CLXXII. Chware’r Bysedd.
“I’r
coed,” medde Modryb y Mawd,
“I be?” medde Bys yr Uwd;
“I ladrata,” medde Hirfys;
“Beth os dalian ni?” medde’r Canol-fys;
“Dengwn, dengwn, rhag iddo’n dal ni,”
Medde’r Bys Bach.
CLXXIII. Bwgan.
Bwgan bo lol, a
thwll yn ’i fol,
Digon o le i geffyl a throl.
CLXXIV. Yr Eneth Benfelen.
Mae geneth deg
ben-felen
Yn byw ym Mhen y Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi’n wraig;
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.
CLXXV. Y Wylan.
Y wylan fach
adnebydd
Pan fo’n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg, ar aden wen,
O’r môr i ben ymynydd.
CLXXVI. Fy Nghariad.
Dacw ’nghariad
ar y dyffryn,
Llygaid hwch a dannedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad,
Fel dyllhuan mae hi’n siarad.
CLXXVII. Dau Ddewr.
Dau lanc ifanc yn
mynd i garu,
Ar noswaith dywell fel y fagddu;
Swn cacynen yn y rhedyn
A’u trodd nhw adre’n fawr eu dychryn.
CLXXVIII. Llanc.
Mi briodaf heddyw yn
ddi-nam,
Heb ddweyd un gair wrth nhad na mam.
CLXXIX. Ymffrost.
Chwarelwr [67] oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr ydyw’r baban
Sy’n cysgu yn ei gryd,
Ond tydi o’n beth rhyfedd
Ein bod ni’n chwarelwyr i gyd?
CLXXX. Y Rhybelwr Bach. [68]
Rhybelwr bychan
ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,
Mi allaf drin y cerrig
Yn well na neb o’r wlad;
’Rwy’n medru naddu Princes,
Y Squares, a’r Counties bach,
Cyn hir caf finnau fargen,
Os byddaf byw ac iach.
CLXXXI. Llifio.
Llifio, llifio,
llifio’n dynn,
Grot y dydd y flwyddyn hyn;
Os na lifiwn ni yn glau,
’Nillwn ni ddim grot yn dau.
CLXXXII. Golchi Llestri.
Dorti, Dorti, bara
gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i olchi’r llestri.
CLXXXIII. Cap.
Morus y gwynt,
Ac Ifan y glaw,
Daflodd fy nghap
I ganol y baw.
CLXXXIV. Clocs.
Mae gen i bâr
o glocs,
A rheini’n bâr go dda,
Fe barant dros y gaea,
A thipyn bach yr ha;
Os can nhw wadnau newydd,
Fe barant dipyn hwy;
A saith a dime’r glocsen,
A phymtheg am y ddwy.
CLXXXV. Glaw.
Glaw, glaw, cerdda
draw;
Haul, haul, tywynna.
CLXXXVI. Merched Dol ’r Onnen.
Mae’n bwrw
glaw allan,
Mae’n deg yn y tŷ,
A merched Dol ’r Onnen
Yn cribo’r gwlan du.
CLXXXVII. Lliw’r Gaseg.
Caseg winnau, coesau
gwynion,
Groenwen denau, garnau duon;
Garnau duon, groenwen denau,
Coesau gwynion, caseg winnau.
CLXXXVIII. Berwi Poten.
Hei, ding-a-ding, diri,
Mae poten yn berwi,
Shini a Shani yn gweithio tân dani;
Shani’n ei phuro â phupur a fflŵr,
Ychydig o laeth, a llawer o ddŵr.
CLXXXIX. Wrth y Tan.
Dorti, Dorti, bara
gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i olchi’r llestri;
Crafwch y crochan gael creifion i’r ci,
A hefyd gwnewch gofio
Rhoi llaeth i’r gath ddu.
CXC. Pawb Wrthi.
Y ci mawr yn
pobi,
Y ci bach yn corddi,
A’r gath ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lân;
Y wraig yn y popty
Yn gwylio’r bara’n crasu,
A’r llygod yn rhostio
Y cig wrth y tân.
CXCI., CXCII. Te a Siwgr Gwyn.
Hen ferched bach y
pentre,
Yn gwisgo capie lasie,
Yfed te a siwgr gwyn,
A chadw dim i’r llancie.
Bara a llaeth i’r llancie,
Ceirch i’r hen geffyle,
Cic yn ol, a chic ymlaen,
A dim byd i’r genod.
CXCIII. Si So.
Si so, jac y do,
Yn gwneyd ei nyth drwy dyllu’r to,
Yn gwerthu’r mawn a phrynnu’r glo,
Yn lladd y fuwch a blino’r llo,
Yn cuddio’r arian yn y gro,
A mynd i’r Werddon i roi tro,
Si so, jac y do.
CXCIV. I’r Siop.
Mae gen i ebol
melyn
Yn codi’n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
I’r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I John a Mari fach.
CXCV. Cadw Cath Ddu.
Mae gen i gath
ddu,
Fu erioed ei bath hi,
Hi gurith y clagwydd,
Hi dynnith ei blu;
Mae ganddi winedd a barf,
A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod
Yn lluoedd o’r ardd;
Daw eilwaith i’r ty,
Hi gurith y ci,—
Mi rown i chwi gyngor
I gadw cath ddu.
CXCVI. Newid Byd.
Ar ol bod yn ferch
ifanc,
A gwisgo fy ffrog wen,
A’m gwallt i wedi ei blethu
Fel coron ar fy mhen;
A’m sgidiau wedi eu polsio,
A’r rheiny’n cau yn glos,—
Ar ol i mi briodi
Rhaid i mi wisgo clocs.
CXCVII. Siom.
’Rown
i’n meddwl, ond priodi,
Na chawn i ddim ond dawnsio a chanu;
Ond y peth a ges i wedi priodi,
Oedd siglo’r cryd a suo’r babi.
CXCVIII. Rhy Wynion.
Mae mam ynghyfraith,
hwnt i’r afon,
Yn gweld fy nillad yn rhy wynion;
Mae hi’n meddwl yn ei chalon
Mai ’mab hi sy’n prynnu’r sebon.
CXCIX. Dim Gwaith.
Ysgafn boced, dillad
llwyd,
Mawr drugaredd yw cael bwyd;
Mynd o gwmpas, troi o gwmpas,
Ar hyd y fro;
Ymofyn gwaith, dim gwaith,
Trwm yw’r tro.
CC. Pwy Fu Farw?
Pwy fu farw?
“Sion Ben Tarw.”
Pwy geiff y gwpan?
“Sion Ben Tympan.”
Pwy geiff y llwy?
“Pobol y plwy.”
CCI. P’le Mae Dy Fam?
Titw bytaten, i
ble’r aeth dy fam?
Hi aeth i lygota a chafodd beth cam;
Gwraig y ty nesaf a’i triniodd hi’n frwnt,
Hi gurodd ei dannedd yng nghaead y stwnt.
CCII. Dau Robin.
Crio, crio, crio,
Mae Robin ni yn groch;
Canu, canu, canu,
O hyd, mae Robin goch.
CCIII., CCIV. Sion.
Sion i fyny, Sion i
wared,
Sion i garthu tan y gwartheg;
Sion a ŵyr yn well na’r merched
Pa sawl torth a wneir o beced.
Fe geir pedair torth o phioled,
Fe geir wyth o hanner peced;
Ac os bydd y wraig yn hyswi,
Fe geir teisen heblaw hynny.
CCV. Aber Gwesyn.
Abergwesyn, cocyn
coch,
Mae cloch yn Abertawe;
Mae eidion coch yng nghoed Plas Gwent,
A pharlament yn Llunden.
CCVI. Corwen.
Neidiodd llyffant ar
ei naid
O Lansantffraid i Lunden,
Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar ganllaw pont Llangollen;
Ond yn lle disgynnedd y drydedd waith
Ond ynghanol caerau Corwen.
CCVII. Dyfed.
Dincyll, doncell, yn
y Bridell;
Tair cloch arian yng Nghilgeran;
Uch ac och yn Llandudoch;
Llefain a gwaeddi yn Aberteifi;
Llaeth a chwrw yn Eglwys Wrw;
Cario ceffyl pren trwy Eglwys Wen.
CCVIII. Rhuddlan.
Y cobler coch o
Ruddlan
A aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;
Y cwd aeth hefo’r afon,
Y gath a ddaeth i’r lan,
Ow’r cobler coch o Ruddlan,
On’d oedd o’n foddwr gwan?
CCIX., CCX. Amen.
“John, John,
gymri di jin?”
“Cymra, cymra, os ca i o am ddim;”
“Amen,” meddai’r ffon,
“Dwgyd triswllt o siop John.”
Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu,
Lladron yn dwad dan weu hosanau,
Taflu y ’sanau dros ben y cloddiau;
“Amen,” meddai’r ffon,
“Dwgyd sofren o siop John.”
CCXI. Jini.
Welsoch chwi Jini
mewn difri?
Yn tydi hi’n grand aneiri?
Heten grand, a bwcwl a band,
Yn tydi hi’n grand, mewn difri?
CCXII. Dafydd.
Bachgen da ’di
Dafydd,
Gwisgo’i sgidie newydd;
Cadw’r hen rai tan yr ha,
Bachgen da ’di Dafydd.
CCXIII. Mam yn Dod.
Dacw mam yn dwad
Wrth y garreg wen,
Menyn yn ’i ffedog,
A blawd ar ’i phen;
Mae’r fuwch yn y beudy
Yn brefu am y llo,
A’r llo yr ochr arall
Yn chware banjo.
CCXIV. Robin yn Dod.
Cliriwch y stryd, a
sefwch yn rhenc;
Mae Robin, ding denc, yn dwad.
CCXV. Bachgen Bach Od.
Bachgen bach o Felin
y Wig,
Welodd o ’rioed damaid o gig;
Gwelodd falwen ar y bwrdd,
Cipiodd ei gap, a rhedodd i ffwrdd.
CCXVI. Cam a Fi.
Di-ling, di-ling,
pwdin yn brin;
Meistr yn cael tamed, finne’n cael dim.
CCXVII. Ned Ddrwg.
Nedi ddrwg, o dwll y
mŵg,
Gwerthu ’i fam am ddime ddrwg.
CCXVIII. Oed y Bachgen.
“Be ’di
dy oed di?”
Yr un oed a bawd fy nhroed,
A thipyn hŷn na nannedd.
CCXIX. Y Bysedd.
Fini, fini, Fawd,
Brawd y Fini Fawd,
Wil Bibi,
Sion Bobwr,
Bys bach, druan gŵr,
Dal ’i ben o dan y dŵr.
CCXX. Si Bei.
Cysga bei, babi,
Yng nghôl dadi;
Neu daw’r baglog mawr
I dy mo’yn di’n awr.
CCXXI. Ga i Fenthyg Ci?
Welwch chwi fi, a
welwch chwi fi?
Welwch chwi’n dda ga i fenthyg ci?
Mae ci modryb Ann
Wedi mynd i’r Llan;
Mae ci modryb Elin
Wedi mynd i’r felin;
Mae ci modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae ci modryb Jane
Wedi mynd yn hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn methu a gweled;
Mae ci tad-cu, a chi mam-gu,
Wedi mynd allan hefo’n ci ni;
A chi modryb Ann Ty’n y Coed
Wedi llosgi ’i droed
Mewn padell fawr o bwdin.
CCXXII. Chwalu.
Chwllio’r
tŷ a chwalu’r to,
A thynnu efo thennyn,
O forfa Caer i furiau Cent,
Nadolig sy yn dilyn;
A dal y lladron cas a hy,
Fu’n torri ym Mhlas y Celyn.
CCXXIII. Pont Llangollen.
Mi weles ddwy
lygoden,
Yn cario pont Llangollen;
Yn ol a blaen o gylch y ddôl,
Ac yn eu hol drachefen.
CCXXIV. Robin Goch Rhiwabon.
Robin goch o blwy
Rhiwabon,
Lyncodd bâr o fachau crochon;
Bu’n edifar ganddo ganwaith,
Eisieu llyncu llai ar unwaith.
CCXXV. Medr Elis.
Tri pheth a fedr
Elis,—
Rhwymo’r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a’i roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.
CCXXVI. Bwch y Wyddfa.
’Roedd bwch yn
nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A’r llall yn Ynys Enlli,
Yn ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy’r Bermo,
Ac ni chodwyd mohono byth.
CCXXVII. Ceffyl John Bach.
Hei gel, i’r
dre; hei gel, adre,—
Ceffyl John bach mor gynted a nhwnte.
CCXXVIII. Dadl Dau.
Sion a Gwen
sarrug,
Ryw nos wrth y tân,
Wrth son am eu cyfoeth,
I ymremian yr aen;
Sion fynnai ebol
I bori ar y bryn,
A Sian fynnai hwyaid
I nofio ar y llyn.
CCXXIX. Yr Hafod Lom.
Mi af oddiyma
i’r Hafod Lom,
Er ei bod hi’n drom o siwrne,
Mi gaf yno ganu cainc
Ar ymyl mainc y simdde;
Ac, ond odid; dyna’r fan
Y bydda i tan y bore.
CCXXX. Coed y Plwy.
Helyg a bedw, gwern
a derw,
Cyll, a mall, a bocs, ac yw;
A choed shirins [88a] a gwsberins [88b],
A chelynen werddlas wiw.
CCXXXI. Hen Wraig Siaradus.
Hen wraig o ymyl
Rhuthyn,
Aeth i’r afon i olchi pwdin;
Tra bu’n siarad â’i chymdogion,
Aeth y pwdin efo’r afon,
Ar ol y cwd.
CCXXXII. Mochyn Bach.
Jim Cro crystyn,
Wan, tw, and ffôr;
Mochyn bach yn eistedd
Yn ddel ar y stol.
CCXXXIII. Rhyfedd Iawn.
Aeth hen wraig
i’r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi’n ol ’roedd y plant wedi marw;
Aeth i’r llofft i
ganu’r gloch,
Cwympodd lawr i stwnd y moch.
CCXXXIV. Y Stori.
Hen wraig bach yn y
gornel,
A phib yn ei phen;
Yn smocio llaeth enwyn,—
Dyna’r stori ar ben.
CCXXXV. Carlam.
Calap ar galap,
a’r asyn ar drot,
A finne’n clunhercan yn ddigon o sport.
CCXXXVI. Calennig.
Calennig i mi,
calennig i’r ffon,
Calennig i fwyta, y noson hon;
Calennig i’m tad am glytio’m sgidiau,
Calennig i’m mam am drwsio’m sanau.
CCXXXVII. Cartref.
Dacw nhad yn naddu,
A mam a nain yn nyddu,
Y naill a’r droell fawr, a’r llall a’r droell
fach,
A nhaid yn y gornel yn canu.
CCXXXVIII. Dafad.
Dafad ddu [91]
Finddu, fonddu,
Felen gynffonddu,
Foel, a chudyn a chynffon ddu.
CCXXXIX. Aderyn y Bwn.
Aderyn y bwn a bama,
A aeth i rodio’r gwylia,
Ac wrth ddod adra ar hyd y nos,
Fe syrthiodd i ffos y Wyddfa.
CCXL. Taith.
Mali bach a finna,
Yn mynd i ffair y Bala;
Dod yn ol ar gefn y frân,
A phwys o wlan am ddima.
CCXLI. Cyfoeth Shoni.
Shoni o Ben y
Clogwyn
Yn berchen buwch a llo,
A gafar bach a mochyn,
A cheiliog,—go-go-go!
CCXLII. A Ddoi Di?
A ddoi di, Mari
anwyl,
I’r eglwys gyda mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A’m calon ydwyt ti.
CCXLIII. Gwlan Cwm Dyli.
Faint ydyw gwIan y
defaid breision,
Hob y deri dando,
Sydd yn pori yn sir Gaernarfon?
Dyna ganu eto.
“Ni gawn goron gron eleni,”—
Tewch, taid, tewch,—
“Am oreu gwlan yn holl Eryri.”
Hei ho! Hali ho!
Gwlan Cwm Dyli, dyma fo.
CCXLIV., CCXLV. Bum yn Byw.
Bum yn byw yn
gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi’n ddwyfil;
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi’n ddwyfil.
CCXLVI. Pen y Mynydd Du.
Ple mae mam-gu?
“Ar ben y Mynydd Du.”
Pwy sydd gyda hi?
“Oen gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw i lawr dros yr Heol Fawr.”
CCXLVII. Gwaith Tri.
’Roedd Sion, a
Sian, a Siencyn,
Yn byw yn sir y Fflint;
Aeth Sion i hela’r cadno,
A Sian i hela’r gwynt;
A Siencyn fu
Yn cadw’r ty.
CCXLVIII. Ladis.
Ladis bach y pentre,
Yn gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i’r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr eu crys yn llapre.
CCXLIX. Y Daran.
Clywch y tarw coch
cethin,
Yn rhuo draw yn y cae eithin;
Clywir o bell, ni welir o byth.
CCL. Enwau.
Mae gennyf edefyn
sidan,
Mi dorraf f’ enw f hunan;
M ac A ac O ac U,
A dybl U for William.
CCLI. Padell Ffrio.
Du, du, fel y
frân,
Llathen o gynffon, a thwll yn ei blaen.
CCLII. Coes y Fran.
Cwcw Glame, cosyn
dime,
Coes y frân ar ben y shime.
CCLIII.—CCLVII. Calennig. [99]
Calennig yn gyfan
Ar fore dydd Calan,
Unwaith, dwywaith, tair.
Mi godais yn fore,
Mi gerddais yn ffyrnig,
At dŷ Mr Jones i ofyn calennig;
Os gwelwch yn dda,
Am swllt a chwecheiniog,
Blwyddyn newydd dda
Am ddimai neu geiniog.
Dydd Calan, cynta’r
flwyddyn,
’Rwy’n dyfod ar eich
traws,
I ymofyn am y geiniog,
Neu glwt o fara a chaws;
Edrychwch arna i ’n siriol,
Newidiwch ddim o’ch
gwedd,
Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd llawer yn y bedd.
Mi godes heddi mas o
’nhy,
A’m ffon a’m cwdyn gyda fi;
A thyma’m neges ar eich traws,
Yw llanw ’nghwd o fara a chaws.
Dydd Calan yw heddy,
onite?
Na rowch chwi ddim i blant y dre;
Ond rhowch galennig pert dros ben
I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.
CCLVIII. Dwy Wydd Radlon. [100]
Dwy ŵydd radlon,
Yn pori’n nglan yr afon,
Yn rhadloned a’r rhadlonaf ŵydd,
Dwy ŵydd radlon.
CCLIX. Iar Dda.
’Roedd gen i
iar yn gori
Ar ben y Frenni Fawr;
A deg o wyau dani,—
Daeth un ar ddeg i lawr.
CCLX. Ple’r A’r Adar.
B’le
ti’n mynd, b’le ti’n mynd,
Yr hen dderyn bach?
I sythu cyn bo ti’n marw?
Pwy mor uchel wyt ti’n byw,
Gael dweyd wrth Ddafydd Huw?
O, trueni am yr hen dderyn bach.
CCLXI. Wel, Wel.
Mi
weles ferch yn godro,
A menyg am ei dwylo,
Yn sychu’r llaeth yng nghwrr ei chrys,
A merch Dai Rhys oedd honno.
CCLXII. Teimlad Da.
Mae’n dda gen
i ddefaid, mae’n dda gen i ŵyn,
Mae’n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.
CCLXIII. Dau Ganu.
Mae gen i ganu byrr
bach,—
Ffiol a llwy, a sucan a llaeth;
Mae gen i ganu byrr bach sy hwy,—
Ffiol a llaeth, a sucan a llwy.
CCLXIV. Tarw Corniog.
Tarw corniog, torri
cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.
CCLXV. Pe Tasai.
Pe tasai’r
Wyddfa i gyd yn gaws,
Fe fuasai’n haws cael enllyn;
A Moel Eiddia’n fara gwyn,
A’r llyn yn hufen melyn.
CCLXVI. Tro Ffol.
Fy modryb, iy
modryb, a daflodd ei chwd,
Dros bont Aber Glaslyn, i ganol y ffrwd;
Cnau ac afalau oedd ynddo fo’n dynn,
Mi wn fod yn ’difar i’w chalon cyn hyn.
CCLXVII. Fel Daw Tada Adre.
Dydd Gwener a dydd
Sadwrn
Sydd nesa at ddydd Sul;
Daw dada bach tuag adre,
Mewn trol a bastard mul.
CCLXVIII. Buwch.
Mae gennyf fuwch a
dau gorn arian,
Mae gennyf fuwch yn godro’i hunan;
Mae gennyf fuwch yn llanw’r stwcau,
Fel mae’r môr yn llanw’r beiau.
CCLXIX. Lle Pori.
Marc a Meurig,
b’le buoch chwi’n pori?
“Ar y Waen Las, gerllaw Llety Brongu.”
Beth gawsoch chwi yno yn well nag yma?
“Porfa fras, a dŵr ffynhonna.”
CCLXX. O Gwcw.
O gwcw, O gwcw,
b’le buost ti cyd
Cyn dod i Benparce? Ti aethost yn fud.
“Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,
Mi godais fy aden i fyny i’r gwynt;
Ni wnes gamgymeriad, nid oeddwn mor ffol,
Corwynt o’r gogledd a’m cadwodd i’n
ol.”
CCLXXI. Llifio.
Llifio â llif,
Am geiniog y dydd;
Llifio pren bedw,
Yng nghoed yr hen widw;
Bocs i John, a bocs i finne,
Bocs i bawb drwy’r tŷ ’s bydd eise.
CCLXXII. Ar ol y Llygod. [107]
Wil ffril ffralog
A’i gledde tair ceiniog,
Yn erlid y llygod trwy’r llydi;
Aeth y llygod i’r dowlad,
Aeth Wil i ’mofyn lletwad;
Aeth llygod i’r ddol.
Aeth Wil ar eu hol,
Aeth y llygod i foddi,
Aeth Wil i gysgu.
CCLXXIII. Elrinen.
Hen wraig bach, den,
den,
Pais ddu, a het wen,
Calon garreg, a choes bren.
CCLXXIV. Crempog.
Os gwelwch
chwi’n dda, ga’i grempog?
Mae mam yn rhy dlawd
I brynnu blawd,
A nhad yn rhy ddiog i weithio;
Halen i’r ci bach,
Bwyd i’r gath bach,
Mae ngheg i’n grimpin eisiau crempog.
CCLXXV. Yr Awyr.
Dol las lydan,
Lot o wyddau bach penchwiban,
A chlagwydd pen aur, a gwydd ben arian.
CCLXXVI. Nyth y Dryw.
Y neb a dynno nyth y
dryw,
Ni wel ddaioni tra bo byw.
CCLXXVII. Nyth yr Ehedydd.
Y neb a dynno nyth
ehedydd,
Cyll oddiar ei ben ei fedydd.
CCLXXVIII. Nyth Robin.
Os tynni nyth y
robin,
Ti gei gorco yn dy goffin.
CCLXXIX. Caru Cyntaf.
Pan eis i gynta i
garu,
Nid own ond bachgen bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stol fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A ’nwy droed ar y llawr.
CCLXXX. Chwythu.
Y gwynt ffalwm ar
fawr hwthrwm,
Chwyth dy dŷ di’n bendramwgwm.
CCLXXXI. Camgymeriad.
Pan own i’n
mynd â brâg tua’r felin,
Meddylies i fi gwrdd â brenin;
Erbyn edrych, beth oedd yno?
Hen gel gwyn oedd bron a thrigo.
CCLXXXII. Can Iar. [109]
A glywaist ti
Gân ein iar ni?—
“Dodwy, dodwy ’rioed,
Heb un esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond un wy yn fy nyth.”
“Taw’r ffolog,” ebai’r ceiliog,
“Wnaeth y crydd ’rioed esgid fforchog.”
CCLXXXIII. Can Iar Arall. [110a]
“Mi ddodwas wy
heddyw, mi ddodwas wy ddoe;
Mi wn i’r lle’r aeth,—
Morwyn y tŷ holws, gwraig y ty triniws,
Gŵr y ty bytws,—a dyna lle’r aeth.”
CCLXXXIV. Mynd.
Ar garlam, ar
garlam, i ffair Abergele,
Ar ffrwst, ar ffrwst, i ffair Lanrwst,
Ar dith, ar dith, i ffair y Ffrith,
Ar drot, ar drot, i ffair Llan-mot,
O gam i gam i dŷ Modryb Ann.
CCLXXXV. Amser Codi.
Mae’r ceiliog coch yn canu,
Mae’n bryd i minne godi,
Mae’r bechgyn drwg yn mynd tua’r glo,
A’r fuwch a’r llo yn brefu.
CCLXXXVI. Iar Fach.
Iar fach bert yw
ngiar fach i,
Gwyn a choch a melyn a du;
Fe aeth i’r coed i ddodwy wy, [110b]
Cwnmws ei chwt, a ffwrdd â hi.
CCLXXXVII.—CCXCI. Medde Bibyn Wrth Bobyn.
“A ddoi di i’r coed?” medde
Bibyn wrth Bobyn,
“A ddoi di i’r coed?” medde Richard wrth
Robin,
“A ddoi di i’r coed?” medde’r bachgen ei
hun,
“A ddoi di i’r coed?” medde nhw bod yg un.
“Beth wnawn ni yno?” medde Bibyn
wrth Bobyn,
“Beth wnawn ni yno?” medde Richard wrth Robin,
“Beth wnawn ni yno?” medde’r bachgen ei hun,
“Beth wnawn ni yno?” medde nhw bod yg un.
“Hela’r dryw bach,” medde
Bibyn wrth Bobyn,
“Hela’r dryw bach,” medda Richard wrth
Robin,
“Hela’r dryw bach,” medde’r bachgen ei
hun,
“Hela’r dryw bach,” medde nhw bod yg un.
“Beth wnawn ni wedyn?” medde Bibyn
wrth Bobyn,
“Beth wnawn ni wedyn?” medde Richard wrth Robin,
“Beth wnawn ni wedyn?” medde’r bachgen ei
hun,
“Beth wnawn ni wedyn?” medda nhw bod yg un.
“Gwneyd potes â fo,” medde
Bibyn wrth Bobyn,
“Gwneyd potes â fo,” medde Richard wrth
Robin,
“Gwneyd potes â fo,” medde’r bachgen ei
hun;
A boddi mewn potes ddaru nhw, bod yg un.
CCXCII. Storiau Hen Gaseg.
Mi ddeuda i ti
stori,—
Hen gaseg yn pori.
Mi ddeuda i ti ddwy,—
Hen gaseg ar y plwy.
Mi ddeuda i ti dair,—
Hen gaseg yn y ffair.
Mi ddeuda i ti beder,—
Hen gaseg yn colli pedol.
Mi ddeuda i ti bump,—
Hen gaseg ar ei phwmp.
Mi ddeuda i ti chwech,—
Hen gaseg frech.
Mi ddeuda i ti saith,—
Hen gaseg fraith.
Mi ddeuda i ti wyth,—
Hen gaseg yn rhoi pwyth.
Mi ddeuda i ti naw,—
Hen gaseg yn y baw.
Mi ddeuda i ti ddeg,—
Hen gaseg ar y clwt teg.
CCXCIII. Gynt.
Pan oeddwn yn ferch
ifanc,
Ac yn fy ffedog wen,
Yn gwisgo’m cnotyn sidan
Yn uchel ar fy mhen,
Mi neidiwn gainc yn wisgi,
Mi ddaliwn ’nghorff yn syth,
Meddyliais y pryd hynny,—
“Ddaw henaint ata i byth.”
CCXCIV. Y Deryn Bach Syw.
I ble ti’n mynd heddy ’deryn bach
syw?
I mofyn bara, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a bara, ’deryn bach syw?
I ddodi yn ’y nghawl, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a cawl, ’deryn bach syw?
I ddodi yn ’y mola, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a bola, ’deryn bach syw?
Wel, ond bai bola, byddwn ni ddim byw.
CCXCV. Tlodi.
Nid oes gen i na buwch na dafad,
Na giar na cheiliog wrth fy ngalwad,
Ond bwth o dŷ, a hwnw’n fudur,
A thwll o ffenast heb un gwydyr.
CCXCVI. Uno.
Gwelais neithiwr trwy fy hun,
Dair gwlad yn mynd yn un;
Fala’n tyfu ar friga’r brwyn,
A phob hen wraig yn eneth fach, fwyn.
CCXCVII. Priodi Ffol.
Mae mwy ysywaeth yn priodi,
Nag sydd a chig at Sul i ferwi.
CCXCVIII. Brith y Fuches.
Mae nhw’n
dwedyd am yr adar,
Nad oes un o’r rhain heb gymar;
Gwelais dderyn brith y fuches,
Heb un cymar na chymhares.
CCXCIX. Calon Drom.
Mae’m calon i
mor drymed
A’r march sy’n dringo’r rhiw,
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw;
Mae’r esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofid meddwl
Sy’n torri ’nghalon i.
CCC. Nos Da.
Dos i’th wely ’rwan,
Dos i’th wely ’rwan;
Dos i’th wely fel yr wyt,
Dos i’th wely ’rwan.
FOOTNOTES
[0a] Hwiangerddi Cymru. Rhan I. Darluniau gan Winifred Hartley. 2s. 6d. Conwy: R. E. Jones a’i Frodyr.
[0b] Welsh Nursery Rhymes. Collected by Cadrawd. Arranged by Harry Evans. 2s. The Educational Publishing Company, Merthyr.
[14a] Ychwaneger dafad ddu, lwyd, goch, felen, frech, fraith, &c., hyd nes y bydd y bychan wedi huno.
[14b] Weithiau cenid “A chwe nichog ynddi.”
[16] Wrth ddawnsio efo coes ysgub.
[19a] Cyffyrddid â’r fawd a’r bysedd wrth enwi pob un.
[19b] Os dymunid gwneud y ddrama yn fwy cyffrous, dywedid yma,—“I ladd defaid.” Yr oedd crogi am ddwyn defaid.
[20] Rhoddid blaen gwialen yn y tân, a throid hi’n gyflym i ddarlunio buarth, cryman, &c., wrth ddweyd y geiriau.
[27a] Mae’n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
[27b] Mae’n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
[39] Gellir trefnu geiriau’r pennill mewn llu o ffyrdd.
[63] Dywedir y rhain wrth gerdded un neu ddau fys (“Dau bry bach”) i fyny coiff y plentyn. Gorffennir dan ei oglais dan ei ên.
[67] Dyweder “ffarmwr,” “bugail,” “glowr,” “gweithiwr,” &c., yn ol fel y bydd eisieu.
[68] Un yn dysgu dod yn chwarelwr yw rhybelwr. Enwau ar lechau o wahanol faint yw Princes, Squares, a Counties.
[88a] Cherries, ceirios.
[88b] Gooseberries, eirin Mair.
[91] Newidier yn wen, goch, lâs, fraith, frech, &c., hyd nes y cysgro’r baban.
[99] Nid wyf yn sicr ai priodol galw caneuon Calan yn ganeuon hwian. Ond hyn a wn, cenid hwy ar yr hen aelwydydd fel caneuon hwian.
[100] I brofi y medrai’r plentyn ddweyd y seiniau anhawddaf yn groew.
[107] Cefais hwn, ac amryw o hwiangerddi Dyfed welir trwy’r llyfr, gan gyfieithydd Dwyfol Gân Dante i’r Gymraeg.
[109] O gasgliad Ceiriog yn “Oriau’r Bore.”
[110a] O gasgliad Cadrawd yn yr “History of Llangynwyd Parish.”
[110b] Cynhaner wî, ffordd Gogledd Mynwy i ddweyd y gair wy.