sy’ o’r golwg; a phan y byddwch yn pasio dan edrych o’ch cwmpas, daw’r gwerthwr allan o’i faelfa i’ch cyfarfod yr un fath yn union a phry’ copyn yn d’od allan o’i dwll i gwrdd a’i ysglyfeth. Ceid llawer yn gweithio’u crefft y tu allan i’w siop—gwaith ede a nodwydd o’r fath cywreiniaf; ac nid oedd dim yn eu plesio’n fwy na gofyn cwestiyne iddynt am y gwaith oedd yn eu dwylo. Traethent yn hyodl mewn cymysgieth o Saes’neg, a Ffranceg, ac Arabeg, am ddirgelion eu celf; ond pwnc go anodd f’ase penderfynu pa faint o wir a pha faint o anwir a gynwyse eu truth. Nid yw’n bechod i Fahometan dwyllo dyn o grefydd arall mewn gair a gweithred; nid wyf yn siwr nad ystyrir ef yn rhinwedd mawr. Yr oedd ambell un yn daer dros ben: gwthie ei nwydde arnoch, a bron na chydie’n eich braich i’ch llusgo i fewn, bodd neu anfodd, i’w barlwr. Iuddewon a Groegwyr oedd y dosbarth mwya’ egr; a difyr oedd gwrando ar Jones yn dal pen rheswm â hwy—yn eu tynu allan i gredu fod ganddynt ddau gwsmer hawdd eu twyllo—ac ar ol eu dwyn i ymyl bargen, yn ysgwyd pen, gan dd’we’yd:

Mwsh aws!” ystyr yr hyn yw. “Dim eisie!” ac yn cerdded i ffwrdd mor ddihidio a chocosen. Mi fydde’r crëadur cellweirus wedi myn’d yn ei flaen weithie tra fyddwn i’n breuddwydio; a phan y trotiwn ar ei ol, dilynid fi gan furmuron bygythiol y gwerthwr.

“Be’ mae o’n ddeud, Jones?” gofynwn, ar golli f’anadl.

“Bwrw anatheme ar eich ol, gorchymyn eich corff i’r fwlturied, a’ch ened i’r poenwyr,” ebe’m cyfell, gyda’r un llyfnder ag y dywede’i bader.

“Mae’n dda iddo nad o’wn yn ei ddeall,” meddwn, “onide fe’i tanbelenwn â rhai o derme barddonol Dafydd ab Emwnt, fel y gwnaeth Talhaiarn â’r ’sgrech hono o Billingsgate.” Chwarddodd fy ffrind yn galonog, a d’wedodd hwyrach y cawswn gyfleusdra arall yn fuan.

“Mae eisie ffon arnaf,” ebwn yn sydyn; ac aeth a mi at stondin hen Roegwr a adwaene. Rhoes ar ddeall i hwnw fy neges, a ffwrdd a’r “coryn” deudroed i’w gastell, gan ddwyn odd’no ffon lathr wedi ei gwneud o groen unicorn. Enw arall ar yr unicorn yw rhinoceros.

“Dyma hi,” ebe fe, a gwên fuddugoliaethus ar ei wefus fain. “Bargen fawr—plygu fel chwip—dim nam,” a throai’r ffon yn bob ffurf yn y byd o flaen ein llyged.

Bekamde?” ebe Jones; “hyny yw, Beth yw ei phris?”

Ond cyn dweyd ei phris, parhau i dywallt ffrydlif o eirie cymeradwyol i’r ffon a’i rhinwedde wnai’r hen gono, nes bron a gwneud i mi gredu taw hen ffon Moses ydoedd, neu ffon Aaron ei frawd, a dweyd y lleia’; a pharod o’wn i’w phrynu ar unrhyw bris.

Bekamde?” ebe Jones eilweth, mor swrth a phlismon.

Eshreim,” ebe’r gwerthwr, gan geisio ailddechre. Ond torodd Jones ar ei draws yn ddiseremoni—

Mwsh aws,” ebe fe, a ffwrdd ag e’ dan chwibanu. Es ar ei ol, a gofynes iddo pa’m na phrynase’r ffon.

“Am ei fod yn gofyn punt am werth coron.” Cauodd ben y mwdwl ar unweth. Y’mhen chwarter awr’ro’em yn pasio heibio stondin y Groegwr drachefn, a dyna lle’r oedd a’r ffon yn ei law o hyd.

Bekamde?” ebe Jones y drydedd waith, heb aros dim, ac mor anibynol a miliwnêr.

Arba,” ebe ynte’n union; a che’s y ffon am bedwar swllt! Hen eillwyr ofnadwy yw gwŷr gwlad Groeg, cystal a gwŷr gwlad Canaan unrhyw ddydd; ac yr oedd geirie Paul yn tori bob ochr pan dd’wedodd nad oedd “gwahanieth rhwng Iuddew a Groegwr.”

Aethom drwy’r maelfeydd Tyrcedd, Persiedd, Indiedd, a Melitedd oll yn eu tro, a’u rhyfeddode’n amlhau ac ymehangu bob cam o’r ffordd. Yr oedd cyfoeth a gwychder y lle yn fy synu. Yr oedd fy nghydymeth yn adwaen rhai o’r maelfäwyr, ac yn ei gysgod ce’s fwrw golwg dros rai o’r dirgelion oddifewn. Dynion caredig o’ent oll cy’d ag y safech gyda hwy i fargeinio; wn i ddim sut rai all’sent fod wedi i chwi droi cefn heb brynu. Meddent ar allu nodedig i edrych yn serchus ac i edrych yn gâs, fel y bydde’r cymhellion. Y ffordd effeithiolaf i gael llonydd ganddynt oedd siarad yn sarug â hwy, a thynu croen eich talcen dros haner eich llyged. Dyn a’ch helpo os na fedrech wneud hyny; fe’ch blingent yn fyw. I fyny ac i lawr—i’r dde’ a’r aswy—y’mlaen ac yn ol—a’r naill le mor debyg i’r llall ag y gallent fod: yr oedd yn syndod i mi sut oedd yr hogyn yn gwybod ei ffordd cystal. O’r diwedd, ar ol troi a throsi, a chamu a chroesi ganoedd o weithie, mi all’swn dybied, dyma whiffyn o’r awyr agored yn disgyn ar fy ffroene—dyna oernad asyn yn disgyn ar fy nghlustie—dacw ddau o honynt yn sefyll yn hamddenol yn y fan draw, a phen y naill wrth gynffon y llall—a dacw Ali a Mustapha’n pwyso arnynt mor hamddenol a hwythau, dan chw’thu colofne o fwg sigarets allan o’u ffroene. ’Roedd deubeth yn peri iddynt fod hamddened—stoicieth eu natur a’u credo, a’r wybodeth taw wrth y dydd y cyflogid hwy.

Ffwrdd a ni drachefn. Yr oedd gwahanol aelode’r finte yn deall eu gilydd yn well erbyn hyn. Gadewes i Jones flaenori, a da i mi fu hyny cyn nemor o amser. Cyfeiriem yn awr i’r eglwys y sonies am dani, ac yr oedd yn rhaid ini fyn’d drwy ganol y farchnad Dyrcedd os am fyn’d yno’r ffordd agosa’. Ceir yma arwerthiant boblogedd bob bore’, a’r dyrfa’n dew yn ’i gilydd, ac yn rhifo’i miloedd. Yr o’em yn ei chanol cyn ini’n brin osod ein hunen yn daclus ar y cyfrwy.

“Cauwch cich côt, a meindiwch eich ’watch!’ ” oedd gorchymyn Jones mewn llais croch, cynhyrfus. Ceisies wneud gore’ medrwn, ond yn fy myw y gall’swn guddio’r gadwen o’r golwg, am nad oedd y gôt yn botymu’n ddigon isel. Ni welsoch erioed y fath helynt, ac ni chlywsoch erioed y fath fwstwr. Fel y d’wedes, Jones oedd yr arloesydd, ac yr oedd yn gofyn iddo dreisio’i ffordd yn llyth’renol drwy’r dyrfa—fel pe gwelech aing y’myn’d i mewn i bren. Dilynid ef gan Mustapha, yna, down ine, ac Ali ar f’ol. Gwaedde’r ddau Arab ar ucha’u llais yn ddïatal am i’r bobl glirio; gwaedde Jones c’uwch a’r ddau: ond ce’s glywed wed’yn fy mod i wedi myn’d i waeddi c’uwch a’r tri cyn d’od yn rhydd o’r giwed guchiog. Gynted y cyll dyn ei hun dan rai amgylchiade!

Sut bynag, daethom drwyddynt yn ddïogel, a chawsom ein hunen yn fuan wrth gyntedd allanol yr eglwys. Bu raid ini wisgo sandale am ein traed cy’ myn’d i mewn, a gadel yr asynod a’r arweinwyr fel o’r blaen y tu allan. Daeth gŵr arall i’n cyfarwyddo, yr hwn a ymgyfathrache â ni trwy arwyddion. Wedi gadel y porth, daethom i gyntedd agored anferth, yn yr hwn yr eistedde ac y gorwedde miloedd o ddynion, yn dỳre ar wahan, fel dosbarthiade mewn Ysgol Sul, ac athraw ar bob dosbarth. Yn llaw pob un yr oedd rhôl fechan, a dealles yn fuan taw darn o’r Coran oedd hwnw. Murmurent yn haner hyglyw ar hyd yr amser, ac yr oedd eu sŵn fel sŵn byddin o gacwn yn llawn gwaith. Pigem ein llwybr yn ofalus ar ol ein harweinydd—weithie’n cwmpasu, ac weithie’n camu dros goes y naill, a dwygoes y llall, a chorff y trydydd. Ni syfle un o honynt gyment a bys er mwyn ini basio’n hwylusach. Yr o’ent oll o dan belydre crasboeth haul y canolddydd, ac ymestyne rhai ar eu hyd, fel pe baent wedi eu llwyr orchfygu ganddo. Aethom i fewn i’r adeilad sy’ dan dô, a chawsom ail-argraffiad o’r un olygfa. Ce’s fy ngogleisio’n sydyn gan rywbeth neu gilydd wrth groesi’r ystafell hon, a throis at Jones am gydymdeimlad. Nid af i wadu na ddarfu i mi chwerthin yn uwch nag oedd yn weddus, erbyn cofio y’mhle’r o’wn. Ga’nad beth am hyny, dyma lais main, crynedig, yn cyredd fy nghlust:

“Er mwyn y Nefoedd, peidiwch a chwerthin, na siarad yn uchel!”

Mi feddylies fod yno Gymro arall gerllaw, ond dealles mewn pryd taw Jones oedd wrthi; a rhwng y llais a’r geirie, mi lynces yr awgrym, ac ni fum anufudd i’r datguddiad. Mae’n debyg imi beri i rai o honynt golli eu gwers: mi ge’s un fy hun nad anghofies mo’ni wed’yn, Erbyn hyn, yr o’em wedi d’od at ystafell y puredigeth. Cymeres gipdrem ar y fan, yne mi drois ar fy sodle’n sydyn, cydies yn dỳn yn fy nhrwyn, a gwadnes hi odd’no gynted y gallwn. Yr oedd yn llawn bryd. Da oedd genyf hefyd gael gwared o’r sandale. Enw’r eglwys hon oedd “Eglwys y Brif-Ysgol,” a d’wedwyd i mi fod yno bymtheg mil o eneidie y bore’ hwnw, yn ddynion i gyd, heb wraig, na merch, na phlentyn yn agos i’r lle. Cofies am Ysgolion Sul Cymru, ac nis gall’swn beidio cymharu a chyferbynu.

Dyna i ch’i dro byr i fyd ac eglwys. A’r hyn sy’n rhyfedd yw—fod yn rhaid i chwi adel yr asynod allan cyn y cewch fyn’d i fewn i’r naill na’r llall o honynt.

PENOD XX.

*

AR YR AFON.

FRED yw d’we’yd pa afon a olygir. Yr wyf wedi sôn am dani eisoes, neu o leia’ am un o’i thafode, yn ymyl Alecsandria. Dyna lle mae’n llepian Môr y Canoldir â’i saith tafod yr un pryd. Yn ymyl Cairo y mae’n fforchogi. Oddiyno ’mlaen i’r môr y mae’n cofleidio’r holl wlad am bellder o chwech ugen milldir; ac y mae rhagor na hyny o bellder rhwng ei thafode eitha’ wedi y cyrhaeddo derfyn ei thaith. Ar yr afon y dibyna pobl y wlad yna am gynalieth. Pan y gorlifa ar ei hamsere, gedy swm trwchus o fẁd ar ol yn gynysgeth i’r trigolion. Mae hwn yn dir ac yn wrteth o’r fath ore’, a phroffwyda gynhaua’ toreithiog. Mae’r gorlifiade drachefn yn dibynu ar y swm o eira fydd ar fynyddoedd Abyssinia. Ychydig a wydde neb am y Nile yn ei chrwydriade drwy’r anialwch hyd yn ddiweddar: ar ol iddi gyredd gwlad yr Aifft y daw’n fwya’ hysbys. Hanes yr Aifft yw ei hanes hithe er y dyddie boreua’; ac am fod y wlad wedi bod mor enwog ac adnabyddus ar hyd y canrife, felly mae hithe, yn rhinwedd y berthynas, wedi bod yn cyfranogi o’r un enwogrwydd. Addolir hi gan yr hen Aifftied, ac addolir pob crëadur sy’n byw yn ei dyfroedd. Coleddir teimlade eithafol tuag ati gan bawb o’r trigolion yn ddiwahanieth; ac os mynwch i mi dd’we’yd ambell i wir sy’ ore’ i’w gelu, mi dd’wedaf taw nid heb beth braw yr edrychwn ine ar yr hen ddewines bob tro y cawn gyfle, yn enwedig fin nos wrth ole’r lloer.

Bum y’nes ati na’i glane. Croeses hi amryw weithie dros bontydd, fychen a mawrion; a chroeses hi mewn bade ac ar rafftie droion a throion. Bum i fyny ar hyd-ddi yn y wlad am rai milldiroedd. Huws oedd hefo mi’r diwrnod hwnw. Cawsom afel ar fâd môr-ladronllyd yr olwg arno ryw brydnawn, ac aethom iddo’n fentrus dros ben; a dyna lle buom am ddwyawr neu ragor at drugaredd dau o’r pechaduried dua’u crwyn a mileinia’u llyged a weles mewn breuddwyd erioed. Mae’n amheus genyf a weles i ryw lawer o’r wlad yr aethom drwyddi, gan fel y gwyliwn symudiade’r badwyr; ac yr oedd colofne o fwg rhyngof a gwel’d fy nghydymeth, yr hwn oedd wedi ’mollwng iddi cystal ag un Twrc. Yr unig beth wn I i sicrwydd am y wibdeth hono yw—ini gefnu ar y ddinas, a mordwyo i’r wlad am gryn getyn. Mae genyf gôf niwliog i Huws bwyntio â’i fys at gruglwyth o hesg gerllaw, a murmur rhywbeth am “Moses Bach.” Ce’s allan wed’yn fod traddodiad yn d’we’yd taw dyna’r ’smotyn y daeth merch Pharo’ o hyd i waredwr dyfodol plant Israel. Wel, ’ro’dd’no ddigon o hesg i guddio sgoroedd o blant yr Hebrëwyr. Nid wyf yn cofio dim arall o’r daith, oddieithr fy llawenydd o gael fy nhraed ar y tir ar ei diwedd.

Ni fum erioed yn yr afon, ac ni fu dafn o’i dyfroedd erioed ynof ine, trwy wybod imi. Nis gwn p’run yw’r gwaetha’, ai yfed o honi ai ymolchi ynddi. Mi weles erill yn gwneud pob un o’r ddau, a ’roedd hyny’n ddigon, a mwy na digon i mi.

Pan yn ei chroesi un diwrnod ar rafft, tynwyd fy sylw at ddyn oedd y’myn’d trwy ddefod ei buredigeth (dybygwn i) yr ochr ucha i ni. Yr oedd hyd ei forddwydydd yn y dw’r, heb bilin am dano, ac wrthi mor brysur a phe b’ase blwyddyn wedi myn’d heibio oddiar pan y bu wrthi ddiwedda’. Wedi i mi fod yn gwylio’r crëadur noethlymun am bum’ munud mor fanwl a phe bawn yn disgwyl iddo droi allan yn löwr o Abergorci, ebe Huws wrthyf—oblegid efe oedd hefo mi’r tro hwn eto:

“Dacw i ch’i bictiwr arall yr ochr isa’; ’drychwch arno y’ngole’r llall.”

Edryches, a dyma be’ weles. Dyn o’r un lliw a’r llall yn y dw’r hyd at ei benlinie, a chostrel o groen yn hongian wrth ei ochr yn geg-agored, a thamed o flwch alcan wedi ei fylchu drosto, tebyg i hen “dìn sa’mon” wedi ei wagio a’i daflu i’r afon, yn ei law dde’n codi dw’r i’r gostrel. Pan ddaethom y’nes ato, mi weles taw “tìn sa’mon” ydoedd yn ddïos. Yr wyf wedi gwel’d llwythi o honynt y’ngwely’r Hondda i fedru eu camgymeryd y’ngwely’r Nile. Cyn ini gyredd y tir, yr oedd y gŵr wedi llanw’r gostrel a myn’d i’w ffordd. Ond yr oedd y llall wrthi o hyd yr ochr ucha’; a myne Huws, pe baem yn ddigon agos ato, y gwelem drwch o faw yn llifo oddiwrtho ar hyd wyneb yr afon. Nid o’wn yn synu dim at hyny; ond pan y ’chwanegodd fod y bade’n methu croesi weithie pan fydde dau neu dri’n ymolchi’r un pryd, oherwydd y trwch, mi weles ei bod yn bryd imi gymeryd pinsied o halen. Yr oedd Huws wedi dal y dwymyn ddychymyg sy’n y Dwyren i radde mwy na’i gyfeillion.