WeRead Powered by ReaderPub
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards cover

Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards

Chapter 34: V.
Open in WeRead

Explore more books like this:

About This Book

A selection of translated bardic poems rendered into English, accompanied by explanatory notes and short accounts of the persons, places, and occasions referenced. The editor discusses manuscript sources, offers a preface defending authenticity, and explains difficulties in translating archaic language and obsolete words; some lines remain uncertain where the original was unclear. The collection focuses on praise, martial exploits, hospitality, and elegy as performed by medieval poets, with a Latin dissertation on bardic practice appended and editorial commentary on textual variants and historical allusions.

Non abs re fore judicavi hic monumentum vetus inserere; quod in manuscripto Joh. Dav. Rhesi propria manu exarato inveni.  Quod quidem manuscriptum dignum est omnino quod prelo mandetur: nostram enim linguam poesin, et alia vetusta monumenta adversus ignarum quendam calumniatorem, quorum messem innumeram hæc aeque ac superior aetas tulit, strenue vindicat.  Hic tractatus in lingua Britannica eleganter scriptus est, et talium nebulonum inscitiam protervam facile retundit.  Videtur vir doctissimus hoc monumentum ex vetusto aliquo scriptore nunc deperdito excerpsisse.  Utcunque sit, id ego ex ejus autographo hic fideliter exscribere curavi.  “Blethinus filius Cynvini patri in principatu Povisiæ successit.  Hic templa, castra et maneria renovari fecit, leges Howeli observavit.  Inter tres principes, videlicet, Gruffinum filium Conani principem Venedotiæ, Blethinum filium Cynvini principem Povisiæ, et Rhesum filium Tewdwr principem Suth-walliæ inquisitio magna fuit de armis et de regali sanguine antiquorum Britonum.  Quibus conquisitis in ditione sapientium Walliæ; repertæ fuerunt tres lineæ regales, et quindecim lineæ de sanguine nobilium senatorum Britanniæ.  Hic Blethinus primus omnium principum Povisiæ, in armis usus est leone rubeo in sulphure.  Hic castrum de Dol y Forwyn fundavit, et apud Mifod sepultus est.”

Sunt in istis genealogiis multa quæ antiquario Britannico usui esse possunt; nihil enim apud nostrates vel antiquius vel magis autenticum extat, et nihil quod magis nostram illustrat et confirmat historiam.  Nonnulli enim ex Bardis non solum rei poeticae, verum etiam historicae mentem appulerunt.  Erat in monasteriis uber historiarum, genealogiarum et poeseos collectio.  Bardi enim ab abbatibus maxime fovebantur, et erant in festis solennibus ab iis laute excepti: uti constat ex operibus Gutto’r Glynn, Guttun Owain, Ieuan Deulwyn et Tudur Aled.  Extant et nunc in nobiliorum ædibus innumera Epicedia, quæ nostrates Cywyddau Marwnad nuncupavere: fuit enim Bardi domestici munus, cum aliquis e familia obierit, ejus Epicedium concinnare, quod post exequias ad cognatos fuit delatum et coram iis a Rhapsodis quos nostrates Datceiniaid nominavere recitatum.  Inter alia quæ in defuncti honorem sunt narrata, ejus genealogiam memorare tenebatur, ex quibus nobilibus ortus fuerit familiis, et quæ præclara fecerint ejus majores facinora.  Hujuscemodi poematum multa vidi exemplaria pulchre exarata.  Ab Elizabethae Reginæ tempore nullus fuit Bardorum legitimus consessus: unde fit ut nil sit deinceps accurate et secundum prosodiæ regulas scriptum: eousque ut jamdudum Bardorum et historicorum opera (ex quibus solis vera et genuina Britanniæ historia petenda est) in maximo sint periculo ne funditus pereant.  Quod multas ob causas in seculo tam docto et sagaci maxime est deplorandum, sunt quidem hoc ævo qui hæc studia velint rediviva, et qui plus ipsi possint in re poetica atque historica quam quos superior tulit aetas.  Inter quos societas Cymmrodorion Londini, patriae atque maternae linguae amore instigata, inter alia laude digna instituta, nonnulla veterum et recentiorum melioris notae Bardorum poemata typis mandare meditatur.  Opus profecto omnibus Cambris ingenuis gratissimum et longe desideratissimum.  Optandum est potius quam expectandum, ut ii qui habent aliquid in poesi vel historia notatu dignum in privatis bibliothecis reconditum, id in vulgus emittant, aut saltem ab iis qui hujusmodi rebus operam navant perlegi permittant.  Sic enim suae famae et patriae commodo melius consulent quam vermibus et muribus committere.

Ego autem in Cambriae montibus degens a bibliothecis et museis procul, quod potui feci; utinam ii qui plus possint, et materiam uberiorem sunt nacti de Bardis, et caeteris Britannicae antiquitatis reliquiis, meliora cudant.

YCHYDIG
AWDLAU O WAITH YR HEN FEIRDD,
yn amser
tywysogion cymru;
WEDI EU CYFIEITHU I’R SAESONEG;

Er mwyn dangos ansawdd ein Prydyddiaeth i wyr cywraint, dysgedig, anghyfiaith: â nodau byrrion, i eglurhau enwau Dynion, a Lleoedd, a grybwyllir ynddynt; a hanes byrr o honynt, wedi ei gasglu allan o Drioedd Ynys Prydain, a hen Goffadwriaeth eraill; er dywenydd i’r oes hon, ac er adfer ei haeddedigawl barch i’r hen famiaith Gymraeg, ac i’n Gwlad; a’u dyledus glod i’w thrigolion dewrwych gynt.

 

Αιει τουτο Διος κόυραις μέλει, άιεν άοιδοις
Υμνειν αθανάτως, υμνειν αyαθων κλέα ανδρων.

Theocritus Idyll, xvi.

 

AT
RISIART MORYS, YSWAIN,
llywydd cymdeithas y cymmrodorion yn llundain;
A’I FRODYR,
LEWIS MORYS, YSWAIN, O BENBRYN,
yng ngheredigion; a
WILLIAM MORYS, O GAERGYBI, YM MON.

Ni bum yn hir yn myfyrio i bwy i cyflwynwn yr ychydig Awdlau sydd yn canlyn, canys ni adwaen i neb heddyw ag sydd yn eu deall cystal â chwi, na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu Frutannaidd.  I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y Llywydd, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad diweddaf y Bibl Cyssegrlan, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr.  Ef a dâl Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo’r byd hwn, a’i holl fawredd a’i wychder, wedi llwyr ddiflannu.  Ac i mae’r wlad a’r iaith yn dra rhwymedig i’r Gwr o Benbryn, am gasglu cymmaint o Hanesion ynghylch ein Hynafiaid, na chlywodd y Saeson braidd son erioed am danynt.  Ef a ddelwent ddilynwyr Camden, pei gwelynt fal i mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a’u tuedd gwyrgam, yn bychanu ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru mai dychymmygion diweddar ydynt.  Gobeithio i cawn ni weled y trysor mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw oganwyr ein hen hanesion.  Nid bychan o les i mae y Gwr o Gaergybi ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu Gwaith yr hen Feirdd godidog gynt; ac ir wyf yn cyfaddef mai o’i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o’r odlau sydd yn canlyn.  Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i’ch gwlad a’ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes hon.  Ef a ddichon hyn beri i’n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll.  Ac os na wna hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn odiaeth.  Hyn a’m hannogodd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i’w gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill godidoccach.  Nid oedd genyfi ond torri’r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau.  Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw o’r Saeson, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dâl ei ddangos i’r byd: a bod un o drigolion yr Uch Alban gwedi cyfieithu swrn o waith hen fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a’i osod allan yn ei enw ef.  Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen feirdd awduraidd ni, sydd eto i’w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mhellach yr awron.  Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o’n hen feirdd ein hunain i’r byd; ac os darfu i mi wneuthur cyfiawnder iddynt, dyna fi wedi cyrraedd fy amcan.  Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae’n llawen genyf gael odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a’ch traserch chwi at eich gwlad a’ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr haeddbarch,

Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf,

EVAN EVANS.

AT Y CYMRY.

Pan welais fod un o Ysgodogion Ucheldir Alban, ac hefyd Sais dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i’r Saesoneg, mi a dybygais mai nid gweddus i ni, y Cymry, y rhai sydd genym Gerddi awduraidd, gorhenaidd, o’r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna’r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli.  I mae gwaith y Derwyddon, od oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll; ac nid oes dim wedi dyfod i’n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn unig.  I mae ein hen Fusic wedi ei llwyr ebargofio: nid yw’r cyweiriau cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y Cymry yn griddfan tan iau galed y Saeson.  Am gelfyddydau eraill, od oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli.  Nid oes genym ddim hanes am ein hynafiaid o’n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y Beirdd yn unig, o flaen Gildas ap Caw; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy ddwylo’r Meneich; gwŷr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i’w dibenion eu hunain.—Y Beirdd, fal i tystia Giraldus, Arch-diacon Brycheiniog, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i Dysilio fab Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, ysgrifennu’r hanes sydd yr awron yn myned tan enw Brut y Brenhinoedd, yr hwn a ddarfu i Galfrid ap Arthur, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith Llydaw i’r Lladin, ac oddiyno yn Gymraeg; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i’w gweled yng Nghymru; ond ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes Tysilio: Flamines ac Archiflamines, a phrophwydoliaeth Myrddin Emrys, a phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio.  Ped fuasai yn dilyn y Beirdd, e fuasai genym gywirach hanes nag sydd genym yr awron: ond fel ag i mae, ni haeddai yn gwbl mo’r gogan i mae’r Saeson, o amser Camden, yn ei rhoi iddi; o herwydd i mae Nennius, yr hwn a ysgrifennodd drychant o flynyddoedd o’i flaen, yn rhoddi yr un hanes am ein dechreuad.  Ir wyf yn amcanu, os Duw a rydd im’ hoedl ac iechyd, osod allan yr awdur hwn a nodau helaeth arno, gyd ag amddiffyniad o’r hanes; o herwydd efe yw’r hanesydd hynaf a feddwn yn Lladin, oddigerth y Gildas uchod, yr hwn nid yw deilwng ei gyfrif yn hanesydd; o herwydd nid dyna ei gyngyd na’i fympwy, yn ei Epistolæ de excidio Britanniæ.  Ir wyf yn methu a chaffael copi iawn o Nennius, ac ir wyf yn meddwl nad oes un yng Nghymru a dâl ddim, ond yn Hengwrt: da iawn er lles y wlad a hanesyddion Prydain, i gwnai ei berchennog adael i ryw wr dysgedig ei gymharu.  I mae genyfi ddau gopi, ond i maent yn dra ammherffaith; felly hefyd i mae’r rhai printiedig, o eiddo’r Dr. Gale a Bertram.  Ni wiw i Sais, na neb dieithr, bydded mor ddysgedig ag i mynno, oni ddeall ef Gymraeg yn iawn, ac oni chaiff hefyd weled ein hen ysgrifenadau a’n Beirdd ni, gytcam a’r fath waith.  Nid yw Camden, er dysgedicced, diwytted, a manyled gwr ydoedd, ond ymleferydd am lawer o bethau yn ei Britannia; a hyny yn unig, o achos nad oedd yn medru yr iaith yn well.  A gresyn yw, nad oedd y Saeson, y rhai oeddynt yn ddiau (rai o naddunt) yn chwilio pethau yn dêg, ac yn ddiduedd dros ben, y cyfryw ag ydoedd Leland, Usher, a Selden, yn deall ein iaith, a medru gwneuthur defnydd o’n hen lyfrau: o herwydd hyn, nid oeddynt, er cymaint eu dysg a’u dawn, ddim i’w cyffelybu ag Wmffre Llwyd o Ddinbych, a Rhobert Fychan o’r Hengwrt, fel i mae eu gwaith yn eglur ddangos.  Ac yn ddiau, mae yn ammhosibl i undyn, bydded mor gywreinied ag i myno, wneuthur dim â ffrwyth ynddo, heb gaffael gweled yr hen ysgrifenadau, sydd yn gadwedig yn llyfr-gelloedd y boneddigion yng Nghymru; yn enwedig yn Hengwrt, a Llan Fordaf.  Myfi a welais, ac a gefais fenthyg amryw lyfrau o waith llaw, yn llyfrgrawn yr anrhydeddus Robert Davies, ysgr. o Lannerch yn Swydd Dinbych; a Sir Roger Mostyn yng Ngloddaith, seneddwr dros Swydd Flint; a chan yr anrhydeddus William Fychan, ysgr. o Gors y Gedol, seneddwr dros Swydd Feirionydd; yr hyn ni fedraf lai nâ’i fynegu yma yngwydd y byd, er coffau eu cymmwynas a’u hewyllys da i’n gwlad a’n iaith, ac i minnau hefyd; yn ol arfer canmoladwy, a haelioni yr hen Frython gynt.

Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol.  Ef a ddarfu imi gyfieithu ychydig odlau o’u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o Loegr; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i mae yn rhaid im’ adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi ddim i’w ddywedyd, os drwg yw’r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae’r bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol odiaeth; ond i mae’n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig nac ysgrifenedig a welais i.  Ir oedd yr Athraw hynod o Fallwyd, yr hwn a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei einioes, yn methu eu deongli.  Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. Edward Llwyd o’r Musæum, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus â holl geinciau prifiaith Prydain.  Ac yn ddiau o’r achos yma, nid oedd genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y Beirdd, mewn llawer man, oddiwrth flaen ac ol.  Ir wyf yn rhyfeddu’n ddirfawr am rai o’r Cymry sydd yn haeru fod gwaith Taliesin, a’i gydoesiaid Aneurin Gwawdrydd, Llywarch Hen, a Merddin Wyllt, yn hawdd eu deall.  Yn ddiau nid wyf i yn deall mo honynt, ac i mae’r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw, yn addef yr un peth.  I mae’r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol dyfodiad Gwilym Fasdardd, hyd farwolaeth, Llywelyn ap Gruffydd, yn dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn.  Hyn a barodd i mi beidio â chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi, trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam â hwynt.  Ond gan i’r Saeson daeru, na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dâl ei ddangos; mi a wnaethum fy ng’orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl, y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn rhaid i’r Beirdd, a’m cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.—Heblaw hyn oll, i mae hyn o waith yn dyfod i’r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos mewn dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr Uch Alban, gwedi gosod allan ddau lyfr o waith Ossian; hen Fardd, meddai ef, cyn dyfod Cristianogaeth i’w plith.  Ac i mae’r llyfrau hyn mewn rhagorbarch gan foneddigion dysgedig y Saeson.  A rhaid addef eu bod wedi eu cyfieithu yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi’r cwbl, fod yr Ysgodog yn bwrw hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru eu bod.  I mae’r Gwyddelod yn arddelw Ossian megis un o’u cydwladwyr hwynt; ac i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn dangos, yn fy nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae’r cyfieithydd yn son am dani; yn enwedig dyfodiad Gwyr Llychlyn i’r Iwerddon, yr hyn ni ddigwyddodd, meddai hanesyddion yr Iwerddon, cyn y flwyddyn 700.  Ac ni ddaeth yr Ysgodogion chwaith i sefydlu yn yr Alban, o flaen Fergus Mac Ein, ynghylch y flwyddyn 503; fal i mae William Llwyd, Esgob Caerwrangon, wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch llywodraeth eglwysig.  Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni fyddai hynny ronyn nes i brofi Ossian mor hyned ag i dywedir ei fod.  O herwydd ped fuasai, pa fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor hyfedr?  I mae gwaith ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny, tu hwnt i ddeall y gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen Frutaniaith.  Pwy o honom ni a gymerai’r Gododin, gwaith Aneurin Gwawdrydd, Fychdeyrn Beirdd, a’i gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd Ffingal a Themora?  Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd y fath orchest arno.  Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o hono yma a thraw, y rhai a ellwch eu gweled yn y traethawd Lladin ynghylch y Beirdd.  A gresyn yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf fi yn ei ddeall, gwaith godidog ydyw.  Yr un peth a ellir ei ddywedyd am Daliesin Ben Beirdd, nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu yn iawn un o’i Awdlau na’i Orchanau.  Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd y wlad, wedi eu tadogi ar Daliesin a Myrddyn; ond nid ydynt ond dychymygion diweddar, gwedi eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd.  Yn enwedig yn amseroedd terfysglyd Owain Glyndwr, a’r ymdrech rhwyg pleidiau Efrog a Lancaster.  I mae hefyd eraill, gwedi eu lluniaethu gan y Meneich, i atteb eu dibenion hwythau; ond i mae’r rhain oll yn hawdd eu gwahanu oddiwrth awduraidd waith Taliesin, wrth yr iaith.—I mae yn ddiammau genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei amser.  Ir oedd yn gydnabyddus ag athrawiaith y Derwyddon am y μετεμψύχωσις, a’r Daroganau, y rhai oeddynt yn ddiammau, weddillion o’r Credo paganaidd; canys nid yw daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod, oddiwrth y Ddar, yr hon ir oeddynt y Derwyddon yn ei pherchi yn fawr iawn.  A chan ei fod ef yn wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus honno, ir oedd yr hyn a ddywedai yn cael ei dderbyn a’i roesawu gan y gwerinos, megis ped fuasai wir broffwyd.  A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am Ferddin Emrys, a’i broffwydoliaeth.  Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu hynafiaid, oddiwrth un wlad neu genedl!

E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai o’r Beirdd godidog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen gynghanedd?  I’r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, Owain Cyfeiliog, tywysog Powys; a Hywel ap Owain Gwynedd, Bardd a rhyfelwr godidog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na’r Beirdd diweddar, o ran eu testunau.  Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae Sion Dafydd Rhys yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i’r gwyr mawr, ac yn dywedyd celwydd ar eu cân; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo’r fath feddwl nac amcan ganddynt.  Eithr yn amser y tywysogion, o’r gwrthwyneb, ir oedd y Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir oeddynt eu hunain yn filwyr glewion.  Ir oedd Meilir Brydydd yn gennad dros Ruffydd ap Cynan at frenin Lloegr; ac ir oedd Gwalchmai, ei fab, yn flaenor câd ynghyffinydd Lloegr a Chymru; fel i maent ill dau yn tystiolaethu yn eu cerddi.  Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn fuddugawl yn eu rhyfeloedd â’r Saeson, ac ir oedd hynny yn peri i’r Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a’u rhyddid, yn erbyn estron genedl, a’u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid.  Ir oedd y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd cymmwys i beri i’w deiliaid eu perchi a’u hanrhydeddu; canys ir oedd y cerddi godidog yma yn cael eu datgan gyda’r delyn, mewn cyweiriau cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion a’r uchelwyr.  I mae Giraldus yn dywedyd, fod y Cymry mor ddrud a milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog, â’r rhai arfog, llurugog; a’r pedydd yn erbyn y marchogion.  Yn ddiau nid oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan y Beirdd.  Ac e wyddai’r Saeson hynny yn dda ddigon; canys ar ol darostwng Cymru tan eu llywodraeth, e ddarfu iddynt ddihenyddu’r Beirdd trwy’r holl wlad.  I mae llyfrau ystatud Lloegr, yn llawn o gyfreithiau creulon i’w herbyn, ac yn gwarafun yn gaeth iddynt ymarfer o’u hen ddefodau, o glera a chymhortha.  Yn amser Owain Glyndwr, i cawsant ychydig seibiant a chynhwysiad i ganu; ond gwedi hynny, hyd ddyfodiad Harri’r Seithfed, ir oeddynt tan gwmmwl.  Gwedi iddo ef ddyfod i lywodraethu, ac yn amser ei fab, Harri’r Wythfed, a’r frenhines Elisabeth, y rhai a hanoeddynt o waed Cymreig, i cawsant gynhwysiadau i gynnal Eisteddfodau: ond ni pharhaodd hynny ond ennyd fechan, o herwydd bonedd Cymru a ymroisant i fod yn Saeson, fel i maent yn parhau gan mwyaf hyd y dydd heddyw.

Ond i mae rhai yn yr oes yma yn chwenychu eu cadw a’u coledd, er mwyn eu hiaith ddigymmysg, ac er mwyn gwell gwybodaeth o foesau ac ansawdd ein hynafiaid; ac er mwyn eu teilyngdod eu hunain; o herwydd i mae yn rhai o’u Hawdlau a’u Cywyddau, ymadroddion mor gywraint a naturiol ag sydd ym Mhrydyddion Groeg a Rhufain; mal i gwyr y sawl a’u deallant yn dda.—Ymysg eraill i mae Cymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, yn rhoddi mawrbarch iddynt; ac yn chwenychu cadw cynnifer o’n hen ysgrifenadau ag sydd heb fyned ar goll.  A da i gwneynt foneddigion Cymru, ped ymoralwent am argraffu y pethau mwyaf hynod a gwiwgof mewn prydyddiaeth, hanesion, ac eraill hen goffadwriaethau; o herwydd i maent beunydd yn cael eu difrodi, gan y sawl ni wyddant ddim gwell.  Hyn, er lles ein gwlad a’n iaith, yw gwir a diffuant ddamuniad

Eich gostyngedig wasanaethwr, a’ch ewyllysiwr da,

EVAN EVANS.

I.  HIRLAS OWAIN.

Owain Cyfeiliog e hun ai cant.

Gwawr pan ddwyre gawr a ddoded,
Galon yn anfon anfudd dynged,
Geleurudd ein gwyr gwedi lludded trwm,
Tremit gofwy mur Maelawr Drefred.

Deon a yrrais dygyhyssed,
Diarswyd a’r frwydr arfau goched,
A rygoddwy glew gogeled rhagddaw,
Gnawd yw oi ddygnaw ddefnydd codded!

Dywallaw di fenestr gan foddhäed,
Y corn yn llaw Rhys yn llys llyw ced,
Llys Owain ar braidd yt ryborthed erioed,
Porth mil a glywi pyrth egored.

Menestr am gorthaw, nam adawed
Estyn y corn er cyd yfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed,
Hirlas i arwydd aur i dudded:

A dyddwg o fragawd wirawd orgred,
Ar llaw Wgan draws dros i weithred,
Canawon Goronwy, gwrdd gynnired gwyth,
Canawon hydwyth, hydr eu gweithred:
Gwyr a obryn tal ymhob caled,
Gwyr yngawr gwerthfawr gwrdd ymwared,
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunat cyrn medd mawr a wna neued.

Dywallaw di’r corn argynfelyn,
Anrhydeddus, feddw, o fedd gorewyn,
Ac o’r mynni hoedl hyd un blwyddyn,
Na ddidawl i barch, can nid perthyn,
A dyddwc i Ruffydd waewruddelyn,
Gwin a gwydr goleu yn ei gylchyn,
Dragon Arwystli, arwystl terfyn,
Dragon Owain hael o hil Cynfyn,
Dragon iw dechreu, ac niw dychryn cat,
Cyflafan argrat cymwy erlyn.
Cetwyr idd aethant er clod obryn:
Cyfeddon, arfawc, arfau Edwyn,
Talassant i medd mal gwyr Belyn gynt,
Teg i hydrefynt tra bo undyn.

Dywallaw di’r corn, canys amcan cennyf,
Ydd ymgyrryw glyw gloyw ymddiddan,
Ar llaw ddehau ein llyw gyflafan,
Lluch y dan ysgwyd ysgawn lydan,
Ar llaw Ednyfet llawr diogan lew,
Ergyrwayw trylew, trei i darian.
Terfysc ddyffysc ddeu ddiofn anian,
Torrynt torredwynt uch teg adfan,
Teleirw yngbyngrein ynghyfran brwydr,
Tal ysgwyd eurgrwydr torrynt yn fuan:
Tryliw eu pelydr gwedi penwan,
Trylwyn yn amwyn amwiw Garthan.
Cigleu ym Maelawr gawr fawr fuan,
A garw ddisgyrr gwyr, a gwyth erwan,
Ac ymgynnull am drull am dramwyan,
Fal i bu ym Mangor am ongyr dân:
Pan wnaeth dau deyrn uch cyrn cyfrdan.
Pan fu gyfeddach Forach Forfran.

Dywallaw di’r corn, canys myfyr gennyf,
Men ydd amygant medd a’n tymmyr,
Selif diarswyt orsaf Gwygyr,
Gogelet ai cawdd calon eryr!
Ac unmab Madawc, enwawg Dudur hael,
Hawl bleiddiad, lleiddiad, lluch ar ysgyr,
Deu arwreidd, deu lew, yn eu cyngyr,
Deu arial dywal dau fab Ynyr,
Dau rydd yn nydd cad eu cyfergyr,
Cyfargor diachor camp diachyr,
Arfod llewod gwrdd, gwrddwan cadwyr,
Aer gunieid, lunieid, coch eu hongyr,
Treis erwyr yn ffwyr ffaw ehegyr,
Trei eu dwy aesawr dan un ystyr,
Gorfu gwynt gwaeddfan uch glan glasfyr,
Gorddwy clau tonnau Talgarth ystyr.

Dywallaw di fenestr na fyn angau,
Corn can anrhydedd ynghyfeddau,
Hirlas buelin, breint uchel hen ariant,
Ai gortho nid gorthenau:
A dyddwg i Dudur, eryr aerau,
Gwirawd gyssefin o’r gwin gwinau,
Oni ddaw i mewn o’r medd gorau oll,
Gwirawd o ban, dy ben faddau,
Ar llaw Foreiddig, llochiad cerddau,
Cerddyn hyn i glod cyn oer adnau,
Dieithr frodyr fryd ucheldau,
Diarchar arial a dan dalau,
Cedwyr am gorug gwasanaethau,
Nid ym hyn dihyll nam hen deheu
Cynnifieid, gyrthieid, fleinieid, fleiddiau,
Cynfaran creulawn creulyd ferau,
Glew glyw Mochnannwys o Bowys beu:
O glew gwnedd arnaddunt deu,
Achubieit pob rheid, rhudd eu harfeu:
Echedwynt rhag terfysc eu terfynau,
Moliant yw eu rhann y rhei gwynnau;
Marwnad fu neud mi newid y ddau!
O chan Grist mor drist wyf o’r anaeleu!
O goll Moreiddig mawr ei eissieu.

Dywallaw di’r corn can nim puchant,
Hirlas yn llawen yn llaw Forgant,
Gwr a ddyly gwawd gwahan foliant,
Gwenwyn y addwyn, gwan edrywant,
Areglydd defnydd dioddefiant llafn,
Llyfn i deutu llym ei hamgant.

Dywallaw di fenestr o lestr ariant,
Celennyg edmyg, can urdduniant,
Ar llawr Gwestun fawr gwelais irdant,
Ardwy Goronwy oedd gweith i gant,
Cedwyr cyfarfaeth ydd ymwnaethant,
Cad ymerbynieid, eneid dichwant,
Cyfarfu ysgwn ac ysgarant aer,
Llas aer, llosget maer ger mor lliant:
Mwynfawr o garcharawr a gyrchassant,
Meurig fab Gruffydd grym ddarogant,
Neud oedd gochwys pawb pan atgorsant,
Neud oedd lawn o heul hirfryn a phant.

Dywallaw di’r corn ir cynnifieid,
Canawon Owain, cyngrein, cydneid,
Wynt a ddyrllyddant yn lle honneid,
Glud men ydd ant gloyw heyrn ar neid:
Madawc a Meilir gwyr gorddyfneid treis,
Tros gyferwyr gyferbynieid:
Tariannogion torf, terfysc ddysgeid,
Trinheion faon, traws ardwyeid.
Ciglau am dal medd myned dreig Cattraeth,
Cywir eu harfaeth, arfau lliweid,
Gosgordd Fynyddawc am eu cysgeid,
Cawssant y hadrawdd cas flawdd flaenieid;
Ni wnaeth a wnaeth fynghedwyr ynghalet Faelor,
Dillwng carcharor dullest foleid.

Dywallaw di fenestr fedd hidlaid, melus,
Ergyrwayw gwrys gochwys yn rheid,
O gyrn buelin balch oreuraid,
Yr gobryn gobrwyau henaid;
O’r gynnifer anhun a borth cynnieid
Nis gwyr namyn Duw ac ai dywaid.

Gwr ni dal ni dwng, ni bydd wrth wir,
Daniel dreig cannerth, mor ferth hewir,
Menestr mawr a gweith yd ioleithir
Gwyr ni oleith lleith, oni llochir,
Menestr medd ancwyn a’n cydroddir,
Gwrdd-dan gloyw, goleu, gwrddloyw babir
Menestr gwelud dy gwyth yn Llidwm dir
Y gwyr a barchaf wynt a berchir.
Menestr gwelud dy galchdoed Cyngrein,
Ynghylchyn Owain gylchwy enwir,
Pan breiddwyd Cawres, taerwres trwy dir,
Preidd ostwng orflwng a orfolir,
Menestr nam didawl, nim didolir,
Boed ym mharadwys in cynhwysir,
Can pen teyrnedd, poed hir eu trwydded,
Yn i mae gweled gwaranred gwir.  Amen.

II.  AWDL

I Fyfanwy Fechan, o Gastell Dinas BranHowel ap Einion Lygliw ai cant.

Neud wyf ddihunwyf, hoen Creirwy hoywdeg,
   Am hudodd mal Garwy,
O fan or byd rwymgwyd rwy,
O fynor gaer Fyfanwy.

Trymmaf yw cariad tramwy, hoen eurnef,
   Hyn arnaf dy faccwy,
Dy far feinwar Fyfanwy,
Ar ath gar ni fu far fwy.

Gofyn ni allawdd namyn gofwy cur,
   Dyn mewn cariad fwy fwy,
Fynawg eirian Fyfanwy,
Fuchudd ael fun hael fyw’n hwy.

Eurais wawd ddidlawd, ddadl rwy adneuboen,
   Adnabod Myfanwy,
Poen ath gar afar ofwy,
Poen brwyn ei ryddwyn i ddwy.

Gorwydd, cyrch ebrwydd, ceirch ebran addas,
   Dwg dristwas, dig Drystan,
Llwrw buost, farch llary buan,
Lle arlloes fre eurllys Fran.

Gwn beunydd herwydd herw amcan, ddilyd
   Ddelw berw Caswennan:
Golwg, deddf amlwg diddan,
Gwelw, freich fras brenhinblas Bran.

Gyrrais a llidiais farch bronn llydan, hoyw,
   Er hoen blodau sirian:
Gyrrawd ofal yr Alban,
Garrhir braisc ucheldir Bran.

Lluniais wawd, ddefawd ddifan, traul ofer,
   Nid trwy lafur bychan:
Lliw eiry cynnar pen Aran,
Lloer bryd, lwys fryd o lys Fran.

Mireinwawr Drefawr dra fo brad im dwyn,
Gwarando fy nghwyn, frwyn freuddwydiad,
Mau glwyf a mowrnwyf murniad, huno heb
Gwrtheb teg atteb tuac attad
Mi dy fardd digardd, dygn gystuddiad Rhun,
Gyfun laes wannllun ith lys winllad.
Mynnu ddwyf draethu heb druthiad na gwyd
Wrthyd haul gymmryd, gamre wasdad.
Mynnud hoyw fun loyw oleuad gwledydd,
Glodrydd, gain gynnydd, nid gan gennad,
Maint anhun haelfun hwylfad, em cyfoeth
Ddoeth, fain oleugoeth, fy nau lygad,
Medron boen goroen nid digarad was,
Heb ras, mau drachas om edrychiad.
Magwyr murwydr hydr, hydreiddiad lwysle,
Mygrwedd haul fore eurne arnad.
Megis llwyr gludais llawer gwlad, yn ddwys,
Dy glod lwys, cynnwys pob datceiniad,
Mal hy oedd ymmy, am wyl gariad graen,
Myfanwy hoen blaen eiry gaen gawad.
Meddwl serchawl, hawl, lliw ton hwyliad welw,
Arddelw dygynnelw heb dy gynheiliad.
Modd trist im gwnaeth Crist croesdog neirthiad llwyr,
Wanwyr oi synwyr drwy lud senniad.
Murn boen a mi om anynad hawl,
Serchawl eneidiawl un fynediad.
Mul i bwriais, trais tros ddirnad Duw gwyn,
Tremyn ar ddillyn porphor ddillad.
Megis ti ferch rhi, rhoddiad gymmyrredd,
Mwyfwy anrhydedd, wledd wledychiad.
Marw na byw, nwyf glyw gloyw luniad cyngaws,
Hoednaws nid anaws im am danad.
Meddwl ofeiliaint braint braidd im gad llesmair,
I gael yr eilgair wrth offeiriad.
Masw imi brofi, brif draethiad a wnawn,
Lle nim rhoddi iawn, ne gwawn, na gwad.
Mesur cawdd anawdd i ynad eglur,
Adrawdd fy nolur ddwysgur ddysgiad.
Modd nad gwiw, lliw lleuad rhianedd,
Nam gwedd hud garedd, nam hoed girad.
Meinir nith borthir, gwn borthiad poenau,
Yn nenn hoen blodau blawd yspyddad.
Medraist, aur delaist adeilad gwawd,
Im nychdawd ddifrawd ddyfrys golliad.
Meddylia oth ra ath rad, ith brydydd
Talu y carydd Duw dofydd dad.

Prydydd wyf, tros glwyf, trais glud, poen gwaneg,
   Iaith laesdeg ith lwysdud:
Fynawg riain fain funud:
Fun arlludd hun eirllwydd hud.

Im neud glud, dy hud hydr, riain wanlleddf,
   O’r wenllys ger Dinbrain:
Aml yw gwawd gynnefawd gain,
Om araith ith dwf mirain.

III.  AWDL

I Lewelyn fab IorwerthDafydd Benfras ai cant.

Gwr a wnaeth llewych o’r gorllewin,
Haul a lloer addoer, addef iessin,
Am gwnel, radd uchel, rwyf cyfychwin,
Cyflawn awen, awydd Fyrddin,
I ganu moliant mal Aneurin gynt,
   Dydd i cant Ododin.
I foli gwyndawd Gwyndyd werin,
Gwynedd bendefig, ffynnedig ffin,
Gwanas deyrnas, deg cywrennin,
Gwreidd, teyrneidd, taer ymrwydrin,
Gwrawl ei fflamdo am fro Freiddin.
Er pan orau Duw dyn gyssefin,
Ni wnaeth ei gystal traws arial trin.
Gorug Llewelyn, orllin teyrnedd,
Ar y brenhinedd braw a gorddin
Pan fu yn ymbrofi a brenin Lloegyr,
   Yn llygru swydd Erbin.
Oedd breisc, weisc ei fyddin,
Oedd brwysc rwysc rhag y godorin,
Oedd balch gwalch, golchiad ei laïn,
Oedd beilch gweilch, gweled ei werin,
Oedd clywed cleddyfau finfin,
Oedd clybod clwyf ymhob elin,
Oedd briw rhiw yn nhrabludd odrin,
Oedd braw saw Saeson clawdd y Cnwecin,
Oedd bwlch llafn yn llaw gynnefin,
Oedd gwaedlyd pennau, gwedi gwaedlin rhwy,
   Yn rhedeg am ddeulin.
Llewelyn, ein llyw cyffredin,
Llywiawdr berth hyd Borth Ysgewin,
Ni ryfu gystal Gwstennin ag ef,
   I gyfair pob gorllin.
Mi im byw be byddwn ddewin,
Ym marddair, ym mawrddawn gyssefin,
Adrawdd ei ddaed aerdrin ni allwn,
   Ni allai Daliesin.
Cyn adaw y byd gyd gyfrin,
Gan hoedyl hir ar dir daierin,
Cyn dyfnfedd escyrnwedd yscrin,
Cyn daear dyfnlas, arlessin,
Gwr a wnaeth o’r dwfr y gwin,
Gan fodd Duw a diwedd gwirin,
Nog a wnaethpwyd trais anwyd trin,
Ymhrefent ymhrysur orllin:
Ni warthäer hael am werthefin nos,
   A nawdd saint boed cyfrin.

IV.  CANU

I Lewelyn fab IorwerthEiniawn fab Gwgawn ai cant.

Cyfarchaf o’m naf, am nefawl Arglwydd,
Crist Celi culwydd, cwl i ddidawl,
Celfydd leferydd o le gweddawl,
Celfyddydau mau ni fo marwawl:
I brofi pob peth o bregeth Bawl,
I foli fy rhi, rhwyf angerddawl,
Rhyfel ddiochel, ddiochwyth hawl,
Llewelyn heilyn, hwylfeirdd waddawl,
Llawenydd i ddydd, i ddeddf ai mawl,
Llewychedig llafn yn llaw reddfawl,
Yn lladd, dy wrthladd iwrth lys Rheidiawl,
Gweleis a gerais ni gar mantawl,
Gwelygordd Lleission llyssoedd gweddawl,
Lluoedd arwoloedd ar weilw didawl,
Llawrwyr am eryr yn ymeiriawl,
Llewelyn lleyn, llyw ardderchawl,
Lluriglas, gwanas, gwanau a hawl,
Gwenwyn yn amwyn am dir breiniawl Powys,
Ae diffiwys, ae glwys a glyw ei hawl,
Ef dynniad ynghad; Eingl frad freuawl,
Ef dandde rhuddle Rhuddlan is gwawl,
Gweleis Lewelyn, eurddyn urddawl,
Yn urddas dreigwas dragywyddawl,
Eil gweleis i dreis dros ganol Dyfrdwy,
Yn y trei tramwy llanw rhwy, rhwydd hawl
Gweleis aer am gaer oedd engiriawl,
Talu pwyth dydd gwyth, canyseawl,
Ni ryweleis neb na bo canmawl,
O’r ddau y gorau a fo gwrawl.

Mi ath arwyre, ath arwyrein myfyr,
Eryr yn rhywyr, prifwyr Prydein.
Prydfawr Lewelyn pryd dyn dadiein,
Prydus, diescus, escar ddilein.
Escynnu ar llu ar lle Ewein,
Ysgymmod gorfod, gorfalch am brein,
Ysgymmyn gwerlyn, gwerlid gofiein,
Ysgymydd clodrydd, Kulwydd a Llwyfein,
Lluddedig edmyg, meirch mawrthig mein;
A lluoedd yngwiscoedd yn ymoscrein,
Ar llinyn ar dynn ar du celein,
A llinon rhag Bron rhag bro Eurgein,
Tyrfa Clawdd Offa clod yn hoffiein,
A thorfoedd Gwynedd a gwyr Llundein,
Cyfran tonn a glan, glafdir gwylein,
Golud mowr ystrud, ysgryd Norddmein,
Llewelyn terwyn, torf anghyngein,
Biau’r gwyr gorau, bachau bychein,
Priodawr mwynglawr Môn glod yscein,
Areul golud pentud, Pentir Gwychein.
Gwawr Dehau gorau, gwyr yn dyrein,
Gwenwyn a gwanar y ddau gar gein,
Ae lyw cyferyw, cyfwyrein a thrin,
A thrychieid gwerin Caer Fyrddin fein,
Ni sefis na thwr, na bwr, bu crein,
Nag argoed, na choed, na chadlys drein,
A rhag pyrth bu syrth Saeson ynghrein.
Oedd trist maer, oedd claer cleddyf heb wein,
A chan llu pannu, pen ar ddigrein,
A chan llaw lludwaw Llan Huadein,
Cil Geran achlan, a chlod goelfein,
A chlwyr ar dyhedd, mawredd mirein,
Yn Aber Teifi tew oedd frein uch benn,
Yn yd oedd perchen parchus gyfrein.
Oedd tew peleidr creu, creuynt gigfrein,
Calanedd gorwedd gorddyfnassein,
Llewelyn boed hyn boed hwy ddichwein,
No Llywarch hybarch, hybar gigwein.
Nid celadwy dreig, dragon gyngein,
Nid calan cyman gwr y gymein,
Hydwf yngnif ai lif o lein,
Hyd ydd el yn rhyfel hyd yn Rhufein,
Ai raglod ai rod o riw Feddgein,
Hyd i dwyre haul hyd y dwyrein.

Ys imi rwydd Arglwydd, argleidrad,
Argledr tir, a gwir a gwenwlad,
Ys imi or cyngor cyngwasdad,
Cywesti peri peleidrad,
Ys imi ri ryfel ddiffreiddiad,
Diffryd gwyr, eryr ardwyad,
Ys imi rwydd Arglwydd, erglywiad
A glywir o’r tir gar Tanad,
Ys imi glew, a llew a lleiddiad
Yn rhyfel a rhon orddyfniad,
Ys imi wr a wared i rad,
I reidus, galarus, geilwad.
Ys imi ner yn arwyn ddillad,
Yn arwein ysgin ysgarlad,
Ys imi Nudd, hael fudd, Hueil feiddiad,
Ar Lloegr ryllygrwys heb wad.
Ys imi Rydderch, roddiad aur melyn,
Molitor ymhob gwlad.
A mawrdud olud olygad,
A Mordaf am alaf eiliad,
Ys imi Run gatcun gytcam rad,
Cydgaffael, a hael, a hwyliad
Ef imi y meddwl difrad,
Mi iddaw yn llaw yn llygad,
Ni henyw o afryw afrad,
Mi hanwy o henwyr ei dad,
Llachar far, aerfar, erfynniad,
Llachar fron o frydau Gwriad.
Lluchieint gweilch am walch gynnifiad,
Fal lluchynt estrawn wynt Ystrad.
Hunydd nen perchen parchus fad,
Parch arfawr, Arfon angoriad.
Llewelyn dreis, erlyn drwssiad,
Dros dehau angau oth angad,
Angor mor y mawr gymynad,
Angawr llawr llurig Duw am danad.

Rhy chyngein Prydein yn ddibryder,
I Briodawr llawr yn llawn nifer.
Llewelyn gelyn yn i galwer
I gelwir am dir am dud tymer.
Llawenydd lluoedd llew ymhryder,
Llywiawdr ymmerawdr mor a lleufer,
I ddylif cynnif cynhebyccer
I ddylann am lann, am leissiaid ffer.
Terfysc tonn ddilysc ddyleinw aber:
Dylad anwasdad ni osteccer.
Terwynt twrf rhywynt yn rhyw amser,
A rhialluoedd lluoedd llawer.
Torfoedd ynghyoedd ynghyflawnder
Tariannau golau mal i gweler:
Ry folant anant, anaw cymer,
Ry molir i wir i orober,
I wryd yn rhyd yn rheid nifer,
I orofn gwraf yn ydd eler,
I orfod gorfod glod a glywer,
I wyr am eryr ni amharer,
I warae orau pan waräer,
I wayw a orau yn ddau hanner,
Dinidir yn nydd brwydr yn yd brofer,
Dinoding perging, pargoch hydrfer,
Dinas, dreig urddas, eurddawn haelder
Dinag o fynag pan ofynner,
Dyn yw Llewelyn llywiawdr tyner,
Doeth coeth cywrennin, gwin a gwener,
A’r gwr ai rhoddes ni ran o’r pader,
Ai rhoddo ef gwenfro gwynfryn uch ser.

V.  ARWYRAIN

Owain GwyneddGwalchmai ai cant.

Arddwyreaf hael o hil Rodri,
Ardwyad gorwlad, gwerlin teithi,
Teithiawg Prydain, twyth arfdwyth Owain,
Teyrnain ni grain, ni grawn rëi.
Teir lleng i daethant, liant lestri,
Teir praff prif lynges wy bres brofi,
Un o’r Iwerddon, arall arfogion
Or Llychlynigion, llwrw hirion lli.
Ar drydedd dros for o Norddmandi,
Ar drafferth anferth, anfad iddi.
A dreig Mon mor ddrud i eissillyd yn aer,
A bu terfysc taer i haer holi,
A rhagddaw rhewys dwys dyfysci,
A rhewin a thrin a thranc Cymri,
A’r gad gad greudde, a’r gryd gryd graendde,
Ac am dal Moelfre mil fannieri,
A’r ladd ladd lachar, ar bar beri,
A ffwyr ffwyr ffyrfgawdd ar fawdd foddi,
A Menai heb drai o drallanw gwaedryar,
A lliw gwyar gwyr yn heli:
A llurygawr glas, a gloes trychni,
A thrychion yn nhud rhag rheiddrudd ri,
A dygyfor Lloegr, a dygyfranc a hi,
Ag ei dygyfwrw yn astrusi,
A dygyfod clod cleddyf difri,
Yn saith ugain iaith wy faith foli.

VI.  AWDL

I Nest ferch HywelEiniawn fab Gwalchmai ai cant.

Amser Mai maith ddydd, neud rhydd rhoddi,
Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli,
Neud llafar adar, neu gwar gweilgi,
Neud gwaeddgreg gwaneg, gwynt yn edwi,
Neud arfeu doniau, goddau gwedi,
Neud argel dawel nid meu dewi,
Endeweis i wenyg o Wynnofi dir,
   I am derfyn mawr meibion Beli,
Oedd hydreidd wychr llyr yn llenwi,
Oedd hydr am ddylan gwynfan genddi,
Hyll nid oedd ei deddf hi hwyreddf holi,
Hallt oedd i dagrau, digrawn heli,
Ar helw bun araf uch bannieri ton,
   Tynhegl a gerddais i gorddwfr Teifi,
Ceintum gerdd i Nest cyn noi threngi,
Cânt cant i moliant mal Elifri,
Canaf gan feddwl awrddwl erddi,
Caniad i marwnad, mawr drueni!
Canwyll Cadfan lan o lenn bali.
Canneid i synnieid gar Dysynni,
Gwan, wargan, wyrygall, ddeall ddogni,
Gwreig nid oedd un frad gariad genthi,
Gweryd rhudd ai cudd gwedi tewi,
Gwael neuedd maenwedd mynwent iddi,
Golo Nest goleu ddireidi.
Golwg gwalch dwythfalch o brif deithi,
Gwenned gwawn ai dawn oi daioni,
Gwynedd anrhydedd, oedd rhaid wrthi,
Nid oedd ffawd rhy gnawd rhin y genthi,
Gnawd oedd dâl eur mal er i moli,
Ni ryfu dognach er i dogni poen,
   Penyd a fo mwy no’r meu hebddi,
Neum gorau angau anghyfnerthi,
Nid ymglyw dyn byw o’r byd fal mi,
Ni chyfeirch angen iawlwen ioli,
Er neb rhy barther i rhyborthi,
Nest yn ei haddawd, wenwawd weini,
Ydd wyf pryderus fal pryderi.
Pryderwawd ceudawd, cyfnerthi ni wnn,
   Nid parabl yw hwn ni fo peri.
Llen argel issel y sy’m poeni,
Lludd Gwen lliw arien ar Eryri.
Archaf im Arglwydd culwydd celi,
Nid ef a archaf arch egregi,
Arch, ydd wyf un arch yn i erchi,
Am archfein riein, reid y meini,
Trwy ddiwyd eiriawl deddfawl Dewi.
A deg cymmeint seint senedd Frefi,
Am fun a undydd i hammodi,
A’r gystlwn pryffwn y prophwydi,
Ar gyfoeth Duw doeth i detholi,
Ar anghyweir Meir a’r merthyri,
Ag yn i goddau gweddi a ddodaf,
   Am dodeis nwyf im addoedi.
Ni bu ddyn mor gu gennyf a hi
Ni bo poen oddef, Pedr wy noddi,
Ni bydd da gan Dduw i diddoli,
Ni bo diddawl Nest, nef boed eiddi.

VII.  AWDL

I Lewelyn fab IorwerthLlywarch Brydydd y Moch ai cant.

Crist Greawdr, llywiawdr llu daear a nef
Am noddwy rhag afar,
Crist celi, bwyf celfydd a gwar,
Cyn diwedd gyfyngwedd gyfar.
   Crist fab Duw am rhydd arllafar,
I foli fy rhwyf rhwysg o ddyar,
Crist fab Mair am pair o’r pedwar defnydd,
Dofn awen ddiarchar.
Llewelyn llyw Prydain ai phâr,
Llew a glew a glyw gyfarwar,
Fab Iorwerth ein cannerth an car,
Fab Owain ffrawddiein, ffrwyth cynnar,
   Ef dyfu dreig llu yn llasar dillat,
      Yn ddillyn cyfarpar,
Yn erfid, yn arfod abar,
Yn arfau bu cenau cynnar,
Yn ddengmlwydd hylwydd hylafar,
Yn ddidranc ei gyfranc ai gar,
Yn Aber Conwy, cyn daffar fy llyw,
   Llewelyn athrugar,
A Dafydd, defawd Ul Caissar,
Difai ddraig, ddragon adwyar,
Difwlch udd difalch i esgar,
Difwng blwng blaen ufel trwy far,
Dybryd in feirdd byd bod daear arnaw,
   Ac arnam i alar.
Ef yn lly w cyn llid gyfysgar,
Ysglyfion ysglyfiynt llwrw bar,
Oedd rynn rudd ebyr or gwyr gwar,
Oedd ran feirw fwyaf o’r drydar,
Oedd amliw tonnau, twnn amhar eu neid,
   Neud oeddynt dilafar.
Ton heli ehelaeth i bar,
Ton arall guall, goch gwyar.
Porth Aethwy pan aetham ni ar feirch mordwy,
   Uch mowrdwrf tonniar,
Oedd ongyr, oedd engir ei bar,
Oedd angudd godrudd gwaedryar,
Oedd enghyrth ein hynt, oedd angar,
Oedd ing, oedd angau anghymar,
Oedd ammau ir byd bod abar o honam,
   O henaint lleithiar.
Mawr gadau, anghau anghlaear,
Meirw sengi, mal seri sathar,
Cyn plygu Rodri, rwydd esgar, ym Mon
   Mynwennoedd bu braenar,
Pan orfu pen llu llachar,
Llewelyn llyw Alun athafar,
Myrdd bu lladd, llith brein gorddyar,
O’r milwyr, a mil yngharchar.
Llewelyn cyd lladdwy trwy far,
Cyd llosgwy, nid llesg ufeliar,
Llary deyrn, uch cyrn cyfarwar
Llwrw cydfod ir clod is claiar,
Ry llofies rwyf treis tros fanniar i feirdd,
Oedd fawrllwyth ir ddaear,
Gwisci aur ag ariant nis oar.
Gwascwynfeirch gosseirch, gosathar,
Ysginfawr gorfawr, gorwymp par,
Yscarlad lliw ffleimiad, fflamiar,
Meirch Mawrthig, ffrwythig, ffraeth, anwar,
Ffrawddus, a phreiddiau ewiar.
Mwth i rhydd, arwydd yngwascar,
Mal Arthur cein fodur cibddar,
Cann a chann; a chein wyllt a gwar,
Cant a chant a chynt nog adar

Adar weinidawg, caeawg Cynran drud,
Dreig Prydein pedryddan,
Addod Lloegr, lluossawg am bann,
Addaf hir in herwydd calan,
Adwedd teyrnedd tir nis rhan,
A dan ser ys sef i amcan,
Adnes i franhes i frein bann,
Dychre dychrein gwyr yngrheulan,
Gwrdd i gwnaeth uch Deudraeth Dryfan,
Gwr hydwf, gwrhydri Ogyrfan
Dygwydd gwyr heb lafar heb lan,
Dygoch llawr dwygad fawr faran,
Un am fro Alun, elfydd can,
A Ffrainc yn ffrawddus mal Camlan;
Ar eil yn Arfon ar forfan,
Yn undydd an un Duw in a ran,
A dwy dreig ffeleig, ffaw gymman
Mal deulew ein dylochassan,
Ag un traws gatcun, treis faran,
Fal gwr yn gorfod ymhobman,
Llewelyn llafn-eur anghyfan,
Lloegr ddiwreidd, llu rhuddfleidd Rhuddlan,
Llu rhagddaw a llaw ar llumman,
Llwybr yn wybr yn ebrwydd allan,
Llwrw ddawn Cadwallawn fab Cadfan.
I mae am Brydain yn gyfan,
Llary ni ddel ei law ettaw attan,
Llyried tra myned tramor dylan,
Rhag llaith anolaith anolo llan,
A llafnawr lledrudd uch grudd a gran,
Ninnau Feirdd Prydein, prydus eirian berth,
  
Gwyr a byrth fy rhwyf ymhob calan,
Er digabl barabl gan bawb oi fan,
Digrifwch elwch elyf egwan,
Oi ariant gormant gorym ni drudran,
O’i alaf ai aur ai ariant can.

Gan i ddwyn dychryn a ddechreuo bleid,
   Uch blaenwel yn oed llo,
Gnaws achaws yn ych cyn adfo,
Gnawd i ladd ni lwydd i abo.
Caer Lleon llyw Mon mwyn Pabo ath dug,
Ef ath dwg ynghodo,
Llewelyn ef llosges dy fro,
Llas dy wyr dra llyr, dra llwyfo,
Llwyr dug y Wyddgrug, nid ffug ffo,
Lloegrwys i llugfryd i synnio,
Llewdir teyrn lluddiwyd yn agro,
Llas i glas, i glwystei neud glo,
Llys Elsmer, bu ffêr, bu ffwyrngno,
Llwyr llosged i thudwed ai tho,
Llwrw gwelwch neud heddwch heno
Gan fy rhwyf, nid rhyfedd cyd bo,
Hyd i del i dorf ar dyno a bryn,
Udd breiniawg bieufo,
Llew ai dug, ai dwg pan fynno,
Ir Trallwng trillu anwosgo,
Llys efnys, afneued tra fo.
Lles i fyrdd o feirdd ai cyrcho.
Addug y Wyddgrug ai dycco,
Gwyliwch gwylyddwr, pwy ai lluddio,
Llwrw Fochnant edrywant ar dro,
Llwytcwn llwyth llithiwyd am honno,
Lletcynt Argoedwys, gwys greudo,
Llys a dwy neud einym ni heno.
Edryched Powys pwy fo,
Brenin breisg werin, brwysg agdo,
Ai gwellygio pwyll rhydwyllo:
Ai gwell Ffranc no ffrawddus Gymro.
Llyw y sy ym, synniwch cyd tawo,
Lloegr gychwyn, a fynn a fynno,
Llwyr i dyd i fryd ar fro Gadwallawn
Fab Cadfan, fab Iago,
Llary yspar ys penyd iblo,
Llwrw espyd yspeid anolo,
Llew prydfawr llyw Prydain ai chlo,
Llewelyn lliaws ei fran fro,
Llary deyrn cedyrn, cad wosgo; ynghur
   Ys fy nghar a orffo.

Gorfydd Udd dremrudd, dramor lliant,
Ym Môn Mam Gymru bedryddant,
Gorllwybr llu llenwis ewyngant,
Gwarthaf bryn a phenrhyn a phant,
Gorllanw gwaed am draed a ymdrychant,
Amdrychion pan ymdrechassant,
Cad y Coed Anau, Cadr anant borthi,
   Burthiaist wyr yn nifant.
Ail gad trom i tremynasant,
Udd addien uch Dygen Ddyfnant,
Eil miloedd mal gwyr dybuant,
Eil yrth gyrth in gwrthfynnassant,
Eil agwrdd ymwrdd am hardd amgant bre
Bron yr Erw i galwant,
Cynwan llu fal llew yth welsant,
Cadr eryr ith wyr yn warant,
Can hynny cynhennu ni wnant,
Can wyllon Celyddon cerddant,
Dugost y Wyddgrug, a dygant i dreis
   Adryssedd cyfnofant,
A Rhuddlan yn rhuddliw amgant,
Rhun can clawdd adrawdd edrywant
A Dinbych wrthrych gorthorrant ar fil,
  
Ar Foelas a Gronant
A chaer yn Arfon, a charant yngnif,
   Yngnaws coll am peiriant,
A Dinas Emreis a ymrygant,
Amrygyr ni wneir na wnant
Neur orfydd dy orofyn nad ant
Ith erbyn ith erbarch feddiant
Neu’r orfuwyd yn orenw Morgant
Ar filwyr Prydain pedryddant
Dy gynnygn ni gennyw cwddant,
Ni gaiff hoen na hun ar amrant,
Mad ymddugost waed, mad yth want,
Arall yn arfoll ysgarant,
A chleddyf, a chlodfawr yth wnant,
Ag ysgwyd ar ysgwydd anchwant,
Mad tywyssaisd dy lu, Lloegr irdant,
Ar derfyn Mechain a Mochnant,
Mad yth ymddug dy fam, wyd doeth,
Wyd dinam, wyd didawl o bob chwant,
O borffor o bryffwn fliant,
O bali ag aur ag ariant,
O emys gochwys gochanant dy feirdd,
   Yn fyrddoedd i caffant.
Minnau om rhadau rhymfuant,
Yn rhuddaur yn rhwydd ardduniant,
O bob rhif im Rhwyf im doniant,
O bob rhyw im rhodded yn gant
Cyd archwyf im llyw y lloergant yn rhodd,
Ef am rhydd yn geugant.
Lliwelydd lledawdd dy foliant,
Llewelyn, a Llywarch rwy cant.
Munerawd ym marw fy mwyniant fal yn byw
   Lleissiawn ryw Run blant.
Nyd gormod fy ngair it gormant!
Teyrn wyd tebyg Eliphant,
Can orfod pob rhod yn rhamant,
Can folawd a thafawd a thant.
Cein deyrn, cyn bych yngreifiant,
Can difwyn o ysgwn esgarant,
Can Dduw ren yn ran westifiant
Can ddiwedd pob buchedd, bych sant.

VIII.  PUM AWDL

I Lewelyn fab GruffyddLlygad Gwr ai cant.

I.

Cyfarchaf i Dduw, ddawn orfoledd,
Cynnechreu doniau, dinam fawredd,
Cynnyddu, canu, can nid rhyfedd dreth,
   O draethawd gyfannedd,
I foli fy Rhi rhwyf Arllechwedd,
Rhuddfäawg freiniawg o frenhinedd,
Rhyfyg udd Caissar, treis far trossedd,
Rhuthrlym, grym Gruffydd etifedd,
Rhwysg frwysg, freisg, o freint a dewredd,
Rhudd barau o beri cochwedd,
Rhyw iddaw diriaw eraill diredd,
Rhwydd galon, golofn teyrnedd.
Nid wyf wr gwaglaw wrth y gogledd,
O Arglwydd gwladlwydd, glod edryssedd,
Nid newidiaf naf un awrwedd a neb,
   Anebrwydd dangnefedd.
Llyw y sy ym ys aml anrhydedd,
Lloegr ddifa o ddifefl fonedd,
Llewelyn gelyn, galon dachwedd,
Llary wledig gwynfydig Gwynedd,
Llofrudd brwydr, Brydein gywryssedd,
Llawhir falch, gwreiddfalch gorsedd,
Llary, hylwydd, hael Arglwydd eurgledd,
Llew Cemmais, llym dreis drachywedd,
Lle bo cad fragad, friwgoch ryssedd,
Llwyr orborth hyborth heb gymwedd,
Gnaws mawrdraws am ardal dyhedd,
Gnawd iddaw dreiddiaw drwyddi berfedd,
Am i wir bydd dir or diwedd,
Amgylch Dyganwy mwyfwy i medd,
A chiliaw rhagddaw a chalanedd creu,
Ag odduch gwadneu gwaed ar ddarwedd.
Dreig Arfon arfod wythlonedd
Dragon diheufeirch heirddfeirch harddedd,
Ni chaiff Sais i drais y droedfedd oi fro,
Nid oes o Gymro i Gymrodedd.

II.

Cymmrodedd fy llyw lluoedd beri,
Nid oes rwyf eirioes, aer dyfysgu,
Cymro yw haelryw o hil Beli hir,
   Yn herwydd i brofi.
Eurfudd ni oludd, olud roddi,
Aerfleidd arwreidd o Eryri,
Eryr ar geinwyr gamwri dinam,
   Neud einym i foli.
Eurgorf torf tyroedd olosci,
Argae gryd, Greidiawl wrhydri,
Arwr bar, taerfar, yn torri cadau,
   Cadarnfrwydr ystofi.
Aer dalmithyr, hylithr haelioni,
Arf lluoedd eurwisgoedd wisgi
Arwymp Ner, hyder, hyd Teifi feddiant,
   Ni faidd neb i gospi.
Llewelyn Lloegrwys feistroli,
Llyw breiniawl, brenhinedd teithi,
Llary deyrn cedyrn, yn cadw gwesti cyrdd
   Cerddorion gyflochi.
Coelfein brein Bryneich gyfogi,
Celennig branes, berthles borthi,
Ciliaw ni orug er caledi gawr,
   Gwr eofn ynghyni.
Parawd fydd meddiant medd Beirdd im Rhi,
Pob cymman darogan derfi,
O Bwlffordd osgordd ysgwyd gochi hydr,
   Hyd eithaf Cydweli.
Can gaffael yn dda dra heb drengi,
Gan fab Duw didwyll gymmodi,
Ys bo i ddiwedd ddawn berchi ar nef,
Ar neilliaw Crist Geli.

III.

Llyw y sy’n synhwyrfawr riydd,
Lliwgoch i lafnawr, aesawr uswydd,
Lliw deifniawg, llidiawg, lledled fydd ei blas,
   Llwyr waeth yw ei gas noi garennydd.
Llewelyn gelyn, galofydd,
Llwyrgyrch darogan cymman celfydd,
Ni thyccia rhybudd hael rebydd rhagddaw,
   Llaw drallaw drin wychydd.
Y gwr ai rhoddes yn rhwyf dedwydd,
Ar Wynedd arwynawl drefydd,
Ai cadarnhao, ced hylwydd yn hir,
I amddeffyn tir rhag torf oswydd.
Nid aniw, nid anhoff gynnydd,
Neud enwawg farchawg, feirch gorewydd,
I fod yn hynod hynefydd Gymro,
A’r Gymry a’u helfydd.
Ef difeiaf Naf rhy wnaeth Dofydd,
Yn y byd o bedwar defnydd,
Ef goreu riau reg ofydd a wnn,
Eryr Snawtwn aer gyfludwydd.
   Cad a wnaeth, cadarn ymgerydd,
Am gyfoeth, am Gefn Gelorwydd,
Ni bu gad, hwyliad hefelydd gyfred,
Er pan fu weithred waith Arderydd.
   Breisclew Mon, mwynfawr Wyndodydd,
Bryn Derwyn clo byddin clodrydd,
Ni bu edifar y dydd i cyrchawdd,
   Cyrch ehofn essillydd.
Gwelais wawr ar wyr lluosydd,
Fal gwr yn gwrthladd cywilydd,
A welei Lewelyn, lawenydd dragon,
   Ynghymysc Arfon ac Eiddionydd,
Nid oedd hawdd llew aerflawdd llüydd,
I dreissiaw gar Drws Daufynydd,
Nis plygodd Mab Dyn bu doniawg ffydd,
Nis plycco Mab Duw yn dragywydd.

IV.

Terfysc taerllew glew, glod ganhymdaith,
Twrf torredwynt mawr uch mor diffaith,
Taleithiawg deifniawg dyfniaith Aberffraw,
   Terwyn anrheithiaw, rhuthar onolaith.
Tylwyth, ffrwyth, ffraethlym eu mawrwaith,
Teilwng blwng, blaengar fal goddaith,
Taleithawg arfawg aerbeir Dinefwr,
Teilu hysgwr, ysgwfl anrhaith.
Telediw gad gywiw gyfiaith,
Toledo balch a bylchlafn eurwaith,
Taleithawg Mathrafal, maith yw dy derfyn,
Arglwydd Lewelyn, lyw pedeiriaith,
Sefis yn rhyfel, dymgel daith,
Rhag estrawn genedl, gwyn anghyfiaith,
Sefid Brenin nef, breiniawl gyfraith,
Gan eurwawr aerbeir y teir taleith.

V.

Cyfarchaf i Dduw o ddechrau moliant,
   Mal i gallwyf orau,
Clodfori o’r gwyr a geiriau
I’m pen, y penaf a giglau,
Cynnwrf tân, lluch faran llechau,
Cyfnewid newydd las ferau,
Cyfarf wyf a rhwyf, rhudd lafnau yngnif,
   Cyfoethawg gynnif cynflaen cadau.
Llewelyn nid llesg ddefodau,
Llwybr ehang, ehofn fydd mau,
Llyw yw hyd Gernyw aed garnedd i feirch,
   Lliaws ai cyfeirch, cyfaill nid gau,
Llew Gwynedd gwynfeith ardalau,
Llywiawdr pobl, Powys ar Dehau,
Llwyrwys caer, yn aer, yn arfau,
Lloegr breiddiaw am brudd anrheithiau,
Yn rhyfel, ffrwythlawn, dawn diammau,
Yn lladd yn llosci yn torri tyrau,
Yn Rhos a Phenfro, yn rhysfäau Ffrainc,
Llwyddedig i ainc yn llüyddau.
Hil Gruffydd, grymmus gynneddfau,
Hael gyngor, gyngyd wrth gerddau,
Hylathr i ysgwyd, escud barau gwrdd,
   Hylym yn cyhwrdd cyhoedd waedffrau.
Hylwrw fwrw far, gymmell trethau,
Hawlwr gwlad arall gwledig riau,
Harddedd o fonedd, faen gaerau dreisddwyn,
Hirbell fal Fflamddwyn i fflamgyrchau.
Hwylfawr ddreig, ddragon cyfeddau,
Heirdd i feirdd ynghylch ei fyrddau,
Hylithr i gweleis ddydd golau i fudd,
   Ai feddgyrn wirodau.
Iddaw i gynnal cleddyfal clau,
Mal Arthur wayw dur i derfynau,
Gwir frenin Cymru cymmreisc ddoniau,
Gwrawl hawl boed hwyl o ddehau.

IX.  ODLAU’R MISOEDD,

I Sir Gruffydd Llwyd o Dref-garnedd a Dinorweg yn Arfon; allan or Llyfr Coch o Hergest, yngholeg yr Iesu yn Rhyd YchenGwilym Ddu o Arfon ai cant.  1322.

Neud cyn nechrau Mai mau anrhydedd,
Neud aeth ysgwaeth a maeth a medd,
Neud cynhebyg, ddig, ddygn adrossedd drist,
Er pan ddelid Crist, weddw athrist wedd!
Neud cur a lafur im wylofedd,
Neud cerydd Dofydd, nad rhydd rhuddgledd.
Neud cof sy ynnof, ys anwedd ei faint,
Neud cywala haint, hynt diryfedd.
Neud caeth im dilyd llid llaweredd,
Neud caith Beirdd cyfiaith am eu cyfedd.
Neud caethiwed ced, nad rhydd cydwedd Nudd,
Cadrwalch Ruffydd, brudd, breiddin tachwedd,
Neud cwyn Beirdd trylwyn, meddw ancwyn medd,
Neud cawdd im anawdd, menestr canwledd,
Neud carchar anwar enwiredd Eingl-dud,
Aerddraig Llan Rhystud funud fonedd.
Neud nim dyhudd budd, bum arygledd,
Neud nam dilyd llid, lliaws blynedd.
Neud nam dawr, Duw mawr, maranedd, Nef glyw,
Neud nad rhydd fy llyw, llew Trefgarnedd,
Neud trwm oi eisiau dau digyfedd.
Neu’r wyr Beirdd canwlad, nad rhad rheufedd,
Neud ef arwydd gwir, neud oferedd gwyr,
Wrth weled f’ eryr yn ei fowredd;
Neud truan i’m gwân gwayw lledfrydedd,
Neud trwydded galed im amgeledd.
Neud trymfryd Gwynedd, gwander dyedd braw:
Neud hwy eu treisiaw am eu trossedd.
Neud trahir gohir gloyw babir gledd,
Oedd trablwng echwng Achel ddewredd.
Neud trai cwbl or Mai, mawredd allwynin,
Neud mis Mehefin weddw orllin wedd.
   Neud mis Mehefin, mau hefyd gystudd,
Neud nam rhydd Gruffydd wayw rhudd yn rhyd.
Neum rhywan im gwân gwayw cryd engiriawl,
Neud am Ddraig urddawl didawl im dyd.
Neum erwyr om gwyr im gweryd Crist Ner,
Neud arfer ofer, Beirdd nifer byd.
Neud arwydd nam llwydd lledfryd im calon,
Neud eres nad tonn honn ar ei hyd.
Mau ynnof mowrgof am ergyd gofal,
Am attal arial Urien yngryd.
Mal cofain cywrain Cywryd, fardd Dunawd,
Meu im Dreig priawd gwawd ni bo gwyd.
Mau gwawdgan Afan, ufuddfryd ffrwythlawn,
O gof Gadwallawn, brenhinddawn bryd.
Ni wn waith gwaywdwn, gwawd ddihewyd clod,
A thi heb ddyfod pa dda bod byd?
Neud wyr pawb yn llwyr, lleyrfryd gynnat,
Nad hylithr aur mâl mal oddiwrthyd.
Nid oes nerth madferth ym myd, oth eisiau,
Gwleddau na byrddau na Beirdd ynghlyd.
Nid oes lys ysbys, esbyd neud dibeirch,
Nad oes meirch na seirch na serch hyfryd.
Nad oes wedd na moes, masw ynyd yw’n gwlad,
Nad oes mad eithr gwad a gwyd.
Neud gwagedd trossedd, traws gadernid Môn,
Neud gweigion Arfon is Reon ryd.
Neud gwann Wynedd fann, fen ydd ergyd cur,
Neud gwael am fodur eglur oglyd.
Neud blwyddyn i ddyn ddiofryd a gar,
Neud blaengar carchar, grym aerbar gryd.

X.  DYHUDDIANT ELPHIN.

Taliesin ai dywawd.

I.

Elphin deg taw ath wylo
Na chabled neb yr eiddo
Ni wna les drwg-obeithio
Ni wyl dyn ddim ai portho
Ni fydd goeg gweddi Cynllo
Ni thyrr Duw ar addawo:
Ni chad yngored Wyddno,
Erioed cystal a heno.

II.

Elphin deg sych dy ddeurudd
Ni weryd bod yn rhy brudd
Cyt tybiaist na chefaist fudd
Nith wna da gormod cystudd
Nag ammau wrthiau Dofydd
Cyt bwyf bychan wyf gelfydd,
O foroedd ac o fynydd
Ag o eigion afonydd
I daw Duw a da i ddedwydd.

III.

Elphin gynneddfau diddan
Anfilwraidd yw d’ amcan
Nid rhaid yt ddirfawr gwynfan
Gwell Duw na drwg ddarogan
Cyd bwyf eiddil a bychan
Ar fin gorferw mor dylan
Mi a wnaf yn nydd cyfrdan
Yt well no thrychan maran.

IV.

Elphin gynneddfau hynod
Na sorr ar dy gyffaelod
Cyt bwyf gwan ar lawr fy nghod
Mae rhinwedd ar fy nhafod
Tra fwyf fi yth gyfragod
Nid rhaid yt ddirfawr ofnod
Drwy goffau enwau’r Drindod
Ni ddichon neb dy orfod.